Rhestrau darllen ar gyfer y Seithfed Senedd

Cyhoeddwyd 29/06/2026   |   Amser darllen munudau

Mae ein rhestrau darllen yn ganllaw cynhwysfawr i feysydd polisi allweddol yng Nghymru, gan gynnig adnoddau hanfodol i Aelodau ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus. Maent yn cwmpasu ystod o sectorau gan gynnwys addysg, yr economi, yr amgylchedd, iechyd a materion cyfansoddiadol.

Mae'r rhestrau'n cynnwys lincs i ddogfennau polisi, adroddiadau pwyllgorau, a deunyddiau ymarferol llywodraeth a deddfwriaethol ar draws sectorau. Maent yn tynnu sylw at ffynonellau cyfredol ac awdurdodol fel cyhoeddiadau Ymchwil y Senedd, adroddiadau Llywodraeth Cymru, ac ymchwiliadau pwyllgorau, gan helpu i archwilio meysydd polisi penodol yng Nghymru.

Gallwch ddefnyddio ein rhestrau darllen fel cyflwyniad i bwnc newydd, i ddarganfod ble gallwch gael gafael ar wybodaeth, neu i archwilio mater yn fanylach.

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth ymchwil pwrpasol, gall Aelodau o'r Senedd a'u staff gysylltu â'n hymchwilwyr pwnc arbenigol.

Plant, addysg a dysgu gydol oes

Addysg oedran ysgol
Addysg drydyddol ac ymchwil

Economi, cymunedau a llywodraeth leol

Busnes a’r economi
Costau byw, tlodi a nawdd cymdeithasol
Diwylliant
Cyflogaeth a sgiliau
Tai
Cyfryngau a chyfathrebu
Chwaraeon
Y Gymraeg

Yr amgylchedd a thrafnidiaeth

Amaethyddiaeth, coedwigaeth a bwyd
Ansawdd aer a gwastraff
Lles anifeiliaid
Newid hinsawdd ac ynni
Rheoli morol a physgodfeydd
Gwarchod natur
Cynllunio
Trafnidiaeth
Dŵr a llifogydd

Materion allanol a chyfansoddiadol

Y Cyfansoddiad
Cyfiawnder

Cyllid ac ystadegau

Cyllid
Dod o hyd i ystadegau am eich etholaeth a'ch rhanbarth

Polisi iechyd a gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol i oedolion
Cydraddoldeb a hawliau dynol
Strategaeth a pholisi iechyd
Llywodraethu a strwythurau GIG Cymru
Iechyd y cyhoedd

Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru