Sut wnaeth Cymru berfformio yn PISA 2022?

Cyhoeddwyd 05/12/2023   |   Amser darllen munudau

Mae sgoriau Cymru yng nghanlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) wedi syrthio ymhellach y tu ôl i weddill y DU a’r cyfartaledd rhyngwladol yn ôl y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw.

Mae PISA yn gwerthuso systemau addysg gwledydd yn seiliedig ar berfformiad sampl o bobl ifanc 15 oed ar draws tri phrif faes: darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Yn fyd-eang, mae llawer o’r sylw yn canolbwyntio ar brif sgoriau a safleoedd PISA ar gyfer gwledydd, ond mae’r rhaglen hefyd yn darparu ystod o wybodaeth a gwaith dadansoddi. Yn gyffredinol, pwrpas PISA yw helpu llywodraethau i wella addysg eu pobl ifanc.

Wedi'i ohirio flwyddyn o 2021, cylch 2022 oedd y cyntaf ers COVID-19 ac felly mae wedi'i osod yn erbyn effaith sylweddol y pandemig ar ysgolion. Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn pwyntio at y pandemig, a’r effaith anghymesur ar ardaloedd â lefelau uwch o amddifadedd, fel rhesymau am y dirywiad.

Yn gryno, mae’r canlyniadau yn dangos:

  • Mae sgoriau Cymru wedi gostwng 21, 17 a 15 pwynt ers 2018 ym meysydd Mathemateg, Darllen a Gwyddoniaeth yn y drefn honno.
  • Mae sgoriau gwledydd eraill y DU hefyd wedi gostwng ym mhob un o'r tri maes pwnc. Fodd bynnag, mae lefel y gostyngiad yn fwy yng Nghymru na holl wledydd eraill y DU ym mhob un o'r tri maes.
  • Ar ôl gwella o'i gymharu â chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn 2018, fel nad oedd unrhyw wahaniaeth ystadegol arwyddocaol, mae sgoriau Cymru unwaith eto yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD ym mhob un o'r tri maes.
  • Mae sgoriau Cymru wedi cyrraedd y lefel isaf erioed ers iddynt ddechrau cymryd rhan yn PISA yn 2006.

Dywed y Gweinidog, er bod disgwyl i'r pandemig achosi dirywiad mewn perfformiad, “nid yw hynny'n gwneud y canlyniadau hyn yn llai siomedig”. Mae'n dweud bod y pandemig wedi "amharu" ar y gwelliant blaenorol ac mae'n dweud bod “angen ymdrech genedlaethol i newid pethau”.

Mae'r adroddiad swyddogol ar ganlyniadau Cymru, a luniwyd gan Brifysgol Rhydychen, yn darparu gwybodaeth a dadansoddiad pellach ynghylch ystod o agweddau ar PISA.

Tabl 1: Sgoriau cymedrig Cymru yn PISA dros amser

 

2006

2009

2012

2015

2018

2022

Mathemateg

484

472

468

478

487

466

Darllen

481

476

480

477

483

466

Gwyddoniaeth

505

496

491

485

488

473

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Adroddiadau PISA cenedlaethol, (fersiynau sawl blwyddyn)

Tabl 2: Sgoriau cymedrig gwledydd y DU yn PISA 2022

 

Mathemateg

Darllen

Gwyddoniaeth

Cymru

466

466

473

Lloegr

492

496

503

Yr Alban

471

493

483

Gogledd Iwerddon

475

485

488

Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd

472

476

485

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Adroddiadau PISA cenedlaethol, (fersiynau sawl blwyddyn)

Er gwybodaeth: Mae'r OECD yn dweud bod angen pwyllo cyn cymharu gwahanol wledydd, ac yn enwedig felly yn 2022 lle mae nifer o wledydd, gan gynnwys Lloegr a'r Alban, yn cael eu hamcangyfrif gan yr OECD i fod â gogwydd ymateb posibl 7-9 pwynt am i fyny mewn mathemateg a darllen.

Sgoriau PISA Cymru

Mae'r ffeithlun yn dangos y wybodaeth yn Nhablau 1 a 2.

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Adroddiadau PISA cenedlaethol, (fersiynau sawl blwyddyn)

Beth yw PISA a beth yw ei dylanwad?

Caiff PISA ei threfnu gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a chaiff ei chynnal bob tair blynedd fel arfer. Mae Cymru wedi cymryd rhan ers 2006. Gwnaeth tua 80 o wledydd gymryd rhan yn 2022.

Nod PISA yw profi i ba raddau y mae plant 15 oed wedi caffael y wybodaeth a'r sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer cyfranogiad llawn mewn cymdeithasau modern, h.y. yr hyn y mae'n bwysig i bobl ifanc ei wybod a gallu ei wneud. Mae'r OECD yn egluro’r hyn a ganlyn:

The assessment does not just ascertain whether students can reproduce knowledge; it also examines how well students can extrapolate from what they have learned and can apply that knowledge in unfamiliar settings, both in and outside of school. This approach reflects the fact that modern economies reward individuals not for what they know, but for what they can do with what they know.

Mae PISA a’r OECD wedi cael dylanwad sylweddol ar bolisïau addysg yng Nghymru ers dros ddegawd ers i ganlyniadau 2009 roi galwad “i ddeffro system hunanfodlon” a thystiolaeth o “fethiant systemig”. Gofynnodd Llywodraethau blaenorol Cymru i'r OECD helpu i lywio eu dull o wella ysgolion, gydag adroddiadau OECD yn 2014 a 2017 yn cyfrannu at lunio cynlluniau gweithredu addysg blaenorol.

Faint o ddisgyblion a wnaeth y profion a sut maent wedi cael eu dewis?

Mae'r adroddiad yn dangos bod 2,568 o ddisgyblion 15 oed mewn 89 ysgol ledled Cymru wedi sefyll profion PISA 2022 ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2022, yn ystod ymarfer dwy awr ar gyfrifiadur. I roi cyd-destun, mae tua 33,000 o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 mewn 178 o ysgolion uwchradd a 27 o ysgolion canol yng Nghymru. Gwnaeth y disgyblion a'r penaethiaid a gymerodd ran gwblhau holiadur hefyd, ac mae’r canlyniadau wedi’u crynhoi ym mhennod 7 yn adroddiad Prifysgol Rhydychen.

Roedd mwyafrif y disgyblion a wnaeth y profion ym mlwyddyn 11, ond roedd rhai ohonynt ym mlwyddyn 10. Roedd pob un yn 15 oed. Mae’r adroddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth am y trefniadau samplu (gweler adran 1.3.4 ac Atodiad A).

A oes gan Lywodraeth Cymru darged ar gyfer PISA?

Oedd, ond nid oes ganddi darged mwyach.

Yn 2011, wrth i Lywodraeth Cymru ymateb i sioc canlyniadau 2009 (a gyhoeddwyd ddiwedd 2010), gosododd darged i Gymru fod ymhlith yr 20 gwlad PISA orau erbyn 2015. Newidiodd hyn yn 2014 i darged sydd yn ei dwylo ei hun - sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes (Darllen, Mathemateg a Gwyddoniaeth) erbyn 2021. Fel y dywedwyd yn gynharach, cafodd cylch 2021 ei oedi i 2022 oherwydd y pandemig.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog yn 2019 fod y targed o 500 pwynt yn parhau i fod ar waith. Cafodd asesiadau 2021 eu gohirio i 2022 oherwydd y pandemig, a datgelodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Tachwedd 2022 nad oedd gan Lywodraeth Cymru’r targed hwnnw mwyach. Yn lle hynny, dywedodd nad oes ganddi darged rhifol ond ei bod am i ddysgwyr roi cyfrif cryf o'u gallu ac i Gymru ddysgu o gymryd rhan.

Gallwn weld erbyn hyn y byddai Cymru wedi methu'r targedau hynny beth bynnag. Roedd sgoriau Cymru 34 yn brin o 500 ym meysydd mathemateg a darllen, a 27 pwynt yn brin ym maes Gwyddoniaeth. O wledydd eraill y DU, dim ond Lloegr a gyrhaeddodd 500 o bwyntiau yn unrhyw un o'r meysydd, gan sgorio 503 mewn Gwyddoniaeth.

Ond nid PISA yw'r unig fesur

Gellir dadau bod mesurau eraill o berfformiad addysgol, fel TGAU, Safon Uwch, cymwysterau galwedigaethol ac asesiadau wedi’u personoli mewn darllen a rhifedd yn bwysicach i'r bobl sy'n eu gwneud a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu haddysgu. Yn wir, mae rhai pobl wedi tynnu sylw at ddiffygion PISA, gan gynnwys yn rhyngwladol ac yng Nghymru.

Mae canlyniadau’r mesurau eraill hynny, y tu hwnt i PISA, yn dangos yr heriau y mae cenhadaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru i wella safonau addysg yn eu hwynebu. Er bod newidiadau i fesurau perfformiad a gohirio arholiadau yn ystod y pandemig yn cyfyngu ar gymariaethau rhwng blynyddoedd, gallwn ddadansoddi'r sefyllfa gymharol o ran cyrhaeddiad rhwng disgyblion. Mae’r bwlch cyrhaeddiad TGAU rhwng disgyblion difreintiedig a’u cyfoedion, wedi cynyddu rhwng 2016 a 2022. Mae disgwyl i ddata TGAU 2023 gael eu cyhoeddi ar 7 Rhagfyr. Gwnaethom ysgrifennu am y data cychwynnol oedd ar gael ar ganlyniadau TGAU a Safon Uwch 2023 pan gawsant eu cyhoeddi ym mis Awst.

Mae data a gyhoeddwyd fis diwethaf ar yr asesiadau wedi’u personoli a gymerwyd gan ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn Darllen a Rhifedd hefyd yn dangos tuedd i lawr, sy'n cyd-fynd â'r pandemig. Yn 2022/23, roedd disgyblion wedi gostwng 11 mis ar gyfartaledd ym maes darllen Cymraeg a phedwar mis ym maes darllen Saesneg, o'i gymharu â disgyblion o'r un oedran yn 2020/21. Roedd dirywiad o bedwar mis ar gyfartaledd mewn rhifedd (gweithdrefnol) o'i gymharu â 2018/19, tra bod cyrhaeddiad yn cyfateb i chwe mis yn uwch mewn rhifedd (rhesymu) nag yn 2021/22.

Mae mesur pwysig arall o safonau yn cael ei ddarparu gan yr arolygiaeth addysg, Estyn, sy’n arolygu ac yn adrodd ar ansawdd y ddarpariaeth a'r canlyniadau mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Cyhoeddodd Prif Arolygydd Estyn ei grynodeb o ganlyniadau o 2022/23 ym mis Hydref, a bydd yn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol yn y flwyddyn newydd. Dyma’n herthygl am adroddiad y llynedd.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau addysg?

Gwnaethom ysgrifennu ym mis Medi ynglŷn ag amcan Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer “parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi”. Ysgrifennom hefyd yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd y gweithlu addysg i wella ysgolion a “materion addysgu” amrywiol, gan gynnwys materion recriwtio a chadw.

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi ymrwymo i flaenoriaethu “safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb”. Cyhoeddodd fersiwn newydd o’r fframwaith gwella ysgolion yn haf 2022, a 'map ffordd' ym mis Mawrth 2023 yn rhoi trosolwg wedi'i ddiweddaru o flaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru.

Gan ymateb i'r data siomedig ar asesiadau wedi’u personoli (ac o bosibl gan ragweld canlyniadau PISA heddiw), cyhoeddodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf Gynllun Mathemateg a Rhifedd newydd, a phecyn cymorth llafaredd a darllen wedi'i ddiweddaru.

Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig y mae wedi’i gyhoeddi eisoes, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn y Senedd y prynhawn yma ynghylch canlyniadau PISA. Gallwch wylio yn fyw neu wylio yn ôl, y ddau ar Senedd.TV a bydd trawsgrifiad ar gael yn fuan wedyn.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru