Bwriad yr erthygl hon yw cynnig help llaw i Aelodau o’r Senedd a'u staff i ymateb i bryderon etholwyr ynghylch iechyd meddwl, a chyfeirio pobl at ffynonellau cymorth perthnasol.
Adnoddau ar gyfer ASau/staff cymorth
- Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi datblygu canllawiau i Aelodau’r Senedd a’u staff ar sut i ddelio â phryderon ynghylch iechyd meddwl eu hetholwyr.
- Mae'r ddogfen ganllaw uchod yn cynnwys cyngor ar ymateb i berson a allai fod yn profi argyfwng, neu os ydych chi'n poeni y gallai’r person fod mewn perygl uniongyrchol o niwed. Mae gan y Samariaid hefyd wybodaeth am beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am rywun, gan gynnwys os ydych chi'n meddwl ei fod yn argyfwng.
- Mae'r Zero Suicide Alliance yn cynnig hyfforddiant atal hunanladdiad yn rhad ac am ddim ar-lein. Ei ddiben yw cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch yr arwyddion i edrych amdanynt, a rhoi hyder a sgiliau i bobl ymateb i rywun sydd mewn trallod. Mae gwahanol opsiynau hyfforddi yn amrywio rhwng 5 a 30 munud o hyd.
- Mae gwybodaeth gyffredinol am fathau o broblemau iechyd meddwl i'w chael ar wefan Mind, ynghyd ag arweiniad A-Z cynhwysfawr ynghylch iechyd meddwl a gwybodaeth hawliau cyfreithiol cleifion.
- Mae gan y Sefydliad Iechyd Meddwl erthygl ddefnyddiol ar pam mae'r iaith a ddefnyddiwn i ddisgrifio iechyd meddwl yn bwysig.
Gwybodaeth ac adnoddau i etholwyr
Fel arfer, fe fydd pobl yn cysylltu â’u meddyg teulu yn y lle cyntaf pan yn ceisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl. Gall meddygon teulu gynnig asesiad cychwynnol ac, mewn rhai achosion, darparu'r gefnogaeth angenrheidiol. Gallai hynny gynnwys cyngor ar hunanofal a newidiadau mewn ffordd o fyw i wella lles meddyliol, neu roi presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth ochr yn ochr ag atgyfeiriad am gymorth cwnsela.
Lle mae angen cymorth mwy arbenigol, gall meddyg teulu gyfeirio'r claf at wasanaeth iechyd meddwl priodol i gael asesiad/triniaeth mwy manwl. Gallai hynny fod, er enghraifft, yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, yn dîm iechyd meddwl cymunedol, neu'n dîm argyfwng, gan ddibynnu ar lefel angen y claf.
Am gymorth iechyd meddwl brys, gall pobl o bob oed ffonio GIG 111 a dewis Opsiwn 2 i siarad yn uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol. Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ledled Cymru, i unrhyw un y mae angen cymorth brys arnyn nhw eu hunain neu aelod o'r teulu.
Mae cymorth cymunedol mewn argyfwng, fel llochesi iechyd meddwl, hafanau diogel neu gaffis argyfwng, yn ddull sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru. Nod y gwasanaethau hyn yw darparu cymorth y tu allan i oriau, anghlinigol i bobl sy'n profi trallod meddyliol y mae angen cymorth arnynt ar unwaith ond nad oes angen gofal brys na gofal ysbyty arnynt. Lle bo modd, mae mynediad fel arfer drwy GIG 111 (Opsiwn 2), ac mae'r ddarpariaeth yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd.
Gellir cael gafael ar rai gwasanaethau cymorth iechyd meddwl eraill yn uniongyrchol, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr proffesiynol arall. Er enghraifft:
- Mae SilverCloud yn rhaglen ar-lein sy'n seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Bwriedir iddi fod ar gyfer pobl 16 oed a hŷn â lefelau ysgafn i gymedrol o iselder, gorbryder neu straen.
- Mae Bywyd ACTif yn gwrs hunangymorth ar-lein, sy'n rhannu ffyrdd ymarferol o ddelio â meddyliau a theimladau trallodus.
Efallai y bydd gwahanol wasanaethau ar gael mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae pob bwrdd iechyd yn darparu gwybodaeth am gael gafael ar gymorth iechyd meddwl yn ei ardal; gall y gwefannau canlynol fod yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer cyfeirio etholwyr at wasanaethau lleol yn ogystal ag adnoddau hunangymorth:
- Aneurin Bevan – Melo
- Betsi Cadwaladr – Hwb iechyd meddwl
- Caerdydd a’r Fro – Stepiau
- Cwm Taf Morgannwg – Iechyd meddwl
- Hywel Dda – IAWN (Gwybodaeth, ymwybyddiaeth a llesiant nawr)
- Powys – Iechyd meddwl yn ystod COVID-19. Gweler hefyd Gwasanaeth gwybodaeth iechyd meddwl Powys
- Bae Abertawe – Gwasanaethau a chefnogaeth iechyd meddwl
Llinellau cymorth a rhagor o gefnogaeth
Mae llinell gymorth iechyd meddwl C.A.L.L. ar gyfer Cymru yn darparu cymorth iechyd meddyliol ac emosiynol, ac yn eich cyfeirio at wasanaethau lleol. Rhadffôn 0800 132 737, neu tecstiwch ‘help’ i 81066.
Mae Mind yn gweithredu pedair llinell gymorth - Mae Infoline yn wasanaeth gwybodaeth a chyfeirio; mae llinell gyfreithiol Mind yn darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol ar gyfraith sy'n ymwneud ag iechyd meddwl; mae ei linell budd-daliadau lles yn cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n llywio'r system budd-daliadau a lles, ac; mae llinell gymorth yn cynnig lle diogel i bobl siarad am eu hiechyd meddwl. Mae Local Minds yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn cymunedau lleol ledled Cymru a Lloegr (chwiliwch amdanynt gan ddefnyddio cod post neu fap). Infoline: 0300 123 3393, Llinell gyfreithiol: 0300 466 6463, Llinell budd-daliadau lles: 0300 222 5782, Llinell gymorth: 0300 102 1234.
Mae Cymorth Iechyd Meddwl BAME (BMHS) yn darparu ystod o wasanaethau, wedi'u hanelu'n benodol at gefnogi cymunedau ethnig leiafrifol. Mae llinell gymorth ar gael bob dydd o hanner dydd tan 11pm: 0800 144 8824.
Mae Adferiad yn darparu ystod o wasanaethau cymorth iechyd meddwl a dibyniaeth ledled Cymru, gan gynnwys cwnsela, gwasanaethau argyfwng, cymorth tai a thriniaeth camddefnyddio sylweddau.
Mae'r Samariaid yn arbennig o brofiadol mewn cefnogi pobl sy’n meddwl am hunanladdiad, neu’n cymryd camau ar sail hunanladdiad. Mae llinell gymorth 24/7 a gwasanaeth e-bost ar gael. Mae llinell gymorth Cymraeg ar gael hefyd. Ffoniwch 116 123 i siarad â rhywun yn Saesneg. Rhif ffôn y llinell Gymraeg yw 0808 164 0123.
Mae Shout 85258 yn wasanaeth cymorth negeseuon testun cyfrinachol 24/7, rhad ac am ddim i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Tecstiwch 'SHOUT' i 85258. Hefyd ar gael mae adnoddau iechyd meddwl ar gyfer pobl nad ydynt yn siarad Saesneg.
Mae’r wefan stayingsafe.net, a ddatblygwyd gan 4 Mental Health, yn helpu pobl sy'n cael trafferth gyda meddyliau hunanladdol i greu 'cynllun diogelwch'.
Mae Hub of hope yn gronfa ddata iechyd meddwl genedlaethol sy'n dwyn ynghyd ffynonellau cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl. Gallwch ddod o hyd i wasanaethau lleol perthnasol trwy roi cod post.
Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Darperir gwasanaethau sgwrsio ar-lein, rhadffôn a dros neges destun. Rhadffôn 080880 23456, neu tecstiwch 84001.
Mae Papyrus yn elusen atal hunanladdiad sy'n darparu cefnogaeth i bobl ifanc hyd at 35 oed trwy linell gymorth genedlaethol HOPELINEUK (mae hyn yn cynnwys gwasanaethau tecstio ac e-bost). Ffoniwch 0800 068 41 41, neu tecstiwch 07860 039967.
At hynny, mae YoungMinds yn cynnig llinell gymorth i rieni, gwasanaeth e-bost a gwe-sgwrs ar gyfer rhieni / gofalwyr sy'n poeni am iechyd meddwl eu plentyn (hyd at 25 oed). Ffoniwch 0808 802 5544.
Mae canllaw gan Ymddiriedolaeth Charlie Waller Coping with self-harm: A guide for parents and carers yn darparu gwybodaeth am hunan-niweidio a sut i gefnogi person ifanc.
Mae gan Papyrus ganllaw hefyd i rieni a gofalwyr sy'n pryderu y gallai person ifanc fod yn profi meddyliau am hunanladdiad neu hunan-niweidio - Supporting your child: Self-harm and suicide.
Gall Age Cymru ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch lles meddyliol a materion fel unigrwydd. Ffoniwch linell gyngor Age Cymru Advice ar 0300 303 44 98.
Mae elusen Beat eating disorders yn darparu gwasanaethau cymorth i oedolion a phobl ifanc gan gynnwys llinell gymorth, cefnogaeth e-bost a gwasanaeth gwe-sgyrsiau. Llinell gymorth Cymru: 0808 801 0433.
Mae Sefydliad DPJ yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant iechyd meddwl i bobl yn y sector amaethyddol. Ffoniwch 0800 587 4262 neu tecstiwch 07860 048799.
Mae Tir Dewi yn gweithredu gwasanaeth gwrando a chyfeirio ar gyfer y gymuned ffermio. Ffôn: 0800 121 4722.
Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn wasanaeth GIG arbenigol, blaenoriaethol ar gyfer cyn-filwyr sy'n profi anawsterau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth. Gall cyn-filwyr atgyfeirio eu hunain at y gwasanaeth.
Mae’r elusen iechyd meddwl i gyn-filwyr, Combat Stress yn darparu llinell gymorth 24 awr, cefnogaeth ar-lein ac ystod o wasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr. Llinell gymorth: 0800 138 1619, neges destun: 07537 173 683, e-bost: helpline@combatstress.org.uk.
Mae Cruse Bereavement Care yn cynnig ystod o gefnogaeth i bobl ar ôl i rywun agos iddynt farw. Llinell gymorth: 0808 808 1677.
Mae Cymorth wrth Law Cymru yn adnodd i bobl sydd mewn profedigaeth yn dilyn hunanladdiad, neu farwolaeth anesboniadwy arall. Mae'n darparu cyngor ymarferol ac yn rhestru ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth.
Ffynonellau pellach o wybodaeth a chyngor
Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cefnogaeth ar gyfer llawer o'r problemau a all gyfrannu at afiechyd meddwl, gan gynnwys, er enghraifft, materion yn ymwneud â thai, cyflogaeth a dyled. Mae cefnogaeth ar-lein ar gael, a gallwch hefyd ddod o hyd i'ch gwasanaeth Cyngor ar Bopeth lleol trwy roi eich cod post ar y wefan (sylwer: efallai na fydd gwasanaethau lleol yn darparu cyngor wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig). Llinell ffôn genedlaethol: 0800 702 2020.
Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru