Mae sefydliadau Addysg Uwch yn wynebu problemau ariannol ledled y DU, gyda heriau penodol yng Nghymru. Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn penderfynu a yw parhau i gynyddu ffioedd dysgu yn rhan o’r ateb gan gydbwyso hynny yn erbyn gostyngiad yn nifer myfyrwyr Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae heriau ariannol sy’n wynebu prifysgolion wedi bod yn y penawdau, gyda sylw ar ddiswyddiadau staff a benthyciadau myfyrwyr. Mae cwestiynau sylfaenol yn parhau ynghylch cynaliadwyedd sefydliadau unigol a model ariannu addysg uwch (AU). Er bod cynaliadwyedd ariannol y sector AU yn fater i’r DU gyfan, mae heriau penodol i sefydliadau yng Nghymru.
Nid prifysgolion yw’r unig rai yn y sector addysg drydyddol sy’n wynebu dewisiadau ariannol anodd. Mae colegau addysg bellach hefyd yn wynebu heriau cyllidebol oherwydd costau cynyddol a thwf cyflym yn nifer y dysgwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
O ble mae prifysgolion yn cael eu harian?
Mae data incwm diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar gyfer darparwyr AU yng Nghymru, yn dangos bod ychydig dros hanner y cyfanswm yn dod o ffioedd dysgu ac addysgu (55%). Mae grantiau ariannu, gan gynnwys gan Medr (corff hyd braich Llywodraeth Cymru) (15%), a grantiau ymchwil (12%) hefyd yn ffrydiau incwm pwysig.
Y categori ‘incwm arall’ sy’n cyfrif am 16% o gyfanswm yr incwm. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau masnachol lle gall prifysgolion gynhyrchu eu hincwm eu hunain, fel llety myfyrwyr ac arlwyo.
Ffigur 1: Incwm darparwyr addysg uwch 2024/25

Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), Datganiad cyfunol o incwm a gwariant cynhwysfawr 2015/16 i 2024/25
Cyfanswm incwm sector AU Cymru ar gyfer 2024/25 oedd £1.09 biliwn. I gymharu, mae incwm blynyddol unigol tair prifysgol yn Lloegr yn uwch na’r sector ar gyfer Cymru gyfan: Prifysgol Rhydychen (£3.0 biliwn), Prifysgol Caergrawnt (£2.7 biliwn), a Choleg Prifysgol Llundain (£2.2 biliwn).
Ffioedd dysgu
Er bod incwm ffioedd dysgu a chontractau addysg yn cyfrif am ychydig dros hanner cyfanswm incwm darparwyr AU Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ei gyfansoddiad wedi newid dros y cyfnod hwnnw: gan symud i ffwrdd o ffioedd myfyrwyr sydd â’u domisil yng Nghymru. Ffioedd dysgu gan y rhai sydd fel arfer yn byw yng ngweddill y DU yw’r gyfran fwyaf o incwm ffioedd sefydliadau Cymru erbyn hyn.
Ffigur 2: Canran yr incwm o ffioedd dysgu 2017/18 a 2024/25


Ffynhonnell: HESA, Ffioedd dysgu a chontractau addysg wedi’u dadansoddi fesul darparwr AU, domisil, dull, lefel, ffynhonnell a blwyddyn academaidd 2016/17 i 2024/25
Mae cynnydd mawr wedi bod yng nghyfran y ffioedd dysgu rhyngwladol o’r tu allan i’r UE, sydd bellach yn fwy na ffioedd Cymru hefyd. Cynyddodd incwm darparwyr AU Cymru o ffioedd rhyngwladol y tu allan i’r UE yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gyrraedd uchafbwynt o £353 miliwn yn 2023/24: mwy na'r cyllid o Medr, grantiau a chontractau ymchwil, neu o incwm arall. Fodd bynnag, yn 2024/25 roedd yn £274m, sy'n is na'r cyllid gan Medr ond yn dal i fod yn fwy na gwerth grantiau a chontractau ymchwil.
Nid oes cap ar ffioedd myfyrwyr rhyngwladol, yn wahanol i ffioedd myfyrwyr y DU, ac maent yn amrywio rhwng prifysgol a chwrs. Gallant amrywio o £15,000 i dros £25,000. Mae ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr statws cartref (gan gynnwys y rhai sydd fel arfer yn byw yng Nghymru a gweddill y DU) ar gyrsiau israddedig llawn amser wedi’u capio ar £9,535 ar gyfer 2025/26.
Mae sefydliadau’n gynyddol ddibynnol ar ffioedd rhyngwladol ac yn eu defnyddio fel croes-gymorthdal mewn meysydd eraill. Mae’r rhain yn cynnwys cost addysgu myfyrwyr y DU sydd wedi cynyddu uwchlaw ffioedd dysgu’r DU.
O ble mae myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru yn dod?
Mae ffioedd dysgu yn amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar lle mae myfyriwr fel arfer yn byw. Mae hyn yn golygu bod cymysgedd daearyddol poblogaeth y myfyrwyr mewn sefydliad yn cael effaith ar ei gyllid.
Cyfanswm nifer y myfyrwyr
Er bod cyfanswm nifer y myfyrwyr mewn darparwyr AU yng Nghymru wedi gostwng ychydig yn 2024/25 o’i gymharu â 2020/21, bu newid nodedig o ran ble mae myfyrwyr yn dod.
Ffigur 3: Nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda darparwyr AU Cymru yn ôl cyfeiriad parhaol 2020/21 i 2024/25

Ffynhonnell: HESA, Cofrestriadau myfyrwyr AU yn ôl cyfeiriad parhaol 2020/21 i 2024/25
Noder: Nid yw’r Alban, Gogledd Iwerddon, gwledydd eraill y DU, ac anhysbys wedi’u cynnwys yn y graff oherwydd niferoedd is.
Myfyrwyr o Gymru
Roedd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn cyfrif am ychydig llai na hanner (48%) o gyfanswm y myfyrwyr mewn sefydliadau yng Nghymru yn 2024/25 o gymharu ag ychydig dros hanner (52%) yn 2020/21. Mae hyn yn llawer is na chyfran y myfyrwyr cartref sy’n mynd i brifysgolion yn eu gwlad gartref o gymharu â gwledydd eraill y DU.
Ffigur 4: Cyfran y myfyrwyr sydd â’u domisil gartref ym mhob prifysgol yn eu gwlad gartref ar gyfer 2024/25

Ffynhonnell: HESA, Cofrestriadau myfyrwyr AU yn ôl cyfeiriad parhaol 2020/21 i 2024/25
Mae nifer y myfyrwyr o Gymru gyda darparwyr AU yng Nghymru wedi gostwng 9% yn 2024/25 o gymharu â 2020/21. Dyma’r gostyngiad canrannol mwyaf o holl wledydd y DU, gyda myfyrwyr sydd â domisil yn yr Alban yn gostwng 6% ac yng Ngogledd Iwerddon 5%; tra bu cynnydd o 3% yn Lloegr dros yr un cyfnod.
Mae’r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr o Gymru yn golygu bod sefydliadau Cymru yn gynyddol ddibynnol ar fyfyrwyr o tu allan i Gymru am incwm ffioedd dysgu. Mae’r duedd hon yn fwy yng Nghymru nag yn y gwledydd cartref eraill.
Myfyrwyr rhyngwladol
Mae cynnydd yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol (nad ydynt o’r DU na’r UE) yn gysylltiedig i raddau helaeth ag astudiaeth ôl-raddedig trwy ddysgu (PGT). Bu cynnydd o 108% yng nghofrestriadau myfyrwyr o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE mewn astudiaethau PGT o 2020/21 i 2022/23, ac yna bu gostyngiad o 39% yn y niferoedd o 2022/23 i 2024/25.
Ffigur 5: Nifer y myfyrwyr rhyngwladol a gofrestrwyd gyda darparwyr AU yng Nghymru sydd â chyfeiriadau y tu allan i’r UE yn ôl lefel astudio 2020/21 2024/25

Ffynhonnell: HESA, Cofrestriadau myfyrwyr AU yn ôl lefel astudio 2020/21 i 2024/25
Yn 2024, gwnaeth Llywodraeth flaenorol y DU newidiadau i’r llwybrau fisa ar gyfer myfyrwyr a graddedigion. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys cyfyngu ar ofynion fisa a oedd wedi caniatáu i aelodau’r teulu fod gyda’r rhai ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir. Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi cyfyngu ar fisâu astudio o rai gwledydd.
Mae effaith y newidiadau hyn i fisâu ledled y DU yn tynnu sylw at anwadalrwydd y farchnad myfyrwyr rhyngwladol a’r risg sy’n gysylltiedig â phrifysgolion yn dibynnu ar incwm o’u ffioedd dysgu.
Myfyrwyr yr UE
Gostyngodd nifer y myfyrwyr o’r UE ym mhrifysgolion y DU flwyddyn ar ôl blwyddyn o tua 153,000 yn 2020/21 i tua 64,000 yn 2024/25, sy’n ostyngiad o 58%.
Deilliodd y gostyngiad hwn yn bennaf o newidiadau i statws ffioedd a mynediad at gymorth ariannol i fyfyrwyr yr UE a oedd yn gysylltiedig â’r y DU yn gadael yr UE.
Ffigur 6: Newid canrannol myfyrwyr yr UE mewn darparwyr AU o 2020-21 i 2024-25

Ffynhonnell: HESA, Cofrestriadau myfyrwyr AU yn ôl cyfeiriad parhaol 2020/21 i 2024/25
O bedair gwlad y DU, yng Nghymru y bu’r newid canrannol mwyaf yn nifer y myfyrwyr o’r UE. Roedd myfyrwyr o’r UE yn cyfrif am tua 4% o’r holl fyfyrwyr mewn darparwyr AU yng Nghymru yn 2020/21, o gymharu ag 1% yn 2024/25.
Blwyddyn academaidd 2020/21 oedd y flwyddyn olaf i fyfyrwyr yr UE a ddechreuodd radd fod yn gymwys i gael ffioedd a chymorth ariannol i fyfyrwyr cartref y DU. Dim ond o dan rai amgylchiadau yr oedd myfyrwyr yr UE o flwyddyn academaidd 2021/22 ymlaen yn gymwys.
Ers hynny, mae myfyrwyr yr UE wedi bod yn destun ffioedd dysgu rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a’r UE ynghylch myfyrwyr yr UE yn cael mynediad at ffioedd dysgu cartref eto.
Ble mae prifysgolion yn gwario eu harian?
Cyfanswm gwariant darparwyr AU Cymru yn 2024/25 oedd £2.0 biliwn. Yn draddodiadol, costau staff oedd y categori gwariant uchaf gan ddarparwyr AU Cymru.
Staffio
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y staff academaidd ac anacademaidd mewn prifysgolion wedi amrywio. Ers 2020/21 mae’r niferoedd wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, cyn gostwng yn 2024/25.
Ffigur 7: Nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru 2014/15 i 2024/25

Ffynhonnell: HESA, Staff AU fesul darparwr AU a dosbarthiad galwedigaethol safonol gweithgaredd 2014/15 i 2024/25
Mae colli swyddi mewn prifysgolion wedi cael sylw eang. Mae’r graff isod yn dangos y newid yn nifer y staff academaidd ac anacademaidd gyda’i gilydd ym mhob prifysgol yng Nghymru.
Ffigur 8: Newidiadau yn niferoedd staff ym mhrifysgolion Cymru o 2023/24 i 2024/25

Ffynhonnell: HESA, Staff AU fesul darparwr AU a dosbarthiad galwedigaethol safonol gweithgaredd 2014/15 i 2024/25
Roedd 645 (3%) yn llai o staff academaidd ac anacademaidd ym mhob prifysgol yng Nghymru yn 2024/25 nag yn y flwyddyn flaenorol. Aeth Prifysgol Wrecsam yn groes i’r duedd gyda chynnydd o 50 aelod o staff dros yr un cyfnod.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion Cymru yn parhau i redeg cynlluniau diswyddo gwirfoddol felly disgwylir gostyngiadau pellach yn nifer y staff yn y flwyddyn academaidd gyfredol.
Beth all Llywodraeth newydd Cymru ei wneud ynghylch cyllid AU?
Mae pob prifysgol yng Nghymru yn elusennau ymreolaethol. Felly, ni all Gweinidogion Cymru na Medr ymyrryd o ran eu rhedeg, gan gynnwys materion staffio a darparu cyrsiau. Fodd bynnag, mae angen i Medr, fel y corff rheoleiddio, fod yn fodlon bod prifysgolion yn gynaliadwy yn ariannol.
Rhwng 2012 a 2024, gosododd Llywodraeth Cymru y terfyn ffioedd dysgu ar £9,000, yn sefydliadau Cymru. Ers hynny mae wedi cynyddu bob blwyddyn a bydd yn £9,790 ar gyfer 2026/27. Dyma’r swm uchaf y caniateir i brifysgolion Cymru ei godi ar fyfyrwyr statws cartref am gyrsiau israddedig llawn amser.
Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru y bydd y cynnydd mewn ffioedd yn rhoi incwm ychwanegol i brifysgolion Cymru i helpu i ddiogelu’r ddarpariaeth oherwydd yr heriau sy’n wynebu’r sector. Fodd bynnag, mae prifysgolion Cymru wedi bod yn glir nad yw ffi dysgu statws cartref yn talu cost addysgu y myfyrwyr hyn.
Ar wahân i ailwampio sylfaenol y model cyllido AU, ychydig o ffyrdd sydd gan lywodraethau i fynd i’r afael â her gymhleth cynaliadwyedd hirdymor y sector AU. Un o’r prif ddulliau i Lywodraeth Cymru yw cynyddu ffioedd dysgu. Bydd angen cydbwyso a yw am ddefnyddio’r dull hwn a sut i’w ddefnyddio yn erbyn yr effaith y gallai ffioedd uwch ei chael ar niferoedd y myfyrwyr cartref, sydd eisoes yn gostwng.
Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl ar fenthyciadau myfyrwyr sy'n trafod sut mae'r benthyciadau'n gweithio gan gynnwys yr oblygiadau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru a heriau i’r dyfodol.
Erthygl gan Lucy Yarham, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru