Gwaith Craffu Ariannol

Mae'r Uned Craffu Ariannol yn cynnig gwaith dadansoddi annibynnol i gynorthwyo pwyllgorau'r Senedd wrth iddynt graffu ar faterion ariannol ac i gefnogi gwaith Aelodau unigol ar dueddiadau a materion cyllidebol. Mae hyn yn cynnwys gwneud Gwaith ymchwil ar bob agwedd ar yr economi a chyllid cyhoeddus fel y maent yn effeithio ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd.

Offer ariannol

Crynodebau o gyllid datganoledig, cyllidebau, a chraffu ariannol

Sut mae Cymru'n cael ei hariannu?

Mae cyllideb Cymru yn cynnwys nifer o ffrydiau ariannu. Y ffrwd fwyaf yw'r grant bloc, a ddyrennir gan Lywodraeth y DU. Cyfrifir maint y grant hwn gan ddefnyddio Fformiwla Barnett.

Mae trethi Cymru yn galluogi Llywodraeth Cymru i godi 20% o'i refeniw ei hun ar gyfer gwariant cyhoeddus ac i fod yn fwy atebol i bobl Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gallu benthyca swm cyfyngedig bob blwyddyn i'w wario ar brosiectau cyfalaf.

Ffynonellau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27

Ffynhonnell: Adnodd esboniadol gan Lywodraeth Cymru ac Ymchwil y Senedd
Sut mae fformiwla Barnett yn gweithio?

Mae Fformiwla Barnett yn fecanwaith a ddefnyddir gan Drysorlys EF i addasu'r cyllid a ddyrennir i Gymru drwy'r grant bloc, gan adlewyrchu newidiadau mewn gwariant gan Lywodraeth y DU ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr. Mae unrhyw gynnydd mewn cyllid a gaiff ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru yn arwain at gyllid canlyniadol Barnett.

Yn 2016, cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol sy'n nodi trefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei phwerau cyllidol datganoledig. Amlinellodd y fframwaith fersiwn ddiwygiedig o Fformiwla Barnett ar gyfer Cymru.

Fformiwla Barnett ar gyfer Cymru

Mae’r ganran gymharedd yn adlewyrchu i ba raddau y mae gwasanaethau a ddarperir gan adrannau Llywodraeth y DU wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae cyfran poblogaeth Cymru yn cyfateb i ganran poblogaeth Cymru o'i chymharu â phoblogaeth Lloegr.

Mae Fformiwla Barnett hefyd yn cynnwys ffactor seiliedig ar anghenion, sydd wedi'i bennu dros dro ar lefel o 105%. Caiff y ffactor hwn ei gynyddu i 115% pan fydd y cyllid o’i gymharu â Lloegr wedi cydgyfeirio i lefel o 115%..

Sut mae datganoli cyllidol wedi esblygu yng Nghymru?

Pa drethi sydd wedi cael eu datganoli i Gymru? 

Drwy Ddeddf Cymru 2014, deddfwyd i ddatganoli pwerau treth i Gymru am y tro cyntaf ers bron i 800 mlynedd. Gwnaeth hyn alluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu mewn cysylltiad â meysydd yr oedd Treth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi yn gymwys iddynt yn flaenorol. Cafodd y trethi hyn, sy’n drethi’r DU, eu disodli yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Roedd y Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol i Gymru; disodlwyd hyn gan Gyfraddau Treth Incwm Cymru.

Bydd ardoll ymwelwyr hefyd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ym mis Ebrill 2027. Bydd yr ardoll yn cael ei chodi mewn perthynas ag arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Dim ond mewn ardaloedd lle mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu ei gweithredu y bydd yn gymwys.

Bydd cyfradd is a chyfradd uwch ar gyfer yr ardoll, yn dibynnu ar y math o lety y mae ymwelwyr yn aros ynddo. Bydd awdurdodau lleol yn gwario unrhyw refeniw a godir ar ddatblygu twristiaeth gynaliadwy.

Pa drethi allai gael eu datganoli yn y dyfodol?

Yn ei chyllideb ar gyfer 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i gyflwyno cyfraddau newydd o dreth incwm ar incwm eiddo, a hynny o 2027-28. Y bwriad yw datganoli’r broses o bennu’r cyfraddau hyn yng Nghymru i'r Senedd yn y dyfodol.

Yn 2014, cynigiodd Llywodraeth y DU fod yr ardoll agregau yn cael ei datganoli i Gymru, yn amodol ar ddatrys heriau cyfreithiol. Nid oes cyhoeddiad wedi'i wneud ynghylch pryd y bydd hyn yn digwydd.

Yn ogystal, roedd Llywodraeth flaenorol Cymru am gyflwyno treth newydd ar dir gwag. Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth y DU ddatganoli’r cymhwysedd i Gymru i wneud hyn. Gwnaed cais ffurfiol am y pwerau dan sylw bron i chwe blynedd yn ôl, ond ni chafwyd cytundeb ar y mater, gan arwain at feirniadaeth o'r broses.

Serch hynny, mae cynnydd wedi'i wneud o'r diwedd, a’r disgwyl yw y bydd ymgynghoriad ar y cyd rhwng y ddwy Lywodraeth yn cael ei gyhoeddi yn 2026.

Pa bwerau benthyca sydd gan Lywodraeth Cymru?

Mae gan Lywodraeth Cymru yr hawl i fenthyca (o fewn terfynau penodol) at ddibenion adnoddau a chyfalaf. Gwelwyd cynnydd o 10% yn y terfynau cyfalaf yn 2026-27, a bydd y terfynau hyn yn cael eu huwchraddio'n flynyddol yn unol â chwyddiant o 2027-28. Nid yw’r terfynau refeniw wedi newid.

Benthyca adnoddau

Gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £200 miliwn bob blwyddyn (o fewn terfyn cyffredinol o £500 miliwn) os yw’r refeniw a geir o drethi yn is na’r rhagolygon. Rhaid ad-dalu’r arian hwn o fewn pedair blynedd.

Benthyca cyfalaf

Cyfanswm terfyn benthyca Llywodraeth Cymru yw £1.1 biliwn, ac mae ganddi derfyn benthyca blynyddol o £165 miliwn ar gyfer 2026-27, y gellir ei sicrhau o’r Gronfa Benthyciadau Gwladol (drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru) neu fanc masnachol.

Bondiau’r Llywodraeth

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau hefyd i gyhoeddi bondiau llywodraeth er mwyn benthyca ar gyfer prosiectau cyfalaf, sy'n cyfrif tuag at gyfanswm y terfyn benthyca a’r terfynau benthyca blynyddol.

Sut mae Cronfa Wrth Gefn Cymru yn gweithio?

Sefydlwyd Cronfa Wrth Gefn Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru adneuo cyllid adnoddau neu gyfalaf nad yw wedi’i ddyrannu ar ddiwedd blwyddyn ariannol. Gellir tynnu’r cyllid hwn i lawr i ariannu gwariant yn y dyfodol. Mae cap wedi’i osod ar y gronfa wrth gefn, ac mae’n cael ei chadw o fewn Llywodraeth y DU.

Mae cyfanswm y terfynau tynnu i lawr a’r terfynau blynyddol wedi cynyddu 10% yn 2026-27, a byddant yn cael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant bob blwyddyn o 2027-28.

Cyfanswm terfyn Cronfa Wrth Gefn Cymru yw £385 miliwn ar gyfer 2026-27. Nid oes terfynau ar y taliadau y gellir eu gwneud i'r gronfa wrth gefn. Fodd bynnag, dim ond symiau o £137.5 miliwn a £55 miliwn y gall Llywodraeth Cymru eu tynnu i lawr ar gyfer gwariant adnoddau a gwariant cyfalaf, yn y drefn honno, fesul blwyddyn.

Gellir defnyddio cyllid adnoddau a adneuwyd yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru ar gyfer gwariant adnoddau a gwariant cyfalaf, ond mae’r defnydd o gyllid cyfalaf wedi'i gyfyngu i wariant cyfalaf..

Beth yw addasiad i’r grant bloc?

Yn sgil datganoli treth incwm yn rhannol i Gymru, ynghyd â datganoli Treth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Tirlenwi, collodd Llywodraeth y DU refeniw o’r trethi hyn i Lywodraeth Cymru, sydd bellach yn gweinyddu ei threthi ei hun. I wneud iawn am hyn, gwneir addasiad i’r grant bloc mewn perthynas â phob un o'r trethi datganoledig gan ddefnyddio'r model cymharol.

Y model cymharol

Os bydd y refeniw a gesglir o drethi Cymru yn tyfu ar gyfradd gyflymach na’r refeniw a gesglir o drethi cyfatebol y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn cael mwy o refeniw treth na'r addasiad grant bloc sy'n deillio o hynny, sy'n golygu y bydd mwy o gyllid ar gael ar gyfer cyllideb Cymru. Mae’r gwrthwyneb hefyd yn wir.

Beth yw’r drefn ar gyfer cytuno ar gyllideb Cymru?

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae’r broses o graffu ar y gyllideb yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, sy'n caniatáu i Aelodau o'r Senedd drafod ac adolygu’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch y gyllideb ar wahanol adegau o'r flwyddyn, a hefyd dylanwadu arni.

Y cyfnod cyn y gyllideb

Cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, ceir cyfnod o waith craffu cyn y gyllideb, pan fydd Pwyllgor Cyllid y Senedd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac unigolion.

Yn dilyn y cyfnod hwnnw, cynhelir dadl yn y Senedd ar flaenoriaethau’r gyllideb, a hynny er mwyn codi proffil materion a llywio prosesau Llywodraeth Cymru ar gyfer pennu ei blaenoriaethau a’i chyllideb. Mae hyn fel arfer yn digwydd ym mis Gorffennaf.

Y gyllideb ddrafft

Yn 2017, cytunodd Llywodraeth Cymru a'r Senedd ar brotocol ar broses y gyllideb, sy’n nodi’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r gyllideb ddrafft o dan "amgylchiadau arferol”. Ers hynny, fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi newid y drefn; mae bellach yn cynnal un digwyddiad cyllidol, sef cyllideb yr hydref, lle mae’r cyllid datganoledig yn cael ei gadarnhau. O ganlyniad, mae’r broses gyllidebol fel arfer yn glynu wrth y gweithdrefnau ar gyfer blynyddoedd “eithriadol”.

Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys ei chynlluniau treth a gwariant, ochr yn ochr â rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer trethi datganoledig. Mae pwyllgorau’r Senedd yn craffu ar y rhain ac yn adrodd arnynt cyn y cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn.

Y gyllideb derfynol

Yn dilyn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, mae Llywodraeth Cymru yn gosod cyllideb derfynol. Cynhelir pleidlais ar y gyllideb hon yn y Senedd.

Cyllidebau atodol

Fel arfer, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dwy gyllideb atodol yn ystod y flwyddyn (fel arfer ym mis Mehefin a mis Chwefror), a fydd yn adlewyrchu unrhyw newidiadau i’w chyllid. Mae'r cyllidebau atodol hyn yn ymgorffori newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw newidiadau i’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Bydd y cyllidebau atodol hyn yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid, cyn y cynhelir pleidlais i'w cymeradwyo yn y Senedd.

Cyfrifon Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfrifon wedi'u harchwilio tua diwedd y flwyddyn galendr, sy'n destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Yn fuan wedi hynny, cyhoeddir adroddiad alldro sy'n dangos gwariant diwedd blwyddyn o'i gymharu â'r gyllideb ddiweddaraf a gafodd ei chymeradwyo.

Amserlenni bras ar gyfer y gyllideb a’r gwaith craffu – blwyddyn arferol yn erbyn blwyddyn eithriadol

Y weithdrefn ar gyfer blwyddyn eithriadol.

Mewn “blwyddyn arferol”, bydd Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb mewn dau gam, gan ddechrau gyda chyllideb amlinellol ym mis Hydref.

Beth sy'n digwydd os na chytunir ar gynnig y gyllideb

Os na fydd y Senedd yn pasio penderfyniad ar y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol honno (sef 1 Ebrill), yn gychwynnol, dim ond 75% o'r gyllideb a gafodd ei hawdurdodi i’w defnyddio yn y flwyddyn ariannol flaenorol fydd ar gael.

Bydd y ffigur hwn yn cynyddu i 95% os na chytunir ar benderfyniad ar y gyllideb erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Gall un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol, a gall y Senedd gynnal dadl arno yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn berthnasol iddi. Felly, byddai modd pasio'r gyllideb ar gyfer 2027-28 ar ôl 1 Ebrill 2027, pe na bai'r Senedd wedi cytuno ar gyllideb erbyn y pwynt hwnnw.

Mae cyllidebau cyrff a ariennir yn uniongyrchol (Swyddfa Archwilio Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiwn y Senedd, a Chomisiwn Etholiadol Cymru) hefyd wedi'u cynnwys yng nghynnig y gyllideb flynyddol.

Os na chytunir ar y gyllideb, bydd y cyrff a ariennir yn uniongyrchol, ynghyd â Llywodraeth Cymru, dim ond yn gallu cael mynediad at 75% / 95% o’u cyllidebau ar gyfer y flwyddyn flaenorol, a hynny hyd nes bod cynnig y gyllideb flynyddol yn cael ei awdurdodi.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael y rhan fwyaf o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl y gyfraith, rhaid iddynt bennu eu cyllidebau a’u treth gyngor cyn 11 Mawrth yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae'r gyllideb yn berthnasol iddi. Mae'r terfyn amser hwn yn sicrhau y gall awdurdodau bilio gyhoeddi biliau ar gyfer y dreth gyngor mewn pryd ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol ar 1 Ebrill.

Penderfyniad ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT)

Rhaid gwneud penderfyniad ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru ('WRIT') cyn dechrau'r flwyddyn dreth, sy'n dechrau ar 6 Ebrill. Dim ond ar gyfer un flwyddyn dreth y mae modd gwneud hyn, a rhaid i’r penderfyniad fod yn gymwys i'r flwyddyn dreth gyfan.

Dim ond ar ôl cyhoeddi cynnig y gyllideb flynyddol y gellir ystyried penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru, ond heb fod yn gynharach na 12 mis cyn dechrau'r flwyddyn dreth berthnasol.

Nid oes modd i’r Senedd basio cyllideb hyd nes ei bod wedi cytuno ar benderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru yn gyntaf. Mae’r drefn hon yn seiliedig ar yr egwyddor na all y Senedd wneud penderfyniad ar y cynlluniau gwariant sydd wedi'u cynnwys yng nghynnig y gyllideb flynyddol heb gytuno yn gyntaf ar sut y bydd y refeniw i dalu am y cronfeydd hynny yn cael ei godi drwy drethi.

Ar ôl i’r Senedd gytuno ar benderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru, mae modd canslo’r penderfyniad hwnnw cyn dechrau'r flwyddyn dreth. Fodd bynnag, nid oes modd ei ganslo na'i newid ar ôl i'r flwyddyn dreth y mae'n berthnasol iddi ddechrau (felly, o 6 Ebrill ymlaen).

Ar ôl pob cyllideb ddrafft, rydym yn cyhoeddi offeryn rhyngweithiol ar dreth incwm, a gellir dod o hyd iddo ymhlith yr ystod o offer rhyngweithiol sydd ar gael. Mae’r offeryn hwn yn dangos effaith newid y cyfraddau treth incwm, a’r symiau y byddai trethdalwr unigol yn ei dalu mewn WRIT.

Ble mae arian yn cael ei wario

Mae mwy na hanner y cyllid yng nghyllideb Cymru yn cael ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd, a bron i draean ohono yn cael ei ddyrannu i lywodraeth leol, sy'n cynnwys gofal cymdeithasol ac ysgolion.

Ar ôl pob cyllideb ddrafft, rydym yn cyhoeddi offeryn rhyngweithiol ar y gyllideb, a gellir dod o hyd iddi ymhlith yr ystod o offer rhyngweithiol sydd ar gael. Bydd yr offeryn hwn yn cynnwys y ffigurau a'r dadansoddiadau diweddaraf fesul llinell gyllideb.

Gwaith craffu ariannol ar ddeddfwriaeth

Mae’r amcangyfrifon gorau o'r costau sy'n gysylltiedig â rhoi deddfwriaeth a gyflwynir yn y Senedd ar waith wedi'i nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA), sy’n rhan o’r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth.

Rhaid i'r Llywydd benderfynu, ym mhob achos, a oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil dan sylw. Mae hyn yn dibynnu ar y cwestiwn ynghylch a yw'r ddeddfwriaeth yn gofyn am arian cyhoeddus newydd neu gyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer gwasanaeth neu ddiben sydd eisoes yn bodoli.

Dim ond un o Weinidogion Cymru all gynnig penderfyniad ariannol. Os na chaiff y penderfyniad ei basio gan y Senedd, bydd y ddeddfwriaeth yn 'methu' ac ni fydd yn cael ei hystyried ymhellach.

Mae'r Pwyllgor Cyllid hefyd yn ystyried goblygiadau ariannol Biliau'r Senedd drwy gynnal sesiynau craffu gyda’r Aelodau sy'n gyfrifol am y ddeddfwriaeth. Fel arfer, Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am Filiau'r Llywodraeth, ac Aelodau o'r Senedd sy'n cyflwyno Biliau Aelod Preifat.

Mae'r Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad sy'n gwneud argymhellion i'r Aelod sy'n gyfrifol, ac mae'r Aelod yn ymateb i’r adroddiad hwn. Mae’r adroddiad yn cael ei drafod pan fydd y Senedd yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y Bil a'r penderfyniad ariannol.

Cyllidebau Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn ystod yr hydref.

Rôl y Senedd yw craffu ar bob un o'r cyllidebau hyn.

Llinell amser datganoli trethi

Trwy Ddeddf Cymru 2014, deddfwyd i ddatganoli pwerau treth i Gymru am y tro cyntaf ers bron i 800 mlynedd. Fe wnaeth hyn alluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu mewn cysylltiad â meysydd yr oedd Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Tirlenwi yn gymwys iddynt yn flaenorol. Disodlwyd dwy dreth y DU hyn gan Dreth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.

Roedd y Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol i Gymru; cafodd ei disodli gan Gyfraddau Treth Incw

Trethi a delir ar eiddo busnes yw ardrethi annomestig.

Rhagor o wybodaeth am ardrethi annomestig...