Barod am yr ysgol? Presenoldeb, ymddygiad a llesiant

Cyhoeddwyd 28/05/2026   |   Amser darllen munudau

 

Mae ysgolion wedi symud y tu hwnt i’r cyfnod adfer cyntaf yn sgil COVID-19, ond mae mwy o ddisgyblion yn colli’r ysgol, a hynny’n amlach na chyn y pandemig. O ran gwella deilliannau addysgol, sydd eisoes yn her sylweddol, mae ymddygiad disgyblion yn cael ei ystyried fwyfwy fel rhwystr, ac mae’n dwysáu pryderon presennol ynghylch llesiant dysgwyr.

Mae lefelau presenoldeb a llesiant yn yr ysgol yn parhau i fod yn is nag yr oeddent cyn y pandemig, mae lefel absenoldeb parhaus yn uwch, mae cyfradd y gwaharddiadau ar ei huchaf erioed, ac mae athrawon a disgyblion yn nodi bod ymddygiad yn gwaethygu. Mae’r tueddiadau hyn yn cael eu gweld gliriaf mewn ysgolion uwchradd. Er i’r pandemig ddwysáu’r problemau hyn, mae rhai ohonynt i’w priodoli i batrymau tymor hwy. Ymhlith disgyblion sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol – y mesur ar gyfer hyn ers blynyddoedd lawer yw disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (eFSM) – mae’r adferiad yn arafach ac yn fwy anwastad.

Ers i brydau ysgol am ddim cyffredinol gael eu cyflwyno mewn ysgolion cynradd, mae cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim ar sail prawf modd yn parhau i gael ei ddefnyddio fel y prif ddangosydd o anfantais economaidd-gymdeithasol – am y tro. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn ailystyried sut mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn cael ei mesur ymhlith dysgwyr ac mae’n cynnal prosiect ymchwil ‘eFSM a Mwy’.

Ai gwella ynteu lefelu y mae presenoldeb?

Yn syml, mae peidio â mynd i’r ysgol yn cael effaith uniongyrchol ar ddeilliannau addysgol dysgwyr. Gostyngodd presenoldeb yn sydyn yn dilyn y pandemig ac mae’r adferiad wedi bod yn araf (Ffigurau 1 a 2). Yn 2024/25, roedd presenoldeb ym mhob ysgol a ariennir gan y wladwriaeth yn 91.1%, sy’n sylweddol is na’r ffigur cyn y pandemig o 94.3% yn 2018/19 a meincnod “presenoldeb da” Llywodraeth Cymru o 95%.

Mae’r bwlch presenoldeb rhwng disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion eraill wedi ehangu’n sylweddol ym mhob lleoliad, ond gwelir hyn gliriaf mewn ysgolion uwchradd. Ymhlith dysgwyr ysgol uwchradd, roedd presenoldeb yn 2024/25 ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn 81.2%, o’i gymharu â 91.1% ar gyfer disgyblion eraill – sef bwlch ychydig yn is na 10 pwynt canran. Mae hyn yn dangos cynnydd sylweddol o’r bwlch o 5.2 pwynt canran a welwyd cyn y pandemig yn 2018/19.

Mae Estyn, yr arolygiaeth addysg, wedi dweud bod cynnydd wedi lefelu mewn ysgolion uwchradd. Nododd bryder penodol ynghylch dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, a’r ffaith bod rhai ohonynt yn colli cyfran sylweddol o’r flwyddyn ysgol. Gwnaeth adroddiad thematig Estyn ar bresenoldeb amlygu anawsterau o ran trafnidiaeth ac anghysonderau yn nulliau awdurdodau lleol o fynd i’r afael â’r mater. Fel y cafodd ei amlinellu mewn adroddiad o 2023 gan yr elusen Parentkind, mae rhieni wedi nodi rhwystrau parhaus i bresenoldeb megis cyflyrau iechyd, gwrthod mynd i’r ysgol ac anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu (e.e. anghenion dysgu ychwanegol) – roedd pob un o’r rhain yn cael eu disgrifio fel rhywbeth sydd wedi gwaethygu ers y pandemig.

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y pryd fod gwella presenoldeb yn un o’i phrif flaenoriaethau. Ceisiodd Llywodraeth flaenorol Cymru fabwysiadu dull aml-haenog o wella presenoldeb yn yr ysgol, gan ganolbwyntio ar atal, llesiant, a ‘dull ysgol gyfan’ o ymdrin ag iechyd meddwl. Cyhoeddodd ganllawiau cenedlaethol wedi’u diweddaru ar bresenoldeb a oedd yn nodi diffiniadau statudol cliriach o bresenoldeb ac absenoldeb parhaus, ac fe ddyrannodd £8.8 miliwn dros ddwy flynedd o fis Rhagfyr 2024 i ariannu, hyfforddi a chadw Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd ychwanegol.

Ffigur 1: Canran y sesiynau hanner diwrnod yr oedd pob disgybl, disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, a disgyblion nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim wedi’u mynychu: ysgolion cynradd

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion cynradd: Medi 2024 i Awst 2025, Tabl 1 a Thabl 3, 27 Tachwedd 2025

Ffigur 2: Canran y sesiynau hanner diwrnod yr oedd pob disgybl, disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, a disgyblion nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim wedi’u mynychu: ysgolion uwchradd

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion uwchradd: Medi 2024 i Awst 2025, Tabl 1 a Thabl 3, 30 Medi 2025

Mae bron i 60% o ddisgyblion ysgol uwchradd sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn absennol yn gyson

Dilynodd absenoldeb cyson – a gaiff ei ddiffinio bellach fel colli mwy na 10% o sesiynau ysgol – drywydd tebyg o gynnydd sydyn yn ystod y pandemig (Ffigurau 3 a 4). Mae ffigur 2024/25 o 27.0% ymhell uwchlaw lefel 2018/19 o 14.7%.  Mae absenoldeb cyson i’w weld ar lefel anghymesur o uchel ymhlith disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Yn 2024/25, fe wnaeth bron hanner y dysgwyr ysgol gynradd a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim (44.7%) a thros hanner y dysgwyr ysgol uwchradd a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim (58.0%) golli mwy na 10% o’r sesiynau ysgol. Mae hyn yn cymharu â 26.9% o ddysgwyr ysgol gynradd a 35.5% o ddysgwyr ysgol uwchradd yn 2018/19.

Mae’r lefelau uchel hyn o absenoldeb cyson ymhlith disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn tynnu sylw at heriau cymhleth sydd yn aml yn gorgyffwrdd. Mae tystiolaeth amrywiol gan randdeiliaid yn awgrymu bod hyn yn cynnwys anghenion dysgu ychwanegol (ADY) heb eu diwallu, diffyg cludiant am ddim o fewn tair milltir, tlodi ac ansicrwydd tai, problemau sy’n gysylltiedig ag iechyd a gorbryder, a phwysau teuluol ac ansefydlogrwydd.

Yn ôl Alan Milburn, cyn-Aelod Seneddol Llafur sydd wrthi’n cynnal adolygiad ledled y DU i’r cynnydd a wneir ynghylch pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), mae’r effaith gynyddol sy’n gweld absenoldeb o’r ysgol yn arwain at ddiweithdra hirdymor yn drychineb gymdeithasol ac economaidd sy’n digwydd mewn amser real.

Ffigur 3: Canran y disgyblion sy’n absennol yn gyson (yn colli 10% neu fwy o sesiynau hanner diwrnod): cynradd

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion cynradd: Medi 2024 i Awst 2025, Tabl 9 a Thabl 11, 27 Tachwedd 2025

Ffigur 4: Canran y disgyblion sy’n absennol yn gyson (yn colli 10% neu fwy o sesiynau hanner diwrnod): uwchradd

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion uwchradd: Medi 2024 i Awst 2025, Tabl 9 a Thabl 11, 30 Medi 2025

Ymddygiad sy’n gwaethygu a gwaharddiadau

Mae pryderon ynghylch ymddygiad disgyblion yn dyddio’n ôl ymhell cyn y pandemig, ond maent wedi dod yn fwy amlwg, gydag athrawon, plant a phobl ifanc yn nodi mwy o darfu, ymddygiad ymosodol ac anawsterau ehangach o ran rheoli teimladau.

Yn ei adroddiad thematig, nododd Estyn darfu cyson ar lefel isel, herfeiddio a gwrthdaro corfforol achlysurol mewn ysgolion uwchradd, yn aml yn gysylltiedig â dylanwadau allanol megis cyfryngau cymdeithasol a dynameg cyfoedion. Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor yn tynnu sylw at amlder a dwyster cynyddol ymddygiad heriol, ac fe adroddodd yr undeb athrawon NASUWT ym mis Ebrill 2025 fod digwyddiadau treisgar yn ysgolion Cymru wedi mwy na dyblu dros y tair blynedd diwethaf. Mewn arolwg o aelodau NASUWT yn 2025, dywedodd dros hanner yr ymatebwyr fod cam-drin geiriol neu gorfforol wedi gwneud iddynt ystyried gadael y proffesiwn.

Mewn adroddiad gan Bwyllgor Trosedd a Diogelwch Senedd Ieuenctid Cymru ar Ymddygiad, cafodd darlun llwm a manwl i blant a phobl ifanc ei gyfleu. Dywedodd “nad yw rhai disgyblion yn teimlo’n ddiogel lle maen nhw’n dysgu” a bod “angen rhoi sylw i hyn er eu llesiant nhw, a’u galluogi i roi 100% tuag at eu haddysg”. Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o wyth argymhelliad Senedd Ieuenctid Cymru.

Yn 2025, cynhaliodd Llywodraeth Cymru sesiwn ford gron ynghylch trais a diogelwch ac Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol, gyda’r ddau ddigwyddiad yn pwysleisio cysondeb cenedlaethol, arfer sy’n seiliedig ar drawma, dysgu proffesiynol, cydweithio amlasiantaeth a rhannu data, gwell ymgysylltiad â’r gymuned a theuluoedd, a llais cryfach i’r dysgwr. Yn dilyn yr uwchgynhadledd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘becyn cymorth’ ymddygiad newydd.

O ran ymddygiad dysgwyr, mae tueddiadau gwahardd o’r ysgol yn rhan o’r darlun, ond mae’r mater yn un llawer ehangach. Mae’r data dros dro’n dangos bod cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol ar gyfer ysgolion uwchradd bron wedi dyblu o 78.3 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018/19 i 149.9 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2023/24. Ym mhob lleoliad, mae cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol i ddysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim bron pedair gwaith y gyfradd i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim.

Yn wahanol i gyfraddau presenoldeb, sydd wedi dangos gwelliant bach ers y pandemig, mae cyfraddau’r gwaharddiadau (cyfnodau penodol a pharhaol) wedi codi bob blwyddyn ers 2021/22 ac maent bellach ar eu lefel uchaf ers i’r gyfres ddata ddechrau yn 2011/12. Yn gynharach eleni, cafodd hyn ei ddisgrifio fel rhywbeth annerbyniol gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bryd hynny. Mae’r patrymau hyn yn codi cwestiynau ynghylch gallu’r system addysg i ddiwallu anghenion cynyddol, effeithiolrwydd ymyrraeth gynnar, a’r gofynion cynyddol ar dimau cymorth bugeiliol a chymorth ymddygiad.

Ffigur 5: Cyfraddau gwaharddiadau (cyfnod penodol a pharhaol) ar gyfer pob disgybl, disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion: Medi 2023 i Awst 2024 (dros dro), Tabl 1 a Thabl 4, 11 Tachwedd 2025

Mae llai o ddysgwyr yn fodlon â’u bywyd nawr nag yn 2017

Mae llesiant disgyblion wedi dringo’r agenda yn sgil pwyslais Llywodraeth Cymru ar ‘ddull ysgol gyfan’ o ymdrin ag iechyd meddwl. Yn naturiol ddigon, caiff ei ystyried bod llesiant dysgwyr yn gysylltiedig yn agos â phresenoldeb ac ymddygiad.

Yn ei arolwg o ysgolion uwchradd yn 2023/24, gwelodd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) ddirywiad ymhlith dysgwyr o ran boddhad â bywyd a llesiant meddyliol. Gostyngodd boddhad â bywyd ar draws dysgwyr oedran uwchradd o 84.8% yn 2017 i 80.0% yn 2023. Mae’r data hefyd yn tynnu sylw at anghydraddoldebau parhaus. Mae bwlch o 13.6 pwynt canran mewn boddhad â bywyd rhwng disgyblion â’r Sgorau Cyfoeth Teuluol isaf (70.9%) ac uchaf (84.5%).

Hefyd, roedd cynnydd sydyn yn nifer y disgyblion sy’n dangos lefelau uchel neu uchel iawn o anawsterau ar draws problemau cyfoedion, gorfywiogrwydd, problemau emosiynol ac ymddygiad.

Mae’r gyfran hon wedi cynyddu, o 25.8% yn 2019 i 35.2% yn 2023.

Canfu arolwg yn 2022 ar ran y Comisiynydd Plant fod gan 63.2% o blant 7-11 oed a 66.6% o blant 12-18 oed “bryderon” am eu hiechyd meddwl/llesiant. Mae’r ffactorau sy’n sbarduno llesiant isel yn cynnwys mwy o orbryder, straen teuluol, pwysau sy’n deillio o gyfryngau cymdeithasol, ac effeithiau hirdymor y pandemig ar sgiliau cymdeithasol. Mae ysgolion yn parhau i nodi galw cynyddol am gwnsela, cymorth bugeiliol a gwasanaethau iechyd meddwl allanol. Y cymunedau sy’n teimlo’r pwysau hyn yn fwyaf enbyd yw’r rhai sydd â lefelau uwch o amddifadedd.

Bylchau parhaus

Mae ymgysylltiad disgyblion yn cael ei lunio gan ffactorau cydgysylltiedig, gan gynnwys presenoldeb, absenoldeb parhaus, ymddygiad a llesiant. Mae dysgwyr difreintiedig, yn enwedig y rhai sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, yn parhau i wynebu rhwystrau mwy ar draws pob maes. Mae rhai dangosyddion yn dangos gwelliant cymedrol, ond mae bylchau sylweddol yn parhau.


Erthygl gan Dr Nyle Bevan-Clark, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru