Gan fod y DU bellach wedi gadael yr UE, derbynnir yn gyffredinol fod yn rhaid i Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig gydweithio'n agosach, yn enwedig o ran:
- rheoli ymwahanu o ran polisi mewn gwahanol rannau o'r DU y tu allan i farchnad sengl yr UE; a
- negodi rhwymedigaethau rhyngwladol a’u rhoi ar waith.
Yn 2018, aeth Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ati i gomisiynu adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol i sicrhau eu bod yn addas at y diben yn sgil ymadawiad y DU â’r UE. Ym mis Ionawr 2022, daeth y llywodraethau i gytundeb ar yr adolygiad.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd fod y cytundeb ar yr adolygiad yn gam cyfansoddiadol arwyddocaol ymlaen, a disgrifiodd y broses datrys anghydfodau newydd fel proses arloesol. Fodd bynnag, dywedodd fod y cytundeb wedi dibynnu ar fod pob un o'r pedair llywodraeth yn gweithio yn yr ysbryd hwnnw.
Y sail ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol
Yn unol â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar Ddatganoli (2013), cytunodd y llywodraethau i gydweithio drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogion. Disgrifiwyd y Cydbwyllgor Gweinidogion fel corff ymgynghorol: roedd modd iddo wneud cytundebau, ond nid penderfyniadau rhwymol.
Yn 2017, dadleuodd Llywodraeth Cymru y dylid newid y Cydbwyllgor Gweinidogion i fod yn ‘Gyngor Gweinidogion’, ac y dylai fod yn gallu gwneud penderfyniadau drwy gonsensws, neu drwy bleidlais pe bai Llywodraeth y DU ac un o'r llywodraethau datganoledig o’r un farn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud y dylai cysylltiadau rhynglywodraethol fod â sail statudol
Mae'r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol (“yr Adolygiad”) yn nodi y dylai'r llywodraethau wneud penderfyniadau ar y cyd, ond drwy gonsensws. Nid yw'n darparu ar gyfer rhoi sail statudol i gysylltiadau rhynglywodraethol.
Strwythurau rhynglywodraethol newydd
Mae'r llywodraethau wedi cytuno i sefydlu tair haen newydd ar gyfer ymgysylltu ar lefel weinidogol i gymryd lle'r Cydbwyllgor Gweinidogion:
- grwpiau rhyngweinidogol ar lefel portffolio neu ar lefel adrannol (rhai sy’n bodoli eisoes, a rhai sydd i’w sefydlu o’r newydd);
- Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol i drafod materion trawsbynciol, a Phwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid; a
- Chyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig (y Cyngor) i oruchwylio’r system lywodraethu aml-lefel a grëwyd yn sgil datganoli.
Cytunodd y llywodraethau i gynnal cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol a’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid a’r Cyngor ar gyfnodau rheolaidd, ac i newid cadeiryddion a lleoliadau’r cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar batrwm cylch. Cytunwyd hefyd i gyhoeddi canllawiau ar newid cadeiryddion a lleoliadau ar batrwm cylch, ac amlder y cyfarfodydd ar gyfer y grwpiau rhyngweinidogol.
Bydd ysgrifenyddiaeth ar y cyd yn cael ei sefydlu, a fydd yn cynnwys swyddogion o bob llywodraeth, ond bydd yn atebol i'r Cyngor.
Nid yw’n eglur faint o amser fydd hi’n gymryd i’r strwythurau rhynglywodraethol newydd gael eu sefydlu’n llawn. Cynhaliodd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ei gyfarfod cyntaf yr wythnos hon. Nid yw’r Cyngor wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf hyd yma.
Y meysydd allweddol ar gyfer cydweithio
Mae'r adolygiad yn nodi ffyrdd newydd y bydd y llywodraethau'n cydweithio ar draws ystod o feysydd allweddol lle rennir cyfrifoldeb.
Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol newydd yn gyfrifol am:
- oruchwylio'r rhaglen fframweithiau cyffredin; a
- thrafod materion sy'n effeithio ar safonau rheoleiddio ledled y DU ar gyfer masnach fewnol.
Gallai hyn gynnwys goruchwylio gweithrediad Deddf Marchnad Fewnol y DU a sut y bydd y llywodraethau yn gwneud penderfyniadau ar gytuno ar eithriadau i'r Ddeddf.
Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn trafod materion rhyngwladol trawsbynciol a’r gwaith o weithredu a datblygu rhwymedigaethau rhyngwladol mewn meysydd datganoledig.
Bydd Gweinidogion hefyd yn ymwneud â materion rhyngwladol ar lefel portffolio drwy'r grŵp rhyngweinidogol ar fasnach a grwpiau rhyngweinidogol perthnasol eraill.
Bydd y llywodraethau'n trafod y broses o roi cytundebau’r DU a’r UE ar waith drwy grŵp rhyngweinidogol ar Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU a'r UE. Bydd hyn ochr yn ochr ag ymrwymiadau a wnaed ar wahân gan Lywodraeth y DU i ymgysylltu â’r llywodraethau datganoledig yn fforymau'r DU a’r UE.
Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn ystyried materion economaidd ac ariannol. Bydd gan y Pwyllgor hwn ysgrifenyddiaeth a phroses datrys anghydfodau ar wahân.
Mae'r llywodraethau wedi cytuno mai mater i Drysorlys y DU yw penderfyniadau ariannu. Dim ond os oes rheswm i gredu y gallai un o egwyddorion y Datganiad o Bolisi Ariannu fod wedi cael ei thorri y gellir codi anghydfodau ynghylch ariannu.
Maent hefyd yn cytuno y bydd anghydfodau ynghylch fframweithiau cyllidol Cymru a'r Alban yn parhau i gael eu rheoli drwy'r prosesau a nodir yn y fframweithiau hynny.
Datrys anghydfodau
Roedd gan y Cydbwyllgor Gweinidogion broses ar gyfer datrys anghydfodau.
Fodd bynnag roedd y llywodraethau datganoledig a phwyllgorau seneddol yn beirniadu’r broses, ac yn dadlau bod Llywodraeth y DU yn cael penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ag anghydfodau ai peidio. Dadleuodd Llywodraeth Cymru yn 2017 y dylai ‘Cyngor Gweinidogion' diwygiedig ddatrys anghydfodau ac y dylid gwneud y penderfyniadau hynny mewn modd rhwymol.
Mae’r adolygiad yn amlinellu bod y llywodraethau wedi cytuno ar broses tri cham newydd ar gyfer datrys anghydfodau, o lefel portffolio i'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol neu’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, ac yn olaf i Gyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig. Mae'n gwneud rhai newidiadau sylweddol i'r broses bresennol o ddatrys anghydfodau, yn enwedig drwy:
- gyflwyno meini prawf ar gyfer trosglwyddo materion i lefel uwch: os bydd anghytundeb ar lefel portffolio, gellir ei gyfeirio at yr ysgrifenyddiaeth. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn asesu a yw'r anghytundeb wedi'i drafod yn helaeth eisoes ac a oes ganddo oblygiadau y tu hwnt i'w briod faes polisi cyn trosglwyddo’r mater.
- cyflwyno terfynau amser: rhaid i anghydfodau a gyfeirir at y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol gael eu hystyried gan uwch-swyddogion rhynglywodraethol o fewn deg diwrnod gwaith, a chan y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol neu’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid o fewn deg diwrnod arall, oni chytunir fel arall. Rhaid ystyried anghydfodau a gyfeirir at y Cyngor o fewn mis.
- cyflwyno gofyniad na chaniateir i gadeirydd cyfarfod fod yn gynrychiolydd llywodraeth sy'n rhan o'r anghydfod;. Ni fydd gan y cadeirydd rôl gwneud penderfyniadau. Os bydd anghydfod yn cyrraedd y Cyngor, y Prif Weinidog fydd y cadeirydd.
- cyflwyno gofyniad y dylid ceisio cyngor trydydd parti neu gyfryngu cyn trosglwyddo mater i'r Cyngor, oni bai bod pob parti'n cytuno i beidio â gwneud hyn; a
- chyflwyno gofyniad o ran adrodd: bydd llywodraethau'n cyflwyno adroddiad ar ganlyniad anghydfodau yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol neu'r Cyngor i'w deddfwrfeydd (gan gynnwys cyngor gan drydydd partïon).
Mae anghytundebau heb eu datrys rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dros ddeddfwriaeth ar ôl Brexit ar reoli cymorthdaliadau ac ar gymwysterau proffesiynol. Nid yw’n glir a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin ag unrhyw un o'r rhain drwy'r broses newydd o ddatrys anghydfodau.
Tryloywder ac atebolrwydd seneddol
Yn 2018, argymhellodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bumed Senedd y dylai cysylltiadau rhynglywodraethol fod yn dryloyw ac yn atebol. Cytunodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiadau rheolaidd i'r Senedd ar gysylltiadau rhynglywodraethol.
Yn yr adolygiad, mae'r llywodraethau'n cytuno i lefel uwch o adrodd ar waith rhynglywodraethol, gyda'r ysgrifenyddiaeth yn cyhoeddi adroddiad blynyddol.
Fodd bynnag, mynegwyd pryderon nad yw'r ymrwymiadau hyn o ran tryloywder yn gymesur â pha mor bwysig yw gwaith rhynglywodraethol ar ôl Brexit.
Ym mis Chwefror, argymhellodd Pwyllgor Cyfansoddiad Senedd yr Alban na ddylai unrhyw ymgynghori cyhoeddus na gwaith craffu seneddol gael eu gwanhau o gwbl o ganlyniad i fframweithiau cyffredin a gwaith rhynglywodraethol.
Caiff Seneddau hefyd geisio gwella gwaith craffu o ran cysylltiadau rhynglywodraethol drwy gynyddu cydweithio rhyngseneddol. Ar 25 Chwefror, cyfarfu seneddwyr o bob rhan o'r DU mewn Fforwm Rhyngseneddol. Mewn datganiad ar y cyd, gwnaethant gytuno i:
anelu at “wella gwaith craffu drwy gyfnewid gwybodaeth ar y cyd a thrwy geisio dull cyson o wella tryloywder ac atebolrwydd ar lefel Gweinidogion a rhynglywodraethol”.
Gydag anghytundebau rhwng y llywodraethau’n parhau, ac amserlenni ar gyfer rhoi’r adolygiad ar waith yn aneglur, amser a ddengys sut y bydd y strwythurau rhynglywodraethol newydd yn datblygu, a sut y creffir arnynt.
Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru