Gweithlu’r diwydiannau creadigol: Hanesion y llon a’r lleddf

Cyhoeddwyd 23/01/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 24 Ionawr bydd y Senedd yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gweithlu'r diwydiannau creadigol.

Mae’r diwydiannau creadigol yn werth mwy na 5% o Gynnyrch Domestig Gros (neu GDP) Cymru, ac wedi tyfu’n gyflymach ers y pandemig nag economi gyffredinol Cymru. Fodd bynnag, mae’r llwyddiant sy’n cael sylw – a ysgogwyd gan sector sgrin ffyniannus – yn cuddio problemau ariannol eang yn y celfyddydau. Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd (“y Pwyllgor”) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud twf yn decach ac yn gynaliadwy, a chefnogi'r sectorau sy'n ei chael hi'n anodd.

Y twf mwyaf erioed, wedi'i rannu'n anwastad

Yn ôl ymchwil gan Clwstwr – sy’n brosiect ymchwil diwydiannau creadigol – mae cyfanswm trosiant amcangyfrifedig diwydiannau creadigol Cymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed o £4.2 biliwn yn 2022, sef 4.6% o gyfanswm trosiant Cymru (mae manylion yr is-sectorau sydd wedi’u cynnwys yn y diffiniad o “ddiwydiannau creadigol” yn yr adroddiad).

Mae'r trosiant hwn yn sylweddol uwch na rhai sectorau eraill gan gynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, a gwasanaethau llety a bwyd.

Cymhariaeth o faint trosiant y Diwydiant Creadigol a Diwylliannol yng Nghymru â throsiant sectorau eraill yn economi Cymru (data 2022)

Ffynhonnell: Diweddariad ar yr adroddiad: Maint a chyfansoddiad y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn 2022 (Clwstwr, 2023)

Gwnaeth y pandemig effeithio’n sylweddol ar y diwydiannau creadigol gydag atal sioeau byw, cyngherddau, a chynhyrchiad ffilm a theledu yn ystod y cyfyngiadau cyntaf. Yn 2020, crebachodd trosiant y diwydiannau creadigol 14%, gan ei ddwyn yn ôl i lefelau 2013. Fodd b bynnag, cafwyd adferiad sylweddol yn 2022, gyda thwf o 12% mewn trosiant a’r sector yn cofnodi ei ffigurau uchaf erioed.

Nid yw’r twf hwn yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws y diwydiannau creadigol. Dywedodd yr Athro ffilm a theledu, Justin Lewis, wrth y Pwyllgor Diwylliant ei bod yn mae’n stori o lwyddiant aruthrol, gyda Chymru yn cael hystyried yn rhyw fath o bwerdy byd-eang yn y DU, ac mae ei holl ddangosyddion twf yn gryf iawn. Mewn cyferbyniad, eglurodd fod yr diwydiant cerddoriaeth yn wahanol iawn – mae'r holl dueddiadau sylfaenol yn y diwydiant cerddoriaeth yn rhai drwg.

At hynny, mae'r celfyddydau yn dal i gael trafferth yn sgil y pandemig. Yn ystod cyfnod masnachu arferol, mae lleoliadau celfyddydol llai yn gweithredu heb lawer o elw – os o gwbl. Mae’r rhain yn cael eu gwasgu gan chwyddiant ar hyd eu cadwyni cyflenwi yn ogystal â llai o incwm, gan fod presenoldeb yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn COVID.

Presenoldeb yn y celfyddydau (2019-20 a 2022-23)

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae'r dangosyddion celfyddydau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod llai o bob math o bresenoldeb o'i gymharu â’r lefelau a fodolai cyn y pandemig

Mae Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wedi rhybuddio mai 2023 fydd y flwyddyn waethaf ar gyfer cau lleoliadau ar lawr gwlad ers sefydlu’r elusen yn 2014. Ledled y DU, mae nifer y digwyddiadau a gynhelir mewn lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad wedi gostwng 17% o gymharu â 2019.

Twf cyflym a’r angen am bobl ychwanegol ar bob lefel

Yn ôl Pauline Burt o Ffilm Cymru – oherwydd twf mewn cynhyrchu ar sgrin – mae heriau yn ymwneud â thwf cyflym, a’r angen am bobl ychwanegol ar bob lefel. Eglurodd Gabriella Ricci, o’r cwmni cynhyrchu Bad Wolf, fod prinder gweithlu yn golygu nad ydyn nhw’n gallu cadw i fyny â’r galw o ran y cynyrchiadau yn ne Cymru, a rhanbarth de-orllewin Cymru.

Yn ôl yn 2019, fe wnaeth Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu blaenorol y Senedd alw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth sgrin a fyddai’n cynnwys ei weledigaeth o sut y gall diwydiant sgrin Cymru “gymryd cyfrifoldeb dros nodi a lliniaru bylchau sgiliau”. Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu sgiliau creadigol, wedi'i ategu gan Gronfa Sgiliau Creadigol gwerth £1 miliwn.

Galwodd ITV Cymru Wales ac S4C am fwy o fuddsoddiad mewn hyfforddiant a sgiliau, gyda Nia Britton o ITV yn nodi nad yw miliwn yn mynd i fynd yn bell iawn. Roedd Tom Ware (Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformio ym Mhrifysgol De Cymru) yn teimlo nad diffyg hyfforddiant oedd y broblem, ond bod hyfforddiant yn ymateb i anghenion tymor byr:

Cytunodd y Pwyllgor, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyllid sydd ar gael drwy’r Gronfa Sgiliau Creadigol a darparu cymorth wedi’i ariannu yn y tymor hwy (y tu hwnt i 2024) ar gyfer datblygu sgiliau yn y diwydiannau creadigol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, argymhelliad y Pwyllgor i gynyddu’r gyllideb ar gyfer y Gronfa Sgiliau, gan ddweud ei bod yn anelu at oddeutu £1m o gyllid blynyddol, ond ei bod yn archwilio pob opsiwn er mwyn ysgogi buddsoddiad ychwanegol. Roedd yn derbyn yr argymhelliad i ymestyn y Gronfa Sgiliau Creadigol, gan ddweud y bwriedir iddi redeg tan fis Medi 2025.

Mae arferion gwaith afresymol yn atal pobl o ystod fwy eang o gefndiroedd cymdeithasol

Yn ogystal â’r her o ran cynnal twf yn y diwydiannau sgrin, clywodd y Pwyllgor am heriau o ran gwneud y twf hwn yn deg. Esboniodd Tom Ware y gallai’r gweithlu sgrin, llawrydd yn bennaf, fod yn destun arferion gwaith afresymol. Mae'r rhain yn cynnwys oriau hir a phatrymau gwaith anhyblyg. Teimlai fod yr arferion hynny yn atal pobl o ystod ehangach o gefndiroedd cymdeithasol rhag dod i’r diwydiant, ac aros yno.

Mewn gweithdy i randdeiliaid, clywodd y Pwyllgor adroddiadau am ymddygiad problemus yn y diwydiannau sgrin. Roedd y rhain yn cynnwys ymddygiad gwenwynig ymhlith pobl greadigol mewn rolau uwch, diffyg dealltwriaeth o ran sut i adrodd am ymddygiad gwael, a diwydiant bach, cysylltiedig yn ei gwneud hi'n anodd adrodd am ymddygiad gwael.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cynhyrchu ffilm a theledu drwy ei hadran diwydiannau creadigol, Cymru Greadigol. Teimlai'r Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys cymalau ariannu ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gyda'r cyllid hwn. Ymatebodd Llywodraeth Cymru gan ddweud ei bod eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheini sy’n gwneud cais am gyllid i ddangos bod ganddynt ymrwymiad i amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd, a bod cynlluniau ar waith i ddatblygu ymhellach feini prawf ariannu sy’n ymwneud â’r materion hynny.

O ddrwg i waeth

Mewn cyferbyniad, mae gweithlu'r celfyddydau yn ei chael hi'n anodd ymdopi â chyfnod o ddirywiad. Eglurodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys, fod eu sector yn cyflogi ac yn ariannu llai, erbyn hyn, nag oedd yn ei wneud cyn y pandemig. Nododd Andy Warnock o Undeb y Cerddorion fod 60 y cant o gerddorion bellach yn waeth eu byd, o gymharu â’r llynedd.

Ers i'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth, mae Cyllideb Ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru wedi cynnig torri cyllideb refeniw Cyngor y Celfyddydau 9%. Nododd Cyngor y Celfyddydau, sy’n dosbarthu’r rhan fwyaf o’i gyllid i’r sector, mai’r dyraniad hwn “yw'r isaf ers 2007/08”.

Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth fod Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth ddiwylliant, gan ychwanegu:

“Within that cultural strategy I would expect very much that expectations will be set out very clearly about what cultural organisations look like in Wales and how they employ staff, and what their working conditions are like”.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai strategaeth ddiwylliant Llywodraeth Cymru nodi cymorth ar gyfer datblygu a chynnal y gweithlu yn y sectorau celfyddydau a cherddoriaeth, a chynnwys darpariaethau ar gyflog teg ac amodau gwaith a defnyddio hwyluswyr llesiant.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru y ddau argymhelliad hyn.

Yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor â’r Dirprwy Weinidog ym mis Medi 2021 dywedodd ei bod yn hollol ymroddedig i greu strategaeth ddiwylliannol. Yn y sesiwn graffu ddiweddar ar y Gyllideb Ddrafft esboniodd y Dirprwy Weinidog fod gan Lywodraeth Cymru strategaeth ddrafft, ond bod angen ei diwygio bellach i adlewyrchu’r toriadau a wnaed ar draws y sector yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25.

Wrth i'r sector aros am y strategaeth ddiwylliant, nid yw'n glir pa gymorth y bydd yn ei gynnig i weithlu celfyddydol sy'n ei chael hi'n anodd.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru