Deall sychder

Cyhoeddwyd 04/10/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Cymru wedi bod mewn sychder ers dechrau mis Medi, ac er gwaethaf y glaw diweddar, mae’n parhau i fod mewn sychder.

Gall sychder fod yn drychineb naturiol dinistriol, gan fygwth bywydau a bywoliaeth. Mae'n cronni dros amser, a gall bara wythnosau neu flynyddoedd hyd yn oed.

Mae'r cysyniad o sychder yn adnabyddus iawn; bydd yna gronfeydd sych a chaeau cras, ac mae'n mynd yn aml law yn llaw â thywydd poeth. Yn gyffredinol, mae yna ddiffyg dŵr.

Fodd bynnag, nid oes un diffiniad o beth yn union yw sychder. Mae pob sychder yn wahanol a gall pob un gael effaith wahanol ar bobl, busnesau a'r amgylchedd.

Mwy na dim ond cyfnod sych

Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd yn nodi pedwar math cyffredin o sychder, sy’n cael eu crynhoi gan y Swyddfa Dywydd fel:

  • Sychder meteorolegol – pan fydd y glaw mewn ardal yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y rhanbarth;
  • Sychder amaethyddol – pan fydd diffyg glaw neu bridd sych yn effeithio ar ffermio a thyfiant cnydau;
  • Sychder ecolegol – fel sychder amaethyddol, ond pan fydd diffyg dŵr yn effeithio ar yr amgylchedd lleol hefyd; a
  • Sychder hydrolegol – pan fydd cyflenwadau dŵr fel nentydd a chronfeydd dŵr yn isel, a all gael ei achosi gan ddiffyg glaw, diffyg eira yn toddi, neu resymau eraill.

Ac eithrio sychder meteorolegol, sy'n canolbwyntio ar yr achos, mae sychder yn cael ei ddiffinio fel arall gan bwy neu beth y mae'n effeithio arno.

Fel sy'n digwydd yn aml, mae'r sychder presennol yng Nghymru yn gyfuniad o'r uchod. Mae’r penderfyniad i ddatgan sychder yn cael ei wneud gan grŵp o arbenigwyr, sef Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, sy'n ystyried y data hydrolegol ac amgylcheddol diweddaraf, ac unrhyw effeithiau o dywydd sych hir ar yr amgylchedd naturiol a phobl.

Dim ond 56.7 y cant o'r glaw disgwyliedig wnaeth syrthio yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Awst, y cyfnod trydydd sychaf o chwe mis ers dechrau cadw cofnodion. Ym mis Awst yn unig, dim ond 38 y cant o’r glawiad misol cyfartalog wnaeth syrthio yng Nghymru. Cafodd hyn ei waethygu gan wythfed haf cynhesaf Cymru ers 1884.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod y cyfnod sych a phoeth hirfaith hwn wedi arwain at lif eithriadol o isel mewn afonydd, a lefelau isel o ran dŵr daear a chronfeydd dŵr. Mae hyn wedi gwneud y pwysau sydd ar dir, cynefinoedd, bywyd gwyllt a chyflenwadau dŵr yn waeth.

Boed law neu hindda

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau y defnydd cywir o ddŵr, a sicrhau bod digon o ddŵr ar gyfer pob angen, gan gynnwys anghenion yr amgylchedd.

Ochr yn ochr â monitro a rheoleiddio adnoddau dŵr yn barhaus, mae'n ofynnol bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru gynllun sychder sy'n nodi'r dangosyddion a ddefnyddir i ddosbarthu'r gwahanol gyfnodau o sychder. Fe'i defnyddir gan Grŵp Cyswllt Sychder Cymru a thimau eraill Cyfoeth Naturiol Cymru fel 'llawlyfr gweithredol' pan fydd lefelau glaw yn dechrau gostwng, gan gwmpasu penderfyniadau allweddol, camau i'w cymryd, a sut i reoli effeithiau yn ystod sychder.

Mae hefyd yn ofynnol i gwmnïau dŵr gynllunio ar gyfer sychder. Mae angen i’w cynllun sychder ddangos sut y byddant yn cyflenwi dŵr i gwsmeriaid pan fydd cyflenwadau dŵr yn gostwng, a sut y byddant yn lleihau effeithiau andwyol sychder.

Os bu prinder eithriadol o law, gall cwmnïau dŵr wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwyddedau neu orchmynion sychder, sy’n caniatáu iddynt newid eu tyniadau er mwyn helpu i gynnal cyflenwadau dŵr cyhoeddus neu warchod yr amgylchedd.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wneud cais i Lywodraeth Cymru am orchymyn sychder os yw'r amgylchedd yn dioddef difrod difrifol o ganlyniad i dynnu dŵr yn ystod sychder.

Sut mae hyn yn effeithio arna’ i?

I'r rhan fwyaf, mae sychder yn gyfystyr â 'gwaharddiad pibelli dwr', sy’n cael ei alw’n swyddogol yn 'waharddiad defnydd dros dro'. Y cwmni dŵr lleol sy’n gwneud penderfyniad i wahardd ardal, a hynny i sicrhau parhad cyflenwad dŵr i gwsmeriaid ac i warchod yr amgylchedd lleol. Ond er bod Cymru mewn sychder, dim ond Sir Benfro sydd dan waharddiad ar hyn o bryd.

Gall sychder gael effeithiau pellgyrhaeddol ar nifer o sectorau. Daw effeithiau economaidd o ganlyniad i rwydweithiau trafnidiaeth yn gorfod cau, ymyrraeth i gadwyni cyflenwi ac oedi i brosiectau adeiladu.

Mae’r sector amaethyddol yn teimlo effeithiau sychder yn drwm, gan gynnwys methiant cnydau, llai o gynnyrch a mwy o ddiraddiad pridd. Gall da byw ddioddef straen gwres, a all effeithio ar gyfraddau ffrwythlondeb a marwolaeth.

Mae hyn yn ei dro yn effeithio ar ddiogelwch bwyd. Yn ddiweddar, mae'r DU wedi gweld hydrefau rhy wlyb i hau llawer o gnydau gaeafu, ynghyd â sychder mwy helaeth yn yr haf sy'n cyfyngu ar y tymhorau tyfu.

Canfu Adroddiad Diogelwch Bwyd y DU fod cynnyrch gwenith wedi gostwng 40 y cant yn 2020 oherwydd glaw trwm a sychder. Canfu hefyd fod risgiau sylweddol yn y dyfodol i gynhyrchiant bwyd y DU yn cynnwys straen gwres ar dda byw a sychder.

Pysgodyn allan o ddŵr

Gall sychder achosi colli cynefin, mudo rhywogaethau lleol, lledaeniad rhywogaethau ymledol, a cholli bioamrywiaeth o ganlyniad.

Effaith fwyaf uniongyrchol a gweladwy tywydd sych hirfaith yw llif isel mewn afonydd, a straen ar boblogaethau pysgod o ganlyniad. Mae pysgod mudol fel eogiaid a sewin yn wynebu heriau cynyddol wrth deithio i fyny'r afon i silio. Gall cynnydd yn nhymheredd afonydd a llynnoedd arwain at ddisbyddiad ocsigen a chynnydd cyflym mewn algâu, gan roi pysgod mewn perygl o farwolaeth.

Mae pryfed hefyd hynod o sensitif i amodau tywydd, gyda dŵr yn adnodd hanfodol iddynt. Ochr yn ochr â'r posibilrwydd o orboethi, mae astudiaethau’n dangos bod rhai rhywogaethau o blanhigion yn cynhyrchu llai o siwgr neithdar o dan amodau sychder. Mae hyn yn ei dro yn effeithio ar beillio, sef un o swyddogaethau allweddol ecosystem.

Addasu i hinsawdd sy'n newid

Dywed y Swyddfa Dywydd fod tystiolaeth gynyddol bod newid hinsawdd yn dylanwadu ar batrymau glaw ledled y byd. Mae Chweched Adroddiad Asesiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd yn dweud wrthym fod tywydd poeth yn digwydd yn fwy aml ac yn fwy dwys ar draws y rhan fwyaf o ranbarthau tir ers y 1950au.

Ar gyfartaledd, mae hafau sychach wedi eu rhagamcanu, ochr yn ochr ag arwydd bod y duedd sychu yn gryfach gydag allyriadau uwch o nwyon tŷ gwydr. Gall yr amodau hyn gynyddu'r amlder digwyddiadau naturiol ar raddfa fawr fel tanau gwyllt.

Mae academyddion yn dadlau mai’r ffordd o atal digwyddiadau tywydd eithafol rhag digwydd yn amlach yw torri allyriadau carbon deuocsid a chyrraedd sero net. Dywed arbenigwr o Brifysgol Caergrawnt y gallwn addasu i hinsawdd boethach a sychach, ac y gallwn addasu i hinsawdd wlypach, ond ei bod yn anodd addasu i’r ddwy.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru