Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Llinell amser datganoli trethi
Trwy Ddeddf Cymru 2014, deddfwyd i ddatganoli pwerau treth i Gymru am y tro cyntaf ers bron i 800 mlynedd. Fe wnaeth hyn alluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu mewn cysylltiad â meysydd yr oedd Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Tirlenwi yn gymwys iddynt yn flaenorol. Disodlwyd dwy dreth y DU hyn gan Dreth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.
Roedd y Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol i Gymru; cafodd ei disodli gan Gyfraddau Treth Incwm Cymru.
Sut mae cyllideb Cymru yn cael ei hariannu?
Cyn i'r pwerau cyllidol gael eu datganoli i Gymru, ariannwyd cyllideb Cymru yn gyfan gwbl gan grant bloc Llywodraeth y DU.
Mae'r trethi datganoledig yn galluogi Llywodraeth Cymru i godi mwy o'i refeniw ei hun ar gyfer gwariant cyhoeddus ac i fod yn fwy atebol i bobl Cymru.
Cyfansoddiad cyllideb Cymru
Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol sy’n datblygu rhagolygon treth Cymru. Mae'r rhain yn dangos bod trethi Cymru bellach yn cyfateb i bron i 20 y cant o gyllideb Cymru.
Data yn seiliedig ar Gyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru
Sut y penderfynir ar swm y grant bloc?
Cytunodd Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth y DU sy'n nodi trefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei phwerau cyllidol datganoledig. Mae hyn yn cynnwys y model ar gyfer addasu’r grant bloc a ddefnyddir i benderfynu sut i addasu grant bloc Cymru er mwyn cyfrif am y trethi a ddatganolwyd i Gymru.
Mae Fformiwla Barnett yn fecanwaith a ddefnyddir gan Drysorlys EM i addasu'r cyllid a ddyrennir i Gymru drwy'r grant bloc, er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus gan Lywodraeth y DU yn Lloegr.
Amlinellodd y fframwaith cyllidol fersiwn ddiwygiedig o fformiwla Barnett ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynnwys ffactor yn seiliedig ar anghenion sydd wedi'i bennu dros dro ar 105 y cant. Pan fydd y cyllid o’i gymharu â Lloegr wedi cydgyfeirio i lefel y cytunwyd arni, cynyddir y ffactor hwn i 115 y cant.
Pwerau benthyca
Benthyca adnoddau
Gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £200 miliwn bob blwyddyn (o fewn terfyn cyffredinol o £500 miliwn) os yw refeniw o drethi’n is na’r rhagolygon. Rhaid ad-dalu hwn o fewn pedair blynedd.
Benthyca cyfalaf
Mae'r fframwaith cyllidol yn nodi pwerau benthyca cyfalaf sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i fenthyca cyfanswm o £1 biliwn gyda therfyn benthyca blynyddol o £150 miliwn. Gellir benthyca hyn o'r Gronfa Benthyciadau Gwladol (drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru) neu fanc masnachol.
Bondiau’r llywodraeth
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau hefyd i gyhoeddi bondiau llywodraeth er mwyn benthyca ar gyfer prosiectau cyfalaf sy'n cyfrif tuag at y cyfanswm benthyca a’r terfynau benthyca blynyddol a nodir yn y fframwaith cyllidol.
Cronfa Wrth Gefn Cymru
Sefydlwyd Cronfa Wrth Gefn Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru adneuo unrhyw gronfeydd adnoddau neu gyfalaf y gellir eu tynnu i lawr i ariannu gwariant yn y dyfodol. Mae'r gronfa wrth gefn yn cael ei chadw o fewn Llywodraeth y DU ac mae terfyn o £350 miliwn arni.
Nid oes terfynau ar gyfer taliadau i'r gronfa wrth gefn ond dim ond £125 miliwn a £50 miliwn y gall Llywodraeth Cymru eu tynnu i lawr ar gyfer gwariant ar adnoddau a chyfalaf yn y drefn honno fesul blwyddyn.
Gellir defnyddio cronfeydd adnoddau a adneuwyd yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru ar gyfer gwariant adnoddau a chyfalaf ond mae cronfeydd cyfalaf wedi'u cyfyngu i wariant cyfalaf.
Sut y gellir gwario arian yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru
ADNODDAU |
CYFALAF |
|
Ffynhonnell
|
Grant Bloc Adnoddau a Derbyniadau Treth |
Grant Bloc Cyfalaf a Benthyca Cyfalaf |
Gwariant
|
Adnoddau a Chyfalaf |
Cyfalaf
|