Digartrefedd a’r argyfwng tai: atebion newydd i heriau hirsefydlog?

Cyhoeddwyd 16/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/06/2026

 

A fydd deddfwriaeth newydd – ynghyd â rhaglen uchelgeisiol i adeiladu tai cymdeithasol – yn llwyddo i roi terfyn ar ddigartrefedd?

Mae’n ymddangos nad oes unrhyw un yn anghytuno bod Cymru yng nghanol argyfwng tai: mae rhenti yn cynyddu; mae rhestrau aros ar gyfer tai cymdeithasol yn tyfu; ac yn bwysicaf oll, efallai, mae lefelau o ddigartrefedd yn uchel.

Arhosodd y niferoedd sy’n preswylio mewn llety dros dro yn gyson dros dymor diwethaf y Senedd, ac roedd mwy na 10,600 o bobl – gan gynnwys tua 2,300 o blant – yn y sefyllfa hon ym mis Ionawr 2026.

Mae byw am fisoedd mewn llety dros dro yn anodd i unrhyw un, ond mae’n arbennig o anodd i blant. Ac mae’r swm o arian y mae awdurdodau lleol yn ei wario ar ddarparu’r llety hwn yn parhau i gynyddu, gyda mwy na £100 miliwn yn cael ei wario y llynedd.

Mae digartrefedd wedi bod yn agos at frig yr agenda wleidyddol ers cyn pandemig COVID-19. Yn rhannol oherwydd llwyddiant yr ymdrechion a wnaed i gartrefu pobl ddigartref yn ystod y pandemig, mae’r rhethreg wedi symud o “reoli digartrefedd” i “roi terfyn ar ddigartrefedd”.

Yn ymarferol mae hyn yn golygu sicrhau bod digartrefedd yn beth prin a byrhoedlog nad yw’n ailddigwydd. Mae darn newydd o ddeddfwriaeth, sef Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026, yn sail i’r nod hwn.

Cafodd y Ddeddf ei phasio ychydig cyn diwedd y Chweched Senedd, ac mae’n rhwymo awdurdodau lleol ac ystod o gyrff cyhoeddus eraill i gynyddu eu hymyriadau ym maes digartrefedd dros gyfnod y Seithfed Senedd.

Roedd ymdrechion hefyd i gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy, gan gynnwys buddsoddiad cyfalaf gwerth tua £2 biliwn dros dymor diwethaf y Senedd, a rhaglen waith barhaus i weithredu argymhellion ar gyfer dileu’r rhwystrau i’r broses o gyflenwi tai.

Beth yw digartrefedd?

Mae digartrefedd yn broblem ehangach na chysgu ar y stryd, sef y ffurf fwyaf gweladwy ohoni. Mae’r diffiniad cyfreithiol o ddigartrefedd yn cynnwys:

  • pobl sy’n byw mewn llety dros dro;
  • pobl sy’n byw mewn llety sydd mor anaddas fel eu bod yn cael eu hystyried yn ddigartref yn gyfreithiol; a
  • phobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn y dyfodol agos.

Goblygiadau’r Ddeddf newydd

Rhan fawr o gynllun Llywodraeth flaenorol Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd yw dull gweithredu newydd o’r enw “ailgartrefu cyflym”.

Mae ailgartrefu cyflym yn golygu symud pobl drwy’r system ddigartrefedd ac i mewn i gartrefi sefydlog cyn gynted ag y bo modd, fel eu bod yn treulio’r cyfnod lleiaf o amser posibl, os o gwbl, mewn llety dros dro.

Mae awdurdodau lleol wedi llunio cynlluniau pontio ailgartrefu cyflym. Fodd bynnag, er iddynt lwyddo i symud 9,096 o bobl o lety dros dro i gartref sefydlog yn ystod 2025, dyw’r ymdrechion hyn heb gael fawr o effaith ar y niferoedd cyffredinol, a hynny yn sgil y galw enfawr.

Ffigur 1: Cyfanswm y bobl ddigartref a gafodd lety dros dro ar ddiwedd y mis, rhwng Ionawr 2024 a Rhagfyr 2025

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru (StatsCymru), Unigolion digartref a roddwyd mewn llety dros dro ar ddiwedd y cyfnod yn ôl ardal awdurdod lleol a’r math o lety

Dyma lle bydd y Ddeddf newydd yn ceisio gwneud gwahaniaeth. Cadeiriodd yr Athro Suzanne Fitzpatrick y panel arbenigol a roddodd gyngor i Lywodraeth Cymru  ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth newydd. Yn ôl yr Athro Fizpatrick, nod y ddeddfwriaeth yw cynyddu’r llif o bobl allan o’r system ac i mewn i lety addas, ynghyd ag atal mwy o bobl rhag dod yn ddigartref yn y lle cyntaf.

Mae’n ceisio gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • cynyddu ymdrechion cynnar i atal digartrefedd, hyd at chwe mis cyn i berson sy’n gwneud cais golli ei gartref;
  • rhoi terfyn ar y profion angen blaenoriaethol a digartrefedd bwriadol;
  • gosod dyletswydd “gofyn a gweithredu” ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd lleol, carchardai a Chanolfannau Byd Gwaith; a
  • gosod gofyniad ar gymdeithasau tai i gydweithio ag awdurdodau lleol, drwy ddarparu cartrefi i aelwydydd a gynigir gan yr awdurdod lleol.

Ym mis Chwefror 2026, pleidleisiodd y Senedd yn unfrydol o blaid pasio’r Bil. Serch hynny, er bod y Ddeddf wedi cael ei chanmol gan yr elusen Crisis fel darn o ddeddfwriaeth a allai newid bywydau, mae wedi cael croeso llai cynnes gan awdurdodau lleol. Mae llawer wedi codi pryderon sy’n debyg i’r rhai a fynegodd Cyngor Caerdydd, sef y bydd y ddeddfwriaeth ond yn annog mwy o bobl i ymuno â system sydd eisoes yn cael trafferth ymdopi.

Beth sy’n achosi digartrefedd?

Mae cyfuniad o ffactorau yn gallu effeithio ar risg person o ddod yn ddigartref, rhai ohonynt yn ffactorau personol ac eraill yn rhai allanol. Mae bod mewn tlodi yn ffactor risg, ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod tueddiadau yn y farchnad dai yn cael effaith uniongyrchol.

Y ffactorau personol mwyaf cyffredin a arweiniodd at ddigartfrefedd mhlith aelwydydd yng Nghymru yn 2024-25 oedd y canlynol:

  • perthynas â phartner wedi dod i ben (20%, neu 2,649 o aelwydydd);
  • rhiant nad yw bellach yn fodlon nac yn gallu cynnig llety (15%, neu 2,013 o aelwydydd);
  • perthnasau neu ffrindiau eraill nad ydynt bellach yn fodlon nac yn gallu cynnig llety (15%, neu 1,986 o aelwydydd);
  • colli llety rhent neu lety clwm (15%, neu 1,977 o aelwydydd); a
  • gadael y carchar (12%, neu 1,560 o aelwydydd).

Cynyddu’r cyflenwad

Nid yw datrys digartrefedd yn fater sy’n ymwneud â thai yn unig. Er enghraifft, mae gwasanaethau cymorth ar gyfer tenantiaid yn hanfodol i rai pobl y mae angen cymorth arnynt i gynnal sefyllfa sefydlog o ran llety – sefyllfa a fydd, yn ei thro, yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at wasanaethau eraill fel gofal iechyd.

Ond mae consensws ymhlith academyddion, ac ymhlith rhanddeiliaid sydd wedi llywio meddylfryd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, fod cyflenwad digonol o dai fforddiadwy yn rhan anhepgor o unrhyw ymdrech i roi terfyn ar ddigartrefedd.

Roedd y cyflenwad o dai yn rhan allweddol o gynllun Llywodraeth flaenorol Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd. Pennodd y Llywodraeth darged i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn ystod chweched tymor y Senedd. Ar ôl i Archwilio Cymru ganfod yn 2024 fod y broses o gyflenwi’r tai hynny wedi bod yn araf ac yn ddrytach na’r disgwyliadau cychwynnol, sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu tai fforddiadwy i archwilio’r opsiynau ar gyfer dileu’r rhwystrau i ddatblygiadau presennol a symleiddio’r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol.

Er na chyflawnwyd y targed o 20,000, nododd Archwilio Cymru yn gynharach eleni fod Llywodraeth Cymru a’r sector tai ehangach wedi gwneud “cynnydd sylweddol”. Cafodd mwy na 3,600 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol eu darparu yn 2024-25, y nifer uchaf ers 2007, pan ddechreuodd y broses o gadw cofnodion.

Er gwaethaf hyn, mae’n annhebygol y bydd y lefel bresennol o gartrefi sy’n cael eu cyflenwi yn ddigon i ateb y galw. Yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth Cymru, mae 9,400 o aelwydydd ar hyn o bryd angen cartref fforddiadwy (er bod y ffigur hwn yn debygol o fod yn achos o dangyfrif). Daw hyn ar ben yr angen newydd sy’n codi, sydd rhwng 2,700 a 3,300 o dai fforddiadwy y flwyddyn, hyd at 2030, yn ôl amcangyfrifon.

Ym mis Mawrth 2026, daeth un o bwyllgorau’r Senedd i’r casgliad bod y broses o ddarparu tai cymdeithasol yn parhau i fod mewn sefyllfa o argyfwng. Mynegodd bryderon ynghylch cynaliadwyedd y datblygiadau sydd yn yr arfaeth wrth fynd i mewn i’r Seithfed Senedd, gan ailadrodd ei alwad ar Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau bod tai cymdeithasol yn cyrraedd màs critigol sy’n cyfrif am o leiaf 20 y cant o’r stoc dai.

Dywedodd y Pwyllgor fod angen sicrhau arweinyddiaeth gryfach ar draws adrannau’r Llywodraeth, sefydlu corfforaeth ddatblygu genedlaethol i sicrhau parhad dros y tymor hir, a datblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu adeiladu.

Costau ymlaen llaw, enillion tymor hwy

Bydd yr amserlen ar gyfer gweithredu Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 yn cael ei chyflwyno’n raddol dros y Seithfed Senedd ac ar ôl hynny.

Er nad oes amserlen ffurfiol wedi’i phennu eto, tybiodd Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai cyfnod gweithredu o ddeng mlynedd, gyda’r agweddau atal yn cael eu cyflwyno yn gyntaf, a’r profion angen blaenoriaethol a digartrefedd bwriadol yn cael eu dileu yn ddiweddarach.

Amcangyfrifir y bydd y Ddeddf yn costio £395 miliwn dros gyfnod o ddeng mlynedd hyd at 2035-36, ond y bydd yn arbed arian yn y tymor hir, gan arwain at £481 miliwn o fuddion ariannol dros yr un cyfnod.

Yr hyn sydd wedi’i hepgor o’r amcangyfrifon hyn, fodd bynnag, yw’r arian sydd ei angen i gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol. Er bod tystiolaeth dda sy’n awgrymu bod buddsoddi yn y cyflenwad tai yn dychwelyd buddion net i’r pwrs cyhoeddus, her fawr i’r Llywodraeth nesaf fydd ariannu’r costau ymlaen llaw er mwyn gwireddu’r enillion tymor hwy hynny.


Erthygl gan Dr Jennie Bibbings a Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru