Wrth i’r pwysau gynyddu ar draws y system iechyd, sut gall Cymru symud tuag at ofal sy’n rhoi mwy o bwyslais ar atal a gofal yn y gymuned?
Mae’n foment hollbwysig i GIG Cymru. Mae salwch cronig ar gynnydd, mae mwy o bobl yn byw gyda sawl cyflwr hirdymor ac mae mwy o'n bywydau'n cael eu treulio mewn afiechyd. Ystyr hyn yw bod y galw am ofal ysbyty bellach yn llawer mwy na'r capasiti. Ni fydd cynyddu’r cyllid i ysbytai yn datrys y mater ar ei ben ei hun. Mae’n hanfodol i Gymru symud tuag at system sy'n darparu mwy o ofal yn agosach at gartrefi pobl ac sy’n gwneud atal yn flaenoriaeth.
Mae'r newid hwn, a elwir yn un ‘symud i’r chwith’, wedi bod yn uchelgais ers tro byd; mae’n ganolog i bolisïau Llywodraeth Cymru a chaiff gefnogaeth helaeth gan randdeiliaid. Eto i gyd, mae’r cynnydd wedi bod yn araf, wedi'i atal gan bwysau dwys, blaenoriaethau tymor byr, a modelau ariannu nad ydynt yn cymell atal.
Pam mae angen trawsnewid
Mae model presennol y GIG yn cael ei lethu gan anghenion nad oedd wedi'i gynllunio i'w diwallu. Cafodd ysbytai acíwt eu sefydlu i drin pobl sydd angen gofal brys, byrdymor neu arbenigol. Fodd bynnag, mae llawer o bwysau erbyn hyn yn deillio o gyflyrau cronig, y gellir eu hatal yn aml, fel clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, cyflyrau anadlol, a llesgedd - cyflyrau sy'n datblygu dros nifer o flynyddoedd ac sydd angen rheolaeth barhaus a chydlynol.
- Mae 48% o oedolion yng Nghymru yn byw gydag o leiaf un cyflwr cronig neu hirdymor, ac mae 20% yn byw gyda dau gyflwr neu fwy.
- Caiff ei ragweld y bydd cynnydd yn nifer y cyflyrau hirdymor. Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn rhannol gyfrifol am hyn gan fod oedran yn ffactor risg allweddol i lawer o gyflyrau. Mae disgwyl i amlafiechedd cymhleth (pedwar cyflwr hirdymor neu fwy) bron ddyblu erbyn 2035.
- Mae anghydraddoldebau iechyd wedi hen sefydlu eu hunain ac maent yn ehangu. Mae dynion yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn treulio bron i 20 mlynedd yn llai mewn iechyd da na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac mae menywod yn treulio 25 mlynedd yn llai mewn iechyd da.
Pan fydd cyflyrau pobl yn gwaethygu, mae ysbytai yn trin problemau y mae’n bosibl y byddent wedi'u hatal gyda chymorth cynharach. Mae hyn yn creu problemau o ran llwyth gwaith, yn amharu ar ofal wedi'i gynllunio, yn cyfrannu at arosiadau hirach yn yr ysbyty ac yn arafu’r broses o ryddhau pobl o’r ysbyty, gan roi mwy o straen ar system sydd eisoes dan bwysau.
|
Achos dan sylw: Diabetes Math 2 Mae 220,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes (tua 90% o’r achosion yn Math 2). Erbyn 2035, rhagwelir y gall niferoedd gynyddu o 48,000 - gan ddod â'r cyfanswm i tua 1 ym mhob 11 oedolyn. Mae amddifadedd yn ffactor o ran risg a mynychder diabetes. Yn 2019-20, roedd dros un o bob pump o dderbyniadau i'r ysbyty ar gyfer pobl 65 oed a hŷn yn cynnwys diabetes fel diagnosis cynradd neu eilaidd. Cafodd ei amcangyfrif mai cost uniongyrchol diabetes yn y DU oedd £10.7 biliwn yn 2021-22, gyda dros 60% o'r gwariant hwn yn cyfrif tuag at reoli cymhlethdodau. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod modd atal dros hanner yr achosion o ddiabetes Math 2, er enghraifft drwy nodi risg yn gynharach a rhoi cymorth wedi'i dargedu i helpu pobl i feithrin ffyrdd iachach o fyw. |
Beth yw ystyr symudiad i’r chwith?
Mewn polisi iechyd, mae symudiad i’r chwith yn cyfeirio at symud gofal ar hyd y gadwyn gyflenwi - trwy atal, ymyrraeth gynnar, gofal sylfaenol cryfach a gwell gofal yn y gymuned – a lleihau dibyniaeth ar ofal costus mewn ysbytai. Mae'r dull hwn yn ganolog i Cymru Iachach (2018), sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a nododd weledigaeth ar gyfer gwasanaethau di-dor, yn agosach i’r cartref, sy'n canolbwyntio ar bobl a gyda phwyslais ar eu cadw yn iach ac yn annibynnol.
Yn ymarferol, mae'r newid hwn yn cynnwys cefnogi pobl yn eu cymunedau eu hunain drwy, er enghraifft, ddefnyddio system o feddygon teulu a thimau cymunedol integredig a gofal iechyd a chymdeithasol wedi’u cysylltu’n well, ac offer digidol sy'n helpu pobl i reoli eu hiechyd yn y cartref. Mae hefyd yn dibynnu ar bartneriaethau amlasiantaeth rhwng meysydd tai, gofal cymdeithasol, sefydliadau cymunedol, a'r trydydd sector.
Rhwystrau i newid
Er gwaethaf cytundeb bras bod symudiad i'r chwith yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y GIG, mae Cymru wedi cael trafferth symud gofal o ysbytai i wasanaethau cymunedol a gwasanaethau ataliol ar gyflymder. Mae hyn oherwydd cyfuniad o bwysau ar y system sydd wedi ymwreiddio a rhwystrau strwythurol.
Yn ogystal â'r baich cynyddol oherwydd cyflyrau cronig, mae'r rhwystrau allweddol yn cynnwys y rhai canlynol:
- Oherwydd pwysau enbyd ac ôl-groniadau wedi’r pandemig mae’r GIG yn canolbwyntio ar weithgarwch ysbytai uniongyrchol. Mae hyn yn cael ei atgyfnerthu gan sylw gwleidyddol a sylw yn y cyfryngau ar faterion fel amseroedd aros ysbytai.
- Mae prinder yn y gweithlu a rolau tameidiog, wedi’u hynysu, yn llesteirio datblygiad y timau amlddisgyblaethol sydd eu hangen i gynnig gofal ataliol yn y gymuned.
- Mae capasiti cyfyngedig yn y gymuned ac mewn gofal cymdeithasol yn golygu bod oedi wrth ryddhau cleifion a bod llif cleifion yn arafu, gan gyfyngu ar allu'r system i symud gweithgarwch allan o'r ysbyty.
- Mae cyllidebau blynyddol a fframweithiau perfformiad yn cymell gweithgarwch acíwt, tra bod gwasanaethau ataliol a chymunedol - lle mae manteision yn dod i'r amlwg dros nifer o flynyddoedd ac yn rhychwantu ffiniau sefydliadol - yn cael trafferth sicrhau buddsoddiad hirdymor sefydlog.
Un o’r prif heriau yw symud adnoddau oddi wrth ofal eilaidd heb ansefydlogi gwasanaethau ysbyty hanfodol. Er enghraifft, er yn croesawu ehangu gwasanaethau optometreg cymunedol, rhybuddiodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Chweched Senedd bod tynnu sylw neu fuddsoddiad oddi ar ofal offthalmoleg eilaidd yn bygwth gwaethygu arosiadau hir, gyda chanlyniadau difrifol i bobl sydd mewn perygl o golli golwg y mae modd ei atal.
Mae trawsnewid system yn llwyddiannus hefyd yn dibynnu ar gefnogaeth gadarn gan y cyhoedd. Mae ymgysylltu cynnar ac ystyrlon ar lefelau cenedlaethol a lleol yn allweddol i sicrhau mewnbwn a chefnogaeth y gymuned ar gyfer newidiadau o ran sut a ble mae gwasanaethau'n cael eu darparu.
Tystiolaeth ryngwladol: beth all Cymru ei ddysgu o wledydd eraill?
Mae profiad rhyngwladol yn dangos nad yw'r rhwystrau hyn yn unigryw i Gymru, ond hefyd bod cynnydd yn bosibl gyda buddsoddiad parhaus ac ymrwymiad ar draws y system. Er bod systemau iechyd yn wahanol ar draws gwledydd, mae'r enghreifftiau hyn yn cynnig mewnwelediadau sy'n berthnasol i'r cyd-destun Cymreig.
Mae adroddiad sganio’r gorwel Iechyd Cyhoeddus Cymru 2023 yn tynnu sylw at wledydd fel Brasil a Slofenia, lle mae atal sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned, presgripsiynu cymdeithasol, hyfforddiant ar y cyd, a chydweithio traws-sector wedi helpu i leihau’r pwysau ar ysbytai.
Mae gwersi pellach o adroddiad 2025 Ymddiriedolaeth Nuffield, From Hospital to Community - sy'n edrych ar Ddenmarc ac Iwerddon - yn dangos bod strategaethau symud i’r chwith llwyddiannus yn dibynnu ar gydsyniad trawsbleidiol, cynllunio hirdymor, a chryfhau'r gweithlu cymunedol.
Yn hollbwysig, mae gwasanaethau cymunedol yn y gwledydd hyn wedi cael eu cryfhau yn gyfochrog yn hytrach na'u hariannu drwy doriadau i gyllidebau ysbytai, gan gydnabod bod yn rhaid i ostyngiad mewn gweithgarwch ysbytai gyd-fynd â digon o gapasiti cymunedol i amsugno mwy o alw.
Mae angen gweithredu y tu hwnt i'r GIG
Ni all symud i'r chwith lwyddo os yw tai o ansawdd gwael, ansicrwydd o ran gwaith, neu ynysu cymdeithasol, yn parhau i danseilio iechyd pobl. Mae'r GIG yn rhan hanfodol o'r system, ond mae'r ffactorau sy'n dylanwadu fwyaf ar iechyd yn bodoli y tu hwnt i ofal iechyd.
Amodau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a strwythurol sy'n dylanwadu ar fywydau pobl - gan gynnwys addysg, gwaith teg, incwm, tai, trafnidiaeth, a'r amgylchedd naturiol ac adeiledig - yw’r penderfynyddion ehangach o ran iechyd. Mae'r penderfynyddion hyn yn sbarduno canlyniadau ac anghydraddoldebau iechyd i raddau llawer mwy na gofal iechyd yn unig, ac maen nhw wrth wraidd dull hirdymor Cymru o wella llesiant, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae tystiolaeth gan y Sefydliad Iechyd, Comisiwn y BMJ, a Chronfa’r Brenin yn dangos yn gyson na all y GIG, ar ei ben ei hun, gyflawni gwelliannau mawr yn iechyd y boblogaeth. Mae cynnydd parhaol yn dibynnu ar gamau cydlynol trawslywodraethol a thraws-sector i wella'r amodau y mae pobl yn byw ynddynt, gan leihau'r galw y mae modd ei osgoi ar wasanaethau iechyd a gofal, a galluogi pobl i ffynnu yn eu cymunedau.
O'r weledigaeth i'r gweithredu
Mae Cymru wedi cydnabod ers tro bod angen symud gofal tuag at atal, ymyrraeth gynharach, a chefnogaeth yn y gymuned. Mae'r uchelgais yn glir, ac mae llawer o'r meini ar gyfer system iechyd a gofal mwy cynaliadwy eisoes yn eu lle. Bydd cyflwyno'r newid ‘symud i’r chwith’ yn gofyn am fuddsoddiad hirdymor mewn gwasanaethau cymunedol, cymhellion wedi’u halinio ar gyfer atal, a model gweithlu sy’n ystyried parhad a gofal rhagweithiol. Y cwestiwn nawr yw, nid a all Cymru fforddio newid, ond a all fforddio peidio â gwneud hynny.
Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru