Cipolwg ar reoli’r amgylchedd morol

Cyhoeddwyd 16/05/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ('y Pwyllgor') wedi cynnal asesiad 'ciplun' o reoli’r amgylchedd morol.

Mae ei adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon.

Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg byr o'r materion a drafodwyd gan y Pwyllgor.

Cynllunio morol

Mae datblygiad ar y môr – yn enwedig ynni adnewyddadwy – ym moroedd Cymru yn ehangu’n gyflym. Yn ôl Llywodraeth Cymru::

Mae cynllunio a rheoleiddio datblygiadau newydd mewn modd effeithiol yn hanfodol er mwyn galluogi twf cynaliadwy yn y sector morol,

Fodd bynnag, yn ôl rhanddeiliaid nid yw Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn addas at y diben hwn ar hyn o bryd, gan nad oes ganddo gydran ofodol na pholisïau rheoli datblygu, ac felly nid yw’n ystyried effeithiau cronnol datblygiadau.

Mae’r angen i ystyried yr amgylchedd wrth ddatblygu prosiectau ynni morol yn cael ei amlygu drwy gydol y dystiolaeth a glywyd gan y Pwyllgor . Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn rhybuddio fel a ganlyn:

We cannot allow the need for marine renewable energy to exacerbate the nature emergency we are experiencing in Wales.

Disgwylir y bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru’n cael ei adolygu cyn Tachwedd 2022, ac mae rhanddeiliaid yn dweud bod hynny’n gyfle i fynd i'r afael â'r materion o dan sylw. Fe wnaeth y Pwyllgor argymell y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu dadansoddiad allanol o’r Cynllun Morol i lywio’r adolygiad hwnnw. Cytunodd Llywodraeth Cymru i’r dull hwn, ond ar gyfer yr adolygiad nesaf yn 2025.

Ynni morol adnewyddadwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi arloesedd mewn technoleg ynni adnewyddadwy newydd, ac yn ôl rhanddeiliaid bydd hyn yn hollbwysig ar gyfer adferiad economaidd gwyrdd. Mae amgylchedd morol Cymru yn darparu cyfoeth o gyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Llanw

Mae ynni llanw yn bodoli ar ddwy ffurf:

  • Mae technolegau ffrwd llanw yn harneisio egni cinetig cerrynt i bweru tyrbinau; ac
  • mae technolegau amrediad llanw yn harneisio'r egni potensial a grëir gan amrediad llanw uchel, y gwahaniaeth rhwng llanw isel ac uchel ('pen' y dŵr).

Yn gyffredinol, mae prosiectau amrediad llanw yn cynnwys adeiladu morlynnoedd neu forgloddiau ar raddfa fawr sy'n dal ac yna'n rhyddhau'r llanw sy’n dod i mewn, fel y cynllun braenaru a gynigiwyd yn flaenorol ar gyfer morlyn llanw ym Mae Abertawe.

Mae’r Cynllun Cymru Sero Net a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynnwys ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru, erbyn 2024, yn:

Datblygu Her Morlynnoedd Llanw, gan roi tystiolaeth gadarn ar ddichonoldeb y dechnoleg a'r potensial i gefnogi prosiect yn nyfroedd Cymru a all ddangos cynaliadwyedd amgylcheddol yn unol ag amcanion a pholisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Tonnau

Mae technolegau ynni tonnau yn harneisio'r egni cinetig o symudiad dŵr. Mae gan Sir Benfro'r adnodd tonnau uchaf yng Nghymru, ac mae'n gartref i Barth Arddangos Sir Benfro. Mae gan hyn y potensial i gynnal tair aráe ynni tonnau gyda’r capasiti i gynhyrchu hyd at 30MW yr un, a phrosiect arddangos gwynt arnofiol cyn-fasnachol o 90MW.

Gwynt

Mae gwynt ar y môr yn dechnoleg ynni adnewyddadwy sefydledig a phrofedig. Mae tair fferm wynt weithredol ar y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru.

Mae’r un fwyaf, Gwynt y Môr, yn fferm wynt 576MW ar y môr (sefydlog ar y gwaelod) sy'n ymestyn dros tua 79km². Gall gynhyrchu digon o ynni glân i bweru 400,000 o aelwydydd, sy'n cyfateb i dorri 1.7 miliwn tunnell y flwyddyn o allyriadau CO₂. Mae estyniad wedi cael ei ddyfarnu yn ddiweddar i'r safle presennol, sef Awel y Môr erbyn hyn.

Fodd bynnag, mae ffocws hefyd wedi troi at dechnolegau gwynt ar y môr – sef technoleg sy’n prysur ddatblygu – sy'n cyfuno'r dechnoleg llwyfan a ddefnyddir yn y diwydiant olew a nwy, a thyrbinau gwynt. Mae hyn yn golygu y gall tyrbinau gwynt symud i ddyfroedd dyfnach lle mae cyflymder y gwynt yn uwch a chael llai o effaith weledol.

Defnyddio gwely'r môr

Mae Ystâd y Goron yn dyfarnu'r hawliau i ddefnyddio gwely'r môr trwy broses brydlesu. Mae ein herthygl ddiweddar, pwy sy'n berchen ar wely'r môr, a pham mae’n bwysig, yn archwilio rôl Ystâd y Goron wrth ddatblygu ynni adnewyddadwy morol Cymru.

Mae'r Cytundeb Cydweithio yn cefnogi’r broses o ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron a’i hasedau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfarfod ag Ystâd y Goron, lle byddai papur technegol – yn edrych ar oblygiadau datganoli – yn cael ei ystyried.

Caniatadau a thrwyddedu

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am drwyddedu morol ar ran Gweinidogion Cymru. Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod gorfodi ar gyfer trwyddedu morol.

Mae’r broses ganiatâd, a'r awdurdod caniatâd, ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy morol yn amrywio yn ôl maint y prosiect ynni, a'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol. Dywedodd rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor bod y broses ganiatâd yn araf ac yn feichus. Ym mis Rhagfyr 2021 fe wnaeth newidiadau mawr y Dirprwy Weinidog ar bolisi ynni adnewyddadwy, “adolygiad o'r prosesau trwyddedu morol, cydsynio a phrosesau cynghori ategol” sydd bellach yn mynd rhagddo.

Bylchau yn y dystiolaeth a chasglu tystiolaeth

Canfu asesiad yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) 2020 o'r ardal forol ar y glannau yng Nghymru y canlynol:

There are various evidence gaps across social, economic (including development) and environmental uses of the marine environment that restrict our ability to ensure sustainable management of marine natural resources.

Cafodd bylchau sylweddol yn y sylfaen dystiolaeth forol eu trafod gan bawb a roddodd dystiolaeth, ac fe glywodd y Pwyllgor sut y gallai datblygwyr gyfrannu, o bosibl, at fylchau mewn tystiolaeth forol. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n “ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i rannu data.”.

Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Mae Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn derm cyfunol ar gyfer pob math o safleoedd cadwraeth natur gwarchodedig yn yr amgylchedd morol a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein Briff ymchwil ar Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu dangosyddion adrodd newydd, i sicrhau ei fod yn rhoi’r cyngor a’r asesiadau gorau i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar weithgareddau mewn ardaloedd morol gwarchodedig, a gerllaw’r cyfryw ardaloedd. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor, heb adnoddau ychwanegol, bydd hyn yn cymryd mwy o amser i'w gwblhau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n ymchwilio i ffynonellau ariannu ar gyfer y gwaith hwn, gan gynnwys y “Rhaglen Rhwydweithiau Natur”.

Y Llanw'n Troi?

Yn 2017 cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd flaenorol ymchwiliad i reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig – Y Llanw’n Troi?, a ategwyd gan waith dilynol yn 2019 i asesu pa gynnydd a wnaed yn erbyn eu hargymhellion, a chynllun Ardaloedd Morol Gwarchodedig Llywodraeth Cymru ei hun.

Fodd bynnag, o ran Argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch adnabod a dynodi Parthau Cadwraeth Morol, nid “oedd nifer o argymhellion y Pwyllgor wedi cael sylw”.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr oedi yn y gwaith hwn, ac mae’n disgwyl i “gam nesaf hwn o waith gael ei lansio yn ystod y misoedd nesaf.”

Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar Brosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru, sef ymagwedd gynhwysfawr at werthuso'r holl weithgareddau pysgota masnachol yn nyfroedd Cymru a'r modd y mae’n rhyngweithio ag ardaloedd morol gwarchodedig.

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurder ar y “diben a'r amserlen” ar gyfer ymgynghoriad disgwyliedig ar y gweithgareddau risg uchel a nodwyd trwy'r prosiect. Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd yr asesiadau terfynol yn cael eu cwblhau yn ystod “haf 2022” a bydd “yr amserlen ar gyfer unrhyw ymgynghoriad yn cael ei phennu ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill… ar y pryd.

Carbon glas

Mae moroedd Cymru yn cynnwys morwellt, morfa heli a chynefinoedd carbon glas gwymon, sy’n gorchuddio dros 99km2 o rwydwaith Ardal Forol Warchodedig (MPA) Cymru.. Mae 'carbon glas' yn cyfeirio at y carbon wedi'i secwestru gan ecosystemau arfordirol a morol llystyfol.

Mae ein briff ymchwil ar garbon glas yn rhoi cefndir cynhwysfawr, trosolwg o'r prif gynefinoedd morol sy'n cynnwys carbon glas, lle maent wedi'u lleoli a'r bygythiadau amrywiol y maent yn eu hwynebu.

Canfu adroddiad Gorffennaf 2020 ar Amcangyfrif potensial dalfa garbon amgylchedd morol Cymru – a baratowyd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru – fod llawer o garbon eisoes yn cael ei storio yng ngwaddodion morol Cymru, sef bron i 170% o’r carbon a ddelir yng nghoedwigoedd Cymru.

Mae galluoedd storio carbon y cefnfor wedi’i hamlygu fel bod yn hanfodol o ran cyrraedd y targed o fod yn sero net erbyn 2050.

Mae’r Pwyllgor o’r farn dylid ymchwilio ymhellach i gynigion ar gyfer sut y gellir cynnal a gwella cynefinoedd carbon glas yng Nghymru. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’n datblygu “cynllun tystiolaeth carbon glas a rennir”, a bydd yn ystyried cynllun adfer carbon glas “unwaith y bydd y sylfaen dystiolaeth wedi'i sefydlu ymhellach”.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru