Tair rhes o dai teras yng Nghwm Rhondda, Cymru.

Tair rhes o dai teras yng Nghwm Rhondda, Cymru.

Datgarboneiddio tai preifat: yr eliffant sero-net yn yr ystafell (aneffeithlon o ran ynni)

Cyhoeddwyd 27/04/2023   |   Amser darllen munudau

Mae 1.4 miliwn o gartrefi Cymru, sy’n gyfrifol am 11 y cant o gyfanswm ei hallyriadau carbon. Rhagwelir y bydd 90 y cant o gartrefi presennol yn parhau i gael eu defnyddio yn 2050, felly os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau lleihau allyriadau carbon, bydd angen ôl-osod cartrefi i wella effeithlonrwydd ynni a galluogi’r newid i wresogi carbon isel.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd wedi bod yn ymchwilio i ddatgarboneiddio tai Cymru. Yn gyntaf, edrychodd ar gynnydd ar draws gwahanol sectorau tai, lle canfu’r Pwyllgor fod ffocws Llywodraeth Cymru wedi bod ar ddatgarboneiddio tai cymdeithasol. O hynny, fe wnaeth nodi ‘cartrefi mewn perchnogaeth breifat’, sy’n cyfrif am dros 80 y cant o dai Cymru, fel maes blaenoriaeth i’w archwilio.

Trafododd y Pwyllgor y dull presennol o ddatgarboneiddio tai rhent preifat a thai perchen-feddianwyr, targedau ôl-osod ar gyfer y sector, a’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Cynhaliodd ymgynghoriad cyhoeddus, cymerodd dystiolaeth lafar gan randdeiliaid a’r Gweinidog Newid Hinsawdd, a chomisiynodd Dîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd i gynnal cyfweliadau gyda landlordiaid preifat a pherchnogion tai.

Cyhoeddodd ei adroddiad Datgarboneiddio’r sector tai preifat ar 28 Chwefror 2023, gyda Llywodraeth Cymru yn ymateb ym mis Ebrill. Bydd Aelodau’r Senedd yn trafod ei ganfyddiadau’n fuan. Mae’r erthygl hon yn edrych ar yr hyn a ganfu’r Pwyllgor, a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb.

Ffocws ar dai cymdeithasol

Yn 2019, nododd Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell ('adroddiad Jofeh') nifer o argymhellion a chamau gweithredu i ddatgarboneiddio tai presennol Cymru. Dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai ar y pryd, fod “ei ddarllen yn ddigon i'ch sobri”. Ym mis Awst 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru y 'Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio' ('ORP'), yn 2020 er mwyn “profi dull newydd o ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru, yn seiliedig ar argymhellion adroddiad Jofeh”. Mae wedi'i anelu at y sector tai cymdeithasol, ond mae disgwyl iddo ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer strategaeth ôl-osod traws-sector tymor hwy.

Dywedodd y Gweinidog mai’r ffocws hwn ar dai cymdeithasol yw lle mae Llywodraeth Cymru yn “gallu gosod cyfeiriad a dylanwadu orau”, ac yn cefnogi dull profi a dysgu o ran sut i ddatgarboneiddio.

Cynnydd tai preifat “yn annigonol ac yn aneffeithiol”

Cafodd tai preifat eu disgrifio i’r Pwyllgor fel “yr eliffant yn yr ystafell” o ran cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o sero net erbyn 2050. Clywodd hefyd fod ffocws Llywodraeth Cymru ar dai cymdeithasol wedi dod ar draul cynnydd yn y sector perchnogaeth breifat, ac na all Llywodraeth Cymru fforddio aros am ganlyniadau’r ORP cyn gweithredu.

Pwysleisiodd rhanddeiliaid yr angen am strategaeth a/neu gynllun hirdymor ar gyfer datgarboneiddio’r sector tai. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i “wynebu’r her” a darparu cyfeiriad strategol cryfach i helpu i ysgogi cynnydd yn y sector perchnogaeth breifat. Argymhellodd nifer o gamau gweithredu i gyflawni hyn.

Mewn ymateb, tynnodd y Gweinidog sylw at “ymrwymiadau strategol cenedlaethol hirdymor” Llywodraeth Cymru o ran datgarboneiddio yn ei chynllun Cymru Sero Net, yn ogystal a'i chynllun Sgiliau Sero Net.

Tynnodd y Gweinidog sylw at y ‘Grŵp Gweithredu Datgarboneiddio’ annibynnol, sy’n mynd ati i “lunio a gweithredu trywydd er mwyn datgarboneiddio tai preswyl yng Nghymru”. Dywedodd y Gweinidog y bydd hyn yn cynnwys ystyried cerrig milltir a thargedau allweddol ar gyfer y sector preifat. Fodd bynnag, mae'r gwaith hwn yn y camau cychwynnol, ac ni roddwyd amserlen ar gyfer ei gyflawni.

Y cymorth presennol “yn dameidiog”

Aeth y Pwyllgor ati hefyd i archwilio’r mesurau effeithlonrwydd ynni cyfredol ar gyfer y sector preifat. Roedd y rhain yn cynnwys y Rhaglen Cartrefi Clyd (gwelliannau effeithlonrwydd ynni i rai aelwydydd drwy'r cynllun Nyth), y cynllun Rhwymedigaeth Cwmniau Ynni a'r Cynllun Uwchraddio Boeleri.

Dywedodd Dr Donal Brown, Sustainable Design Collective Ltd, wrth y Pwyllgor fod y cymorth presennol yn anghyson:

There are different pots of money serving different purposes and, actually, there’s a lack of bringing these funding sources together in an integrated way to solve problems for people.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd yn gynnar yn 2022, ond nid yw wedi cyhoeddi ymateb eto. Roedd y Pwyllgor yn dweud bod yr oedi yn “peri cryn rwystredigaeth”, gan ddweud “nid yw hyn yn argoeli’n dda ar gyfer lansio’r cynllun Nyth newydd yn brydlon”. Yn ôl y Gweinidog, caiff yr ymateb i’r ymgynghoriad ei gyhoeddi’n fuan, ochr yn ochr â datganiad polisi ac ‘Adroddiad Adolygu ac Argymhellion’. Mae’r Gweinidog yn bwriadu i gynllun adnewyddu Nyth ganolbwyntio’n gyntaf ar yr “aelwydydd incwm isel sydd leiaf thermol effeithlon”.

Y safonau effeithlonrwydd ynni sydd eu hangen i ysgogi gweithredu

Ochr yn ochr â chymhellion, dywedodd y Pwyllgor fod angen dull rheoleiddio hirdymor i ysgogi mesurau effeithlonrwydd ynni mewn tai preifat.

Mae gan y sector rhentu preifat, sef 16 y cant o dai Cymru, safonau o'r fath eisoes, sef y Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni, a bennir gan Lywodraeth y DU (gan fod 'ynni' yn fater a gedwir yn ôl). Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor fod y rhain ymhell i ffwrdd o’r hyn sydd ei angen i gyrraedd targedau effeithlonrwydd ynni. Er bod Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ar godi’r safonau yn ôl yn 2020, nid oes penderfyniad wedi’i wneud, gyda’r Pwyllgor yn dweud bod hyn yn gadael y sector mewn sefyllfa amhendant.

Nid oes unrhyw safonau cyfatebol ar gyfer tai perchen-feddianwyr (tua 900,000 o gartrefi yng Nghymru). Gofynnodd y Pwyllgor felly sut mae modd cyflawni gwelliannau heb fesurau o'r fath. Dywedodd y Gweinidog ei bod o blaid cynyddu ac ehangu’r Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni “mewn egwyddor”:

… ar yr amod bod Llywodraeth y DU hefyd yn rhoi digon o gymorth ariannol (e.e. grantiau a benthyciadau di-log) er mwyn helpu i dalu costau gwelliannau fel y gellir sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf yn cael eu cefnogi a bod mesurau ôl-osod priodol yn cael eu rhoi ar waith.

Trafododd y Pwyllgor gydymffurfiaeth a gorfodaeth mewn perthynas â safonau o'r fath, yn ogystal ag adnoddau awdurdodau lleol i gyflawni hyn.

"Swm anferthol o waith i’w wneud"

Cafodd pynciau fel bylchau data, ymgysylltu â’r cyhoedd, cyngor a chymorth, sgiliau cadwyn gyflenwi a chymhellion ariannol eu harchwilio gan y Pwyllgor, a’r ystod o randdeiliaid a gyfrannodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar.

Yn ei ragair fel Cadeirydd, cydnabu Llyr Gruffydd MS y pwysau costau byw presennol, a pha mor anodd yw hi i berchnogion tai feddwl am fuddsoddi mewn mesurau ôl-osod. Roedd yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu’n gyflymach ar atebion ariannol i sicrhau bod ôl-osod o fewn cyrraedd, “fel bod holl gartrefi Cymru’n gallu dechrau ar y daith tuag at ddatgarboneiddio”.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 3 Mai. Gallwch wylio'n fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru