A yw hi’n argyfwng ar ddiwylliant?

Cyhoeddwyd 10/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2026

 

Mae degawd o doriadau wedi arwain cyrff gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Undeb y Cerddorion a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ddweud ei bod hi’n “argyfwng” ar ddiwylliant yng Nghymru. Sut ddigwyddodd hyn?

Fe fyddai’n nodweddiadol dechrau erthygl o’r fath gan sôn am “wlad y gân”, sef cyfeiriad at draddodiad canu hirhoedlog Cymru, o eisteddfodau, i gorau capel, i feysydd rygbi. Ond a fyddai’r enw hwnnw yn cael ei roi heddiw i wlad sydd heb neuadd gyngerdd genedlaethol (sydd ar gau ers 2023 ar gyfer atgyweirio), lle mae’r cwmni opera cenedlaethol wedi disgrifio ei ddyfodol fel un peryglus tu hwnt, a gwlad sy’n gwario gyda’r lleiaf yn Ewrop ar ddiwylliant a chwaraeon?

Gwariant cyhoeddus ar ddiwylliant yn uwch na chyfartaledd y DU, ond ymhlith yr isaf yn Ewrop

Rhwng 2014-15 a 2024-25, torrodd Llywodraeth Cymru gyllidebau refeniw diwylliant a chwaraeon 17% mewn termau real. Dros yr un cyfnod, mae cyllidebau cyfalaf (sydd yn llai na hanner maint y cyllidebau refeniw) bron wedi treblu o ran maint.

Yn dilyn gostyngiadau termau real hirfaith gan lywodraeth ganolog a llywodraeth lleol, mae lefelau cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru ymhlith yr isaf yn Ewrop.

Mae ffigurau a gasglwyd ar lefel y DU yn dangos bod gwariant cyhoeddus (gan lywodraethau cenedlaethol a lleol) ar wasanaethau diwylliannol y pen yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU, ond yn sylweddol is nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ffigur 1: Cyfanswm y gwariant adnabyddadwy ar wasanaethau diwylliannol, £ y pen, alldro 2024-25 ar gyfer gwledydd y DU

Graff bariau sy’n dangos bod gwariant cyhoeddus (gan lywodraethau cenedlaethol a lleol) ar wasanaethau diwylliannol y pen yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU, ond yn sylweddol is nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Ffynhonnell: Trysorlys EF, tabl dadansoddiad fesul gwlad a rhanbarth B.5, B.6, B.7, B.8

Mae ffigurau a gasglwyd ar lefel Ewropeaidd yn dangos bod gwariant cyhoeddus y pen ar wasanaethau diwylliannol yn y DU ymhlith yr isaf yn Ewrop. Mae’n debygol y byddai’n rhaid i Gymru ddyblu ei gwariant cyhoeddus ar ddiwylliant i gyrraedd cyfartaledd y 24 gwlad Ewropeaidd hyn.

Ffigur 2: Cyfanswm gwariant y llywodraeth ar wasanaethau diwylliannol, £ y pen, ar gyfer gwledydd Ewropeaidd yn y flwyddyn a ddaeth i ben 2023

Graff bariau sy’n dangos cyfanswm gwariant llywodraethol ar wasanaethau diwylliannol ar gyfer 25 o wledydd Ewropeaidd. Cyfartaledd y gwledydd hyn yw £220, o'i gymharu â ffigur o £92 ar gyfer y DU.”

Ffynhonnell: Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), gwariant blynyddol y llywodraeth yn ôl swyddogaeth a dadansoddiad Ymchwil y Senedd

*Mae’r ffigurau ar gyfer y Deyrnas Unedig yn wahanol yn y ddau graff blaenorol oherwydd gwahanol ddulliau a ddefnyddir gan Drysorlys EF a’r OECD.

Pam mae hyn wedi digwydd? Yn gryno, cafwyd toriadau i ddiwylliant ar lefelau cenedlaethol a lleol oherwydd bod gwleidyddion wedi dewis gwario arian ar bethau eraill.

Cafodd Llywodraeth Cymru gynnydd termau real mewn cyllid refeniw o tua 15% rhwng 2014-15 a 2024-25, a dewisodd ei ddefnyddio i ariannu meysydd eraill. Yn ystod y cyfnod hwn, er bod gwariant refeniw Llywodraeth Cymru ar ddiwylliant a chwaraeon wedi gostwng 17% mewn termau real, cynyddodd gwariant iechyd Llywodraeth Cymru 37%.

Rhwng 2014-15 a 2024-25, gostyngodd cyllid refeniw awdurdodau lleol ar gyfer llyfrgelloedd, diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a hamdden 25% mewn termau real, tra bod gwariant ar addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi cynyddu’n sydyn (gweler ffigur 3).

Ffigur 3: Alldro refeniw awdurdodau lleol, yn ôl gwasanaeth (£000) (2001-02 i 2024-25)

Graff llinell sy’n dangos gwariant refeniw awdurdodau lleol yn ôl gwasanaeth o 2001-2 i 2024-25. Mae gwariant ar addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi codi’n sydyn, tra bod gwariant ar y rhan fwyaf o feysydd gwasanaeth eraill wedi sefydlogi i raddau helaeth

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru – Alldro gwariant refeniw yn ôl awdurdod a gwasanaeth a dadansoddiad Ymchwil y Senedd

Mae sefydliadau celfyddydol yn tynnu sylw fwyfwy at fanteision ariannu diwylliant y tu hwnt i’w werth ynddo’i hun. Maent yn tynnu sylw at fanteision economaidd a chymdeithasol gweithgarwch diwylliannol, gan gynnwys gwell canlyniadau iechyd.

Mae’r dadansoddiad hwn yn cyd-fynd â galwadau gan Archwilio Cymru (corff gwarchod gwariant) a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol (swyddog annibynnol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru) i symud gwariant i ffwrdd o ddatrys problemau tymor byr, a thuag at fesurau atal. Fodd bynnag, yn dilyn blynyddoedd o waith craffu ar gyllidebau Llywodraeth Cymru, dywedodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd flaenorol nad oedd “eto wedi cael ateb clir sy’n rhoi sicrwydd i ni” bod Llywodraeth Cymru’n “gweithio mewn ffordd strategol mewn perthynas â’r mater hwn”.

Bwcedi o ddŵr glaw

Dywedodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd ddiwethaf fod diwylliant, o ganlyniad i gyllid isel gan y llywodraeth, yn “fregus a heb ddigon o adnoddau”. Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru fod argyfwng yn wynebu’r sector diwylliant ar hyn o bryd, ac mae Undeb y Cerddorion wedi rhybuddio ynghylch argyfwng sy’n datblygu yng ngherddoriaeth Cymru.

Dywedodd Lesley Griffiths AS, pan oedd hi’n Weinidog Diwylliant am gyfnod byr yn ystod haf 2024 nad oedd hi erioed wedi gweld cymaint o fwcedi â’r rheini oedd yn dal dŵr glaw yn Amgueddfa Cymru, gan ddisgrifio’r sefyllfa fel un erchyll. Yn ôl staff yr amgueddfa, ers hynny maen nhw wedi cael cynnydd sylweddol mewn cyllid cyfalaf i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon mwyaf brys, ond bod ôl-groniad cynnal a chadw’r Amgueddfa ar draws ei saith safle yn £67 miliwn (ffigurau a ddarparwyd i Ymchwil y Senedd gan Amgueddfa Cymru). Yn sgil y “toriadau mwyaf i gyllideb Amgueddfa Cymru erioed” gan Lywodraeth Cymru yn 2024-25, collodd 144, neu tua 15%, o staff yr Amgueddfa eu swyddi.

Mae presenoldeb ym mhob math o ddigwyddiadau celfyddydol yn parhau i fod islaw’r lefelau cyn y pandemig.

Ffigur 4: Canran y bobl sy’n mynd i ddigwyddiadau celfyddydol, yn ôl blwyddyn

Graff bariau sy’n dangos canran y bobl sy’n mynd i ddigwyddiadau celfyddydol o gymharu 2019-20 â 2022-23. Mae pob math o bresenoldeb wedi gostwng dros y cyfnod hwn

 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Dywedodd Cyngor y Celfyddydau (elusen sy’n cefnogi’r sector) yn 2025 y bu cynnydd yn nifer y sefydliadau celfyddydol sy’n y sefyllfa fwyaf bregus, ac nad oes unrhyw lacrwydd yn y system. Mae seilwaith celfyddydau sy’n heneiddio – yn bennaf o’r 1970au â thoeau sy’n gollwng dŵr – yn wynebu ôl-groniad cynnal a chadw cyfalaf o £50-100 miliwn.

Y broblem gyda bil yw bod yn rhaid i rywun ei dalu

Gan adleisio galwadau o’r sector, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi dweud bod toriadau cyllid wedi gwthio diwylliant i sefyllfa o argyfwng, gan “fygwth y bywyd diwylliannol sy’n sail i hunaniaeth, iaith a chydlyniant cymunedol Cymru”. Fe wnaeth annog y Llywodraeth nesaf yng Nghymru i gyflwyno bil diwylliant, heb roi darlun clir o’r hyn y byddai’r bil hwn yn ei wneud. Mae wedi galw am yr “un lefel o ddiogelwch cyfreithiol iddo ag sydd eisoes yn cael ei roi i’r iaith Gymraeg a theithio llesol”: dau faes polisi â fframweithiau cyfreithiol gwahanol iawn.

Hoffai Cyngor y Celfyddydau ac Amgueddfa Cymru hefyd weld cyfraith i amddiffyn diwylliant. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n flaenorol wedi gwrthwynebu amddiffyniad statudol, oni bai bod hynny’n cydfynd â mwy o gyllid gan lywodraeth ganolog. Teimlai’r Pwyllgor Diwylliant blaenorol nad oedd y Comisiynydd wedi cyflwyno “dadl gref dros pam mai deddfwriaeth yw’r ffordd briodol o fynd i’r afael” â’r problemau sy’n wynebu’r sector, ac a gafodd sylw amlwg.

Dim “rhaglen ystyrlon”

Ar ôl aros am bedair blynedd, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant ym mis Mai 2025, yn dilyn ymrwymiad i “ymgysylltu â sector y celfyddydau, y sector diwylliant a’r sector treftadaeth i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd.” Gallai’r ddogfen hon fod wedi darparu map ar gyfer mynd i’r afael â’r nifer o heriau sy’n wynebu’r sector.

Yn hytrach, mae’n gyfres o ddatganiadau o fwriad eang (e.e. “mae diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol”) yn hytrach nag ymrwymiadau pendant o’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Mae cyfeiriadau at ergydion strwythurol megis y pandemig, Brexit, yr argyfwng costau byw a thoriadau cyllido hirdymor yn amlwg absennol.

Yng ngeiriau Pwyllgor Diwylliant y Senedd flaenorol, nid yw’r ddogfen hon yn “cynnwys dadansoddiad o’r heriau sy’n wynebu’r sector, na rhaglen ystyrlon ar gyfer mynd i’r afael â nhw”.

Wrth gael ei holi am ei gynlluniau hirdymor o ran cyllid ar gyfer diwylliant, dywedodd y Gweinidog ar y pryd, Jack Sargeant AS, ym mis Mai 2025, “dydw i ddim mewn sefyllfa i gyhoeddi cyllidebau yn y dyfodol”. Mae Llywodraeth yr Alban wedi mabwysiadu dull gwahanol, gan amlinellu llwybr yn 2024 i fuddsoddi o leiaf £100 miliwn yn fwy bob blwyddyn mewn diwylliant erbyn 2028-29.

Pennod newydd?

Yr ymyrraeth fawr ddiwethaf gan lywodraeth yn niwylliant Cymru oedd adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru, mewn ton o brosiectau ôl-ddatganoli ar ddechrau’r ganrif hon. Ers hynny, dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r sector, i raddau helaeth, fu ariannu’r strwythurau a etifeddodd – megis Cyngor y Celfyddydau ac Amgueddfa Cymru – o’r cyfnod cyn datganoli.

Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai’n sefydlu Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol. Nid oes gan Gymru oriel genedlaethol benodol ar gyfer celf gyfoes, nac ychwaith celf Cymru.

Yn y diwedd, fodd bynnag, roedd hon yn gyfres o uwchraddio orielau presennol, gyda chostau cyfalaf o lai na chwarter y £35m a ragwelwyd, yn adlewyrchu’r hyn y galwodd Llywodraeth Cymru yn “fodel gweithredu darbodus”. Ni wnaeth y Gweinidog diwylliant blaenorol ymrwymo i ddarparu cyllid refeniw parhaus. Yn lle hynny, roedd yn disgwyl i’r sector ei hun ddod o hyd i’r amcangyfrif £400,000 y flwyddyn. Fel cyd-destun, fe wnaeth amgueddfa ddylunio’r Alban, V&A Dundee – a agorodd yn 2018 – gostio £80m i’w hadeiladu, ac mae’n cael £3.8m y flwyddyn gan Lywodraeth yr Alban.

A fydd Llywodraeth newydd Cymru yn ysgrifennu pennod newydd yn stori diwylliant Cymru?


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru