Gyda diwygiadau allweddol yn cael eu gweithredu yng Nghymru a San Steffan, bydd sicrhau bod bysiau, trenau a chynlluniau trafnidiaeth lleol yn gweithio gyda’i gilydd yn her ddiffiniol ar gyfer darparu system drafnidiaeth fodern a dibynadwy yng Nghymru.
Mae integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn ffocws i waith craffu’r Senedd ers blynyddoedd, ac mae’r manteision yn cael eu cydnabod yn eang. Fodd bynnag, mae integreiddio drwy amserlenni cydgysylltiedig, gwybodaeth glir, seilwaith cysylltiedig, prisiau a thocynnau, wedi profi’n heriol.
Roedd Papur Gwyn Llywodraeth flaenorol Cymru, Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru, yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer system fysiau o fewn rhwydwaith trafnidiaeth integredig.
Gyda Deddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026 bellach wedi’i phasio gan y Senedd, a Bil Rheilffyrdd wedi’i gyflwyno yn San Steffan, mae’r blynyddoedd nesaf yn cyflwyno cyfleoedd a risgiau ar y llwybr i ddarparu rhwydwaith integredig.
|
Beth sydd wedi'i ddatganoli? Mae llawer o bwerau trafnidiaeth allweddol wedi'u datganoli, ond mae meysydd arwyddocaol yn parhau i fod wedi'u cadw'n ôl, sy'n cymhlethu integreiddio. Llywodraeth Cymru sy’n rheoli Gwasanaethau Rheilffordd Cymru a'r Gororau sy’n cael ei weithredu gan TrC Trenau drwy Trafnidiaeth Cymru, ac mae’n berchen ar Linellau Craidd y Cymoedd. Ac eto, mae'r system reilffyrdd gyfan wedi'i chadw’n ôl, gyda'r rhan fwyaf o'r seilwaith yn gyfrifoldeb i Network Rail ac yn cael ei reoli o San Steffan. Gall Cymru fuddsoddi mewn rheilffyrdd ond nid yw'n derbyn grant bloc pwrpasol. Mae rheoleiddio gwasanaethau bysiau a thrwyddedu tacsis/cerbydau llogi preifat wedi'i ddatganoli, fel y mae llawer o gyfrifoldebau priffyrdd, tra bod trwyddedu gweithredwyr bysiau, yn ogystal â materion fel hyfforddi gyrwyr, safonau cerbydau a throseddau cysylltiedig yn parhau i fod yn faterion sydd wedi'u cadw’n ôl. |
Diwygio bysiau
Mae nifer y teithwyr bysiau ledled Prydain Fawr wedi bod yn gostwng ers dau ddegawd, ond mae Cymru wedi cofnodi llai o deithiau fesul pen yn gyson o gymharu â mannau eraill, ac wedi bod yn arafach i wella ar ôl y pandemig.
Ffigur 1: Nifer y teithiau gan ddefnyddwyr bysiau fesul pen o’r boblogaeth

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata’r Adran Drafnidiaeth, Teithiau teithwyr bws lleol
Ffigur 2: Pellter a deithiwyd gan gerbydau bws (milltiroedd)

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata’r Adran Drafnidiaeth, Pellter a deithiwyd gan gerbyd bws lleol
Mae’r rhesymau dros y dirywiad yn gymhleth. Fodd bynnag, mae’r farchnad bysiau wedi’i dadreoleiddio y tu allan i Lundain yn cael ei hystyried yn eang fel rhwystr i integreiddio: gall gweithredwyr gofrestru neu dynnu gwasanaethau’n ôl ar fyr rybudd ac mae cyfraith cystadleuaeth yn cyfyngu ar gydgysylltu amserlenni, prisiau a thocynnau gan weithredwyr.
Ledled Prydain Fawr, mae symudiadau wedi bod tuag at ail-reoleiddio. Mae Lloegr a’r Alban wedi deddfu i alluogi llywodraeth leol i gymryd mwy o ran mewn cynllunio gwasanaethau, gan gynnwys drwy fasnachfreinio. Manceinion Fwyaf yw’r rhanbarth cyntaf bellach (y tu allan i Lundain) i weithredu masnachfreinio ar raddfa fawr.
Mae Deddf 2026 yn mabwysiadu dull mwy sylfaenol yng Nghymru, gan drosglwyddo cyfrifoldeb dros gynllunio gwasanaethau bysiau o awdurdodau lleol i Lywodraeth Cymru, i’w darparu drwy Trafnidiaeth Cymru, a gwneud masnachfreinio’n ddiofyn ledled y wlad.
Mae gweithredu’r system hon yn dasg fawr. Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cyflwyno masnachfreinio mewn pedwar cam rhanbarthol erbyn 2030. Roedd gwaith craffu yn y Senedd yn amlygu risgiau, gan gynnwys pwysau ariannu, dibyniaeth Cymru ar weithredwyr bach a chanolig (y mae llawer ohonynt yn darparu gwasanaethau teithio i ddysgwyr), a’r buddsoddiad sylweddol sydd ei angen mewn fflyd newydd.
Mae profiad ym Manceinion - lle mae, er enghraifft, busnesau bach a chanolig wedi cael trafferth sicrhau contractau masnachfraint - yn dangos yr heriau sydd o’n blaenau, gan wneud ymgysylltiad Trafnidiaeth Cymru â busnesau bach a chanolig yn arbennig o bwysig.
|
Beth yw masnachfreinio? Bydd masnachfreinio yn gweld gweithredwyr yn gwneud cynnig am gontractau i ddarparu gwasanaethau bysiau ar fwndeli o lwybrau a nodir gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. Mae amryw o opsiynau contract. Cynigiodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru fodel ‘cost gros’, lle byddai’n derbyn refeniw tocynnau ac yn talu ffi i weithredwyr ynghyd â chymhellion ariannol. |
Ffigur 3: Gweithredu masnachfraint bysiau yng Nghymru yn ôl ardal

Ffynhonnell: Trafnidiaeth Cymru/Llywodraeth Cymru - Diwygio bysiau i Gymru: ein map ffordd i fasnachfreinio
Trenau
Ychydig dros 30 mlynedd ar ôl preifateiddio, mae gwasanaethau rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr yn cael eu diwygio’n sylweddol unwaith eto.
Mae rheilffyrdd Cymru eisoes wedi profi newid sylweddol. Cafodd y fasnachfraint Cymru a’r Gororau gyntaf a gafodd ei gaffael yng Nghymru ei ddyfarnu yn 2018, gydag ymrwymiadau buddsoddi mawr, gan gynnwys moderneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd yn dilyn eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Cafodd gwasanaethau TrC Trenau eu gwladoli yn 2021. Mae buddsoddiad o £800 miliwn yn moderneiddio cerbydau (trenau) Cymru a’r Gororau, er bod targed Llywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer gwneud 95% o deithiau ar drenau newydd wedi cael ei ohirio.
Ffigur 4: Oedran cyfartalog cerbydau rheilffyrdd ar wasanaethau teithwyr rheilffordd

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, Oedran cyfartalog cerbydau yn ôl gweithredwr
Mae gwasanaethau TrC Trenau wedi gweld adferiad yn nifer y teithwyr a’r refeniw ers y pandemig. Fodd bynnag, mae perfformiad wedi bod yn gymysg, gyda heriau’n gysylltiedig â chyflwyno cerbydau newydd, moderneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd a hen seilwaith Network Rail. Mae gwasanaethau wedi perfformio’n well ar Linellau Craidd y Cymoedd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, na’r rhwydwaith ehangach heb ei ddatganoli.
Ffigur 5: Teithwyr rheilffordd a gludwyd a refeniw gwerthu tocynnau

Noder: Mae 13 ‘cyfnod rheilffyrdd’ ym mhob blwyddyn ariannol. Mae’r rhain i gyd yn 28 diwrnod ac eithrio cyfnod 1 (sy’n dechrau ar 1 Ebrill) a chyfnod 13 (sy’n dod i ben ar 31 Mawrth).
Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata perfformiad Trafnidiaeth Cymru
Ffigur 6: Canran y gwasanaethau teithwyr rheilffyrdd sy’n cyrraedd o fewn 3 munud i’r amser cyrraedd a drefnwyd

Noder: yr amser i 3 yw canran yr arosfannau gorsaf a gofnodwyd a gyrhaeddwyd yn gynnar neu lai na thair munud ar ôl yr amser a drefnwyd.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, Prydlondeb trenau mewn arosfannau gorsaf wedi’u cofnodi gan y gweithredwr
Ffigur 7: Sgôr canslo wedi’i haddasu – gwasanaethau teithwyr rheilffordd

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, Canslo yn ôl gweithredwr a chod-p
Yn dilyn deddfwriaeth i ail-wladoli pob gwasanaeth rheilffordd yn 2024, cafodd Bil Rheilffyrdd ei gyflwyno i Senedd y DU yn 2025 i greu Great British Railways (GBR), gan wladoli ac integreiddio gwasanaethau teithwyr Lloegr yn fertigol gyda seilwaith. Bydd gwasanaethau TrC Trenau yn parhau i fod dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Mae gwaith craffu y Senedd wedi amlygu risgiau i Gymru, yn enwedig y diffyg gorfodi statudol ar gyfer y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy lywodraeth, sy’n hanfodol ar gyfer sicrhau dylanwad Cymru a mynediad teg i’r rhwydwaith a reolir gan GBR.
Mae’r cytundeb partneriaeth arfaethedig rhwng Trafnidiaeth Cymru a GBR yn anstatudol, fel y mae Bwrdd Rheilffyrdd Cymru sydd wedi datblygu cyfres o brosiectau rheilffordd mawr, a bydd yn allweddol i’w blaenoriaethu. Tra bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £14 biliwn ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru dros y 15–20 mlynedd nesaf, mae gwydnwch yr ymrwymiadau hyn ar draws llywodraethau’r dyfodol yn parhau i fod yn ansicr.
Bydd blaenoriaethau trafnidiaeth lleol a rhanbarthol yn allweddol
Er bod Deddf 2026 yn trosglwyddo cyfrifoldeb dros gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol o lywodraeth leol i Lywodraeth Cymru, bydd awdurdodau lleol yn parhau i chwarae rhan hanfodol. Byddant yn parhau i fod yn gyfrifol am faterion allweddol fel priffyrdd lleol, teithio dysgwyr, a’r rhan fwyaf o seilwaith bysiau.
Bydd cyflwyno’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd, wedi’u cynhyrchu gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig, yn ganolog. Cefnogir y rhain gan y Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol newydd, sydd am y tro cyntaf yn 2026-27 yn dwyn ynghyd nifer o grantiau blaenorol Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u datganoli i lywodraeth leol, i gefnogi’r rhaglen ranbarthol.
Bydd mynd i’r afael â thagfeydd traffig, sy’n effeithio ar ba mor ymarferol yn economaidd yw gwasanaethau bysiau, yn her fawr. Mae Deddf 2026 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl rhag defnyddio bysiau. Mae Llywodraeth flaenorol Cymru wedi ymrwymo i alinio canllawiau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol â chynlluniau rhwydwaith bysiau statudol.
Gyda bwlch mwy rhwng costau gweithredu a refeniw ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru nag yn yr Alban a Lloegr, nid yw’n syndod bod y diwydiant bysiau yng Nghymru yn ystyried bod mynd i’r afael â thagfeydd yn rhywbeth sy’n hanfodol i lwyddiant.
Ffigur 8: Incwm fesul taith defnyddiwr bysiau wedi’i addasu ar gyfer chwyddiant

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata’r Adran Drafnidiaeth, Costau, tocynnau a refeniw
Trafnidiaeth integredig
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud cynnydd o ran integreiddio a symleiddio’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft cyflwyno tocynnau Talu Wrth Fynd ar Linellau Craidd y Cymoedd - y defnydd cyntaf o’r dechnoleg hon y tu allan i Lundain, ac yn fuan caiff ei ymestyn i ogledd-ddwyrain Cymru - yn ogystal â thocynnau cyfuno bysiau a threnau mewn rhai ardaloedd.
Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r trefniadau statudol newydd ar gyfer bysiau a threnau, mae’r heriau technegol yn parhau i fod yn sylweddol, yn enwedig dylunio systemau gwybodaeth, prisiau a thocynnau effeithiol a sicrhau bod y seilwaith a’r rhwydweithiau’n bodloni anghenion y cyhoedd.
Mae’r tair system ‘Metro’ sydd wedi’u cynllunio ledled Cymru yn ganolog i’r nod hwn. Metro De-ddwyrain Cymru yw’r mwyaf datblygedig, gyda gwasanaethau rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd wedi’u moderneiddio wedi’u cwblhau ym mis Mawrth. Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru a Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru yn llai datblygedig. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn datblygu’r ‘Rhwydwaith T’, sy’n canolbwyntio ar y newidiadau llywodraethu sefydliadol a diwylliant sydd eu hangen i gyflawni integreiddio.
Bydd dyheadau ar gyfer trafnidiaeth integredig gynaliadwy hefyd yn gofyn am welliannau mewn meysydd fel teithio llesol, lle mae cynnydd wedi cael ei ystyried yn siomedig. Ni ddatblygodd yr hyn a addawodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru o ran diwygio prosesau rheoleiddio tacsis a cherbydau llogi preifat, gyda’r Bil wedi’i dynnu’n ôl o’r rhaglen ddeddfwriaethol yn 2024.
Os caiff ei wireddu, disgwylir i system drafnidiaeth gyhoeddus integredig ddod â manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol i Gymru. Fodd bynnag, bydd llwyddiant yn dibynnu ar gyflawni deddfwriaeth yn effeithiol, partneriaethau cryf a buddsoddiad parhaus.
Erthygl gan Andrew Minnis a Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru