Datganoli a materion rhyngwladol

Cyhoeddwyd 15/06/2026   |   Amser darllen munudau

 

Nid yw’r cyfrifoldeb am faterion rhyngwladol mor glir â’r hyn sy’n cael ei bortreadu’n aml, ac mae’n cael ei rannu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Gall Llywodraeth Cymru, y Senedd, cyrff cyhoeddus ac eraill fod yn gyfrifol am roi trefniadau rhyngwladol ar waith.

Am y rhesymau hyn a mwy, mae’n bwysig nad yw’r Senedd yn colli golwg ar faterion rhyngwladol.

Fel pob gwlad, nid yw Cymru wedi’i heithrio o effeithiau datblygiadau rhyngwladol. Wrth i’r Chweched Senedd ddechrau yn ystod y pandemig, roedd Brexit a’i effeithiau’n amlwg iawn. Mae’r datblygiadau ers hynny wedi bod yn ddi-baid. Mae ymosodiad llawn Rwsia ar Wcráin a’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn enghreifftiau o faterion rhyngwladol sydd â chanlyniadau pellgyrhaeddol.

Mae datganoli yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru hefyd gyflawni ei gweithgarwch rhyngwladol ei hun. Mae meysydd eraill, fel masnach, yn cynnwys cymysgedd o gyfrifoldebau y DU ac wedi’u datganoli. Mae gan hyd yn oed meysydd sydd o fewn cwmpas Llywodraeth y DU yn unig, fel amddiffyn, oblygiadau i Gymru.

Yng nghyd-destun ansicrwydd geo-wleidyddol a newidiadau i’r gyfundrefn fydeang, bydd angen i’r Seithfed Senedd a Llywodraeth Cymru benderfynu ar eu dulliau gweithredu priodol a sut i ymateb.

Cysylltiadau rhyngwladol

Mae ‘cysylltiadau rhyngwladol’ yn faterion sydd wedi’u cadw’n ôl ac mae llywodraethau ar draws y DU yn cydweithio ar gysylltiadau rhyngwladol y DU.

Mae datganoli yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru weithredu mewn capasiti rhyngwladol, fel cytuno ar gytundebau nad ydynt yn rhwymol i Gymru mewn meysydd datganoledig. Roedd gan Lywodraeth flaenorol Cymru nifer o gynlluniau rhyngwladol, fel ei Strategaeth Ryngwladol, polisi masnach a Chenedl Noddfa. Roedd ganddi hefyd drefniadau eraill, fel ei swyddfeydd tramor a’i pherthnasoedd rhyngwladol blaenoriaeth, sydd i’w gweld yn Ffigur 1.

Ar ddiwedd y Chweched Senedd, galwodd y pwyllgor a oedd yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol ar lywodraethau’r dyfodol i fabwysiadu ‘Cenhadaeth Cymru’, sef cyfres o ddeuddeg egwyddor newydd a luniodd i arwain cysylltiadau rhyngwladol Cymru. Roedd y Pwyllgor yn credu y byddai mabwysiadu’r egwyddorion yn “gwarantu bod Cymru’n cyflawni ei huchelgeisiau o ran cysylltiadau rhyngwladol yn gyson ac yn gwireddu ei photensial”.

Ffigur 1: trefniadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru

 

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd (2026)

Cymorth tramor a datblygiad rhyngwladol

Mae ‘cymorth datblygu a chydweithredu rhyngwladol’ yn faterion sydd wedi’u cadw’n ôl ond mae datganoli yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gyflawni gweithgarwch.

Mae ‘cymorth tramor’ a ‘datblygu rhyngwladol’ yn dermau gwahanol. Mae ‘cymorth tramor’ yn ymwneud â’r cymorth sy’n cael ei ddarparu, yn aml mewn ymateb i argyfyngau, ac mae ‘datblygu rhyngwladol’ yn gyffredinol yn ymwneud â chyllid wedi’i dargedu gan wledydd datblygedig tuag at raglenni hirdymor mewn rhanbarthau difreintiedig a/neu ddatblygol. Yn hanesyddol, mae Llywodraethau Cymru wedi gwneud y ddau.

Cymorth tramor

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru wedi gwneud rhoddion ariannol ac anariannol i apelau brys a gafodd eu lansio mewn ymateb i argyfyngau, fel trychinebau naturiol a gwrthdaro arfog. Er enghraifft, yn 2022 rhoddodd £4 miliwn i Apêl Dyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC), yn ogystal â chyflenwadau meddygol, a rhoddodd gyfanswm o £450,000 i Apêl Dyngarol y Dwyrain Canol DEC ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref 2023.

Datblygu rhyngwladol

Roedd ymagwedd Llywodraeth flaenorol Cymru at ddatblygu rhyngwladol yn seiliedig ar nod allweddol yn ei Strategaeth Ryngwladol, sef sefydlu Cymru fel ‘cenedl gyfrifol yn fyd-eang’, ac yn ei rhaglen hirsefydlog ar gyfer Cymru ac Affrica.

Dechreuodd ei chyllid ar gyfer rhaglen Cymru ac Affrica yn 2013-14 ac, o 2020 ymlaen, cafodd ei nodi yng nghynllun gweithredu Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn cynnwys rhaglen plannu coed Mbale yn Uganda. Cafodd y targed i blannu 25 miliwn o goed ei gyflawni ym mis Mawrth 2025.

Roedd p’un a ddylai Llywodraeth Cymru gyflawni’r gweithgaredd hwn ai peidio yn aml yn destun dadl yn ystod y Chweched Senedd.

Masnach ryngwladol

Er bod masnach ryngwladol yn cael ei hystyried yn fater sydd wedi’i gadw’n ôl yn gyffredinol, mae agweddau pwysig arni wedi’u datganoli. Yn benodol, Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am fioddiogelwch, diogelwch bwyd a rheolaethau iechydol a ffytoiechydol yng Nghymru. Mae rheolaethau iechydol a ffytoiechydol yn diogelu iechyd anifeiliaid, iechyd planhigion ac iechyd y cyhoedd.

Yn 2025, gwerth cyfanswm masnach nwyddau Cymru oedd £39.5 biliwn. Partner masnach mwyaf Cymru yw’r Undeb Ewropeaidd, sydd werth £18.4 biliwn (47%). Gwerth yr ail a’r trydydd partneriaid mwyaf oedd yr Unol Daleithiau, sef £6.6 biliwn, a Tsieina, sef £2.4 biliwn. Ymhlith Aelodwladwriaethau unigol yr UE, roedd masnach nwyddau gyda’r Almaen, Ffrainc ac Iwerddon o werth mwy na masnach gyda Tsieina, sef £3.8 biliwn, £2.9 biliwn a £2.8 biliwn.

Mae’r DU a’r UE yn trafod trefniadau newydd mewn meysydd datganoledig, a fydd â goblygiadau pwysig i Gymru a’r Senedd. Ymhlith y rhain yn bennaf mae cytundeb SPS, a allai leihau neu hyd yn oed ddileu’r angen am wiriadau masnach mewn safleoedd rheoli ffiniau newydd, a Bil Partneriaeth yr UE i alinio rheolau’r DU â rheolau’r UE.

Bydd trafodaethau’r DU a’r UE, cytundebau masnach newydd, dargyfeirio masnach o borthladdoedd Cymru a gwydnwch porthladd Caergybi, yn parhau i fod yn hanfodol i lif masnach Cymru hefyd.

Cyfraith ryngwladol

Er y gall Llywodraeth Cymru weithredu mewn capasiti rhyngwladol, ni all ymrwymo i ymrwymiadau sy’n rhwymo’n gyfreithiol. Dim ond Llywodraeth y DU all wneud hyn ar ran y DU, ac mae’n gwneud hynny ar ran y pedair gwlad.

Mae rhwymedigaethau rhyngwladol yn cwmpasu dyletswyddau ac ymrwymiadau cyfreithiol y mae’r DU wedi cytuno iddynt, neu reolau cyffredinol cyfraith ryngwladol. Mae’r gwaith o’u gweithredu a’u harsylwi wedi’u datganoli, sy’n golygu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â nhw ac maent yn gyfrifol am roi dyletswyddau cyfraith ryngwladol ar waith mewn meysydd datganoledig. Mae hyn yn arwain at oblygiadau i’r Senedd, y mae’n rhaid iddi chwarae rhan weithredol wrth graffu ar y ddeddfwriaeth hon a’i phasio.

Y Senedd yw’r unig ddeddfwrfa ddatganoledig sydd â phroses graffu bwrpasol ar gyfer cytuniadau. Roedd adroddiad y cyn-bwyllgor deddfwriaeth, ‘Y gwersi a ddysgwyd yn sgil 100 o gytuniadau’ yn galw am i’r Senedd gael rôl ffurfiol ym mhroses Senedd y DU. Penderfyniad y Senedd newydd fydd a fydd y gwaith craffu hwn yn parhau, gydag unrhyw rôl ffurfiol yn ddibynnol ar benderfyniadau ar lefel y DU.

Gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Yn hanesyddol, roedd cydweithredu rhwng llywodraethau ar draws y DU ar gysylltiadau rhyngwladol a chysylltiadau’r UE wedi’i gynnwys mewn dau goncordat. Roeddent yn rhan o Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar Ddatganoli yn 2013.

Roedd cynlluniau ar gyfer Concordat Cysylltiadau Rhyngwladol yn ffurfio rhan o adolygiad 2022 o gysylltiadau rhynglywodraethol ond ni ddaeth i’r fei. Cyflwynodd yr adolygiad nifer o gyrff newydd yr oedd gweinidogion o bob gwlad yn aelod ohonynt, gan gynnwys Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (IMSC), sydd wedi ystyried materion rhyngwladol. Mae yna grwpiau penodol hefyd ar berthnasoedd a masnach rhwng y DU a’r UE. Ym mis Mawrth 2026, dywedodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi pwyso am grŵp ar gysylltiadau rhyngwladol, ynghyd â Llywodraeth yr Alban.

Mae’r llywodraethau hefyd yn cydlynu ymateb y DU i wrthdaro, fel rhwng Rwsia ac Wcráin, Israel a Gaza ac UDA/Israel ac Iran. Bydd sut maent yn cydweithio ar faterion rhyngwladol yn ffactor hollbwysig yn y dyfodol.

Dyfodol materion rhyngwladol

Bydd dull gweithredu newydd Llywodraeth Cymru yn hanfodol wrth benderfynu ar ddyfodol rhyngwladol Cymru. Wrth ymateb i ddatblygiadau byd-eang, bydd yn rhaid iddi lywio’r effeithiau ar Gymru, gan gynnwys bywydau beunyddiol pobl.

Mae pa lwybr y mae’r Senedd yn ei ddilyn yr un mor bwysig. Mae gan Aelodau newydd ddewisiadau i’w gwneud ynghylch a ddylid adeiladu ar waddol materion rhyngwladol y Chweched Senedd, a sut.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru