Adnewyddu economaidd: mynd i’r afael â heriau hen a newydd

Cyhoeddwyd 22/05/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2026

 

Mae economi Cymru yn wynebu heriau strwythurol hirsefydlog, fel bylchau o ran cynhyrchiant, incwm a sgiliau, yn ogystal ag anghydraddoldebau rhanbarthol. Mewn cyddestun byd-eang ansicr, sut gallai Llywodraeth newydd Cymru geisio mynd i’r afael â’r rhain?

Roedd yr Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd yn dadlau bod Cymru yn agosáu at ganrif o ddirywiad economaidd cymharol. Mae cyfraddau cyflogaeth yn uwch, ac mae cyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd yn is nag ar ddechrau datganoli. Fodd bynnag, mae bylchau parhaus rhwng Cymru a rhannau eraill o’r DU yn parhau o ran twf, cynhyrchiant, sgiliau ac anghydraddoldebau rhanbarthol.

Heriau twf hirdymor

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn disgrifio Cynnyrch Domestig Gros fel y prif fesur o dwf economaidd yn seiliedig ar werth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yn ystod cyfnod penodol.

Mae Cynnyrch Domestig Gros Cymru fesul pen wedi bod tua 75% o gyfartaledd y DU ers dechrau datganoli. Mae’r ffigurau diweddaraf yn rhoi Cymru islaw holl ranbarthau Lloegr, ac eithrio gogledd-ddwyrain Lloegr, ac islaw’r gwledydd datganoledig eraill. Un o’r ffactorau allweddol sy’n achosi hyn yw lefelau cynhyrchiant is o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU. Mae Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn elwa’n arbennig o ‘effeithiau crynhoi’ sy’n gysylltiedig â dwysedd cwmnïau a phoblogaeth uwch. Mae anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol hirsefydlog yng Nghymru hefyd.

Ffigur 1: Cynnyrch Domestig Gros fesul pen fel % o gyfartaledd y DU, 19992023

 

 

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Gweithgarwch economaid rhanbarthol yn ôl cynnyrch domestig gros, y DU: 1998 i 2023

Ffigur 2: Cynnyrch Domestig Gros fesul pen fel % o gyfartaledd y DU ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, 2023

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Gweithgarwch economaidd rhanbarthol yn ôl cynnyrch domestig gros, y DU: 1998 i 2023

Dywed Llywodraeth y DU mai twf economaidd yw ei phrif genhadaeth, ac mae’n allweddol ar gyfer galluogi buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a chodi safonau byw. I angori twf a buddsoddiad mewnol, mae Cydffederasiwn y Diwydiant Busnes (CBI) Cymru eisiau amgylchedd mwy rhagweladwy, sy’n cefnogi menter. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn galw am strategaeth economaidd newydd sy’n canolbwyntio ar dyfu busnesau Cymru, ynghyd ag asiantaeth datblygu economaidd.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi galw am symud i ffwrdd o ganolbwyntio ar Gynnyrch Domestig Gros, gan awgrymu nad yw hyn yn ystyried cynaliadwyedd yn ddigonol. Mae o blaid cael system economaidd sy’n rhoi gwerth i’r hyn sy’n bwysig – llesiant pobl.

Datblygodd Llywodraeth flaenorol Cymru ddangosfwrdd ar gyfer asesu perfformiad yn erbyn wyth dangosydd economaidd allweddol, ac wedi datblygu dangosyddion ehangach i fesur cynnydd Cymru yn erbyn saith nod llesiant, gan gynnwys ‘Cymru lewyrchus’. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu, er bod twf yn bwysig, yr hyn sy’n bwysicach yw’r math o dwf sy’n cael ei gyflawni a sut y gellir teimlo hyn ym mywydau pobl yng Nghymru. Mae’n dadlau y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn gallu gwella llesiant yn haws gyda’i dulliau polisi nag ysgogi twf, a dylai flaenoriaethu canlyniadau sy’n cynyddu llesiant i’r eithaf.

Cynhyrchiant araf a safonau byw yn aros yn eu hunfan

Mae cynhyrchiant yn cael ei ddiffinio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel y berthynas rhwng mewnbynnau ac allbynnau yn yr economi: po leiaf o fewnbynnau sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu’r un faint o allbynnau, y mwyaf cynhyrchiol yw’r broses honno.

Mae’r DU wedi wynebu ‘penbleth cynhyrchiant’ gyda thwf cynhyrchiant yn annisgwyl o araf ers argyfwng ariannol 2008. Mae Fforwm Cynhyrchiant Cymru yn nodi bod Cymru yn wynebu her ychwanegol, gyda bwlch hirsefydlog rhwng lefelau cynhyrchiant Cymru a’r DU, a dim tystiolaeth bod hyn yn newid dros amser.

Ffigur 3: Cynhyrchiant fesul awr a gafodd ei weithio fel % o gyfartaledd y DU, 1999 i 2023

 

 

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cynhyrchiant rhanbarthol ac isranbarthol, y DU: 2023

Er gwybodaeth: Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi tynnu sylw at nifer o ffactorau y gallent wneud y data ar gyfer 2023 yn fwy anwadal nag arfer, yn enwedig ar gyfer ardaloedd llai lle mae data cynhyrchiant fel arfer yn fwy anwadal.

Dywedodd yr Athro Emeritws Andrew Henley o Brifysgol Caerdydd fod Cymru ymhell ar ôl rhanbarthau a gwledydd eraill y DU y tu allan i Lundain a deddwyrain Lloegr o ran arloesedd a buddsoddiad, ac y dylai flaenoriaethu hybu cynhyrchiant yn yr ardaloedd hyn.

Mae Llywodraeth flaenorol Cymru a Llywodraeth flaenorol y DU wedi datblygu Cronfa Twf Lleol i gynyddu cynhyrchiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Fodd bynnag, mae’r cyllid sydd ar gael yn llai nag o dan raglenni datblygu rhanbarthol blaenorol, ac mae pryderon ynghylch dyluniad a threfniadau cyflawni’r gronfa.

Er bod gobaith y bydd deallusrwydd artiffisial yn ysgogi cynhyrchiant cynyddol, mae pryderon yn parhau ynghylch y potensial ar gyfer canlyniadau negyddol ehangach. Er enghraifft, yn ôl ymchwil diweddar gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) Cymru, mae 60% o weithwyr Cymru yn pryderu ynghylch effaith deallusrwydd artiffisial a thechnolegau newydd ar eu swydd.

Yn ogystal â bod y prif ysgogydd twf economaidd hirdymor, mae cynhyrchiant yn annatod yn cael ei gysylltu â safonau byw. Fel y dywed yr economegydd Paul Krugman:

Productivity isn’t everything, but, in the long run, it is almost everything. A country’s ability to improve its standard of living over time depends almost entirely on its ability to raise its output per worker.

Yn dilyn twf cynhyrchiant araf ers yr argyfwng ariannol, mae safonau byw wedi aros yn eu hunfan ledled y DU. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn amcangyfrif y byddai aelwydydd y DU bron £2,000 y flwyddyn yn well eu byd pe bai incwm wedi parhau i dyfu yn unol â’r tueddiadau hanesyddol a welwyd cyn argyfwng ariannol 2008.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn disgrifio Incwm Gwario Gros Aelwydydd (GDHI) fel y swm o arian y mae’n rhaid i aelwydydd a phobl sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol ei wario neu ei arbed ar ôl talu trethi a/ neu dderbyn budd-daliadau. Mae hefyd yn cynnwys incwm busnes pobl hunangyflogedig.

Yn 2023, roedd GDHI fesul pen yng Nghymru yn 81% o gyfartaledd y DU, yr isaf ers dechrau datganoli, ac yn is nag ym mhob rhan o’r DU ac eithrio gogleddddwyrain Lloegr.

Ffigur 4: GDHI fesul pen fel % o gyfartaledd y DU, 1999 i 2023

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Incwm gwario gros aelwydydd rhanbarthol, y DU: 1997 i 2023

Ffigur 5: GDHI fesul pen fel % o gyfartaledd y DU ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, 2023

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Incwm gwario gros aelwydydd rhanbarthol, y DU: 1997 i 2023

Mae pwysau costau byw wedi gwaethygu’r heriau y mae llawer o aelwydydd eisoes yn eu hwynebu, ac mae eu heffeithiau’n dal i gael eu teimlo ledled Cymru. Yn ôl cipolwg diweddaraf Sefydliad Bevan o dlodi yng Nghymru, yn y tri mis hyd at fis Medi/Hydref 2025, aeth bron i chwarter o oedolion heb wres. Roedd cyfran debyg wedi mynd heb brydau bwyd neu wedi lleihau maint eu prydau.

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth newydd Cymru i gymryd camau i hybu incwm aelwydydd a mynd i’r afael â chostau tai ac ynni cynyddol. Wedi dweud hynny, mae llawer o ysgogiadau allweddol y tu allan i ddwylo Llywodraeth Cymru. Mae’r Resolution Foundation yn tynnu sylw at yr angen am fynegeio cyson a sefydlog o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, yn ogystal â mesurau i gefnogi twf cyflogau.

Fodd bynnag, mae rhagolygon llwm ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf, hyd yn oed cyn unrhyw effeithiau posibl o’r gwrthdaro yn Iran. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd safonau byw y DU yn parhau yn eu hunfan am weddill y degawd.

Cyfraddau parhaus o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a heriau o ran sgiliau

Mae Cymru yn gweld gostyngiad yn nifer y prentisiaid a gostyngiad yng nghyfran y bobl 18 oed sy’n mynd i’r brifysgol. Gwnaeth y rhai a ddechreuodd brentisiaethau leihau 48% yn y sector adeiladu, sy’n “[g]waethygu prinder gweithwyr” mewn diwydiant “sydd ei angen ar gyfer sgiliau gwyrdd a thwf yn y dyfodol”. Mae Prifysgolion Cymru yn adrodd y bydd angen 400,000 o raddedigion ychwanegol ar Gymru erbyn 2035 i ddiwallu anghenion sgiliau cynyddol.

Mae pobl ifanc wedi nodi ansicrwydd ynghylch cyfeiriad eu bywydau a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu i gael mynediad at addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Ar yr un pryd, mae cyflogwyr yn aml yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r sgiliau sydd eu hangen arnynt.

Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru wedi bod yn anwadal ond yn gyffredinol wedi gostwng dros y degawd diwethaf hyd at gynnydd dros y flwyddyn hyd at fis Medi 2025. Mae cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru yn parhau i fod yn ystyfnig ac yn annerbyniol o uchel, ac mae cynnydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae niferoedd uchel o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn broblem ledled y DU, sydd wedi ysgogi Llywodraeth y DU i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i bobl ifanc a gwaith.

Yn 2021, lansiodd Llywodraeth flaenorol Cymru y Warant i Bobl Ifanc gyda’r nod o atal pobl ifanc rhag cyrraedd sefyllfa lle nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Fodd bynnag, fe wnaeth y Prif Weinidog ar y pryd gydnabod ym mis Mawrth 2026 fod cwestiynau ynghylch pam mae diweithdra ymhlith pobl ifanc a nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn cynyddu pan fo’r Warant i Bobl Ifanc ar gael.

Mae’r materion hyn yn codi’r cwestiwn ynghylch a yw’r system hyfforddiant a sgiliau yn cyflawni ar gyfer pobl, busnesau ac economi Cymru. O ystyried y newidiadau economaidd sydd i ddod, fel deallusrwydd artiffisial a’r newid i economi fwy gwyrdd, mae angen i’r system sgiliau fod â digon o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion cyflogeion a busnesau.

Blwch derbyn llawn

Gyda dyfodol economaidd ansicr, a’r posibilrwydd y bydd sioc economaidd fydeang yn taro twf a safonau byw ymhellach, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn wynebu anawsterau byrdymor yn ogystal â’r heriau economaidd tymor hwy sy’n bodoli eisoes. Ynghyd â Llywodraeth y DU, bydd angen iddi ystyried sut i fynd i’r afael â’r rhain, yn ogystal â materion fel datgarboneiddio’r economi, deallusrwydd artiffisial a llawer mwy.

Erthygl gan Gareth Thomas and Lucy Yarham, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru