Gwelodd y Chweched Senedd ddiwedd cyllid y pandemig, pwysau costau byw, a pholisi cyllidol newidiol Llywodraeth y DU. Wrth i dymor newydd y Senedd ddechrau, mae mwy a mwy o frys i ateb cwestiynau ynghylch sut mae cyllid wedi newid, beth yw hynt gwariant, a sut y bydd pwysau yn y dyfodol yn llywio penderfyniadau.
Dros dymor presennol Senedd y DU (2023-24 i 2028-29), mae cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru i fod i dyfu 1.9% ar gyfartaledd mewn termau real, sydd 0.8 pwynt canran yn llai na’r tymor seneddol blaenorol (2.7% ar gyfartaledd yn 2018-19 i 2023-24).
Gyda thwf cyllid arafach a galw newidiol am wasanaethau, mae Llywodraeth newydd Cymru yn etifeddu dewisiadau anodd ynghylch dyraniadau treth a gwariant.
Twf cyllid yn y Chweched Senedd
Gweithredodd y Chweched Senedd yn ystod cyfnod o dwf termau real yng nghyllid Llywodraeth Cymru, gan nodi newid amlwg o’r toriadau cyllid yn ystod rhan fawr o’r 2010au. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn adrodd bod y cyllid adnoddau craidd 11.9% yn uwch, fesul person mewn termau real, nag yn 2019-20, a 7.4% yn uwch nag yn 2010-11.
Llywodraeth y DU a ysgogodd y cynnydd hwn i raddau helaeth drwy ddyraniadau grant bloc uwch ar ôl y pandemig, cynnydd blynyddol o 2.8% ar gyfartaledd mewn termau real dros y Chweched Senedd. Mae Dadansoddi Cyllid Cymru, Prifysgol Caerdydd, yn nodi:
… this represents the fastest increase in the budget since the 2nd Assembly term (2003-2007) and double the increase suggested by the 100 outlook ahead of the last Senedd elections in 2021.
Mae bron i bedair rhan o bump o gyllid Llywodraeth Cymru yn dod yn uniongyrchol drwy’r grant bloc gan Lywodraeth y DU. Daw gweddill y cyllid o fenthyca a threthi datganoledig: Cyfraddau Treth Incwm Cymru (14.3%), ardrethi annomestig (4.3%), Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi (1.6%).
Mae datganoli trethi wedi cynyddu’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Yn ystod y Chweched Senedd, mae wedi arwain at dwf cyfatebol o 3.8% mewn cyllid o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, mae’r datblygiad o ran ehangu’r pwerau hyn wedi bod yn araf. Ond, gyda threthi ychwanegol newydd ar y bwrdd, bydd llunwyr polisi yn y Seithfed Senedd yn cael y cyfle i lywio taith datganoli cyllidol Cymru ymhellach.
Newid blaenoriaethau mewn cyllideb sy’n tyfu
Er bod cyllid cyffredinol wedi tyfu mewn termau real, mae’r ffordd y mae’r cyllid hwnnw’n cael ei ddyrannu wedi newid. Mae’r proffil gwariant ar draws adrannau yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 fel a ganlyn.
Ffigur 1: Cyfran gwariant o ddydd i ddydd ar draws adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Derfynol 2026-27

Ffynhonnell: Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru, Dadansoddi Cyllid Cymru, Ymchwil y Senedd
Cyllid Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r maes gwariant mwyaf yn gyson, ac mae’n cyfrif am dros hanner y gwariant o ddydd i ddydd yn 2026-27. O’r gwariant hwnnw, mae £12.1 biliwn yn cael ei wario ar ‘wasanaethau’r GIG’, cynnydd o 1.7% mewn termau real ers 2025-26. Mae hyn yn llawer arafach na’r cynnydd diweddar o 3.7% y flwyddyn rhwng 2019-20 a 2024-25, a’r cynnydd blynyddol cyfartalog hirdymor o 3.6% ers y 1950au.
Mae cyllid Tai a Llywodraeth Leol yn cyfrif am dros chwarter y gwariant o ddydd i ddydd, gyda’r mwyafrif, £6.6 biliwn, ar gyfer awdurdodau lleol, sy’n cynnwys cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol ac ysgolion. Cafodd cynnydd uwch ei weld mewn cyllid awdurdodau lleol na’r GIG yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cynnydd o 2.9% y flwyddyn ar gyfartaledd mewn termau real o 2024-25 i 202627.
Mae Dadansoddi Cyllid Cymru Prifysgol Caerdydd yn nodi bod dau Brif Grŵp Gwariant arall wedi gweld cynnydd mawr mewn cyllid dros dymor diwethaf y Senedd: ‘Trafnidiaeth’ ac ‘Yr Economi, Ynni a Chynllunio’. Rhwng 2024-25 a 2026-27, bydd cyllid ar gyfer trafnidiaeth wedi cynyddu mewn termau real 8.4% y flwyddyn. Mae hyn oherwydd cynnydd mewn taliadau contractiol rhwydwaith ffyrdd strategol, cymorth gwasanaethau rheilffyrdd (Trafnidiaeth Cymru) a chymorth gwasanaethau bysiau. Bydd cyllid yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cynyddu mewn termau real 7.5% y flwyddyn rhwng 2024-25 a 2025-26, ac yn bennaf mae’n adlewyrchu tanwariant gan Fanc Datblygu Cymru a’r gyllideb ynni gwyrdd.
Twf arafach a phenderfyniadau anoddach ar y gorwel
Mae cost llog dyled cynyddol y DU yn llywio’r amgylchedd cyllidol cyffredinol. Adroddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol fod gwariant llog dyled y DU yn 2025 yn fwy na dwbl nag yn 2022. Nododd y Sefydliad ymdrechion Llywodraeth y DU i sefydlogi dyled fel ffactor allweddol y tu ôl i gynlluniau gwariant tynnach yn y dyfodol ar gyfer gweinyddiaethau datganoledig.
Am weddill y cyfnod Adolygu Gwariant presennol (2027-28 a 2028-29), mae disgwyl i’r grant bloc craidd gynyddu 0.5% y flwyddyn ar gyfartaledd mewn termau real, gyda chynnydd ychydig yn uwch yn cael ei ragweld tan 2030-2031.
Mae’r Sefydliad yn nodi bod cynnydd sylweddol wedi’i weld mewn cyllid refeniw a chyfalaf termau real yn hanner cyntaf y 2020au, wedi’i sbarduno gan gyllid grant bloc, ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yn yr ail hanner, gwelir twf arafach mewn refeniw mewn termau real, a gostyngiad mewn cyfalaf. Mae Dadansoddi Cyllid Cymru yn nodi bod disgwyl i wariant cyfalaf ostwng mewn termau real erbyn 2029-30 ac mae’n nodi bod y rhagolygon yn edrych yn heriol i Lywodraeth nesaf Cymru.
Mae cynlluniau blaenorol Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer cynnydd mewn cyllid ar gyfer gweddill y degawd sy’n llawer is na’r cynnydd hanesyddol mewn gwariant ar iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol. Felly, oni bai bod y sefyllfa hon yn newid, bydd Llywodraeth newydd Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd i ddiogelu gwasanaethau allweddol.
Sut mae penderfyniadau gwariant y DU yn llywio cyllideb Cymru
Mae’r rheolau ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu wedi’u nodi yn Fframwaith Cyllidol 2016. Fel y trafodwyd uchod, daw’r rhan fwyaf o arian Llywodraeth Cymru drwy grant bloc Cymru, sy’n gysylltiedig â gwariant Llywodraeth y DU drwy Fformiwla Barnett.
Sut mae Fformiwla Barnett yn gweithio
Mae Fformiwla Barnett yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint o gyllideb y mae Llywodraeth Cymru yn ei chael o ganlyniad i wariant Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig, ac fe’i defnyddir hefyd i gyfrifo’r grant bloc.
Mae’n defnyddio’r newid blynyddol yng nghyllideb adran yn Llywodraeth y DU ac yn cymhwyso canran gymharol yn seiliedig ar y graddau y mae gwasanaethau’r adran honno wedi’u datganoli, mae hefyd yn ystyried poblogaeth gymharol Cymru.
Mae gan Gymru lawr grant bloc hefyd, wedi’i osod ar 115% i adlewyrchu anghenion mwy Cymru. Mae hyn wedi’i gynllunio fel y bydd Cymru’n cael o leiaf 15% yn fwy o gyllid fesul person na Lloegr. Ar hyn o bryd, mae cyllid i Gymru tua 20% yn uwch fesul person na Lloegr, sy’n golygu nad yw’r llawr grant bloc wedi’i sbarduno eto. O ganlyniad, mae ffactor dros dro yn seiliedig ar anghenion wedi’i osod ar 105%.
Ffigur 2: Esboniad o Fformiwla Barnett ar gyfer Cymru

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd
Mae ffactorau cymaroldeb yn cael eu hailgyfrifo a’u cyhoeddi yn Adolygiadau Gwariant y DU. Mae anghytundebau yn aml rhwng Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig ynghylch pa wariant y dylid ei ddosbarthu fel gwariant ‘cymharol’ â chyfrifoldebau datganoledig. Mae’r dosbarthiadau hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar faint o gyllid y mae Cymru’n ei gael drwy Fformiwla Barnett. Pan fydd gwariant yn cael ei ystyried i fod yn gymharol â chyfrifoldebau datganoledig, mae Cymru’n cael cyfran yn seiliedig ar y boblogaeth. Pan nad yw’n cael ei ystyried i fod yn gymharol, nid oes unrhyw arian canlyniadol yn dilyn.
Enghraifft sy’n codi’n aml yw cyllid ar gyfer rheilffordd HS2. Mae seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli i raddau helaeth yng Nghymru, ond mae
Llywodraeth y DU wedi dosbarthu HS2 fel prosiect ‘Cymru a Lloegr’, sy’n golygu nad oes arian canlyniadol Barnett i Lywodraeth Cymru. Mae holl bleidiau’r Chweched Senedd wedi herio’r dosbarthiad hwn ac wedi galw am i ‘gyfran deg’ o gyllid HS2 gael ei dyrannu i Gymru.
Mae’r anghydfodau hyn yn tynnu sylw at sut mae penderfyniadau a wneir ar lefel y DU yn cael goblygiadau ariannol i lywodraethau datganoledig. Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cael y dasg o feithrin cysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol i helpu i ddiogelu buddiannau ariannol a pholisi Cymru.
Man cychwyn anodd ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru
Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn etifeddu rhagolygon ariannol tynnach nag y mae’r Chweched Senedd wedi’u mwynhau. Mae twf arafach yn y grant bloc, cyllidebau cyfalaf sy’n gostwng a phwysau cynyddol mewn gwasanaethau allweddol yn golygu bod penderfyniadau anodd o’n blaenau.
Ar yr un pryd, mae pwerau treth datganoledig Cymru, a diwygiadau posibl i’r Fframwaith Cyllidol yn y dyfodol, yn cynnig cyfleoedd i lywio datblygiad y gyllideb.
Erthygl gan Peter Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru