Ffotograff o gi bach yn edrych ar y camera.

Ffotograff o gi bach yn edrych ar y camera.

Cyhoeddiad newydd: Bridio a gwerthu cŵn

Cyhoeddwyd 19/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/03/2021   |   Amser darllen munudau

Diweddarwyd y canllaw hwn ar ôl cyhoeddi rheoliadau newydd; y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Pe cânt eu pasio gan y Senedd, byddant yn gwahardd trydydd partïon rhag gwerthu cŵn bach a chathod bach.

Mae’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil:

  • Yn nodi'r rheoliadau ar ddiogelu lles anifeiliaid mewn sefydliadau bridio a gwerthu cŵn;
  • Yn archwilio manylion trefniadau trwyddedu newydd ar gyfer siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau gwerthu eraill;
  • Yn crynhoi ymatebion rhanddeiliaid i'r rheoliadau newydd, yn enwedig o ran mewnforio cŵn bach a chartrefi achub; ac
  • Yn disgrifio camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd, yn ogystal â'r darlun ledled y DU.

 

Erthygl gan Emily Tilby, Matthias Noebels a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Emily Tilby gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ac i Matthias Noebels gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a’i gwnaeth yn bosibl cwblhau’r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil.