Senedd Cymru

Senedd Cymru

Deddf Marchnad Fewnol y DU: Sut mae'n effeithio ar gyfraith Cymru?

Cyhoeddwyd 20/02/2023   |   Amser darllen munudau

Daeth Deddf Marchnad Fewnol y DU yn gyfraith yn 2020. Fe'i cyflwynwyd gan Lywodraeth y DU i reoleiddio 'marchnad fewnol' y DU ar ôl Brexit, ond arweiniodd at ddadlau ffyrnig am ei heffeithiau ar gyfraith ddatganoledig. Gwrthododd Senedd Cymru a Senedd yr Alban roi cydsyniad i’r Bil ond fe’i pasiwyd gan Senedd y DU.

Bydd yr erthygl hon yn edrych ar sut mae’r Ddeddf yn llywio deddfu yng Nghymru a ledled y DU, a’i heffaith ar sut mae Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn ystyried cyfreithiau y mae’n effeithio arnynt.

Sut mae’r Ddeddf yn effeithio ar gyfraith Cymru?

Mae Rhannau 1-3 o’r Ddeddf yn pennu’r rhagdybiaeth y dylai fod modd i nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol (yn gyffredinol) y gellir eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o’r DU gael eu gwerthu neu eu cydnabod mewn unrhyw ran arall o’r DU, waeth beth y mae’r gyfraith yn y rhan honno o’r DU yn ei ddweud.

Mae Rhan 1 o'r Ddeddf yn sefydlu “egwyddorion mynediad i’r farchnad” ar gyfer nwyddau. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os bydd y Senedd yn pasio deddf i wahardd neu reoleiddio cynnyrch penodol, dim ond ar rywbeth a gynhyrchir yng Nghymru neu a fewnforir yn uniongyrchol i Gymru o’r tu allan i’r DU y gellir gorfodi’r gyfraith honno. Nid oes rhaid i unrhyw beth sy’n dod i Gymru o ran arall o’r DU gydymffurfio â’r gyfraith hon os yw o fewn cwmpas Deddf Marchnad Fewnol y DU, oni bai ei fod wedi’i eithrio’n benodol.

Mae’r Ddeddf yn dweud bod gan nwydd neu wasanaeth sy’n bodloni’r gofynion cyfreithiol mewn un rhan o’r DU yr hawl i gael ei werthu yn unrhyw le arall yn y DU, a hynny yn rhydd o unrhyw gyfyngiadau a fyddai fel arall yn berthnasol i’r gwerthiant.

Rhaid gwahaniaethu’n amlwg yma yw nad yw’r Ddeddf yn effeithio ar allu’r Senedd i ddeddfu mewn meysydd datganoledig (ei chymhwysedd deddfwriaethol) ond mae yn effeithio ar effaith ymarferol y deddfau hynny unwaith y byddant mewn grym.

Yr effaith ar ddeddfwriaeth y Senedd

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ill dau wedi dadlau bod y Ddeddf yn cael effaith ymarferol ar ddau ddarn o ddeddfwriaeth y Senedd sydd wedi’u trafod yn ystod y misoedd diwethaf, sef: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). a Bil Amaethyddiaeth (Cymru).

Byddai un o'r darpariaethau ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru) yn caniatáu i Weinidogion Cymru greu safonau marchnata ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a werthir yng Nghymru. Byddai cynhyrchion sy’n bodloni’r safonau marchnata mewn rhannau eraill o’r DU yn gallu cael eu gwerthu yng Nghymru o hyd, a hynny hyd yn oed pe bai Gweinidogion Cymru yn cyflwyno safonau gwahanol i Gymru.

Yn yr un modd, mae Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn gwahardd gwerthu bagiau siopa untro a phlastigau ocso-ddiraddadwy, ond mae'r rhain yn cael eu gwerthu'n gyfreithlon o hyd i ddefnyddwyr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd modd gwerthu’r eitemau hyn o hyd i ddefnyddwyr yng Nghymru o ran arall o'r DU, er na fydd cyflenwyr yng Nghymru yn cael eu gwerthu i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu safbwynt gwahanol i Bwyllgorau’r Senedd ynghylch effaith Deddf Marchnad Fewnol y DU ar y Biliau hyn. Er enghraifft, mae’n dweud bod Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) “yn gwbl effeithiol ac yn orfodadwy”. Ei barn yw nad yw Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 yn torri ar draws cymhwysedd y Senedd i ddeddfu mewn perthynas â materion nad ydynt wedi’u cadw’n ôl, a’i bod yn methu gwneud hynny ac na all “gadw materion yn ôl drwy’r drws cefn”.

Deddfwriaeth o rannau eraill o'r DU

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mae’n ymddangos bod y safbwynt hwn yn wahanol i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi dehongli’r effaith y bydd cyfraith newydd ar gyfer Lloegr yn ei chael yng Nghymru.

Mae'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) yn ddeddfwriaeth Senedd y DU sy’n ymwneud â Lloegr yn unig. Mae'n ceisio tynnu planhigion ac anifeiliaid a gynhyrchir gan ddefnyddio technoleg golygu genynnau (a elwir yn organebau wedi’u bridio’n fanwl) o’r rheoliadau cyfredol ar gyfer organebau a addaswyd yn enetig.

Bydd y Bil yn creu amgylcheddau rheoleiddio gwahanol yng Nghymru a Lloegr, yn union fel y mae deddfwriaeth Cymru ar amaethyddiaeth a phlastigau untro yn ei wneud, ond mae Llywodraeth Cymru’n dehongli hyn yn wahanol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai gan y Bil hwn “oblygiadau sylweddol” i Gymru oherwydd Deddf Marchnad Fewnol y DU. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil yn dweud:

bydd y darpariaethau yn y Bil, i bob pwrpas, yn caniatáu gwerthu a marchnata organebau wedi'u bridio'n fanwl yng Nghymru – rhywbeth nad yw deddfwriaeth Cymru yn ei ganiatáu ar hyn o bryd

Wrth gyflwyno’r cynnig yn y Siambr, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull cyson mewn perthynas â’r Bil hwn a’r ddeddfwriaeth plastig untro, ac ychwanegodd:

Pan fo'r Senedd yn deddfu, maen nhw'n gwneud hynny'n rhydd o UKIMA, felly gellir gwneud deddfwriaeth Senedd sylfaenol mewn maes datganoledig yn rhydd o ofynion UKIMA. Mae hyn yn golygu y gallai'r Senedd gywiro safbwynt y Bil hwn drwy wneud deddfwriaeth sylfaenol newydd yma yng Nghymru.

Ond nid yw'n ymddangos bod hyn yn gyson â Deddf Marchnad Fewnol y DU, sy’n nodi mai dim ond gofynion a oedd ar waith cyn i’r Ddeddf ddod i rym (31 Rhagfyr 2020) sydd heb eu newid yn sylweddol sy’n gallu cael eu hesemptio fel hyn.

Felly pa effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael mewn gwirionedd?

Felly, beth yw effaith wirioneddol Deddf Marchnad Fewnol y DU? A oes modd cymryd y ddau safbwynt hyn ar yr un pryd? Roedd Llywodraeth Cymru wedi ceisio ateb rhai o'r cwestiynau hyn drwy her gyfreithiol i'r Ddeddf. Roedd yr her hon yn aflwyddiannus yn y pen draw oherwydd bod y llysoedd wedi dweud ei bod yn gynamserol heb ddarn o ddeddfwriaeth Senedd i’w brofi yn ei herbyn.

Roedd Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) i yn achos prawf o’r fath i ddechrau, ond fe wnaeth dyfarniad y Goruchaf Lys gau y llwybr’ i’w ddefnyddio fel rhan o'r her gyfreithiol barhaus.

Ar ôl i’r Bil fynd drwy’r Senedd, penderfynodd y Cwnsler Cyffredinol beidio â chyfeirio’r Bil at y Goruchaf Lys i brofi a yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Felly am y tro, nid oes cytundeb o hyd ynghylch pryd mae Deddf Marchnad Fewnol y DU yn effeithio ar gyfraith Cymru, a phryd nad yw'n effeithio arni.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru