Y Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd

Cyhoeddwyd 15/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/01/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd y Senedd yn rhoi cyfle i ymchwilwyr academaidd weithio gyda’r Senedd ar brosiect penodol.

Gall ymchwilwyr weithio ar brosiect ymchwil a gynigir gan y Senedd drwy ‘alwadau cyfeiriedig’ neu gynnig prosiectau eu hunain drwy ‘alwad agored’. Gall hyn gynnwys ymchwilio i’r Senedd ei hun neu lunio gwaith ymchwil i’w ddefnyddio gan Aelodau o’r Senedd.

Mae’r cymrodoriaethau yn agored i ymchwilwyr academaidd sydd â doethuriaeth ac sydd wedi’u cyflogi gan sefydliad addysg uwch yng Nghymru neu rywle arall yn y DU.

Fel arfer, caiff cymrodorion eu cyllido drwy eu sefydliadau eu hunain, naill ai drwy gyllid ymchwil presennol neu drwy ddyraniad cytunedig o’u hamser ymchwil. Mae’n bosibl y bydd y Senedd yn darparu symiau bychain o gyllid cyfatebol mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch ddarllen rhagor am y profiad o fod yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn yr erthygl hon gan Dr David Dallimore o Brifysgol Bangor.

 

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael gwybodaeth am gyfleoedd cymrodoriaethau yn y dyfodol.