Mae blaenoriaethau ar gyfer defnydd tir gwledig yn debygol o fod yn faes brwydr polisi. Ffermio, cadwraeth, coedwigaeth, mynediad i’r cyhoedd a chynhyrchu ynni yw rhai o’r materion y bydd angen i lunwyr polisïau fynd i’r afael â nhw yn y Seithfed Senedd.
Mae Cymru yn wlad o fynyddoedd dramatig, dyffrynnoedd dwfn, a bryniau gwyrddion tonnog.
Mae’r dirwedd wledig dros ben hon wedi helpu i lywio sut mae’r byd yn ein gweld ni, a sut rydym ni’n gweld ein hunain. Ond mae’r rhan fwyaf ohonom yn byw mewn trefi a dinasoedd, ac mae blaenoriaethau’r etholwyr hynny yn dueddol o fod yn rhai trefol.
Mae polisïau’r Llywodraeth ar sut rydym yn defnyddio ein tir gwledig yn cael effaith ddofn ar y rhai sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad, er mai cyfran fach o’r pleidleiswyr ydynt.
Er bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi pwysleisio polisi o ‘gyd-ddylunio’, gwelodd y Chweched Senedd enghreifftiau o gymunedau gwledig yn gwthio’n ôl yn erbyn polisïau sy’n cael eu llywio o Gaerdydd.
Mae ffermio yn hanfodol
Mae dros 90% o Gymru yn dir fferm. Mae’r hinsawdd a natur y tir yn golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer magu defaid a gwartheg. Roedd Gwerth Ychwanegol Gros Amaethyddiaeth yn £709 miliwn yn 2023, sef 0.87% o gyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros Cymru.
Ond mae polisi amaethyddol yn cael effaith sylweddol ar gymunedau gwledig, diwylliant a’r economi wledig ehangach, yn ogystal ag ar gynhyrchu bwyd a’r amgylchedd.
Er enghraifft, mae’r ganran o siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth yn arbennig o uchel o’i chymharu â sectorau eraill, sy’n gwneud y diwydiant yn bwysig o ran cynnal cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith.
Cafodd Cynllun Ffermio Cynaliadwy blaenllaw Llywodraeth flaenorol Cymru ei lansio ym mis Ionawr, ar ôl blynyddoedd o ddatblygu cymhleth, gan gynnwys protestiadau gan ffermwyr. Mae’r sector yn awyddus i weld a fydd Llywodraeth newydd Cymru yn adolygu’r cynllun.
Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw cyflawni pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy sy’n mynd i’r afael â chynhyrchu bwyd, newid hinsawdd, gwydnwch ecosystemau, diwylliant gwledig a’r Gymraeg.
Mae cydbwyso’r amcanion hyn wedi bod yn ddadleuol. Roedd ffermwyr yn pryderu y gallai agweddau amgylcheddol (fel gofynion plannu coed) gymryd gormod o dir allan o gynhyrchiant. Dadleuodd Llywodraeth flaenorol Cymru fod rheoli’r amgylchedd yn gwella cynhyrchiant bwyd cynaliadwy.
Mae camau ‘Cyffredinol’ y cynllun wedi cael eu cyflwyno, ond mae’r haenau ‘Opsiynol’ a ‘Chydweithredol’ nad ydynt yn orfodol, ond gyda’r disgwyliad y byddent yn sicrhau canlyniadau mwy uchelgeisiol, yn dal i gael eu datblygu.
Mae amgylcheddwyr yn pwysleisio bod angen cyllid digonol ar gyfer yr haenau hyn er mwyn gwella’r amgylchedd. Yn ôl ffermwyr, mae angen hwb sylweddol i’r gyllideb a gwarant ariannol tymor hwy er mwyn cyflawni amcanion y cynllun.
Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ddewisol ac mae’n rhan o dirwedd reoleiddio ehangach. Mae rheolau i reoli llygredd amaethyddol wedi bod yn ddadleuol oherwydd pryderon am y gost i ffermwyr a chyfyngiadau ar daenu gwrtaith. Mae adolygiad statudol diweddar yn cynnwys argymhellion i’w hystyried yn ystod y Seithfed Senedd.
Ffigur 1: Map o ddefnydd tir

Ffigur 2: Map o ardaloedd gwledig a threfol

Dyfodol ffermio
Bydd dyfodol ffermio yn cael ei lunio gan gyfuniad o dargedau amgylcheddol, pwysau’r farchnad a pholisi defnydd tir sy’n esblygu, gan arwain at fwy o arallgyfeirio.
Mae gostyngiad cyffredinol yn niferoedd da byw yn bryder i broseswyr cig coch, ond mae ffermwyr yn ehangu i feysydd sy’n cynnwys dofednod, ynni adnewyddadwy, amaeth-dwristiaeth a chynhyrchu bwyd gwerth ychwanegol er mwyn sefydlogi incwm.
Mae garddwriaeth yn cael sylw o’r newydd fel ffordd o gynyddu’r cyflenwad domestig o ffrwythau a llysiau er mwyn gwella diogelwch bwyd a hyrwyddo deietau iachach.
Mae diogelu priddoedd ffrwythlon rhag datblygiadau hefyd wedi cael ei amlygu yn ystod y Chweched Senedd.
Ffigur 3: Niferoedd da byw yng Nghymru, 2004-2025

*Caiff maint y fuches laeth a chig eidion ei ddiffinio fel nifer y benywod 2 oed a hŷn sydd wedi lloia.
Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Lle i natur
Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn anelu at neilltuo tir ar gyfer natur trwy uchelgeisiau i wella ac ehangu’r rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig. Mae amgylcheddwyr yn pwysleisio bod cyflwr y rhwydwaith yn ei gwneud hi’n anodd i Gymru gyrraedd ei hymrwymiadau bioamrywiaeth byd-eang erbyn 2030.
Mae mentrau ailwylltio, sy’n aml yn destun dadl frwd mewn cymunedau gwledig, yn anelu at gefnogi gwaith adfer natur ar raddfa fawr. Mae prosiect ailwylltio sylweddol ar y gweill yng Ngheredigion.
Mae erthygl arall yn y gyfres hon yn trafod ystyriaethau natur a hinsawdd.
Hawl y cyhoedd i fwynhau cefn gwlad
Mae galw cynyddol gan y cyhoedd am hamdden awyr agored wedi ysgogi galwadau i wella hawliau tramwy cyhoeddus, ac i ehangu hawliau ar gyfer gweithgareddau fel beicio a marchogaeth. Er eu bod yn cefnogi twristiaeth, yr economi leol a llesiant, rhaid cydbwyso’r hawliau hyn yn erbyn diogelu’r amgylchedd a hawliau perchnogion tir.
Gyda’i gilydd, mae Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol yn gorchuddio 25% o Gymru. Gan fod ganddynt nifer o ddibenion, mae gofyn iddynt gyflawni amcanion sydd weithiau’n gwrthdaro, ar gyfer pobl sydd â blaenoriaethau gwahanol.
Ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Er bod safbwyntiau ar y cynnig yn gymysg, nid oes yr un o’r pum awdurdod lleol y mae’r cynnig yn effeithio arnynt yn cefnogi’r dynodiad.
Yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus, bydd angen i’r llywodraeth newydd benderfynu a ddylai’r dynodiad symud ymlaen ai peidio.
Mae angen i Gymru blannu mwy o goed
Mae coetiroedd yn dod â manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.
Nod Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren 2025 Llywodraeth flaenorol Cymru yw cynyddu’r cyflenwad pren ac ychwanegu gwerth at bren sy’n cael ei dyfu yng Nghymru.
Ond mae cyfraddau plannu coed ymhell o dan darged Llywodraeth flaenorol Cymru, a osodwyd yn 2021 — sef 43,000 hectar (ha) o blannu coed newydd erbyn 2030, a 180,000 ha erbyn 2050. Mae’r targedau hyn yn seiliedig ar gyngor Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd. Dim ond 3,700 ha sydd wedi’u plannu ers 2020.
Yn fwy diweddar, nododd cyngor Pedwaredd Gyllideb Garbon Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd lwybr cytbwys a fyddai’n arwain at greu 22,000 ha o goetir newydd erbyn 2030 – llai na hanner targed Llywodraeth flaenorol Cymru – ond o dan y llwybr hwn byddai 208,000 ha yn cael eu cyflawni erbyn 2050.
Er bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi gosod y lefel gostwng allyriadau carbon ar y lefel a gafodd ei argymell gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, bydd adolygu targedau plannu coed yn benderfyniad i’r llywodraeth newydd.
Trwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn anelu at 17,000–21,500 ha o blannu newydd erbyn 2030, yn bennaf trwy gymhellion dewisol.
Hyd yn oed pe bai’n cael ei gyflawni, ni fyddai dyhead y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ond yn cyflawni hanner yr hyn sydd ei angen i Gymru gyrraedd y targed presennol.
Ffigur 4: Targedau a llwybrau plannu coed, 2020-2050

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata gan: Llywodraeth Cymru (coedwigaeth); Forest Research; Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd; Llywodraeth Cymru (amaethyddiaeth)
Mae menter y Goedwig Genedlaethol hefyd yn anelu at ehangu ac adfer coetiroedd, trwy sefydlu coedwig sy’n ymestyn ar draws “hyd a lled Cymru”.
Er hynny, gall plannu coed ar raddfa fawr fod yn ddadleuol, ac mae pryderon wedi bod mewn cymunedau gwledig am gorfforaethau sy’n cynnig mwy o arian na theuluoedd lleol i brynu ffermydd er mwyn plannu coed i wrthbwyso carbon.
Cefn gwlad fel pwerdy Cymru
Nod Llywodraeth flaenorol Cymru oedd i Gymru gynhyrchu cyfwerth â 100% o’i hanghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
Mae’r polisi cynllunio cenedlaethol, a nodir yn Cymru’r Dyfodol, yn cefnogi datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel. Mae rhagdybiaeth o blaid datblygiadau ynni gwynt ar raddfa fawr mewn ‘Ardaloedd wedi’u rhag-asesu ar gyfer Ynni’r Gwynt’ ledled cefn gwlad Cymru, a chafodd proses newydd ei chyflwyno yn 2025 i symleiddio caniatâd seilwaith.
Daeth gwaith monitro diweddar i’r casgliad bod Cymru’r Dyfodol yn darparu sylfaen ofodol genedlaethol gadarn ac nad oedd angen adolygiad brys.
Mae’r graddau y mae cymunedau’n teimlo bod ganddynt lais ystyrlon ar brosiectau seilwaith mawr yn fater parhaus, yn ogystal â’r budd cymunedol sy’n deillio o’r prosiectau unwaith y byddant yn weithredol.
Gall cymunedau deimlo wedi’u digalonni rhag cymryd rhan mewn ymgynghoriadau oherwydd cymhlethdod prosiectau, blinder ymgynghori, neu dybiaeth bod y datblygiad eisoes yn benderfyniad terfynol. Dadleuodd Llywodraeth flaenorol Cymru fod y broses ganiatâd newydd yn gwella ymgynghori cymunedol.
Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn disgwyl i brosiectau ynni adnewyddadwy newydd gynnwys o leiaf elfen o berchnogaeth leol, gyda nod o gael 1.5 gigawat o allu cynhyrchu sy’n eiddo i bobl leol erbyn 2035. Sefydlwyd Ynni Cymru i gynyddu nifer y prosiectau sy’n eiddo i bobl leol.
Gall effaith llinellau trawsyrru trydan a pheilonau newydd ar y dirwedd hefyd fod yn destun pryder. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru am i linellau newydd gael eu gosod o dan y ddaear lle bo hynny’n bosibl, gan gydnabod nad yw hynny bob amser yn hyfyw yn economaidd. Lle nad yw’n bosibl eu gosod o dan y ddaear, dylid lleihau’r effaith weledol cymaint â phosibl.
Bydd trafodaethau ynghylch cydbwyso’r gofynion cystadleuol ar sut y caiff tir gwledig ei ddefnyddio yn parhau ymhell y tu hwnt i dymor un Senedd. Eto
i gyd, bydd pawb sy’n ymwneud â chefn gwlad yn disgwyl yn eiddgar at y Seithfed Senedd, yn enwedig y cymunedau hynny sy’n byw yn ein hardaloedd gwledig.
Erthygl gan Elfyn Henderson a Dr Katy Orford Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru