Mae mewnfudo yn bwnc sy'n denu llawer o sylw gan y cyhoedd, ac yn aml bydd yn arwain at safbwyntiau gwahanol ynghylch a yw'r niferoedd yn rhy fawr ai peidio, ac a gaiff mewnfudo effaith dda neu effaith ddrwg ar gymdeithas yng Nghymru. Mae rhan fawr o'r drafodaeth gyhoeddus yn defnyddio ffigurau’r DU drwyddi draw nad ydynt yn adrodd y stori lawn am newid o ran y boblogaeth yng Nghymru.
Poblogaeth Cymru a mudo rhyngwladol
Daw pobl i Gymru am nifer o resymau gwahanol gan gynnwys gwaith, bywyd teuluol, addysg neu ddiogelwch. Mae'r symudiadau hyn yn dylanwadu ar economi, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau Cymru. Mae’r rhan fwyaf o'r penderfyniadau sy’n ymwneud â pholisi mewnfudo yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU, a hi sy’n gosod y rheolau ynghylch pwy all ddod i'r DU, am ba mor hir ac o dan ba amodau. Gall y penderfyniadau hyn gael effaith sylweddol yng Nghymru, er enghraifft y penderfyniad diweddar i ddod â recriwtio gweithwyr gofal rhyngwladol i ben.
Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, sy’n gyfrifol am feysydd polisi sy’n gysylltiedig â mewnfudo, gan gynnwys datblygu economaidd, integreiddio, tai, addysg, iechyd a chydlyniant cymdeithasol – ac mae ganddi rôl yn sicrhau bod gan y rhai sy'n dod i Gymru y cyfle i ymgartrefu, i gyfrannu at yr economi ac at y gymdeithas yng Nghymru.
Yn ogystal â gwneud penderfyniadau polisi, mae Llywodraeth y DU hefyd yn gyfrifol am gasglu llawer o ffynonellau data ar fewnfudo, ac mewn rhai achosion mae hyn wedi arwain at ddiffyg data ar wahân ar gyfer Cymru. Gall hyn arwain at anawsterau wrth gyflwyno'r stori a'r ffeithiau llawn am fewnfudo yng Nghymru.
Pobl a gafodd eu geni y tu allan i'r DU
Roedd Cyfrifiad 2021 yn dangos bod 215,000 o breswylwyr arferol wedi’u geni y tu allan i’r DU. Mae hyn yn gynnydd o 28.3% (48,000) ers Cyfrifiad 2011. Yn Lloegr, mae'r ffigur hwn wedi codi 33.6% (2.5 miliwn). O holl wledydd a rhanbarthau'r DU, dim ond un (sef gogledd-ddwyrain Lloegr gyda 6.8%) oedd â chyfran is na Chymru o'i phoblogaeth wedi'u geni dramor (6.9%).
Ffigur 1: Canran a niferoedd o’r boblogaeth yng Nghymru a gafodd eu geni y tu allan i'r DU, fesul ardal awdurdod lleol

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Gwlad Enedigol, Cyfrifiad 2021
Mudo net
Mudo net yw'r mesur o'r llif net o bobl i mewn i wlad neu allan ohoni a dyma'r prif ystadegyn a ddefnyddir i ddangos effaith gyffredinol mewnfudo (y rhai sy'n cyrraedd) ac allfudo (y rhai sy'n gadael) unrhyw wlad. Y ffigur hwn sy’n aml yn ymddangos ar y cyfryngau. Mae datganiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y DU yn dangos bod mudo net rhyngwladol hirdymor yn 171,000 yn y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2025, ac mae bron wedi haneru o'r flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2024. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn priodoli'r gostyngiad i lai o ddinasyddion nad ydynt o'r UE yn cyrraedd am resymau sy'n gysylltiedig â gwaith.
Yng Nghymru, mae’r data diweddaraf yn dangos, yn y flwyddyn hyd at ganol 2024, bod mewnfudo rhyngwladol i Gymru wedi lleihau bron i chwarter o'i gymharu â'r flwyddyn hyd at ganol 2023, i 22,680.
Ffigur 2: Mudo mewnol net (symud rhwng awdurdodau lleol yn y DU) a mudo rhyngwladol net (symud rhwng Cymru a gwledydd eraill y byd y tu allan i’r DU) yng Nghymru rhwng canol 2012 a chanol 2024

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Dadansoddiad o’r offeryn amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU, 2024, rhifyn Cymru a Lloegr o’r gyfres ddata hon
Ffigur 3: Mudo rhyngwladol net, fesul ardal awdurdod lleol; 2023 i 2024

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr: canol 2024, Proffiliau poblogaeth ar gyfer ardaloedd lleol
Dod i Gymru i weithio
|
Mae fisâu gwaith yn caniatáu i bobl o'r tu allan i'r DU wneud gwaith â thâl yn y DU. Llywodraeth y DU sy’n rheoli’r polisi ar fisâu gwaith (hynny yw, pwy sy'n eu cael a'r amodau, fel hyd a math o gyflogaeth) ac sy’n gyfrifol am eu rhoi. Mae sawl cynllun fisa sy'n caniatáu i bobl ddod i weithio yn y DU. |
Fisâu gwaith
Y fisa Gweithiwr Crefftus, fel y mae’n cael ei alw, yw prif lwybr mewnfudo y DU sy'n caniatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion y DU ddod i'r DU neu aros yma i wneud swydd grefftus gymwys i gyflogwr sydd wedi’i gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref. Yn ogystal â bodloni gofynion cymhwysedd, ers mis Gorffennaf 2025, bydd angen i rai ymgeiswyr am y Fisa Gweithiwr Crefftus cyffredinol fod wedi cael cynnig cyflogaeth â chyflog o o leiaf £41,700 y flwyddyn neu'r gyfradd gyfredol berthnasol ar gyfer yr alwedigaeth. Ers Ebrill 2025 mae cyfran yr oedolion sy'n gweithio'n llawn amser (yn Sectorau Strategaeth Ddiwydiannol y DU (UKIS)) a enillodd o leiaf y swm hwnnw yn is yng Nghymru o'i gymharu â'r DU (36.3% o'i gymharu â 44.6%).
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026 roedd 252,775 o fisâu wedi’u rhoi (gan gynnwys fisâu i ddibynyddion) ym mhob categori gwaith (rhoddwyd 166,576 i brif ymgeiswyr ac 86,199 i ddibynyddion). Mae hyn 59% yn llai nag yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023 pan gyrhaeddodd nifer y fisâu gwaith eu nifer uchaf.
Nid yw'r Swyddfa Gartref yn dadansoddi fisâu ar gyfer llwybrau penodol (er enghraifft, fisa gweithiwr crefftus) fesul gwlad yn y DU, felly nid oes data ar wahân ar gyfer Cymru. Mae un o bwyllgorau Senedd y DU wedi galw ar y Swyddfa Gartref i wella ei dealltwriaeth o brinder sgiliau a lefelau cyflog ar draws y gwledydd datganoledig, er mwyn deall sut mae'r llwybr hwn yn gweithio ledled y DU.
Gweithio yng Nghymru
Mae rhai ffynonellau data ar gael ynghylch pwy sy'n dod i Gymru i weithio. Mae’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn dangos, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2025, bod 146,100 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru a oedd yn 16 mlwydd oed a hŷn wedi'u geni y tu allan i'r DU. Fodd bynnag, nid yw man geni yn arwydd o statws mewnfudo.
Ffigur 4: Nifer y bobl 16-64 mlwydd oed mewn cyflogaeth yng |Nghymru a gafodd eu geni y tu allan i'r DU

Ffynhonnell: Stats Cymru, Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: unigolion yng Nghymru mewn gwaith yn ôl gwlad enedigol a blwyddyn
Rhoddir Rhif Yswiriant Gwladol i unrhyw un sy'n gweithio yn y DU, gan gynnwys i'r rhai sy'n mudo i'r DU dros dro. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026, roedd yna 10,906 o Rifau Yswiriant Gwladol newydd wedi'u cofrestru i oedolion nad ydynt yn ddinasyddion y DU yng Nghymru, sef lleihad o 18.6% o'r rhai a gofrestrwyd y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’n bosibl nad yw unigolyn sydd wedi cael Rhif Yswiriant Gwladol yng Nghymru mwyach, efallai ei fod wedi gadael y DU yn gyfan gwbl, neu efallai nad yw'n gweithio ar hyn o bryd.
Ffigur 5: Nifer y dyraniadau Yswiriant Gwladol i ddinasyddion tramor sy'n oedolion sy'n dod i mewn i Gymru

Ffynhonnell: Stat-Xplore, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cofrestriadau am rifau Yswiriant Gwladol
Astudio yng Nghymru
|
Rhaid i'r rhai sy'n dymuno astudio yn y DU wneud cais am fisa astudio a noddir gan ddarparwr addysg trwyddedig. |
Yn y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2026, rhoddwyd 409,954 o grantiau fisâu astudio noddedig i fyfyrwyr rhyngwladol yn y DU – 37% yn llai na'r uchafswm yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023.
Nid oes data ar fisâu myfyrwyr ar gael ar gyfer Cymru. Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), fodd bynnag, yn cyhoeddi data o ran o ble mae myfyrwyr addysg uwch Cymru yn dod. Yn y flwyddyn academaidd 2024/25 roedd 20,935 o fyfyrwyr rhyngwladol wedi cofrestru gan ddarparwr Addysg Uwch yng Nghymru, sef gostyngiad o 24.7% ar y ffigurau (27,795) ar gyfer 2023-24.
Edrychir ar y mater hwn yn fanylach yn ein herthygl ar addysg uwch.
Ffigur 6: Nifer y myfyrwyr Addysg Uwch sydd wedi cofrestru gyda darparwr Addysg Uwch yng Nghymru

Ffynhonnell: HESA, Cofrestriadau myfyrwyr Addysg Uwch yn ôl cyfeiriad parhaol
Ceisio diogelwch dyngarol
Ceiswyr lloches
|
Darperir llety i geiswyr lloches ar sail ‘dim dewis’ fel na allant ddewis ble yn y DU y byddant yn byw. Fodd bynnag, bydd y Swyddfa Gartref yn ystyried ceisiadau unigol i gael eu lletya mewn ardal benodol mewn amgylchiadau eithriadol. |
Bydd ceiswyr lloches sy'n cael cymorth yn cael eu rhoi mewn llety dros dro sy’n cael ei reoli gan ddarparwyr tai ar ran y Swyddfa Gartref. Gall ceisiwr lloches sydd wedi trefnu ei lety ei hun wneud cais am gymorth ariannol (cynhaliaeth) yn unig.
Mae’r data diweddaraf (ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026) yn dangos bod 3,391 o geiswyr lloches yn derbyn cymorth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rhai mewn llety cychwynnol, mewn llety dros do, mewn llety gwasgaru a'r rhai sy'n derbyn cynhaliaeth yn unig.
Ffoaduriaid
|
Mae yna rai llwybrau 'diogel a chyfreithlon' cyfyngedig i ddod i mewn i'r DU am resymau dyngarol. Mae'r llwybrau hyn yn drefniadau mewnfudo wedi’u hawdurdodi sy'n galluogi person i symud i wlad arall am resymau dyngarol. |
Mae cynlluniau adsefydlu yn cynnwys y Cynllun adsefydlu'r DU, y Cynllun Adsefydlu Mandadol a’r cynllun nawdd cymunedol sydd ar gael i bobl sydd wedi'u cydnabod fel ffoaduriaid gan y Cenhedloedd Unedig.
Comisiynydd dros Ffoaduriaid. Mae llwybrau penodol i genhedloedd hefyd wedi'u sefydlu gan Lywodraeth y DU ar gyfer Affganiaid, Wcrainiaid a phobl o Hong Kong.
Ffigur 7: Nifer y bobl a gyrhaeddodd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin - heb gynnwys uwch-noddwyr, Rhaglen Adsefydlu a lloches â Chymorth Afghanistan, fesul awdurdod lleol, 31 Mawrth 2026

Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Data awdurdodau rhanbarthol ac awdurdodau lleol ar grwpiau mewnfudo, yn y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Mawrth 2026
Er bod data ar geiswyr lloches sy'n cael cymorth, a rhywfaint o ddata ar gynlluniau adsefydlu, mae bylchau o ran y data. Er enghraifft, does dim data ar gael ar nifer y deiliaid statws Dinasyddion Prydeinig (Tramor) o Hong Kong sy'n cyrraedd Cymru - er y rhoddwyd 186,319 o fisâu ers i'r cynllun ddechrau yn 2021.
Llywio polisi, a'r angen am ddata gwell
Bydd mewnfudo yn parhau i gael ei llunio'n bennaf gan benderfyniadau Llywodraeth y DU ynghylch pwy all ddod i'r DU ac o dan ba amodau. Ac eto, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am lawer o'r gwasanaethau a'r systemau sy'n effeithio ar bobl ar ôl iddynt gyrraedd - o’r maes iechyd i addysg, o integreiddio i gydlyniant cymunedol.
Heb ddata cyson a phenodol i Gymru, mae'n anodd deall yn iawn faint o bobl sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt drwy waith, astudio neu lwybrau noddfa. Yn absenoldeb y dystiolaeth hon, mae trafodaethau mewn perygl o gael eu llywio gan ganfyddiad yn hytrach na’r realiti.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru