Yn y cyntaf o'n dwy erthygl sy'n cefnogi'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Yr Economi Werdd, yn y Cyfarfod Llawn, gwnaethom drafod datgarboneiddio'r economi. Nawr, yn ein hail erthygl, byddwn yn trafod beth yw sgiliau gwyrdd a pha heriau cysylltiedig sy'n bresennol yng Nghymru.
Beth yw sgiliau gwyrdd?
Yn ystod y gwaith craffu, dywedodd amryw o randdeiliaid wrth y pwyllgor fod rhywfaint o ddryswch ynghylch beth a olygir gan 'sgiliau gwyrdd'.
Pwysleisiodd cynrychiolwyr o ColegauCymru bwysigrwydd cyfleu beth mae'r term hwn yn ei olygu. Awgrymwyd y gall fod heriau wrth gyfleu potensial sgiliau gwyrdd i bobl ifanc pan nad ydynt yn gyfarwydd â'r hyn y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol.
Er bod amryw o ddiffiniadau o 'sgiliau gwyrdd', mae adroddiad diweddar gan Capgemini yn 2025 'Youth Perspectives on Climate: Preparing for a sustainable future' yn amlinellu'r enghraifft a ddefnyddiodd ar gyfer ei astudiaeth:
The things young people learn to help our planet and protect the environment. They are skills that help people take care of nature, stop pollution, and use resources wisely.
Codwyd dryswch ynghylch y term hefyd yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ym mis Mawrth 2024 gan Weinidog yr Economi ar y pryd, Vaughan Gething:
…we need to stop talking about green skills, but to talk about skills to take us to a net-zero economy or to meet the climate challenge in a way that doesn’t get us into just talking about green skills, because so much evidence from sectors was that they thought that green skills were about working with the environment or recycling projects…
Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio'r term 'sgiliau sero net'. Er, fel y nodwyd yn 'Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net', mae'r dryswch ynghylch beth yw swyddi gwyrdd/sero net yn creu'r angen am ddealltwriaeth gyffredin o sgiliau sero net.
Gan gydnabod nad oedd diffiniad a dderbynnir yn gyffredinol o sgiliau sero net, cynigiodd Llywodraeth Cymru ddiffiniad yn ei hymgynghoriad ar sgiliau sector sero net:
Term ymbarél sy'n cyfeirio at sgiliau, cymwyseddau a gwybodaeth mewn cyflogaeth sy'n cefnogi ein trosglwyddiad i economi sero net. Gall hyn ymwneud â phob sector, sefydliad a diwydiant, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar eu llwybr at sero net
Tra bod ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn dangos cytundeb cyffredinol ar yr ystod o sgiliau a geir yn y diffiniad, roedd rhai pryderon, gan gynnwys diffyg manylder neu enghreifftiau o ba sgiliau sydd wedi'u cynnwys.
Er nad yw'r naill ddiffiniad uchod yn cynnwys enghreifftiau, mae adroddiad Capgemini yn rhestru nifer o 'sgiliau gwyrdd caled', yn ogystal â 'sgiliau meddal sy'n hanfodol ar gyfer gyrfaoedd cynaliadwyedd'. Cyfeiriodd Capgemini at y sgiliau gwyrdd caled a ganlyn:
- dylunio cynaliadwy
- ynni cynaliadwy
- trafnidiaeth gynaliadwy
- polisi amgylcheddol
- cadwraeth dŵr
- newid hinsawdd
- ailgylchu/lleihau gwastraff
- arferion defnyddwyr sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd
- arbed ynni
- amaethyddiaeth gynaliadwy
- technolegau hinsawdd
- dadansoddi data
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ac mae rhagor o enghreifftiau o sgiliau gwyrdd wedi'u rhestru mewn mannau eraill, fel gwefan Gyrfa Cymru:
- Sgiliau technegol i osod systemau ynni adnewyddadwy
- Sgiliau adeiladu sydd eu hangen i adeiladu neu atgyweirio adeiladau a chartrefi cynaliadwy
- Sgiliau creadigol i ddylunio cynhyrchion sydd â llai o effaith ar yr amgylchedd
- Sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i addysgu neu annog pobl i ailgylchu
Polisi Llywodraeth Cymru
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sgiliau gwyrdd wedi dod yn nodwedd gynyddol o fewn polisi a chyllid Llywodraeth Cymru.
Yn 2023, lansiodd ei hymgynghoriad sgiliau sector sero net i ddeall safbwyntiau ar y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r newid i sero net ar gyfer pob sector allyriadau yng Nghymru. Mae adborth a map ffyrdd yr ymgynghoriad hwn wedi cael eu cyhoeddi ers hynny ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae un o flaenoriaethau 2024 Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cyfeirio’n ymhlyg at sgiliau gwyrdd, “creu swyddi gwyrdd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur, gan sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill; a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru”.
Yn fwy diweddar, cynyddodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, y buddsoddiad yn y Rhaglen Sgiliau Hyblyg o £1.3 miliwn y flwyddyn i dros £7.5 miliwn. Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid grant i uwchsgilio ac ailhyfforddi cyflogeion, gan gynnwys ar gyfer 'sgiliau gwyrdd'. Nododd adroddiad gwerthuso 2024 o'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg sgiliau sero net fel maes a fydd yn wynebu galw cynyddol dros y blynyddoedd i ddod.
Beth yw'r heriau o ran sgiliau gwyrdd sy'n wynebu Cymru?
Codwyd cyfres o heriau sgiliau yn ystod proses casglu tystiolaeth y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad hwn.
Fel rhan o 'bontio teg’, awgrymodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru mae’n debyg y bydd yr heriau sgiliau a awgrymir yn cynnwys ailhyfforddi ac uwchsgilio gweithwyr yn hytrach nag addasu i fathau o swyddi cwbl newydd, a newidiadau i’r system addysg a sgiliau ar gyfer y rhai sy’n newydd i’r farchnad lafur.
Fodd bynnag, nododd Make UK y gall y bylchau sgiliau a nodwyd barhau gan nad yw uwchsgilio ac ailhyfforddi yn unig yn datrys y prinder uniongyrchol o sgiliau sero net a sgiliau eraill yn y gweithlu, nac yn llenwi swyddi gwag presennol.
Tra bod Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi nodi bod busnesau bach yng Nghymru yn cael trafferth cael gafael ar staff digon medrus, soniodd Onward fod prinder sgiliau yn broblem i'r trawsnewid gwyrdd ym mron pob sector.
Awgrymodd Ynni Morol Cymru fod dwy elfen i ddatrys y broblem o ran prinder sgiliau: yr angen i gael cynllun, i warantu bod prosiectau yn dod drwodd, a’r angen am ymwybyddiaeth. Gydag Uchelgais Gogledd Cymru yn tynnu sylw yn yr un modd at bwysigrwydd hanfodol addysg wrth “arfogi pobl ifanc â'r sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar gyflogwyr”.
Beth sydd nesaf?
Mae’r adroddiad “Yr Economi Werdd” yn gwneud dau argymhelliad yn ymwneud â sgiliau, y cafodd ill dau eu derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru.
Mae Argymhelliad 12 yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal/comisiynu, archwiliad sgiliau i ddeall yn well pa ddarpariaeth sgiliau sydd ar gael ar hyn o bryd, a ble mae bylchau gyda’r ddarpariaeth. Yn dilyn yr archwiliad sgiliau hwn, dylai Llywodraeth Cymru lunio adroddiad yn egluro’n glir beth sydd ei angen ac erbyn pryd. At hynny, dylai LlywodraethCymru fynd i’r afael â’r diffyg cyfatebiaeth canfyddedig rhwng y system addysg a sgiliau a’r hyn sydd ei angen ar y diwydiant.
Mae Argymhelliad 13 yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i sicrhau bod cyngor gyrfaoedd yn cael ei integreiddio’n well drwy gydol addysg disgybl i sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil Cymru yn trosglwyddo i economi wyrddach.
O fewn adran 'Sgiliau' yr adroddiad “Yr Economi Werdd”, mae'r Pwyllgor yn dod i'r casgliad os am fanteisio'n llawn ar y newid i economi werdd, yna rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan y gweithlu y sgiliau cywir. Os nad oes gan weithlu Cymru y sgiliau hyn, bydd busnesau’n edrych yn rhywle arall a bydd y swyddi hynny’n cael eu creu yno. Er mwyn sicrhau bod y sgiliau yno i annog buddsoddiad yng Nghymru a chreu swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n dda, rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda diwydiant a darparwyr sgiliau.
Cynhelir y ddadl ar yr adroddiad “Yr Economi Werdd” yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Mehefin 2025, a gallwch wylio hyn yn fyw ar Senedd.tv.
Erthygl gan Lucy Morgan a Dr. Thomas Morris, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru