Fel ymchwilydd, pam ddylech chi ymgysylltu â’r Senedd?

Cyhoeddwyd 31/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/04/2021   |   Amser darllen munudau

Gall ymgysylltu â’r Senedd fel ymchwilydd arwain at nifer o fuddion, gan gynnwys:

  • rhoi gwybodaeth i Aelod o’r Senedd a chefnogi ei waith seneddol;
  • llunio a llywio’r agenda bolisi;
  • cynyddu proffil eich gwaith ymchwil a sicrhau bod mwy o bobl yn ei weld;
  • cael persbectif newydd ar eich gwaith ymchwil;
  • tyfu eich rhwydwaith proffesiynol; a
  • dysgu rhagor am wneud polisi a deddfau.

 

Mae rhagor o wybodaeth am sut y gall cyfnewid gwybodaeth rhwng prifysgolion a phedair deddfwrfa’r Deyrnas Unedig hyrwyddo strategaethau a gweithgarwch o ran cyfnewid gwybodaeth ar gyfer prifysgolion ac ymchwilwyr ar gael yn ein papur briffio ar y cyd, Knowledge Exchange and Legislatures.