Dros y degawd diwethaf, bu ras wleidyddol i addo mwy o oriau o ofal plant am ddim, i fwy o deuluoedd, ac i blant iau. Beth oedd yr amcanion o ran gofal plant am ddim, a ydyn nhw wedi’u gwireddu, a beth yw’r rhwystrau a allai ei gwneud hi’n anodd cyflawni’r addewidion o dan sylw?
Mae gofal plant am ddim i blant ifanc yn addewid pendant a hawdd ei ddeall, sy’n ymwneud ag un o’r prif gostau y mae teuluoedd yn eu hwynebu. Yn ystod y Chweched Senedd cafodd gwaith craffu arwyddocaol ei gynnal ar ddarpariaeth gofal plant gan gynnwys cwestiynau wedi’u gofyn gan ddeisebwyr, ynglŷn â’r modd y mae’r cynnig presennol yng Nghymru yn cymharu â’r hyn sy’n cael ei ystyried yn gynnig mwy hael yn Lloegr.
Fodd bynnag, mae’n ymrwymiad costus i’w weithredu yn y tymor hir, ac nid yw’n glir a yw’r dull presennol yn cyflawni’r canlyniadau dymunol. Mae ehangu’r ddarpariaeth hefyd yn anodd oherwydd rhwystrau megis cyllid a chapasiti staff. Ni chafodd ymrwymiad Llywodraeth flaenorol Cymru ei gyflawni i gyflwyno oriau gofal plant rhan-amser am ddim, sef Dechrau’n Deg, i bob plentyn dwy oed yn ystod y Chweched Senedd, a chaiff ei amcangyfrif mai 66% o blant cynnwys yn unig sydd wedi cael y cynnig hwn erbyn mis Ebrill 2026.
Y darlun presennol
Gan ddibynnu ar gymhwysedd, mae yna ystod o ofal plant am ddim a ddarperir gan awdurdodau lleol ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru:
- Gofal plant rhan-amser, Dechrau’n Deg, i bob plentyn dwy a thair oed: Yn ei Chytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei bwriad i ymestyn gofal plant Dechrau’n Deg, sef 12.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn, i “ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu ac atgyfnerthu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg”.
- Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfer plant cymwys tair a phedair oed: Mae hyn yn golygu y bydd gan rieni cymwys sy’n gweithio, a’r rheini sydd mewn addysg neu hyfforddiant, yr hawl i 30 awr yr wythnos o ofal plant, am 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys dwy elfen, o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar y mae gan bob plentyn yr hawl iddi yn y tymor cyntaf ar ôl eu trydydd pen-blwydd, wedi’i ategu gan hyd at 20 awr o ofal plant.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth ariannol ar gyfer gofal plant y gall rhieni yng Nghymru ei gael, yn bennaf ar gyfer rhieni sy’n gweithio, gan ddibynnu ar gymhwysedd.
Beth yw diben gofal plant am ddim?
Gall fod amrywiaeth o nodau polisi y tu ôl i ofal plant am ddim – gan gynnwys amcanion economaidd, addysg, datblygiad plant a lleihau tlodi.
Gyrwyr economaidd
Nod y Cynnig Gofal Plant yw cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad mewn cyflogaeth neu addysg. Eto i gyd, gwelodd gwerthusiad Blwyddyn 3 mai dim ond 2% o rieni a fanteisiodd ar y Cynnig oedd heb fod mewn gwaith cyn cael darpariaeth am ddim. Erbyn gwerthusiad Blwyddyn 5, dim ond 10% o rieni sy’n cael y Cynnig ddywedodd na fydden nhw mewn gwaith hebddo. Wedi dweud hynny, gwnaeth y gwerthusiad ganfod bod “naw y cant arall yn meddwl y byddent yn gweithio mewn swydd â chyflog is”, ac o ran 37 y cant o’r ymatebwyr, “y byddent yn gweithio llai o oriau heb y Cynnig”. Yn seiliedig ar yr holl ddata gwerthuso mae’r adroddiad yn awgrymu’r canlynol:
[mae’r] Cynnig yn parhau i gefnogi llawer o rieni i gynnal neu wella eu cyflogaeth. Mae hyn yn arbennig o wir ymhlith rhieni ar incwm is.
Cydraddoldeb
Fel cyfran o incwm, mae costau gofal plant i rieni incwm is 10 gwaith yn uwch nag ar gyfer yr 20% cyfoethocaf o enillwyr. Mae ymchwil o 2023 yn awgrymu mai anghenion gofal plant a chyfrifoldebau gofalu yw’r rhwystrau mwyaf i gydraddoldeb mewn meysydd bywyd, gan gynnwys cyflogaeth i fenywod. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithredol, o weithio’n rhan-amser ac o fod mewn sectorau ansicr â chyflog is megis iechyd a gofal cymdeithasol, manwerthu a lletygarwch. Mae hyn wedi arwain at fwlch cyflog rhwng y rhyweddau sydd wedi’i gynyddu gan gyfrifoldebau gofalu anghyfartal, a’r effaith anghymesur y mae gofal plant anfforddiadwy yn ei chael ar fenywod.
Yn ôl y Rhwydwaith Rhywedd (fforwm polisi o 80 o gynrychiolwyr, ymgyrchwyr ac academyddion y trydydd sector), mae diffyg gofal plant fforddiadwy yn parhau i fod yn rhwystr mawr i gydraddoldeb rhwng y rhyweddau. Galwodd ar Lywodraeth nesaf Cymru i symleiddio’r gefnogaeth a’r newid rhwng gwahanol raglenni ac yn y pen draw, darparu 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu i bob plentyn ar ddiwedd absenoldeb rhiant.
Addysg, datblygiad plant, a chyfle cyfartal
Yn ôl cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar Cymru, “gall gofal plant hygyrch o ansawdd uchel fod yn drawsnewidiol i blant”, ac mae’n nodi’r effaith ar ddatblygiad gwybyddol, ieithyddol, cymdeithasol, emosiynol a chorfforol. Eto i gyd, nid yw’n glir pa rôl y bwriedir i ofal plant am ddim yng Nghymru ei chwarae i gefnogi datblygiad pob plentyn, o ystyried nad yw nifer o bobl yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, ac nad oes cymhariaeth o ganlyniadau datblygiadol rhwng y rheini sy’n ei gael, a’r rheini nad ydynt yn ei gael.
Mae ymchwil yn awgrymu y gall Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar o ansawdd uchel gael effaith hirdymor gadarnhaol ar ganlyniadau i blant, gan wrthweithio effeithiau anfantais economaidd-gymdeithasol, er nad yw llawer o deuluoedd incwm isel yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant presennol, sef 30 awr am ddim. Dadl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (neu’r OECD) yw y gall anghydraddoldebau cynnar osod plant ar lwybrau gwahanol, ond gall polisïau Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar sicrhau cyfleoedd cyfartal o’r cychwyn cyntaf, gyda manteision economaidd a chymdeithasol parhaol. Maen nhw’n dweud dylai polisïau fod o fewn cyrraedd i bawb, ond yn canolbwyntio ar y mwyaf difreintiedig.
Mae plant ag anghenion ychwanegol ac/neu anableddau hefyd yn wynebu heriau hirhoedlog wrth gael mynediad at ofal plant. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai dim ond 5% o awdurdodau lleol Cymru sydd â digon o ddarpariaeth gofal plant ar gyfer plant anabl.
Rhwystrau i ddarparu mwy o ofal plant
Yn ogystal â chyllid, mae ehangu gofal plant am ddim yn anochel yn gofyn am fwy o leoedd gofal plant a lle ffisegol, gweithlu dwyieithog cynyddol a mwy o gapasiti arolygu.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn archwilio gofal plant, gan wneud hynny ar y cyd gydag Estyn, lle mae yna elfen o addysg wedi’i hariannu. Yn ôl Adroddiad Blynyddol diweddaraf Arolygiaeth Gofal Cymru, bu gostyngiadau yn narpariaeth gwarchodwyr plant a gofal dydd sesiynol ar gyfer y flwyddyn flaenorol, ond cynnydd o 2.7% mewn lleoedd gofal dydd llawn, gan barhau â’r duedd ar i fyny dros y deng mlynedd diwethaf.
Ffigur 1: Nifer y lleoedd gofal dydd llawn

Ffynhonnell: Arolygiaeth Gofal Cymru
Does dim modd dweud ar hyn o bryd a oes gan y sector y capasiti i barhau i gynyddu nifer y lleoedd o flwyddyn i flwyddyn. Fe wnaeth un o bwyllgorau’r Chweched Senedd bwysleisio bod recriwtio a chadw’r gweithlu gofal plant yn her barhaus a sylweddol, gan nodi cyflog isel, amodau gwaith gwael a statws isel y rôl.
Yn eu tro, mae darparwyr wedi dweud yn gyson nad yw’r gyfradd fesul awr sy’n cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru yn talu eu costau, er bod cyfraddau wedi cynyddu o £5.00 yr awr i’w lefelau mwyaf diweddar, sef £6.67 yr awr, ddwy flynedd yn ôl. Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn bryderus na fydd y cynnydd yn ddigon i gwmpasu codiadau uwchlaw chwyddiant ar gyfer bwyd ac ynni. Mae darparwyr wedi dweud bod cynnal eu darpariaeth yn bryder mawr, gan dynnu sylw at bwysau ariannol yn sgil costau ynni, bwyd a staffio cynyddol.
Bu heriau tebyg wrth gyflwyno gofal plant am ddim yn Lloegr, yn dilyn yr ymrwymiad yn 2023 gan Lywodraeth y DU, ar y pryd, i blant rhieni cymwys sy’n gweithio, o 9 mis oed ymlaen erbyn 2025. Gwnaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ganfod ansicrwydd sylweddol ynghylch a all y sector weithredu’r newidiadau a bod yn gynaliadwy yn ariannol, gan ddod i’r casgliad a ganlyn:
In extending entitlements, the government’s primary aim is to encourage more parents into work. Even if DfE successfully navigates the significant uncertainties, it remains unclear whether the extension will achieve its primary aim, represent value for money and not negatively impact DfE’s wider priorities relating to quality and closing the disadvantaged attainment gap.
Yr her sydd i ddod
Mae yna wahanol feini prawf cymhwysedd, prosesau ymgeisio, mecanweithiau ariannu a chyrff arolygu ar gyfer gofal plant am ddim yng Nghymru, a all ei gwneud hi’n anodd i rieni ddeall beth maen nhw’n gymwys i’w gael, ac y gall effeithio ar y nifer sy’n ei hawlio. Fe wnaeth un o bwyllgorau’r Chweched Senedd ddisgrifio dull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag addysg a gofal plentyndod cynnar fel bod “yn ddryslyd ac yn dameidiog, [a heb] gweledigaeth glir”. Fe wnaeth alw ar Lywodraeth Cymru ar y pryd i gydgrynhoi’r gwahanol gynlluniau cymorth gofal plant a symleiddio prosesau ymgeisio. Mae’n debygol y bydd pwy sy’n cael gofal plant am ddim, a pha wahaniaeth y mae’n ei wneud i’w bywydau, yn parhau i fod yn destun craffu gan deuluoedd a’r Seithfed Senedd fel ei gilydd.
Erthygl gan Claire Thomas, Gareth Thomas a Siân Thomas Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru