O’r crud i’r bedd: torri cylch anghydraddoldeb a thlodi

Cyhoeddwyd 27/05/2026   |   Amser darllen munudau

 

I rai pobl, mae anghydraddoldeb yn golygu dechrau’r ysgol eisoes ar ôl eu cyfoedion, wynebu gwaith ansicr a chyflogau is fel oedolion, neu gael trafferth ag iechyd gwael yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’r anghydraddoldebau hyn yn aml yn cael eu gwaethygu oherwydd bod gan unigolyn nodwedd warchodedig. Sut mae llunwyr polisi yn sicrhau nad yw dyfodol pobl yn cael ei bennu gan anghydraddoldebau strwythurol a thlodi?

Mae’r erthygl hon yn rhoi cipolwg ar gydraddoldeb a thlodi yng Nghymru ac yn tynnu sylw at ymyriadau polisi a gafodd eu cymryd neu eu cynnig i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Rhagweld y dyfodol: anghydraddoldeb yn ystod plentyndod

Mae anghydraddoldeb yn dechrau’n gynnar a gall bara am oes.

Ers dechrau datganoli, plant yw’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fyw mewn tlodi, gyda bron i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd. Mae plant mewn rhai grwpiau demograffig yn arbennig o debygol o fyw mewn tlodi. Mae’r rhain yn cynnwys plant mewn teuluoedd mwy, plant mewn teuluoedd rhiant sengl, plant sy’n byw mewn aelwyd lle mae rhywun yn anabl, a phlant sy’n byw mewn aelwyd heb waith.

Ffigur 1: Canran y plant sy’n byw mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai ar gyfer y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, 2022-23 i 2024-25

 

Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Aelwydydd sydd islaw’r incwm cyfartalog: ar gyfer y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben rhwng 1995 a 2025 (mae’r data a ddefnyddir ar gyfer 2022-23 i 2024-25)

Mae tystiolaeth yn dangos bod tlodi plant yn effeithio ar ddyfodol plentyn o ran cyrhaeddiad addysgol, iechyd, cyflogaeth, ac a ydynt yn debygol o brofi tlodi fel oedolyn.

Mae plant yng Nghymru yn wynebu ystod gymhleth o anghydraddoldebau, gan gynnwys:

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod ymyriadau gan y llywodraeth yn cael yr effaith fwyaf yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf – o’r adeg genhedlu hyd at yr ail ben-blwydd. Mae’n nodi bod polisïau cost-effeithiol, sydd wedi dangos eu bod yn sicrhau budd net neu enillion ar fuddsoddiad, yn cynnwys gofal plant cyffredinol a chyfnod mamolaeth/tadolaeth â thâl i deuluoedd agored i niwed.

Mae rhai ymyriadau, er enghraifft y rhan fwyaf o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, yn cael eu darparu gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae opsiynau polisi ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae Sefydliad Bevan wedi galw arni i fabwysiadu dull trawslywodraethol strategol i fynd i’r afael â thlodi ymhlith plant, gyda chamau gweithredu cydlynol mewn meysydd fel tai, addysg a chyflogaeth.

Mae Taliad Plant yr Alban wedi cael cryn sylw fel dull effeithiol o leihau tlodi ymhlith plant. Mae Llywodraeth yr Alban yn amcangyfrif y bydd yn cadw 40,000 o blant yr Alban allan o dlodi yn 2025-26. Yn ôl adroddiad gan Policy in Practice, byddai datblygu taliad tebyg yng Nghymru yn cael mwy o effaith na dulliau amgen o leihau tlodi ymhlith plant. Fodd bynnag, mae cwestiynau ynghylch sut y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno taliad tebyg o fewn ei phwerau, a sut y byddai’n cael ei ariannu.

Oedolion: y bwlch yn ymestyn

Mae anghydraddoldeb mewn bywyd oedolion yn aml yn adlewyrchu effaith gronnol anfanteision o gyfnodau cynharach yn eu bywydau, ond gall hefyd gael ei lunio gan nodweddion personol:

Mae lle rydych chi’n byw hefyd yn bwysig. Mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau wedi tynnu sylw at “anghydraddoldeb parhaus yn seiliedig ar le sy’n bodoli ar hyd y lled y genedl”. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn dangos “pocedi o amddifadedd cymharol uchel yn ninasoedd a chymoedd de Cymru, amrywiol drefi arfordirol, a rhai trefi yn y gogledd-ddwyrain”. Mae 22 o ardaloedd yng Nghymru mewn amddifadedd dwfn (allan o 1,917 o ardaloedd), sy’n golygu eu bod wedi bod yn gyson ymhlith y 50 ardal fach fwyaf difreintiedig yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Ffigur 2: Map yn dangos safleoedd amddifadedd ar gyfer ardaloedd bach ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: 2025

Gall cyflogaeth chwarae rhan allweddol fel llwybr allan o dlodi. Fodd bynnag, mae cyfradd gyflogaeth Cymru yn is na’r DU yn gyffredinol, ac o fewn Cymru mae nifer o grwpiau demograffig yn wynebu anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.

Mae pobl anabl yn wynebu heriau penodol wrth gael mynediad at gyflogaeth, ac mae ganddynt gyfradd gyflogaeth sydd 29 pwynt canran yn is na phobl nad ydynt yn anabl. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn gweithio tuag at ddatblygu rhaglenni cymorth cyflogadwyedd newydd i ddechrau yn 2027. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n rhan o’r Ganolfan Byd Gwaith i Gymru (gan drosglwyddo hyd at £20 miliwn i ddechrau ar gyfer y Cynlluniau peilot Arloesol Anweithgarwch Economaidd) hefyd yn rhoi cyfle i Lywodraeth newydd Cymru fabwysiadu agwedd wahanol tuag at gynorthwyo pobl i gael gwaith.

Hyd yn oed pan fydd pobl yn gallu cael mynediad at waith, nid yw bob amser yn llwybr allan o dlodi. Mae bron i 75% o blant a 70% o oedolion o oedran gweithio sy’n byw mewn tlodi cymharol yn byw mewn aelwyd lle mae rhywun sy’n gweithio.

Ffigur 3: Canran y plant ac oedolion o oedran gweithio mewn tlodi, yn ôl statws economaidd yr aelwyd, 2022-23 i 2024-25

 

Ffynonellau: Llywodraeth Cymru, Plant mewn tlodi incwm cymharol yn ôl statws economaidd yr aelwyd ac Oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol yn ôl statws economaidd yr aelwyd

Gweithredodd Llywodraeth flaenorol Cymru bolisïau mewn perthynas â gwaith teg a hyrwyddo talu’r Cyflog Byw. Fodd bynnag, mae grwpiau penodol fel menywod, pobl anabl, a rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn wynebu bylchau cyflog parhaus, gyda Llywodraeth flaenorol Cymru yn ymrwymo i ddileu’r rhain erbyn 2050.

Mae gan Lywodraeth y DU rôl i’w chwarae hefyd wrth wella amodau cyflogaeth ac mae wedi deddfu drwy’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth. Mae ganddi rôl hefyd wrth leihau bylchau cyflog, ac mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr mawr adrodd ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn. Mae hefyd wedi ymgynghori ar adrodd gorfodol ar fylchau cyflog o ran ethnigrwydd ac anabledd.

Heneiddio’n dda: anghydraddoldeb yn ddiweddarach mewn bywyd

Mae disgwyliad oes cyfartalog yng Nghymru yn is nag yn Lloegr ond yn uwch nag yn yr Alban. Mae lle rydych chi’n byw yng Nghymru hefyd yn bwysig, gyda chyfraddau disgwyliad oes yn amrywio i ddynion a menywod yn ôl awdurdod lleol.

Rhwng 2022 a 2024, roedd gostyngiad mwy yng nghymhareb disgwyliad oes iach Cymru (y nifer o flynyddoedd ar gyfartaledd y bydd person yn eu byw mewn iechyd cyffredinol da) nag yn Lloegr a’r Alban. Mae disgwyliad oes iach ledled Cymru ar ei bwynt isaf ers 2010, gyda Chymru’n cael y gyfradd disgwyliad oes iach isaf i fenywod (58.5 mlynedd) yn y DU.

Mae bron i 1 ym mhob 6 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae mwy o fenywod hŷn yn byw mewn tlodi. Mae incwm ymddeol is gan fenywod hŷn hefyd oherwydd bylchau yn eu cyflogaeth sy’n deillio o rwymedigaethau gofalu a gofal di-dâl.

Gall unigrwydd ac ynysu cymdeithasol effeithio ar ddisgwyliad oes iach, gydag amcangyfrif o 91,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo’n unig ‘yn gyson’. Gall ansawdd tai, ynghyd ag incwm is, waethygu cyflyrau iechyd, gyda chyfraddau tlodi tanwydd yng Nghymru yn cynyddu wrth i bobl fynd yn hŷn.

Wrth ystyried camau gweithredu i daclo anghydraddoldebau, bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru ystyried bod canlyniadau mewn bywyd hŷn yn aml yn cael eu ffurfio gan amgylchiadau cynharach, a’u bod yn adlewyrchu effaith gronnol anghydraddoldebau a brofwyd gydol cwrs bywyd person.

Cyfleoedd i ail-lunio bywydau pobl

Mae deall sut mae anfantais ac anghydraddoldebau yn datblygu dros amser yn bwysig wrth ddylunio polisïau sy’n mynd y tu hwnt i fynd i’r afael â’r symptomau yn hytrach na’r achos. Cymerodd Llywodraeth flaenorol Cymru nifer o gamau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi, gan ymrwymo i ddangosyddion a cherrig milltir llesiant cenedlaethol, cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar rywedd, hil, anabledd a strategaeth ar drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae anghydraddoldebau a thlodi yn parhau i lywio canlyniadau i lawer o’r rheini sy’n byw yng Nghymru.


Erthygl gan Claire Thomas a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru