Canllaw i ansawdd dŵr yng Nghymru

Cyhoeddwyd 04/08/2023   |   Amser darllen munudau

Mae dŵr yn adnodd hanfodol. Er bod ein dyfroedd naturiol yn ffurfio ecosystemau pwysig ac yn rhan annatod o'r amgylchedd, mae dŵr hefyd â rôl hanfodol mewn cymwysiadau mor amrywiol â glanweithdra, diwydiant, mordwyo a hamdden.

Felly, mae ansawdd dŵr yn hanfodol i iechyd, yr economi, yr amgylchedd a'n gallu i fwynhau'r byd naturiol. Er y trafodir ansawdd dŵr yn aml o ran pa mor llygredig yw adnodd dŵr, gall hefyd gyfeirio at eiddo cemegol, ffisegol a biolegol sy'n effeithio ar ei ddefnydd.

Mae ein papur briffio newydd gan Ymchwil y Senedd yn rhoi trosolwg o ansawdd dŵr yng Nghymru. Mae'n amlinellu sut y mae safonau ansawdd dŵr yn cael eu gweithredu, eu monitro a'u cynnal, a phwy sy'n gyfrifol. Mae hefyd yn trafod rhai o'r prif heriau i ansawdd dŵr yng Nghymru, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i fynd i'r afael â hwy.


Erthygl gan Olivia Watts, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru