Beth nesaf o ran natur a gweithredu ar yr hinsawdd?

Cyhoeddwyd 05/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/06/2026

 

Mae dyfodiad y Seithfed Senedd yn foment hollbwysig yng nghyd-destun natur a gweithredu ar yr hinsawdd, gyda thargedau domestig a byd-eang yn prysur agosáu. Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn mynd i’r afael â heriau allweddol ym maes yr amgylchedd?

Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru ‘argyfwng hinsawdd’. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, datganodd y Senedd ‘argyfwng natur’. Roedd y datganiadau hyn yn cydnabod rôl gweithgarwch pobl o ran achosi newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Mae’r ddau beth yn peri risgiau cymhleth, aml-ddimensiwn i iechyd a llesiant pobl.

Mae cysylltiad rhwng yr argyfyngau hyn. Mae newid hinsawdd yn bygwth gwaethygu’r broses o golli natur, ond gall adfer ecosystemau naturiol arwain at storio carbon a gwella gwydnwch hinsawdd.

Fodd bynnag, mae angen ystyried hinsawdd a natur fel materion ar wahân hefyd. Er enghraifft, gallai datblygiadau ynni adnewyddadwy gael effaith negyddol ar fioamrywiaeth leol.

Er bod fframwaith cyfreithiol Cymru ar gyfer lliniaru newid hinsawdd wedi bod ar waith ers degawd, nid yw’r agenda fioamrywiaeth wedi cael yr un sylw gwleidyddol, gyda deddfwriaeth i gyflwyno targedau natur ond wedi cael ei phasio yn gynharach eleni.

Rhaid gwneud penderfyniadau allweddol am natur a’r hinsawdd dros y pedair blynedd nesaf.

Yr argyfwng natur

Bioamrywiaeth mewn perygl

Dywed rhai gwyddonwyr ein bod ar drothwy’r chweched digwyddiad difodiant torfol yn hanes y byd, a’r cyntaf sy’n gysylltiedig â gweithgarwch pobl.

Mae Cymru yn safle 224 o blith y 240 o wledydd sydd i’w gweld ar y Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth, sy’n golygu ei bod ymhlith y 10% isaf.

O’r 3,897 o rywogaethau sydd wedi cael eu hasesu gan ddefnyddio meini prawf Rhestr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (yr IUCN), mae 18% dan fygythiad o ddifodiant yng Nghymru, gan gynnwys tegeirian y fign galchog, llygoden y dŵr a madfall y tywod.

Rhywogaethau yng Nghymru sydd dan fygythiad o ddifodiant

Bariau llorweddol yn dangos risg difodiant rhywogaethau mewn gwahanol grwpiau tacsonomig, yn seiliedig ar feini prawf yr IUCN. Mae coch (y gyfran leiaf) yn dynodi rhywogaethau sydd eisoes wedi diflannu; mae oren (y gyfran leiaf ond un) yn dynodi nifer y rhywogaethau sydd dan fygythiad o ddifodiant; ac mae gwyrdd (y gyfran fwyaf) yn dynodi meini prawf eraill yr IUCN. Mae'r ffigur hefyd yn cynnwys ffotograffau o degeirian y fign galchog, llygoden y dŵr a madfall y tywod.


Ffynhonnell:
Sefyllfa Natur 2023, Adroddiad Cymru (gan ddefnyddio Asesiadau Rhestr Goch yr IUCN sy’n benodol i Gymru) yn dangos y rhywogaethau a aseswyd yng nghategorïau’r 'Rhestr Goch', yn ôl grŵp tacsonomig eang. Mae’r rhifau mewn cromfachau yn dynodi nifer yr asesiadau. 'Dan Fygythiad' = meini prawf Rhestr Goch yr IUCN ‘Mewn perygl difrifol’, ‘Mewn perygl’ neu ‘Bregus’. Mae’r lluniau yn dangos rhywogaethau sydd mewn perygl o ddifodiant – tegeirian y fign galchog, llygoden y dŵr a madfall y tywod. Mae ‘difodiant’ yn ymwneud â ‘difodiannau modern’ h.y. rhywogaethau sy’n cael eu disgrifio gan wyddoniaeth yn hytrach na phob difodiant yn hanes y Ddaear.

Daw’r pwysau ar fioamrywiaeth o sawl cyfeiriad, gan gynnwys llygredd, newid hinsawdd, rhai technegau rheoli amaethyddol a rheoli coetir, trefoli, gorddefnydd a rhywogaethau anfrodorol goresgynnol.

Mae mwy a mwy o gydnabyddiaeth ryngwladol o werth hanfodol natur ar gyfer iechyd a llesiant pobl, er enghraifft drwy ddarparu bwyd a dŵr glân, ac atal llifogydd.

Ymrwymiad byd-eang i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2030

Yn 2022, llofnododd y DU y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (yng nghynhadledd COP15) i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 a sicrhau adferiad erbyn 2050. Un o uchelgeisiau proffil uchel y fframwaith yw diogelu 30% o’r tir, y dŵr croyw a’r môr ar gyfer natur erbyn 2030 (sef y targed ‘30 erbyn

30’).

Uchelgais y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 a sicrhau adferiad erbyn 2050.

Graff llinell yn dangos dirywiad mewn bioamrywiaeth hyd at y 2020au, ac uchelgais i sicrhau cynnydd mewn bioamrywiaeth i lefel bositif net erbyn 2030 (o'i gymharu â 2020), a thuedd gynyddol hyd at 2050. Defnyddir eiconau o blanhigion ac anifeiliaid i gynrychioli bioamrywiaeth.

Ffynhonnell: wedi’i addasu o adnodd gan naturepositive.org

Gan fod hwn yn faes wedi’i ddatganoli, mae gan Lywodraeth Cymru rôl i’w chwarae. Cynhaliodd y Llywodraeth flaenorol ymarfer ‘plymio dwfn bioamrywiaeth’, a datblygodd fframwaith ar gyfer cyflawni ‘30 erbyn 30’. Bydd dyfodiad y Seithfed Senedd yn foment hollbwysig, gan mai Llywodraeth newydd Cymru fydd yn gyfrifol am benderfynu a fydd Cymru’n cyflawni ei hymrwymiad erbyn 2030 i atal y broses o golli bioamrywiaeth.

Mae’n dasg anodd. Mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan y sector amgylcheddol yn 2025, sy’n canolbwyntio ar y cynnydd sy’n cael ei wneud ledled y DU, yn awgrymu mai dim ond 2.14% o dir Cymru sydd, ar hyn o bryd, yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ‘30 erbyn 30’.

Cynnydd tuag at y targed ‘30 erbyn 30’ ar dir ledled y DU.

Pedwar siart doesen sy’n dangos cyfran y tir ym mhob un o wledydd y DU sy'n bodloni'r meini prawf 30 erbyn 30, o'i gymharu â'r targed o 30% (Cymru: 2.14%, Lloegr: 2.83%, Gogledd Iwerddon: 4%, Yr Alban: 12.63%).

 

Ffynhonnell: 30 erbyn 30, Adroddiad Cynnydd y DU 2025, Cyswllt Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad

Sut allai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng natur?

Targedau bioamrywiaeth – Bydd gofyn i Lywodraeth newydd Cymru gyflwyno targedau bioamrywiaeth domestig statudol am y tro cyntaf, er mwyn ysgogi camau gweithredu a gwella atebolrwydd. Rhaid cyflwyno’r targedau – a fydd wedi’u llunio o amgylch risg difodiant, rheoli ecosystemau, llygredd a data – drwy reoliadau erbyn mis Ebrill 2028, er mwyn rhoi cyfle i’r Senedd ddweud ei dweud.

Safleoedd gwarchodedig Yn ôl arbenigwyr er mwyn cyrraedd y targed 30 erbyn 30, rhaid i ardaloedd gwarchodedig ar gyfer natur fod yn rhai gwell, yn rhai mwy, ac yn rhai sydd wedi’u cysylltu’n fwy effeithiol. Bydd pwysau ar y Llywodraeth newydd i wella amddiffyniadau morol drwy wella’r trefniadau dynodi, rheoli a monitro.

Amaethyddiaeth – Mae dros 80% o dir Cymru o dan reolaeth amaethyddol. Felly, gobaith amgylcheddwyr yw y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn gweithredu fel mecanwaith allweddol ar gyfer adfer bioamrywiaeth. Bydd sylw pawb yn troi at yr uchelgais i sicrhau bod o leiaf 17,000 hectar o goed newydd yn cael eu plannu o dan gymhellion y cynllun erbyn 2030.

Llygredd – Roedd mynd i’r afael â llygredd mewn cyrsiau dŵr, yn deillio o amaethyddiaeth a charthffosiaeth, yn fater proffil uchel yn y Senedd ddiwethaf, a siawns y bydd yn ailgodi.

Yr argyfwng hinsawdd

Mae hinsawdd Cymru yn newid. Cafwyd y tair blynedd boethaf yn hanes Cymru yn ystod y Chweched Senedd. Yn ôl y rhagolygon tymor hir, bydd y duedd hon o gynhesu yn parhau, gan arwain at aeafau gwlypach, hafau poethach a sychach, a chodiadau yn lefel y môr. Mae hinsawdd sy’n newid yn bygwth iechyd, seilwaith a’r amgylchedd naturiol.

Anomaleddau tymheredd cyfartalog Cymru ers 1884, o’i gymharu â chyfartaledd 1961-1990

Siart bar wedi'i labelu, sy’n dangos anomaleddau tymheredd cyfartalog blynyddol yng Nghymru rhwng 1884 a 2025, o'i gymharu â llinell sylfaen 1961–90. Mae'r blynyddoedd cynnar yn negyddol, i raddau helaeth, ac yn las (hynny yw, yn oerach na'r cyfartaledd). Maent yn symud i diriogaeth bositif a choch yn y degawdau diwethaf, gan ddangos tuedd tymor hir o gynhesu.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata’r Swyddfa Dywydd

Y ddadl ar sero net yn poethi

Mae newid hinsawdd yn cael ei yrru, i raddau helaeth, gan allyriadau nwyon tŷ gwydr a achoswyd gan bobl. Yn 2021, cytunodd y Senedd yn unfrydol y dylai Cymru roi terfyn ar ei chyfraniadau at newid hinsawdd drwy gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr ‘sero net’ erbyn 2050.

Mae rhaniadau yn y consensws gwleidyddol wedi dod i’r amlwg ers hynny. Er mai dim ond 14% o’r cyhoedd sy’n gwrthwynebu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ynghylch yr hinsawdd, mae dulliau gweithredu penodol wedi profi’n ddadleuol: protestiodd ffermwyr yn erbyn cynigion plannu coed y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2024; ac mae grwpiau lleol wedi gwrthwynebu seilwaith ynni fel tyrbinau gwynt, ffermydd solar, a pheilonau.

Datgarboneiddio ar y trywydd iawn – am y tro

Mae llwybr datgarboneiddio Cymru ar hyn o bryd yn cynnwys targedau 10 mlynedd a chyllidebau carbon 5 mlynedd. Gwelwyd gostyngiad o 38% mewn allyriadau rhwng 1990 a 2023, ac mae’r holl dargedau ar gyfer allyriadau a’r holl gyllidebau carbon, hyd yn hyn, wedi’u cyflawni.

Allyriadau, targedau a chyllidebau carbon Cymru, 1990 i 2050

Siart llinell sy’n dangos allyriadau nwyon tŷ gwydr net Cymru rhwng 1990 a 2023. Mae’r siart yn dangos dirywiad cyffredinol. Mae’r llinellau llorweddol lliw yn dynodi cyllidebau carbon pum mlynedd, gyda marcwyr ar gyfer targedau allyriadau 10 mlynedd yn ymestyn i sero net erbyn 2050.

Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Cenedlaethol y DU (NAEI), Llywodraeth Cymru

Mae mwyafrif y gostyngiad hwn wedi deillio o sectorau sydd, i raddau helaeth, wedi’u cadw yn ôl i San Steffan o hyd – trydan, cyflenwad tanwydd, a diwydiant – lle mae dylanwad Llywodraeth Cymru wedi’i gyfyngu’n bennaf i’r system gynllunio.

Mae ychydig yn llai na hanner yr allyriadau yn deillio o sectorau sydd wedi’u datganoli, i raddau helaeth, i’r Senedd.

Cyfanswm allyriadau Cymru yn 2023, fesul sector

Siart bariau wedi'u pentyrru sy’n dangos allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, fesul sector, yn 2023. Mae’r siart wedi’i rhannu rhwng sectorau sydd wedi'u datganoli i raddau helaeth (amaethyddiaeth, adeiladau, trafnidiaeth, gwastraff, defnydd tir) a sectorau sydd wedi'u cadw yn ôl i raddau helaeth (cyflenwad trydan, cyflenwad tanwydd, diwydiant, hedfanaeth ryngwladol a llongau). Mae’r allyriadau sy’n deillio o sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl i raddau helaeth ychydig yn uwch na’r allyriadau sy’n deillio o sectorau sydd wedi’u datganoli i raddau helaeth.

*Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn ystyried bod ‘trafnidiaeth wyneb’ ac ‘adeiladau’ wedi’u datganoli’n rhannol.

†Mae ‘defnydd tir’, fel coedwigaeth a mawndir, yn amsugno mwy o nwyon tŷ gwydr nag y mae’n eu hallyrru. Felly mae ‘allyriadau’ y sector hwn yn negyddol.

 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata’r NAEI

Opsiynau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â chyllidebau carbon

O dan y gyfraith bresennol, bydd gan Lywodraeth newydd Cymru hyd nes ddiwedd y flwyddyn hon i amlinellu ei chynlluniau ar gyfer lleihau allyriadau hyd at 2030, a hynny er mwyn cyflawni Cyllideb Carbon 3.

Gwnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol (CCC), sef y cynghorydd statudol ar yr hinsawdd, awgrymu yn ddiweddar sut y gallai Llywodraeth Cymru sicrhau cynnydd mewn sectorau datganoledig. Mae’r cyngor hwn wedi’i grynhoi mewn erthygl gan Ymchwil y Senedd ac yn y tabl isod.

Sut allai Llywodraeth newydd Cymru leihau allyriadau?

Sector sydd ‘wedi’i ddatganoli i raddau helaeth’

% Cyfanswm yr allyriadau (2023)

Y senario ‘Llwybr Cytbwys’ – Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU

Trafnidiaeth

16%

Defnyddio cerbydau trydan

Mwy o siwrneiau yn cael eu gwneud ar ffurf trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol

Amaethyddiaeth

15%

Lleihau allyriadau gwrtaith

Peiriannau ffermydd wedi’u trydaneiddio

Llai o wartheg a defaid

Adeiladau

11%

Defnyddio pympiau gwres

Cartrefi wedi’u hinswleiddio’n well

Gwastraff

3%

Lleihau’r gwastraff a gynhyrchir

Defnyddio technoleg ar gyfer dal a storio carbon mewn cyfleusterau

Ynni o Wastraff

Defnydd tir

Amherthnasol – dalfa CO2 net

Rhagor o blannu coed

Adfer mawndiroedd

 

Ffynhonnell: NAEI, Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU

Gallai Llywodraeth newydd Cymru gael ei hysbrydoli gan waith Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035, a’r gwaith cyd-destunol a wnaed gan y Llywodraeth ddiwethaf.

Mae mesurau lliniaru yn cynnig cyfleoedd yn ogystal â heriau. Mae nifer y swyddi gwyrdd yn cynyddu ac yn cynnig cyflogau sy’n uwch na’r cyfartaledd; mae ansawdd aer gwell yn gwella iechyd y cyhoedd; mae cerbydau trydan yn rhatach i’w rhedeg; a gall cynefinoedd sy’n storio carbon helpu’r broses o adfer natur.

Fodd bynnag, bydd y pontio gwyrdd yn cael effaith negyddol ar rai sectorau sy’n ddwys o ran allyriadau: er enghraifft, y penderfyniad i gau ffwrneisi chwyth Port Talbot. Gwnaeth Llywodraeth ddiwethaf Cymru yr achos dros ‘bontio teg’, ond mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dadlau “y dylai’r llywodraeth fod yn fwy beiddgar o ran ymyrryd i liniaru effeithiau niweidiol pan na fo modd i’r sector preifat wneud hynny ar ei ben ei hun”.

Addasu i normalrwydd newydd

Mae angen dybryd i addasu i effeithiau newid hinsawdd, waeth pa mor gyflym y mae allyriadau’n gostwng. Mae’r effeithiau’n amrywio, gan gynnwys lledaeniad clefydau fel y tafod glas, a gorboethi peryglus mewn cartrefi pobl. Mae stormydd y gaeaf yn dwysáu, gan olygu bod digwyddiadau fel stormydd Bert, Darragh, a Claudia yn fwy tebygol o ddigwydd eto, a chan gynyddu’r risg o lifogydd.

Amcangyfrif o’r perygl o lifogydd i eiddo yng Nghymru yn 2025 a 2120

Siart bar a ffotograff. Mae'r siart bar yn cymharu nifer yr eiddo sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru yn 2025 a'r rhagamcanion ar gyfer 2120. Dangosir y risgiau ar gyfer afonydd, moroedd, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach, ynghyd â’r risg yn ei chyfanrwydd. Un o’r prif bwyntiau sy’n cael ei ddangos yw y bydd cynnydd o 33% yn nifer yr eiddo a fydd mewn perygl erbyn 2120. Mae'r ffotograff yn dangos stryd sydd wedi'i tharo gan lifogydd.

Ffynhonnell: Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – sy’n asesu anghenion seilwaith dros y tymor hir – wedi arddel mwy o frys a sylfaen gyfreithiol fwy cadarn ar gyfer addasu.

Mae dulliau o addasu sy’n seiliedig ar natur, fel adfer dolydd morwellt a phlannu coed mewn trefi, yn cynnig opsiynau i lunwyr polisi o ran lleihau risgiau hinsawdd a chefnogi bioamrywiaeth ar yr un pryd.

Datblygiadau disgwyliedig o ran natur a gweithredu ar yr hinsawdd

Tabl amserlen sy’n dangos cerrig milltir allweddol yn y dyfodol ar gyfer polisi natur a hinsawdd yng Nghymru rhwng 2026 a 2050. Mae’n cynnwys cynlluniau ar gyfer cyllidebau carbon, targedau bioamrywiaeth, targedau 2030 ar gyfer natur a lleihau allyriadau, nodau hinsawdd 2040 a 2050, a'r targed sero net.

Seiliau llwyddiant

Mae’r sector amgylcheddol yn dadlau ei bod yn annhebygol y bydd y nodau hinsawdd a natur yn cael eu cyflawni heb gyllid digonol a pharhaus. I gydnabod maint y dasg, mae amgylcheddwyr a llywodraethau yn canolbwyntio fwyfwy ar fecanweithiau i ddenu buddsoddiadau preifat cynaliadwy i ategu’r cyllid cyhoeddus sydd ar gael.

Yn dilyn cyfnod hir o aros gan randdeiliaid – bydd y Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol Cymru yn cael ei sefydlu yn y Seithfed Senedd. Bydd ei hannibyniaeth a’i chyllid yn ystyriaethau allweddol, o gofio ei rôl arfaethedig, sef gwella gweithrediad cyfraith amgylcheddol a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif mewn perthynas ag ymrwymiadau natur a hinsawdd.

Mae colli natur a newid hinsawdd yn effeithio ar lawer o feysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Mae’r broses o integreiddio ystyriaethau amgylcheddol ar draws y Llywodraeth bellach yn ofyniad cyfreithiol. Yn ystod y Seithfed Senedd, bydd rhanddeiliaid amgylcheddol yn disgwyl ymateb i’r argyfyngau natur a hinsawdd sydd wedi’i ymwreiddio drwy’r Llywodraeth gyfan.

Erthygl gan Dr Katy Orford a Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru