dark blue sea water with white foam on the swell of the wave

dark blue sea water with white foam on the swell of the wave

Harneisio ynni adnewyddadwy morol Cymru: y stori hyd yma

Cyhoeddwyd 22/05/2023   |   Amser darllen munudau

Gyda’r ail amrediad llanw uchaf yn y byd, ac arfordir sy’n wynebu’r Iwerydd sy’n darparu hinsawdd gwynt a thonnau ynni uchel, mae Cymru mewn sefyllfa dda i wneud y gorau o’r amgylchedd morol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio’r sector ynni, gan gyflymu’r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy, a chyflawni sero net erbyn 2050. Mae wedi gosod targed i gyrraedd 70% o alw Cymru am drydan o ffynonellau trydan adnewyddadwy Cymru erbyn 2030. Mae hefyd wedi ymrwymo i gefnogi arloesedd mewn ynni adnewyddadwy newydd.

I nodi dechrau 'Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol’ (CPMR), y mae'r Senedd yn ei chynnal, mae’r erthygl hon yn edrych ar yr hyn y mae ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn ei olygu i dechnolegau adnewyddadwy morol ym moroedd Cymru.

Ynni’r llanw: ddwywaith y dydd, bob dydd

Mae dau fath o ynni llanw; amrediad llanw a ffrwd llanw. Mae technolegau amrediad llanw yn harneisio'r ynni potensial a grëir gan y gwahaniaeth rhwng llanw isel ac uchel. Yn gyffredinol, maent yn cynnwys adeiladu morlynnoedd neu forgloddiau ar raddfa fawr sy'n dal ac yna'n rhyddhau'r llanw sy’n dod i mewn, fel y cynllun braenaru a gynigiwyd yn flaenorol ar gyfer morlyn llanw ym Mae Abertawe. Mae prosiectau sydd wedi'u cynllunio ar hyn o bryd yn cynnwys Eden Las yn Abertawe, Ynni Llanw Gogledd Cymru, a Phorthladd Mostyn.

Mae technolegau ffrwd llanw yn harneisio egni cinetig cerrynt i bweru tyrbinau. Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys prosiect Minesto yn Nyfnder Caergybi, sef y prosiect ynni llanw cyflymder isel cyntaf yn y byd.

Erbyn 2024, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn datblygu ‘Her Morlyn Llanw’:

…gan roi tystiolaeth gadarn ar ddichonoldeb y dechnoleg a'r potensial i gefnogi prosiect yn nyfroedd Cymru a all ddangos cynaliadwyedd amgylcheddol yn unol ag amcanion a pholisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ddiweddar mai ei uchelgais “yw gwneud Cymru’n ganolfan i’r byd ar gyfer technoleg y llanw.”, ochr yn ochr â chyllid o £750,000 i gefnogi o leiaf dri phrosiect ymchwil morlyn llanw. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yr ymchwil yn mynd i’r afael â rhwystrau sy’n arafu datblygiad y dechnoleg, yn ogystal â rhoi cipolwg ar y manteision posib.

Ynni gwynt ar y môr

offshore wind farm, North WalesMae gwynt ar y môr yn dechnoleg ynni adnewyddadwy sefydledig a phrofedig. Mae tair fferm wynt weithredol ar y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru: Gwynt y Môr, Gwastadeddau’r Rhyl a North Hoyle. Fodd bynnag, mae'r ffermydd gwynt ar y môr ‘sylfaen sefydlog’ hyn wedi’u cyfyngu i ddyfnderoedd dŵr o 60m.

O’r herwydd, mae ffocws wedi troi at ddatblygu technolegau gwynt ar y môr arnofiol (FLOW), sy’n cyfuno'r dechnoleg llwyfan a ddefnyddir yn y diwydiant olew a nwy, a thyrbinau gwynt. Mae hyn yn golygu y gall tyrbinau gwynt symud i ddyfroedd dyfnach lle mae cyflymder y gwynt yn uwch a chael llai o effaith weledol.

Mae tyrbinau FLOW wedi'u cynllunio i fod yn dalach na thechnolegau sefydlog traddodiadol, gan ganiatáu iddynt fanteisio ar y gwyntoedd cryfaf ar uchderau uwch. Mae’r tyrbin mwyaf mewn cynhyrchiad yn 265m, sydd ddwywaith uchder y London Eye!

Dywed Ynni Morol Cymru, sy’n cynrychioli’r diwydiant ynni morol yng Nghymru, “gwynt ar y môr fydd asgwrn cefn ein system ynni yn y dyfodol”, a bydd angen “100GW o gapasiti gosodedig erbyn 2050”.

FLOW yn y Môr Celtaidd

Mae’r Môr Celtaidd, sef yr ardal rhwng de Cymru, Iwerddon a Chernyw, yn anhygoel o wyntog, ond yn rhy ddwfn ar gyfer tyrbinau gwaelod sefydlog traddodiadol. Mae Ynni Morol Cymru yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu FLOW yn y Môr Celtaidd, gan ddweud y gall ddarparu 24GW o ynni a miloedd o swyddi.

Mae Llywodraeth y DU am ddatblygu 5GW o FLOW erbyn 2030 fel rhan o Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain. Mae Ynni Morol Cymru yn amlygu y dylai datblygiad FLOW fod yn “gyflym” i gyflawni uchelgeisiau sero net, tra’n lleihau effaith amgylcheddol a sicrhau’r budd lleol mwyaf posibl. O’r herwydd, mae Ystad y Goron (mwy am hyn isod) wedi cynnig cyfleoedd prydlesu yn y Môr Celtaidd ar gyfer prosiectau FLOW, y gellir eu datblygu cam wrth gam. Mae’n dweud bod y dull hwn yn cydnabod yr angen i ddatblygu cadwyn gyflenwi’r DU a seilwaith ategol, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer twf a buddsoddiad.

Mae Ystad y Goron wedi nodi ‘Ardaloedd Chwilio’ eang ar gyfer cyfle FLOW posibl, a’u crynhoi ‘Ardaloedd Chwilio’ wedi’u mireinio wrth i ddata ddod ar gael. Mae hefyd wedi buddsoddi mewn arolygon morol, a sicrhau bod data ar gael i gynigwyr llwyddiannus i gyflymu’r broses o gyflawni prosiectau.

Mae Ynni Morol Cymru yn nodi camau y dull ‘cam wrth gam’ yn y Môr Celtaidd:

  1. Tri phrosiect graddfa 100MW ar wahân a phrosiectau arddangos wedi’u cyflawni gan Blue Gem Wind, Floventis a Flotation Energy. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio mewn parthau arddangos yn nes at y lan;
  2. Pedwar datblygiad ar wahân ar raddfa 1GW wedi’u cynllunio erbyn 2035 Dechrau 30km o'r lan o fewn pum maes eang, a fydd angen 250 o dyrbinau arnofiol a phweru pedair miliwn o gartrefi;
  3. 24GW o ynni glân wedi’i gyflenwi erbyn 2035.

Lleihau effaith amgylcheddol

Mae grwpiau amgylcheddol wedi mynegi pryderon ers tro y gallai tyrbinau gwynt mewn lleoliad amhriodol gael effaith ar adar trwy wrthdaro, aflonyddwch neu ddifrod i gynefin. Mae’r RSPB yn cydnabod y risg i natur o’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys nifer yr achosion o osodiadau ynni adnewyddadwy, ac yn dweud:

Rhaid inni sicrhau bod ein gwaith o drawsnewid ynni yn cael ei ddatblygu law yn llaw â mesurau i warchod natur.

Gall ffermydd gwynt ar y môr gael effaith ehangach ar natur, gan gynnwys ar famaliaid morol, ecoleg gwely’r môr, pysgod, yn ogystal ag effeithiau gweledol. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru a RSPB y gellir osgoi/lleihau'r effeithiau hyn trwy gynllunio a lleoli datblygiadau’n ofalus.

Mae’r RSPB yn awgrymu bod gan FLOW fanteision amgylcheddol dros ffermydd gwynt sylfaen sefydlog. Dywed y gall FLOW fanteisio ar ardaloedd sydd i ffwrdd o nythfeydd adar môr sy'n magu (sydd fel arfer yn agosach at y lan) ac ardaloedd porthi bas. Mae’r RSPB yn awgrymu y gallai effeithiau seilwaith is ar wely'r môr hefyd leihau'r effeithiau ar fywyd gwyllt morol.

Gwneud y mwyaf o’r manteision i Gymru

Dywed y bydd Ystad y Goron yn elwa’n ariannol yn sgil Cymru yn cynnal ynni adnewyddadwy morol, gan ei fod yn rhoi’r hawl i ddefnyddio gwely’r môr drwy broses brydlesu. Mae ein herthygl pwy sy'n berchen ar wely'r môr, a pham mae’n bwysig, yn archwilio rôl Ystâd y Goron wrth ddatblygu ynni adnewyddadwy morol Cymru.

Mae elw Ystad y Goron yn mynd i’r Trysorlys, ond caiff hefyd ei ddefnyddio fel meincnod ar gyfer lefel y cyllid cyhoeddus ar gyfer y Teulu Brenhinol, a elwir yn Grant Sofran – sydd ar hyn o bryd yn 25% o elw Ystad y Goron (cynnydd o 10% ar y 15% arferol i ariannu’r gwaith o adnewyddu Palas Buckingham). Yn gynharach eleni nodwyd bod elw wedi cynyddu £1 biliwn y flwyddyn am o leiaf tair blynedd, oherwydd cytundebau prydles ar gyfer ynni gwynt ar y môr (DU gyfan).

O ganlyniad i brydlesu gwynt ar y môr blaenorol (nad yw’n FLOW), mae Ystad y Goron yn adrodd bod gwerth ei bortffolio morol [adnewyddadwy] yng Nghymru wedi cynyddu o £49.2 miliwn o 1 Ebrill 2020, i £549.1 miliwn ar 31 Mawrth 2021. Nid yw Ystad y Goron wedi adrodd ar y gwerthoedd hyn yn ei adroddiad diweddaraf.

Mae’r cytundeb cydweithio yn nodi eu bod yn cefnogi “datganoli pwerau ac adnoddau pellach y mae ar Gymru eu hangen i ymateb yn fwyaf effeithiol i gyrraedd sero net, yn benodol rheolaeth dros Ystad y Goron a’i hasedau yng Nghymru”. Fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog wedi tynnu sylw bod unrhyw benderfyniad i ddatganoli Ystâd y Goron yn un i Lywodraeth y DU, a bod yr awydd am ragor o ddatganoli yn y maes hwnnw’n eithaf cyfyngedig.

Mae cynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn bwysicach fyth os yw Cymru am gyflawni ei huchelgeisiau sero net, ac mae’n amlwg y gall ynni adnewyddadwy morol chwarae rhan hanfodol yn ein system ynni yn y dyfodol.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru