Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Cyhoeddiad Newydd: Rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Cyhoeddwyd 29/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cyflwyno nifer o fesurau i wella ac amddiffyn yr amgylchedd yng Nghymru. Mae’n newid yr ymagwedd at faterion amgylcheddol, gan hybu dull systemig ac integreiddio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Mae’r papur briffio hwn yn canolbwyntio ar Ran 1 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol.
Cyhoeddiad newydd: Rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (PDF, 1238KB)
Erthygl gan Chris Wiseall a Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Chris Wiseall gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r papur briffio hwn gael ei gwblhau.
