Llwybr at filiwn o siaradwyr Cymraeg: rôl yr ystafell ddosbarth

Cyhoeddwyd 11/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/06/2026

 

Fe wnaeth prif bolisi iaith Gymraeg y Llywodraeth flaenorol, ‘Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg’, weddnewid y dull o gynllunio a llunio polisi iaith yng Nghymru, gan osod targed a llwybr i wyrdroi canrif o ddirywiad o ran y Gymraeg. Bydd y system addysg yn gwbl allweddol os yw’r uchelgais hwn am gael ei wireddu.

Cafodd Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (‘Deddf 2025’) ei phasio’n unfrydol gan y Senedd ym mis Mai 2025. Ei nod yw ategu Cymraeg 2050 drwy wella sgiliau Cymraeg disgyblion ysgol.

Nod Llywodraeth flaenorol Cymru, fel sy’n cael ei weld yn y nodau a gafodd eu gosod gan Ddeddf 2025 ar gyfer ysgolion, oedd i bob disgybl ddod yn siaradwyr Cymraeg ‘sylfaenol’ o leiaf erbyn diwedd addysg orfodol. Y bwriad oedd uwchraddio’r nod isaf hwnnw i siaradwyr Cymraeg ‘annibynnol’ yn y dyfodol. Bydd gweithredu Deddf 2025 yn dasg sylweddol i Lywodraeth newydd Cymru, os bydd yn dewis gwneud hynny. Os bydd yn gwneud hynny, bydd angen buddsoddiad, cynllunio a chefnogaeth i awdurdodau lleol, ysgolion ac athrawon.

Gweithredu Deddf 2025 yng nghanol heriau yn y sector addysg

Mae sawl her yn wynebu’r Llywodraeth newydd yng Nghymru a’i phartneriaid sy’n gyfrifol am gyflawni nodau Deddf 2025. Fel y cafodd ei nodi yn ystod y broses graffu ar y ddeddfwriaeth, y brif her ymhlith y rhain yw adeiladu gweithlu addysgu dwyieithog sy’n ddigon cryf i gefnogi pob disgybl i ddod yn siaradwyr Cymraeg sylfaenol o leiaf, ac o bosibl yn siaradwyr annibynnol.

Ond mae gweithredu Deddf 2025 yn digwydd yn erbyn cefndir o bwysau ariannol a phwysau llwyth gwaith sylweddol yn y sector addysg.

Fel y gwnaeth Lynne Neagle AS, cyn-Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru gydnabod, mae disgwyl llawer gan ysgolion. Maent wedi bod yn gweithredu diwygiadau mawr i’r cwricwlwm a’r system anghenion dysgu ychwanegol, gyda’r dasg o wella safonau yng nghanol newidiadau i wasanaethau gwella ysgolion, ac yn adfer ar ôl pandemig COVID-19. A hyn oll ar adeg pan fo cyllidebau ysgolion wedi’u hymestyn yn ogystal â heriau mawr o ran recriwtio a chadw athrawon.

Mae ysgolion hefyd yn delio â’r effaith ffactorau cymdeithasol ehangach, gan gefnogi disgyblion gyda’u hiechyd meddwl a’u llesiant, mynd i’r afael ag ymddygiad sy’n gwaethygu, a chyfraddau presenoldeb sy’n parhau i fod yn is na’r lefelau cyn y pandemig.

Mae’r ymdrech i gynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu drwy’r Gymraeg yn dechrau methu

Mae data cyfrifiad y gweithlu ysgolion yn dangos, ym mis Tachwedd 2024, fod 39% o athrawon wedi nodi bod ganddynt sgiliau Cymraeg lefel ganolradd neu uwch, tra bod dim ond chwarter ohonynt yn addysgu’r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg ar y pryd. Mae’r ffigur hwnnw’n disgyn yn sylweddol ymhlith staff cymorth addysgu, gyda dim ond tua 1 o bob 5 (21%) â sgiliau canolradd neu uwch.

Mae Cymraeg 2050 yn gosod targedau heriol i gynyddu nifer yr athrawon cynradd ac uwchradd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn awgrymu tuedd ar i lawr yn nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os yw amcanion Cymraeg 2050 a Deddf 2025 i gael eu gwireddu, mae gwrthdroi’r duedd hon yn hollbwysig. Fel y dywedodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Chweched Senedd ar y pryd, “mae’n gwbl amlwg fod llwyddiant y Bil yn dibynnu ar sicrhau’r gweithlu addysg i’w gyflawni”.

Dwy agwedd ar Ddeddf 2025 sy’n allweddol i yrru’r newid yw:

  • fframwaith cenedlaethol statudol a fydd yn gyswllt rhwng cynllunio a darparu addysg Gymraeg a dysgu’r Gymraeg ar lefel genedlaethol, lefel leol a lefel ysgol; a
  • sefydlu’r Athrofa Dysgu Cymraeg Cenedlaethol (yr Athrofa), a fydd â chyfrifoldeb sylweddol dros gynllunio datblygiad y gweithlu addysg er mwyn gwella dulliau addysgu’r Gymraeg.

Cynlluniau gweithlu yn ceisio hybu addysgu drwy’r Gymraeg

Yn 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd. Ei nod yw cefnogi gwaith cyflawni Cymraeg 2050 drwy gynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hefyd yn anelu at ddatblygu “sgiliau Cymraeg ac arbenigedd pob ymarferydd”.

Yn ogystal â’r cynllun 10 mlynedd, cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru yn ddiweddar Gynllun Strategol y Gweithlu Addysg. Cafodd ei ddatblygu’n rhannol mewn ymateb i waith craffu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg flaenorol ar Fil y Gymraeg ac Addysg ac ymchwiliad i recriwtio a chadw athrawon. Bydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni cynllun 10 mlynedd y gweithlu Cymraeg mewn addysg a gwaith yr Athrofa Genedlaethol newydd. Mae’r

Cynllun yn nodi camau gweithredu i’w cymryd gyda phartneriaid er mwyn “cefnogi datblygiad parhaus ein hysgolion” a’r bobl sy’n gweithio ynddynt.

Nod y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg yw datblygu a chyflawni’r canlynol o fewn yr un i ddwy flynedd nesaf:

  • datblygu rhaglen dysgu proffesiynol genedlaethol i ddatblygu dulliau effeithiol o addysgu a dysgu Cymraeg a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • adolygu cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg i sicrhau y gellir cyflawni’r targedau a fydd yn cael eu gosod ar awdurdodau lleol drwy’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Cymraeg a Dysgu Cymraeg;
  • adolygu effeithiolrwydd a gwerth am arian cymhellion hyfforddi athrawon Cymraeg mewn addysg a’r cynllun peilot sy’n cynnig bwrsariaethau i aros yn y proffesiwn; a
  • datblygu modelau cynllunio gweithlu lleol a rhanbarthol i ystyried newidiadau mewn demograffeg, y cynnydd arfaethedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a ffactorau lleol eraill er mwyn llywio’r gwaith o gynllunio’r gweithlu cenedlaethol.

Mae gan gynnydd wrth gyflawni’r cynlluniau hynny y potensial nid yn unig i ddatblygu addysgu a dysgu Cymraeg yn effeithiol, ond gallai hefyd gynorthwyo cynnydd ysgolion ar hyd y continwwm iaith wrth i’r capasiti gynyddu.

Ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy’r Gymraeg

Mae cydnabyddiaeth eang bod ehangu addysg cyfrwng Cymraeg (yn ogystal â throsglwyddo’r iaith yn y cartref) yn rhan annatod o greu siaradwyr Cymraeg rhugl. Yn ôl ffigurau 2024/25, mae 29% o ysgolion yng Nghymru wedi’u categoreiddio fel ysgolion cyfrwng Cymraeg, a 5% arall fel ysgolion dwyieithog (Saesneg a Chymraeg). Mae 21% o ddisgyblion yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg a 5% o ddisgyblion yn mynychu ysgolion dwyieithog.

Ffigur 1: Cyfran yr ysgolion a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig) yn ôl categori iaith (Ionawr 2025)

 Siart doesen sy’n dangos, ym mis Tachwedd 2025, fod 29.0% o ysgolion a gynhelir yng Nghymru, heb gynnwys ysgolion arbennig, yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, 4.6% yn ysgolion dwyieithog a 66.3% yn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Canlyniadau cyfrifiad ysgolion: Ionawr 2025, Tabl 2, Gorffennaf 2025

Ffigur 2: Cyfran y disgyblion sy’n mynychu ysgolion a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig) yn ôl categori iaith (Ionawr 2025)

Siart doesen sy’n dangos, ym mis Ionawr 2025, fod 20.6% o ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion a gynhelir, heb gynnwys ysgolion arbennig, yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, 5.3% yn mynychu ysgolion dwyieithog a 74.2% yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Canlyniadau cyfrifiad ysgolion: Ionawr 2025, Tabl 2, Gorffennaf 2025

Yn 2021, dywedodd Llywodraeth Cymru fod 8 awdurdod lleol wedi ymrwymo i symud hyd at 42 o ysgolion ar hyd y continwwm iaith, er enghraifft, drwy newid categori iaith ysgol o fod yn ysgol ddwyieithog i fod yn ysgol gyfrwng Cymraeg. Er hynny, ers 2022, dim ond 8 ysgol sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad i newid eu categori iaith ledled Cymru, ac nid oes llawer o dystiolaeth fod nifer o ysgolion wedi symud ar hyd y llwybr hwnnw yn ystod y cyfnod yma.

Gosododd Cymraeg 2050 dargedau i gynyddu’r gyfran o ddisgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg i 30% erbyn 2031 ac i 40% erbyn 2050. Mae hyn yn seiliedig ar linell sylfaen o 22% o ddisgyblion Blwyddyn 2 (6 oed ar ddechrau’r flwyddyn) a oedd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn 2015/16. Mae Ffigur 3 yn dangos pa mor bell sydd i fynd.

Ffigur 3: Cyfran y disgyblion sy’n dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf

Graff llinell sy’n dangos y ganran o ddisgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 1, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 11, dros y cyfnod rhwng 2011/12 a 2024/25.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru (StatsCymru), Disgyblion a addysgir Gymraeg fel iaith gyntaf fesul awdurdod lleol, grŵp blwyddyn a blwyddyn

Mae Deddf 2025 yn ceisio newid y patrwm hwn drwy newid y ffordd y mae ysgolion yn cael eu categoreiddio a faint o Gymraeg sy’n cael ei haddysgu. Nod y newidiadau hyn yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn dod yn siaradwr Cymraeg sylfaenol i ddechrau, ac yn siaradwr annibynnol yn y dyfodol, erbyn cyrraedd 16 oed. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gael ‘Cynllun Cyflawni Addysg Gymraeg’, a darparu rhywfaint o addysg Gymraeg yn ôl gofynion eu categori penodol. Bydd y lefelau hyn yn cael eu nodi mewn rheoliadau yn y dyfodol. Mae’r Ddeddf yn nodi, yn achos ysgol ‘Prif iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg’, na ddylai’r ddarpariaeth Gymraeg fod yn llai na 10% o amser y cwricwlwm.

A fydd y buddsoddiad yn cyd-fynd â’r uchelgais?

Derbyniodd strategaeth Cymraeg 2050 a Deddf 2025 gefnogaeth drawsbleidiol yn ystod y Senedd ddiwethaf - uchelgais gyffredin i gynyddu’r defnydd o’r iaith. Ond a oes modd cynnal consensws o’r fath yn y Seithfed Senedd?

Bydd y ffordd orau o sicrhau dyfodol yr iaith yn fater sy’n cael ei drafod ymhell i’r dyfodol, ond fel y nododd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ei adroddiad diweddar, mae ffyniant yr iaith yn “dibynnu ar greu’r amodau lle gall pobl ei defnyddio’n rhwydd fel rhan o fywyd bob dydd”.

Mae Maniffesto 2026 Comisiynydd y Gymraeg yn nodi y gallai fod angen i Lywodraeth nesaf Cymru ystyried a yw’r lefel bresennol o fuddsoddiad yn debygol o newid trywydd yr iaith. Mae’r Comisiynydd yn honni na ellir disgwyl y bydd “parhau i fuddsoddi a gweithredu yn yr un modd ag y gwnaed yn ystod y degawdau diwethaf rywsut yn arwain at ganlyniadau gwahanol”. Mae llawer, felly, i’r Llywodraeth newydd ei ystyried os yw am gyflawni’r newid sylweddol a ragwelir gan Cymraeg 2050.


Erthygl gan Osian Bowyer a Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru