Datganoli – beth nesaf?

Cyhoeddwyd 17/06/2026

 

Mae’r Seithfed Senedd yn dechrau ynghanol cwestiynau heb eu datrys am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Ond pa fath o ddyfodol mae pobl yng Nghymru ei eisiau, a sut y gallai llywodraethau gydweithio’n well i wella canlyniadau?

Mae datganoli yng Nghymru wedi bod yn esblygu’n barhaus fwy na lai ers ei sefydlu 27 mlynedd yn ôl. Y newid diweddaraf – sef ehangu’r senedd a chael system etholiadol newydd – yw un o’r rhai mwyaf arwyddocaol hyd yn hyn. Ond i ble mae datganoli yn mynd o fan hyn?

Nod ehangu’r Senedd yw ceisio mynd i’r afael â chyfyngiadau capasiti ond nid yw’n datrys y ddadl barhaus ynghylch a yw’r setliad datganoli presennol yn gynaliadwy.

Un o’r heriau allweddol i’r Seithfed Senedd fydd gosod cyfeiriad y llwybr ar gyfer y bennod nesaf hon o ddatganoli.

Opsiynau posibl ar gyfer y dyfodol

Yn ôl arolwg barn diweddar, mae cyfrannau sylweddol o boblogaeth Cymru yn cefnogi annibyniaeth (26%) neu ddiddymu’r Senedd (28%), ond nid oes gan y naill opsiwn na’r llall gefnogaeth mwyafrif poblogaeth Cymru. Yn lle hynny, mae’r rhan fwyaf o blaid parhau â rhyw fath o ddatganoli, boed hynny’n golygu cynnal y drefn bresennol neu newid pwerau’r Senedd.

Ffigur 1: Canlyniadau arolwg yn gofyn i’r cyhoedd yng Nghymru sut y byddent yn pleidleisio pe bai refferenda’n cael eu cynnal yfory ar naill ai Cymru’n dod yn wlad annibynnol neu ddiddymu’r Senedd

Siart yn dangos canlyniadau arolwg barn ar gyfer dau gwestiwn refferendwm posibl: a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol ac a ddylid diddymu'r Senedd. O blaid annibyniaeth, 26% yn dweud Ie, 54% Na, ac mae 19% Ddim yn Gwybod neu ni fyddent yn pleidleisio. O blaid diddymu'r Senedd, 28% yn dweud Ie, 46% Na, a 27% Ddim yn Gwybod neu ni fyddent yn pleidleisio.

Ffynhonnell: Arolwg YouGov / Barn Cymru (5-12 Ionawr 2026)

Gwnaeth y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2022, ystyried y mater hwn yn fanwl a chynigiodd dri ‘opsiwn hyfyw’:

  • atgyfnerthu datganoli;
  • ffederaliaeth; ac
  • annibyniaeth.

Mae’r tri yn tybio y bydd rhyw fath o hunanlywodraeth yng Nghymru yn parhau, gyda rhai yn gofyn am fwy o newidiadau i’r ffordd y mae’r DU gyfan yn cael ei llywodraethu.

Roedd gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar ran y Comisiwn Annibynnol yn gofyn i ymatebwyr pwy oeddent yn credu ddylai fod yn gyfrifol am rai meysydd polisi. Mewn meysydd nad oeddent eisoes wedi’u datganoli, roedd rhywfaint

o gefnogaeth ymhlith y cyhoedd i roi pwerau plismona a lles i Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, ond roedd barn gref y dylai San Steffan barhau i fod yn gyfrifol am bolisi mewnfudo a thramor.

Ffigur 2: Canlyniadau arolwg a gafodd ei gynnal ar gyfer y Comisiwn Annibynnol ynghylch pwy y mae’r ymatebwyr yn credu y dylai fod yn gyfrifol am rai meysydd polisi yng Nghymru

Siart sy'n cymharu barn y cyhoedd ynghylch a ddylai pedwar maes polisi fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth/Senedd y DU neu Lywodraeth/Senedd Cymru. O ran plismona, mae 40% o blaid Llywodraeth/Senedd y DU a 48% o blaid Llywodraeth/Senedd Cymru. O ran lles, mae 41% yn dewis Llywodraeth/Senedd y DU a 45% yn dewis Llywodraeth/Senedd Cymru. O ran mewnfudo, mae 55% yn ffafrio Llywodraeth/Senedd y DU a 33% yn ffafrio Llywodraeth/Senedd Cymru. O ran polisi tramor, mae 58% yn dewis Llywodraeth/Senedd y DU a 29% yn dewis Llywodraeth/Senedd Cymru.

Ffynhonnell: Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2024)

Aeth y Comisiwn ymlaen i argymell y dylai pwerau pellach dros ddarlledu, ynni, cyfiawnder a phlismona, a gwasanaethau rheilffyrdd gael eu datganoli.

Ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i ddatganoli pwerau pellach i’r Senedd. Ar ddiwedd y Chweched Senedd, cyhoeddodd ddiweddariad ar y cynnydd a wnaed ar ystod o feysydd. Roedd hyn yn cynnwys datganiad ar y cyd gyda Llywodraeth y DU ar ymrwymiadau ar gyfiawnder ieuenctid a phrawf, ac adroddiad ar ddatganoli Ystad y Goron.

Os yw Llywodraeth newydd Cymru am fynd ar drywydd y materion hyn ymhellach, yna bydd ei pherthynas â Llywodraeth y DU yn allweddol. Yn y pen draw, bydd angen Deddf gan Senedd y DU er mwyn newid pwerau Senedd Cymru. Er bod Llywodraeth y DU wedi gwneud ymrwymiadau i archwilio datganoli prawf a chyfiawnder ieuenctid, mae wedi gwrthwynebu datganoli meysydd eraill, fel plismona, Ystad y Goron a gwasanaethau rheilffyrdd.

Un ystyriaeth allweddol i Lywodraeth newydd Cymru fydd a yw’n dymuno parhau i fynd ar drywydd datganoli pwerau ymhellach.

Pwysigrwydd llywodraethau’n cydweithio’n dda

Mae arolygon barn cyhoeddus yn awgrymu bod pobl yng Nghymru eisiau i lywodraethau’r DU gydweithio’n well. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer Policywise, mae 95% o bobl yn yr Alban a Chymru eisiau cydweithredu cryfach rhwng eu llywodraethau a San Steffan.

Canfu fod 68% o bobl yng Nghymru yn teimlo nad yw llywodraethau Cymru a’r DU yn cydweithio’n dda ar hyn o bryd. Nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Gymru, gyda 60% o ymatebwyr o’r Alban yn teimlo’r un peth.

Ffigur 3: Canlyniadau arolwg a gynhaliwyd ar gyfer Policywise yng Nghymru a’r Alban ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol

Siart yn cyflwyno canlyniadau arolwg o Gymru a'r Alban ar gydweithredu rhwng llywodraethau. Yn yr Alban, mae 26% yn credu bod llywodraethau'n cydweithio'n dda, mae 60% yn credu nad ydyn nhw'n gwneud hynny, mae 54% yn credu y gallen nhw weithio'n dda ond nad ydyn nhw'n gwneud hynny ar hyn o bryd, ac mae 53% yn credu bod cydweithio agosach yn sicrhau bod buddiannau eu cenedl yn cael eu hystyried. Yng Nghymru, mae 20% yn credu bod llywodraethau'n cydweithio'n dda, mae 68% yn credu nad ydyn nhw'n gwneud hynny, mae 51% yn credu y gallen nhw weithio'n dda ond nad ydyn nhw'n gwneud hynny ar hyn o bryd, ac mae 49% yn credu bod cydweithio agosach yn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried.

Ffynhonnell: Agweddau’r Cyhoedd Tuag at Gydweithredu Rhynglywodraethol yn yr Alban a Chymru (2026)

Fodd bynnag, mae mwyafrif y boblogaeth yn credu y gallai llywodraethau gydweithio’n dda, ond nid ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Yng Nghymru, mae 49% o bobl yn credu bod cydweithio agosach rhwng llywodraethau yn sicrhau bod buddiannau’r genedl yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ledled y DU, gyda’r GIG (52%) yn cael ei ystyried fel y maes lle mae mwyaf o angen cydweithio agosach.

Roedd yr awydd hwn i lywodraethau gydweithio yn amlwg iawn hefyd yng ngwaith y Comisiwn Annibynnol. Canfu arolwg ar gyfer y Comisiwn fod 92% o bobl yn credu ei bod hi’n bwysig i lywodraethau’r DU a’r llywodraethau datganoledig gydweithio.

Roedd nifer o gamau pwysig ymlaen i wella strwythur y berthynas rynglywodraethol rhwng llywodraethau Cymru a’r DU yn ystod y Chweched Senedd, gyda sefydlu system newydd o gyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol a nod Llywodraeth y DU i ‘ailosod’ perthnasau gyda’r llywodraethau datganoledig. Er hynny, roedd y diffyg tryloywder gyda rhai o’r strwythurau hyn wedi peri heriau craffu i’r Senedd.

Waeth pwy sy’n rhedeg Llywodraeth Cymru, mae’n amlwg bod pobl Cymru eisiau i’r berthynas rhwng llywodraethau wella er mwyn sicrhau bod y setliad datganoli presennol yn gweithio iddyn nhw ac i gefnogi’r gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw.

Yr her i’r Seithfed Senedd 

Wrth i’r Seithfed Senedd ddechrau, mae’r ddadl gyfansoddiadol ymhell o fod wedi’i setlo. Er bod y cyhoedd yn parhau i gefnogi datganoli mewn egwyddor, dim ond 36% o bobl yng Nghymru sy’n meddwl ei fod wedi bod yn beth da, o’i gymharu â 48% yn yr Alban. Bydd rhaid i Aelodau newydd o’r Senedd a Llywodraeth newydd Cymru wynebu’r her o wneud i ddatganoli weithio er lles pobl Cymru.

Yn ogystal â manteisio i’r eithaf ar y pwerau sydd ganddi eisoes, mae dadl barhaus ynghylch a ddylai’r Senedd gael pwerau pellach, dros feysydd fel cyfiawnder, ynni a seilwaith rheilffyrdd.

Yr hyn sy’n amlwg o’r dystiolaeth yw bod pobl eisiau i lywodraethau gydweithio’n well, waeth beth fo’u dewisiadau cyfansoddiadol. Mae perthnasoedd rhynglywodraethol cryfach a dull mwy cydlynol o weithio ar y cyd yn cael eu hystyried yn sylfeini hanfodol ar gyfer beth bynnag a ddaw nesaf.

Nid oes modd pennu dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn llawn mewn un tymor yn y Senedd, ond bydd gan y Seithfed Senedd rôl allweddol i’w chwarae wrth lunio pennod nesaf datganoli.

 


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru