Comisiwn Thomas: Tair blynedd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 24/10/2022   |   Amser darllen munudau

Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru adroddiad ar ei adolygiad o’r system gyfiawnder yng Nghymru, gan ddod i’r casgliad “nad yw'r system bresennol yn diwallu anghenionpobl Cymru”.

Ar ôl oedi oherwydd pandemig Covid-19, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i adroddiad y Comisiwn ym mis Mai 2022.

Tair blynedd ers cyhoeddi canfyddiadau'r Comisiwn, mae'r erthygl hon yn bwrw golwg dros ganfyddiadau adroddiad Llywodraeth Cymru, sef Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, sy'n nodi ymateb y Llywodraeth i'r Comisiwn a'i gweledigaeth ar gyfer polisi cyfiawnder yng Nghymru.

Argymhellion Comisiwn Thomas

Cafodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (“Comisiwn Thomas”) ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017 ac fe’i cadeiriwyd gan yr Arglwydd Thomas o Cwmgïedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr. Argymhelliad canolog y Comisiwn yn ei adroddiad oedd y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder yn gyfan gwbl a chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.

Mae Sicrhau Cyfiawnder i Gymru yn ailddatgan bod Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r argymhelliad craidd hwn, sydd eisoes yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru a Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno â’r datganiad a ganlyn gan y Comisiwn: “Wrth i gyfiawnder gael ei ddatganoli, mae'n rhaid i adnoddau ariannol ... gael eu trosglwyddo'n llawn”.

Canfu Comisiwn Thomas, er bod llawer o’r pwerau dros gyfiawnder wedi’u cadw’n ôl, mai Llywodraeth Cymru sy’n ariannu elfennau sylweddol o’r system gyfiawnder, gan fod yn gyfrifol am yr elfennau hyn hefyd. Argymhellodd y Comisiwn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu dull mwy strategol a dangos mwy o arweiniad ar bolisi cyfiawnder.

I wneud hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder, wedi rhoi cyfrifoldeb dros bolisi cyfiawnder i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ac wedi sefydlu is-adran o swyddogion i drafod polisi cyfiawnder. Mae ein herthygl ar y trefniadau ar gyfer goruchwyliaeth ac atebolrwydd ym maes cyfiawnder yng Nghymru yn cynnwys mwy o fanylion am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru.

Mae cyfraith teulu yn faes y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w gefnogi o fewn ei phwerau presennol. Mae Sicrhau Cyfiawnder i Gymru yn amlinellu ffocws Llywodraeth Cymru ar blant mewn gofal a’r cynllun peilot Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol i Deuluoedd a sefydlwyd yn dilyn argymhellion Comisiwn Thomas.

Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymdrin â’r argymhellion a wnaed mewn perthynas â thribiwnlysoedd a chyfiawnder gweinyddol. Mae llawer o'r argymhellion hyn yn cyd-fynd ag adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i groesawu.

Ceir enghreifftiau hefyd lle mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod cydweithio ar rai o argymhellion eraill y Comisiwn. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Canolfan Breswyl i Fenywod, cefnogi cynllun peilot Llys Datrys Problemau yng Nghymru a gwella mynediad corfforol a digidol at gyfiawnder.

Yn dilyn argymhellion y Comisiwn, cafodd Cyngor Cyfraith Cymru ei sefydlu ym mis Tachwedd 2021. Mae’r Cyngor yn dwyn ynghyd cynrychiolwyr o’r proffesiwn cyfreithiol, ysgolion y gyfraith, y farnwriaeth ac unigolion eraill sydd â diddordeb yn y sector cyfreithiol. Rhoddodd Cyngor y Gyfraith dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd ym mis Mai.

Sut olwg allai fod ar system gyfiawnder ddatganoledig?

Mae Sicrhau Cyfiawnder i Gymru yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sut y byddai system gyfiawnder ddatganoledig yn gweithredu. Mae hyn yn cynnwys cynnal rheolau cyfreithiol; gwarantu mynediad at gyfiawnder; a gwella profiadau dioddefwyr, tystion a goroeswyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am roi llais mwy amlwg i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y system gyfiawnder a dilyn dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau at gyfraith a llunio polisïau. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr, ymarferwyr yn y maes a phobl yr effeithir arnynt gan newidiadau i'r system.

Un o'i hamcanion ar gyfer newid fyddai lleihau nifer y bobl mewn carchardai drwy fynd ar drywydd dewisiadau amgen yn lle dedfrydau o garchar, lle bo hynny'n briodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yr hoffai weld system gyfiawnder ddatganoledig a fyddai’n amddiffyn ac yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac yn cefnogi cynaliadwyedd y proffesiwn cyfreithiol.

Blaenraglen waith

Mae Sicrhau Cyfiawnder yng Nghymru yn nodi pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud mewn meysydd sydd eisoes wedi’u datganoli. Mae’r rhaglen waith yn cynnwys ymrwymiadau i ymgorffori Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl a dileu gwahaniaethu yn erbyn menywod yng nghyfraith Cymru ac i ystyried yr achos dros gyflwyno Bil Hawliau Dynol i Gymru.

Beth mae’r Senedd yn ei wneud i graffu ar y gwaith hwn?

Un o argymhellion Comisiwn Thomas oedd y dylai’r Senedd chwarae rhan fwy rhagweithiol yn y gwaith o graffu ar y ffordd y caiff y system gyfiawnder ei gweithredu yng Nghymru.

Ym mis Ionawr 2020, yn ystod y Bumed Senedd, sefydlodd y Senedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad, sef Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru, gan gynnwys sesiynau tystiolaeth gyda’r Arglwydd Ganghellor, Comisiwn y Gyfraith a Llywodraeth Cymru.

Ers i’r Pwyllgor gael ei ailsefydlu yn y Chweched Senedd, mae wedi ymgysylltu ag ymarferwyr cyfreithiol ac ymgyfreithwyr ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru ac mae wedi cynnal sesiynau tystiolaeth gyda Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, cyn Gadeirydd Comisiwn Thomas, a Chyngor Cyfraith Cymru.

Ers dechrau'r Chweched Senedd, mae cyfiawnder hefyd wedi bod yn rhan o gylch gwaith Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd. Mae’r Pwyllgor hwn wrthi’n cynnal ymchwiliad i brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Ym mis Rhagfyr eleni, bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar sut mae pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael eu trin gan y system gyfiawnder droseddol.

Sut mae'r gwrthbleidiau wedi ymateb?

Gwnaeth Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ddatganiad ar gyfiawnder yng Nghymru yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mai.

Wrth ymateb i’r datganiad, nododd Mark Isherwood AS, Cwnsler Cyffredinol Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, fod ei blaid yn gwrthwynebu datganoli cyfiawnder. Gofynnodd hefyd i’r Cwnsler Cyffredinol roi rhagor o fanylion am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ei rhaglenni cyfiawnder yng Nghymru.

Gwnaeth Rhys ab Owen AS, llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad a chyfiawnder, a wasanaethodd hefyd fel Pennaeth Polisi Comisiwn Thomas, groesawu cyhoeddiad y ddogfen ond galwodd am ragor o fanylion am y broses o ddatganoli cyfiawnder a sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi i hynny ddigwydd.

A fydd datganoli cyfiawnder yn digwydd mewn gwirionedd?

Mae Llywodraeth Cymru a phedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru yn cefnogi datganoli cyfiawnder. Fodd bynnag, yn hollbwysig, mae Llywodraeth y DU yn dal i wrthwynebu.

Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei safbwynt mai cynnal yr awdurdodaeth gyfreithiol sengl yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau cyfiawnder ledled Cymru a Lloegr ac ni fyddai modd cyfiawnhau sefydlu awdurdodaeth ar wahân. Cadarnhawyd y byddai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ar waith ar y cyd ar gefnogi menywod a phobl ifanc a bwrw ymlaen â rhai o argymhellion y Comisiwn Thomas.

Gyda safbwyntiau mor wahanol, mae’r Senedd yn debygol o gadw llygad barcud ar i ba raddau y mae uchelgeisiau Llywodraeth Cymru yn dwyn ffrwyth yn y maes polisi allweddol hwn.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru