Datblygiadau yn nhirwedd gyllidol Cymru

Cyhoeddwyd 02/06/2026   |   Amser darllen munudau

 

Bydd y Seithfed Senedd yn gweld trethi newydd yn cael eu datganoli i Gymru, ac ymgais i gael pwerau treth incwm newydd i roi mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru dros y ffordd y mae cyllid yn cael ei godi ar gyfer Cyllideb Cymru. A allai datganoli Ystad y Goron a’i refeniw hefyd ychwanegu at y gronfa gyllido yn y Seithfed Senedd?

Mae datganoli cyllidol, sy’n rhoi pwerau codi treth a benthyca i Lywodraeth Cymru, wedi ail-lunio sut mae Cymru’n cael ei hariannu. Mae un rhan o bump o gyllideb Llywodraeth Cymru yn dod o drethi wedi’u datganoli, ond mae’r cynnydd tuag at ehangu’r pwerau hyn wedi bod yn araf.

Mae cynigion treth newydd, cwestiynau ynghylch hyblygrwydd treth incwm, a dadl barhaus ynghylch datganoli Ystad y Goron i gyd yn awgrymu cyfnod o newid posibl yn ystod y Seithfed Senedd.

Bydd Aelodau o’r Senedd honno yn wynebu penderfyniadau pwysig ynghylch pa mor bell y dylai Cymru fynd o ran llunio ei phwerau codi refeniw ei hun, a sut y gall hyn gefnogi blaenoriaethau cenedlaethol ehangach.

Ffigur 1: Ffynonellau cyllido Llywodraeth Cymru, 2026-27

 

Ffynhonnell: Canllaw Llywodraeth Cymru ac Ymchwil y Senedd

Y sefyllfa bresennol o ran trethi Cymru

Mae fframwaith cyllidol Cymru o 2016 yn nodi trefniadau ariannu Llywodraeth Cymru ar draws ei chyfrifoldebau treth a gwariant. Mae hyn yn cynnwys pwerau benthyca cyfalaf ychwanegol, a Chronfa Wrth Gefn Cymru i helpu Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb.

Yn 2018, cafodd Treth Tir Treth Stamp y DU a’r Dreth Dirlenwi eu disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Rhaid talu’r Dreth Trafodiadau Tir wrth brynu eiddo yng Nghymru, ac mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu deunydd drwy dirlenwi sy’n daladwy gan weithredwyr safleoedd tirlenwi. Mae bron i 2% o gyllideb Cymru yn dod o’r refeniw sy’n cael ei gasglu drwy’r ddwy dreth hyn.

Yn 2019, cafodd treth incwm ei ddatganoli’n rhannol i Gymru, a chafodd ei disodli gan Gyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC). Mae refeniw sy’n cael ei godi drwy CTIC yn ariannu dros 14% o gyllideb Cymru.

Mae Cymru wedi ennill cyfres gymharol fach o bwerau treth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond gyda bron i 80% o gyllideb Llywodraeth Cymru yn dod o’r grant bloc (sy’n dod o Lywodraeth y DU), i ba raddau mae trethi presennol Cymru yn grymuso polisïau cyllidol Cymru?

Pa drethi sy’n dod i Gymru?

Gwnaeth Cyllideb y DU yn 2025 gyhoeddi newidiadau i drethiant incwm y DU o asedau, gan greu cyfraddau treth ar wahân ar gyfer incwm eiddo o fis Ebrill 2027 ymlaen.

Bydd y dreth yn cael ei datganoli i Gymru, a bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gosod y cyfraddau ond nid y trothwyon (fel CTIC, sy’n cael ei drafod isod). Bydd rhaid i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru ei thalu, waeth ble mae ei eiddo rhent.

Bydd y dreth yn rhoi pŵer arall i Lywodraeth Cymru ar ei thaith datganoli cyllidol, ond nid yw’n glir sut y gallai landlordiaid ymateb, ac nid yw’n glir sut y gallai gwahaniaeth mewn cyfraddau rhwng Cymru a Lloegr effeithio ar y sector rhentu yng Nghymru.

At hynny, roedd Llywodraeth flaenorol Cymru am gyflwyno treth tir gwag newydd. Fodd bynnag, mae angen cymhwysedd datganoledig gan Lywodraeth y DU, ac er y gwnaed cais ffurfiol am hynny bron i chwe blynedd yn ôl, nid yw wedi’i gytuno eto, sydd wedi arwain at feirniadaeth o’r broses.

Mae cynnydd wedi’i wneud o’r diwedd, gydag ymgynghoriad ar y cyd yn cael ei gynnal rhwng y ddwy lywodraeth yn fuan. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS:

The consultation will be launched, I think, very quickly after the Senedd elections. It’ll be a short and technical consultation, and then, hopefully, we’re on the home straight so that this power can be devolved to Wales, and the Senedd can then decide whether or not it wishes to use it.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r Seithfed Senedd? Mae cyflymder y trafodaethau yn awgrymu bod y mater yn symud yn ei flaen, ond pa mor gyflym? Ac a fydd y dreth hon yn rhoi cymhellion i ddatblygwyr ac yn cael effaith ystyrlon ar dai yng Nghymru?

Pwerau treth incwm: a ydynt yn addas at y diben?

Mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC) yn rhoi rheolaeth i Lywodraeth

Cymru dros 10c o dreth incwm ar gyfer pob cyfradd. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i newid y gyfradd dreth i gynyddu neu leihau refeniw, ond ni chaiff newid y trothwyon na chreu cyfraddau treth newydd.

Ffigur 2: Sut mae CTIC yn gweithio

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru Adroddiad y Gyllideb Ddrafft 2026-27 ac Ymchwil y Senedd

Nododd yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd fod pwerau i newid y gyfradd treth incwm erioed wedi cael eu defnyddio, a’i fod yn ei chael hi’n anodd gweld yr amgylchiadau lle byddent yn cael eu defnyddio.

Mae’r trothwyon treth incwm yn seiliedig ar bolisïau Llywodraeth y DU ac nid ydynt yn ystyried gwahanol broffiliau incwm ar draws cenhedloedd. Mae cyfran uwch o drethdalwyr yng Nghymru sydd ond yn talu’r gyfradd sylfaenol o dreth incwm o gymharu â’r DU gyfan, ac mae gan y DU gyfran fwy o drethdalwyr yn talu cyfraddau uwch ac ychwanegol o dreth incwm o gymharu â Chymru. O ganlyniad, nid yw’r pwerau presennol yn caniatáu’r hyblygrwydd i ddatblygu dull cytbwys ar gyfer trethdalwyr yng Nghymru.

Mae gan yr Alban fwy o bwerau treth incwm na Chymru, ac mae modd i Lywodraeth yr Alban addasu trothwyon treth incwm a chreu bandiau treth newydd i deilwra ei pholisïau treth incwm. Mae hyn yn golygu bod gan yr Alban fwy o le i dargedu refeniw o godiadau neu doriadau treth.

Ai dyma’r pwerau sydd eu hangen ar Gymru? Mae ymchwil i weld a oes mwy o bwerau treth incwm y gellid eu defnyddio wedi canfod, er y byddai mwy o bwerau treth incwm yn rhoi mwy o reolaeth, y byddai’n cynyddu lefel y risg i Lywodraeth Cymru os, er enghraifft, bydd cyflogau’n tyfu’n arafach yng Nghymru nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gallai mwy o bwerau treth incwm ganiatáu i Gymru ddylunio system sy’n fwy addas i’w dosbarthiad incwm. Ond a allai’r risg ychwanegol wneud cyllidebau’r dyfodol yn llai rhagweladwy? Efallai y bydd angen i’r Seithfed Senedd bwyso a mesur hyblygrwydd yn erbyn sefydlogrwydd.

Dadl Ystad y Goron: cyfleoedd ar y môr i gael ffynhonnell refeniw newydd?

Mae’r Chweched Senedd wedi gweld y ddadl ynghylch datganoli Ystad y Goron yn dwysáu gyda llawer ohoni yn ymwneud â’r rhagdybiaeth y byddai datganoli yn datgloi refeniw ynni adnewyddadwy sylweddol i Gymru.

Mae Ystad y Goron yn gasgliad o asedau morol a thir a daliadau sy’n perthyn i’r brenin sy’n teyrnasu. Adroddwyd bod cyfanswm gwerth yr asedau yng Nghymru yn £853 miliwn yn 2022-23, gydag ynni gwynt ar y môr ac ynni morol yn cyfrif am 93% o’r asedau hyn.

O ran refeniw, mae Ystad y Goron yn cael taliadau blynyddol gan ddatblygwyr am hawliau gwely’r môr yn ystod cyfnod datblygu’r prosiect. Unwaith y bydd y prosiect yn weithredol mae Ystad y Goron yn codi rhent yn seiliedig ar 2% o’r refeniw y mae’r prosiect yn ei gynhyrchu bob blwyddyn. Mae gan Gymru dair fferm wynt ar y môr wedi’u lleoli oddi ar arfordir gogledd Cymru.

Gyda phrosiectau mawr ar y môr, fel ffermydd gwynt arnofiol Llŷr ac Erebus, sydd wedi’u cynllunio ar gyfer lleoliad oddi ar arfordir Sir Benfro, a’r potensial ar gyfer prosiectau pellach, byddai datganoli Ystad y Goron yn cynnig ffrwd ariannu ychwanegol ar gyfer Cyllideb Cymru. O ganlyniad, byddai grant bloc Cymru yn cael ei addasu i ystyried y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rheolaeth dros y refeniw hwn.

Cafodd Ystad y Goron ei datganoli i’r Alban yn 2017. Roedd Crown Estate Scotland yn rheoli asedau gwerth £665 miliwn ar 31 Mawrth 2024, a wnaeth gynhyrchu tua £135 miliwn mewn incwm yn 2023-24, gyda’r rhan fwyaf yn cael ei defnyddio ar gyfer gwariant cyhoeddus. Dim ond un o’r manteision yw’r refeniw sy’n cael ei gynhyrchu, gydag Ystad y Goron yn yr Alban yn dweud y gallai ei ystad alluogi’r canlynol:

£96.1bn in investment over the next 10-15 years in the offshore wind energy sector. This could generate at least £15.7 billion GVA and annually support 21,200 jobs.

Yn 2024, argymhellodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylai Ystad y Goron “ddod yn gyfrifoldeb i lywodraeth ddatganoledig Cymru, fel y mae yn yr Alban”. Os na fydd yn cael ei datganoli, a fydd Cymru’n colli cyfleoedd i lunio a manteisio ar werth ei hadnoddau naturiol ei hun?

Taith gyllidol Cymru: beth sydd o’n blaenau?

Bydd y Seithfed Senedd yn wynebu dewisiadau allweddol ynghylch dyfodol ariannol Cymru. Gall trethi newydd gynnig mwy o reolaeth, ond byddant hefyd yn dod ag ansicrwydd ynghylch sut y bydd pobl a marchnadoedd yn ymateb. Mae cyfyngiadau ar bwerau treth incwm presennol, a’r ddadl barhaus ynghylch Ystad y Goron, yn tynnu sylw at gyfleoedd posibl i Gymru lunio a manteisio ymhellach ar ei ffynonellau refeniw ei hun. Bydd angen i’r Aelodau sy’n cael eu hethol gydbwyso’r cyfleoedd yn sgil mwy o ymreolaeth gyllidol â’r risgiau y gallai hynny eu cyflwyno.


Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru