Mae ein briff ymchwil diweddaraf yn egluro sut mae'r diwydiant dŵr yng Nghymru yn gweithio, pwy sy'n gyfrifol am beth, ac yn dadansoddi un o feysydd mwyaf cymhleth y setliad datganoli.
Mae'r briff yn amlinellu rolau Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, ac yn egluro sut mae cyrff fel Ofwat, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn helpu i oruchwylio safonau, buddsoddi a diogelu defnyddwyr. Mae hefyd yn tynnu sylw at ble mae polisi Cymru a'r DU yn wahanol, gan gynnwys ar gystadleuaeth, codi tâl a diwygio.
Ar adeg o graffu o’r newydd ar lywodraethu a rheoleiddio dŵr, mae’r briff ymchwil hwn yn cynnig trosolwg hygyrch o gynigion i ddiwygio, rôl Llywodraeth Cymru wrth osod cyfeiriad strategol y diwydiant, a’r fframwaith cyfreithiol sy’n llunio penderfyniadau ar gyfer aelwydydd, busnesau a’r amgylchedd.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru