Mae'r Hysbysiadau Hwylus Cyfansoddiadol hyn yn rhoi trosolwg o'r trefniadau cyfansoddiadol yng Nghymru.
Maent yn cynnwys:
- cefndir i gyfansoddiad y DU a hanes datganoli yng Nghymru;
- trosolwg o rôl a phwerau’r Senedd;
- golwg ar ddyletswyddau a phwerau statudol Llywodraeth Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, y Llywydd, Comisiwn y Senedd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru;
- canllawiau ar y broses ddeddfu yn y Senedd;
- trosolwg o’r broses o graffu ar is-ddeddfwriaeth yn y Senedd;
- trosolwg o’r broses o gydsynio i Senedd y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig; a
- rhestr gynhwysfawr o’r termau allweddol a ddefnyddir yng nghyd-destun Senedd Cymru
Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru