Diwygio gofal cymdeithasol oedolion: a yw Cymru yn barod i wynebu’r pwysau cynyddol ar y system gofal?

Cyhoeddwyd 21/05/2026   |   Amser darllen munudau

 

Mae degawdau o oedi o ran diwygio, cynnydd mewn costau a galw, a gweithlu dan bwysau wedi creu ansefydlogrwydd a fydd ond yn dwysáu os na fydd camau mawr yn cael eu cymryd i greu system gofal fwy cynaliadwy.

Gall gofal cymdeithasol da fod yn drawsnewidiol, gan alluogi pobl i fyw gydag urddas, bod mor annibynnol â phosibl, a chael ansawdd bywyd gwell.

Fodd bynnag, mae’r sector gofal o dan bwysau difrifol a chynyddol. Mae cynnydd mewn galw, anghenion cynyddol gymhleth, prinder parhaus o ran gweithlu, a phwysau ariannol wedi creu sefyllfa fregus o ran gofal cymdeithasol oedolion a phlant fel ei gilydd. Mae gwasanaethau yn cael trafferth diwallu anghenion, ac mae dibyniaeth gynyddol ar ofalwyr di-dâl. Mae llawer o’r heriau ym maes gofal cymdeithasol oedolion a phlant, a gafodd eu hamlygu yn ystod gwaith craffu yn y Chweched Senedd, yn parhau heddiw.

Gall costau gofal i’r rhai sydd ei angen fod yn uchel iawn ac yn anodd eu rhagweld. Mae’r problemau gyda’r model cyllido presennol wedi cael eu cydnabod ers degawdau. Fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod yn 2009, mae’r “system bresennol o dalu am ofal yn rhy gymhleth, yn annheg, ac yn amhosibl i’w chynnal yn y tymor hwy”.

Er gwaethaf nifer o adolygiadau a chomisiynau gan Lywodraeth y DU a

Llywodraeth Cymru, bu oedi dro ar ôl tro o ran diwygiadau mawr. Mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn disgrifio 30 mlynedd o ddiffyg gweithredu yn Lloegr, sydd â chanlyniadau clir o ran cynnydd yng Nghymru.

Beth sydd wedi digwydd yng Nghymru a Lloegr?

Yn 2011, fe wnaeth y Comisiwn Dilnot argymell diwygiadau, gan gynnwys cap oes ar gostau gofal, gan rybuddio bod cyllid gofal cymdeithasol oedolion wedi cael ei anwybyddu am rhy hir, a heb weithredu y byddai’r problemau’n gwaethygu ac yn niweidio’r rhai mwyaf agored i niwed. Bwriad cychwynnol Llywodraeth y DU oedd gweithredu fersiwn o’r diwygiadau hyn yn Lloegr (gyda chyllid canlyniadol i Gymru), ond cafodd hyn ei oedi dro ar ôl tro gan lywodraethau dilynol ac yn y pen draw cafodd ei ganslo gan Lywodraeth bresennol y DU yn 2024 fel rhan o ostyngiadau ehangach mewn gwariant cyhoeddus. Yn 2025, sefydlodd gomisiwn annibynnol newydd, dan gadeiryddiaeth y Farwnes Casey, i adeiladu consensws cenedlaethol ynghylch gwasanaeth gofal cenedlaethol newydd, a fydd yn ceisio mynd i’r afael o’r diwedd â diwygio gofal cymdeithasol.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth am gyfnod byr i gynyddu treth incwm i ariannu gofal cymdeithasol, yn dilyn cynnig yr Athro Holtham (2018) ar gyfer model yswiriant cymdeithasol datblygedig, wedi’i ariannu gan ardoll. Cafodd y dull hwn — sef ei gwneud yn ofynnol i bobl gyfrannu cyfran o’u hincwm i gronfa gofal ar gyfer y dyfodol — ei ddiystyru’n ddiweddarach cyn etholiad y Senedd 2021.

Gwnaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd y DU (2025) y sylw fod llywodraethau wedi camu’n ôl dro ar ôl tro o ddiwygio gofal cymdeithasol oedolion pan oedd rhaid wynebu’r gost, heb ystyried y gost ddynol ac ariannol yn sgil diffyg gweithredu. Tynnodd sylw at dystiolaeth y gallai pob £1 sy’n cael ei buddsoddi mewn gofal cymdeithasol roi £1.75 i’r economi ehangach.

Beth yw cyflwr presennol gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru?

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn pwysleisio bod gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu heriau ariannol acíwt sy’n ehangu, gyda mwy na 81,000 o bobl yn dibynnu ar ofal a chymorth. Ym mis Mawrth 2026, nododd cynghorau orwariant o £69 miliwn yn ystod y flwyddyn mewn gofal cymdeithasol, wedi’i yrru gan alw cynyddol ac achosion cynyddol gymhleth.

Dywed Fforwm Gofal Cymru fod y sector o dan straen enfawr, gan orfod mynd i’r afael â phwysau gweithlu parhaus, cyfraddau ffioedd anghynaladwy, a chostau cyflogwyr cynyddol. Yn aml, nid yw’r cyfraddau ffioedd sy’n cael eu pennu gan awdurdodau lleol yn talu am gost lawn gofal, ac maent yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru. Mae tystiolaeth i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Chweched Senedd yn dangos y gall ffioedd am ofal nyrsio amrywio cymaint â £9,000 y flwyddyn rhwng awdurdodau cyfagos.

I’r rhai sy’n ariannu eu gofal eu hunain yn llawn (‘hunan-arianwyr’), mae costau wythnosol cyfartalog tua £1,156 ar gyfer gofal preswyl, a £1,394 ar gyfer gofal nyrsio. Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn tynnu sylw at annhegwch lle mae defnyddwyr gwasanaeth yn ysgwyddo pwysau ariannu, gyda strwythurau ffioedd a ffioedd ychwanegol anghyfartal yn golygu bod llawer o hunanarianwyr i bob pwrpas yn rhoi cymhorthdal i leoliadau cartrefi gofal a ariennir yn gyhoeddus.

Y pwysau ar y gweithlu

Mae pwysau staffio yn parhau i fod yn bryder mawr, gydag anawsterau parhaus o ran swyddi a recriwtio a chadw, er gwaethaf cyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae mwy na chwarter y gweithwyr gofal cartref ar gontractau dim oriau. Yn ôl arolwg gweithlu diweddaraf Gofal Cymdeithasol Cymru (2025) roedd un o bob pump o weithwyr gofal cymdeithasol yn anelu at adael y sector o fewn tua 14 mis, gan nodi cyflog isel, amodau gwael a dilyniant cyfyngedig.

Cynnydd mewn oedi a rhestrau aros

Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond mae rhanddeiliaid yn nodi bod oedi hir a chynyddol.

  • Mae CLlLC yn tynnu sylw at aros cynyddol am asesiadau, pecynnau gofal, offer cymorth a therapi galwedigaethol.
  • Dangosodd ymchwil Age Cymru yn 2024 fod bron i un o bob pedwar o bobl hŷn yn dal i aros mwy na 30 diwrnod am asesiad gofal, ac roedd un o bob chwech yn aros mwy na 30 diwrnod i ofal gael ei drefnu.
  • Yn ôl Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru mae rhestrau aros ar gyfer asesiadau gofalwyr yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy’n atal gofalwyr rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Y pwysau ar ofalwyr di-dâl

Amcangyfrifwyd bod gwerth gofal di-dâl yng Nghymru (yn 2023) tua £10.6 biliwn y flwyddyn, ond mae llawer o ofalwyr yn agos at dorri i lawr. Roedd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd wedi adrodd bod achosion helaeth o anghenion heb eu diwallu, gyda gofalwyr yn profi caledi ariannol, dirywiad o ran iechyd corfforol a meddyliol, a blinder.

Daeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU i’r casgliad mai gofalwyr di-dâl sy’n ysgwyddo’r gost fwyaf o’r methiant i ddiwygio gofal cymdeithasol oedolion, ac argymhellodd y dylai Comisiwn Casey sefydlu ffrwd waith bwrpasol ynghylch lleihau’r pwysau ar ofalwyr.

Sut y gellid ariannu gofal cymdeithasol oedolion yn wahanol?

Mae yna amryw opsiynau ar gyfer modelau cyllido amgen a allai cymryd lle’r system prawf modd bresennol, megis:

  • Yswiriant cymdeithasol: Mae pawb yn talu i gronfa yn ystod eu bywyd ac yn derbyn cymorth os byddant yn datblygu anghenion gofal. Mae modelau yswiriant cymdeithasol yn gweithredu mewn nifer o wledydd, gan gynnwys yr Almaen, Japan, ac Awstria.
  • Gofal personol am ddim: Mae cymorth gyda thasgau bywyd bob dydd (e.e. golchi a gwisgo) am ddim, ond mae gofal preswyl yn parhau i fod yn ddibynnol ar brawf modd, fel yn yr Alban.
  • System tebyg i’r GIG: Byddai gofal cymdeithasol cynhwysfawr am ddim pan fyddai ei angen, yn debyg i fodel Denmarc. Nododd Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru yn 2021 uchelgais ar y cyd ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn seiliedig ar yr egwyddor hon.

Y llwybr at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol

Fe wnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru ymgynnull grŵp arbenigol i gynghori ar ddatblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol a wnaeth argymell ddull graddol o ddiwygio codi tâl. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth, a chyhoeddodd gynllun gweithredu Cam 1, ac yna adroddiad diweddaru a chynllun arfaethedig Cam 2 ar ddiwedd y Chweched Senedd.

Mae’r diweddariad diweddaraf yn dweud bod angen gwaith ymchwil pellach i asesu opsiynau cyllido, gan ddechrau gyda modelu effeithiau gwneud gofal amhreswyl am ddim pan fydd ei angen, ac yna ymestyn gofal am ddim (ac eithrio costau llety) i leoliadau preswyl.

Mae cwestiynau mawr o hyd ynghylch sut y gellid ariannu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, a phryd y gallai hyn ddod yn realiti. Mae adroddiad diweddar gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) ac Uned Gwybodaeth Llywodraeth Leol (LGiU) yn cyfeirio at feirniadaeth rhanddeiliaid, sef er bod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol a’i Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth wedi rhoi’r argraff bod cynnydd yn cael ei wneud, nad ydynt wedi trosi i ganlyniadau diriaethol.

Fe wnaeth y grŵp arbenigol argymell ‘sgwrs genedlaethol’ ar lefel y cyllid sydd ei angen, ac a yw’r cyhoedd yn fodlon talu am hyn. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i ystyried a oes modd blaenoriaethu gofal cymdeithasol dros feysydd gwariant eraill ac, os na, a ddylid ystyried mecanweithiau fel pwerau treth incwm datganoledig. Rhybuddiodd y bydd diffygion presennol yn dwysáu heb gyllid newydd.

Beth sy’n wynebu gofal cymdeithasol oedolion?

Eleni mae Comisiwn Casey yn bwriadu rhyddhau ei adroddiad cyntaf a lansio sgwrs genedlaethol ar ddyfodol gofal cymdeithasol oedolion yn Lloegr, gyda disgwyl adroddiad terfynol yn 2028. Roedd cynllun gweithredu Cam 2 arfaethedig (2026-28) Llywodraeth flaenorol Cymru yn cynnwys cynlluniau i ymgynghori ar egwyddorion dylunio cenedlaethol ar gyfer Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol.

Mae Cymru bellach yn wynebu moment dyngedfennol o ran gofal cymdeithasol oedolion. Er bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, bydd cynnydd ystyrlon gyda diwygiadau yn dibynnu ar wynebu cwestiynau sylfaenol am gyllid, ewyllys gwleidyddol, a chonsensws y cyhoedd.

A fydd camau yn cael eu cymryd yn y Seithfed Senedd i adeiladu system gofal sy’n decach, yn fwy cynaliadwy ac yn wydn — un y mae’r rhan fwyaf ohonom yn debygol o ddibynnu arni ar ryw adeg yn ein bywydau?


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru