Mae dŵr yn adnodd cyfyngedig, yn anghenraid o ran iechyd y cyhoedd, ac yn nwydd masnachol. Ac eto, mae’r rheoliadau presennol yn ddiffygiol, gan arwain at gynnydd mewn llygredd a biliau uwch. Mae gan lunwyr polisi gyfle prin nawr i ail-lunio sut mae Cymru’n rheoli un o’i hadnoddau mwyaf hanfodol.
Mae’r sector dŵr yng Nghymru ar drothwy’r newid mwyaf ers iddo gael ei breifateiddio. Roedd Papur Gwyrdd a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar yn arwydd bod cyfnod o ailddechrau o’r newydd yn cychwyn, a hynny’n dilyn blynyddoedd o berfformiad ffaeledig gan gwmnïau dŵr, mwy o lygredd yn ein dyfrffyrdd, a chynnydd parhaus mewn biliau dŵr.
Er bod dŵr wedi’i ddatganoli i raddau helaeth, mae gwaith rheoleiddio economaidd yn cael ei wneud ar sail Cymru a Lloegr gan Ofwat, sy’n atebol i Senedd y DU. Mae’r sefyllfa hon ar fin newid, gydag Ofwat yn cael ei ddiddymu, a phwerau newydd yn cael eu datganoli i Gymru. Bydd hyn yn hwyluso’r broses o sefydlu rheoleiddiwr i Gymru. Ochr yn ochr â newidiadau ehangach i lywodraethiant dŵr yng Nghymru, bydd hyn yn rhoi awdurdod llawn i Gymru dros ei dŵr, ac yn caniatáu iddi ddwyn ein cwmnïau dŵr i gyfrif.
Mae hanes y sector, gan gynnwys boddi dadleuol Dyffryn Tryweryn yn 1965, yn golygu bod arwyddocâd gwleidyddol a diwylliannol yn perthyn i’r broses ddiwygio. Gyda Chymru’n meddu ar reolaeth lwyr ar yr adnodd hwn, bydd cwestiwn sylfaenol yn cael ei ofyn i Aelodau o’r Senedd newydd, sef: beth ydyn ni am ei weld gan ein sector dŵr?
Sicrhau cyflenwad cynaliadwy?
Mae cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn darparu gwasanaeth hanfodol; yn fras iawn, maent yn darparu dŵr glân, ac yn cludo dŵr gwastraff i ffwrdd. Mae rheoleiddwyr yn sicrhau bod cwmnïau’n darparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff sy’n ddiogel, yn ddibynadwy ac o ansawdd da, a hynny am bris teg i ddefnyddwyr a’r amgylchedd.
Mae tua 12 miliwn o fegalitrau o ddŵr yn cael eu trwyddedu i’w tynnu yng Nghymru bob blwyddyn, hynny yw, i’w tynnu o ddŵr mewndirol neu ffynonellau dŵr daear, yn bennaf ar gyfer y cyflenwad o ddŵr cyhoeddus gan ddau gwmni, sef Dŵr Cymru (cwmni dŵr mwyaf Cymru) a chwmni Hafren Dyfrdwy. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ein rheoleiddiwr amgylcheddol, “yn ymdrechu i atal pwysau o echdynnu dŵr trwyddedig”, ac eto dim ond 40% o gyrff dŵr Cymru sydd mewn cyflwr da.
Mae dŵr yn adnodd cyfyngedig y dylai cwsmeriaid a chwmnïau dŵr ei ddefnyddio’n gynaliadwy. Fodd bynnag, mae tua un rhan o bump o’r dŵr sy’n llifo trwy bibellau yng Nghymru a Lloegr, sy’n cyfateb i 1,187 o byllau nofio Olympaidd, yn cael ei golli bob dydd o ganlyniad i ollyngiadau. Yn ystod y cyfnod rhwng 2020 a 2025, ymrwymodd y sector cyffredinol (Cymru a Lloegr) i ostyngiad blynyddol o 16% mewn gollyngiadau. Serch hynny, gostyngiad o 9% yn unig a gafodd ei gyflawni.
O ran y sector dŵr yng Nghymru, mae gollyngiadau cyfartalog blynyddol wedi cynyddu’n gyffredinol dros yr 20 mlynedd diwethaf, a hynny yn sgil y ffaith bod gollyngiadau wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn dros gyfnod diweddar o saith mlynedd, yn bennaf oherwydd Dŵr Cymru. Fodd bynnag, gostyngodd y ffigurau yn sylweddol yn 2024-25 yn dilyn buddsoddi a ffocws gan gwmni Dŵr Cymru.
Ffigur 1: Gollyngiadau blynyddol cyfartalog cyfunol cwmnïau dŵr Cymru – miliynau o litrau y dydd (Ml/d)

Ffynhonnell: Ofwat, Set Data Gollyngiadau – Tachwedd 2025
Er bod Ofwat wedi pennu targed ar gyfer lleihau gollyngiadau cyffredinol yn sector Cymru a Lloegr, sef gostyngiad o 17% ar gyfer y cyfnod rhwng 2025 a 2030, y targed unigol ar gyfer Dŵr Cymru yw 24%.
Mae’n ofynnol i gwmnïau sy’n methu â chyrraedd targedau roi arian yn ôl i gwsmeriaid. Yn sgil tanberfformiad ledled Cymru a Lloegr, cafodd swm o dros £700 miliwn ei ddychwelyd i gwsmeriaid yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, gan gynnwys dros £260 miliwn yn 2024-25. Fodd bynnag, nid yw rhoi arian yn ôl ym mhocedi cwsmeriaid yn helpu o ran sicrhau diogelwch adnoddau dros y tymor hir. Dyma oedd un o ganfyddiadau CNC yn ddiweddar:
Gallai parthau sy’n cwmpasu 70% o boblogaeth Cymru fod â diffyg dŵr erbyn 2050, oni bai fod mesurau rheoli gollyngiadau ac effeithlonrwydd dŵr yn cael eu gweithredu.
Gweithredu fel ceidwad amgylcheddol?
Mae cyfrifoldebau’r sector dŵr yn estyn y tu hwnt i gyflenwi dŵr a thrin carthffosiaeth; mae’r cyrff yn y sector yn stiwardiaid amgylcheddol allweddol, gan fod popeth y maen nhw’n ei wneud yn effeithio ar afonydd, dyfroedd arfordirol, tirweddau a bioamrywiaeth. Mae dyletswydd arnyn nhw i dynnu llygryddion o ddŵr gwastraff, a monitro gollyngiadau er mwyn atal niwed.
Mae rheoleiddwyr yn pennu safonau llym, gan fod canlyniadau uniongyrchol yn deillio o fethiannau, gan gynnwys dŵr anniogel a chostau hirdymor i gymunedau. Ac eto, mae methiannau o ran y seilwaith yn golygu bod dŵr gwastraff heb ei drin yn aml yn cyrraedd afonydd a moroedd. Mae gorlifoedd, y bwriedir iddynt ddigwydd mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, yn digwydd yn llawer mwy aml.
Er gwaethaf yr ymrwymiadau sydd wedi’u gwneud i leihau nifer y gollyngiadau sy’n gysylltiedig â gorlifoedd, roedd Dŵr Cymru wedi rhyddhau carthion 118,276 o weithiau, am gyfanswm o 968,340 o oriau, yn 2024. Yn yr un flwyddyn, achosodd y cwmni 155 o ddigwyddiadau llygredd, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r 132 a ddigwyddodd yn 2023. Ar ben hynny, dyma’r nifer uchaf o ddigwyddiadau llygredd carthffosiaeth a achoswyd gan y cwmni ers 2015.
Mae’r llygredd hwn yn niweidio iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd, ac mae dŵr gwastraff yn gyfrannwr mawr at ansawdd dŵr gwael yng Nghymru.
Nid yn unig y mae cwmnïau dŵr yn methu mynd i’r afael â gollyngiadau carthion heb eu trin, ond mae goruchwyliaeth reoleiddiol o’r mater hefyd yn ffaeledig. Mae Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru yn dweud bod y fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol presennol yn “rhy gymhleth”, a bod “rhywfaint o’r ddeddfwriaeth hefyd wedi dyddio ac efallai nad yw’n adlewyrchu’n gywir y ddealltwriaeth wyddonol ddiweddaraf na blaenoriaethau cyhoeddus”.
Gallai ymdrin â chynigion i adolygu’r fframwaith hwn fod yn dasg sylweddol i Lywodraeth newydd. Ond gydag adroddiadau yn ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau am lygredd dŵr neu berfformiad cwmnïau dŵr, bydd gofyn i lunwyr polisi Cymru ymateb i alwadau’r cyhoedd am gamau gweithredu ynghylch y mater arwyddocaol hwn.
Darparu anghenraid o ran iechyd y cyhoedd, neu nwydd?
Mae dŵr yn meddiannu tir unigryw yng nghyd-destun polisi cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd. Mae’n hanfodol o ran sicrhau bod dynol ryw yn goroesi, ac yn rhan o system seilwaith enfawr y mae angen buddsoddi ynddi. Yn ymarferol, mae cwmnïau dŵr yn ceisio taro cydbwysedd dyrys rhwng cyflawni anghenraid iechyd cyhoeddus, a rheoli nwydd economaidd.
Mae gan bawb yr hawl i ddŵr, ac nid oes gan gwmnïau yr hawl i wrthod cyflenwi dŵr ar sail y gallu i dalu. Yn ogystal, mae buddsoddi mewn seilwaith gwydn er mwyn darparu dŵr diogel yn orfodol.
Fodd bynnag, ers preifateiddio’r sector ym 1989, mae gwasanaethau dŵr wedi cael eu darparu gan gwmnïau sy’n cael eu hariannu yn bennaf drwy filiau cwsmeriaid a buddsoddiadau preifat, gan weithredu fel monopolïau wedi’u rheoleiddio. Mae ffioedd a rhaglenni buddsoddi yn cael eu pennu drwy fecanweithiau rheoleiddio sy’n seiliedig ar y farchnad ac sy’n trin dŵr fel ased economaidd.
Nod rheoleiddwyr yw rheoli’r gwrthdaro rhwng darparu biliau fforddiadwy a diwallu’r angen am fuddsoddiadau cyfalaf mawr. Fodd bynnag, yn sgil graddfa’r buddsoddiadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r seilwaith diffygiol, a’r costau cynyddol sydd ynghlwm wrth eu hariannu, mae biliau wedi cynyddu’n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a byddant yn parhau i gynyddu.
Ffigur 2: Biliau blynyddol cyfunol dŵr a charthffosiaeth aelwydydd, ar gyfartaledd, (£) gan y ddau gwmni dŵr yng Nghymru

Ffynhonnell: Discover Water
Un o’r heriau craidd sy’n wynebu llunwyr polisi yng Nghymru yw’r her o gyflwyno system reoleiddio sy’n sicrhau na all pwysau masnachol beryglu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â chyflenwi a thrin dŵr, a stiwardiaeth amgylcheddol. Bydd angen gwneud hyn gan gadw biliau aelwydydd yn fforddiadwy yn ystod y pwysau costau byw parhaus.
Sector dŵr wedi’i adeiladu ar gyfer Cymru?
Mae cwmni Dŵr Cymru yn gweithredu ar sail model nid-er-elw unigryw, sy’n golygu bod rheoliadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer cwmnïau sy’n eiddo i gyfranddalwyr yn llai effeithiol. Mae dirwyon yn mynd i Drysorlys y DU yn hytrach na chael eu defnyddio er budd cymunedau yng Nghymru.
Yn y cyfamser, mae cyflogau swyddogion gweithredol yng nghwmni Dŵr Cymru yn ystod cyfnodau o berfformiad gwael wedi ysgogi gwaith craffu, ac wedi esgor ar drafodaethau o’r newydd ynghylch a fyddai modd i berchnogaeth gyhoeddus arwain at ganlyniadau gwell.
Bydd y cwestiwn ynghylch a oes ewyllys wleidyddol i wladoli’r sector yn dibynnu ar Lywodraeth newydd Cymru. Am y tro, mae gan lunwyr polisi gyfle i greu system reoleiddio sy’n dwyn cwmnïau Cymru i gyfrif, gan sicrhau atebolrwydd drwy fecanweithiau sy’n addas ar gyfer model nid-er-elw, a chysondeb â blaenoriaethau amgylcheddol a chyhoeddus Cymru.
Paratoi ar gyfer y dyfodol?
Mae newid hinsawdd yn cynyddu’r risg o lifogydd a sychder.
Mae un o bob saith cartref yng Nghymru eisoes mewn perygl o ddioddef llifogydd, gyda disgwyliad y bydd mwy dros y ganrif nesaf. Cwmnïau dŵr sy’n gyfrifol am reoli llifogydd sy’n deillio o’u hasedau. Yn y tymor hwy, mae angen buddsoddi i sicrhau gwydnwch ac i amddiffyn cymunedau.
O safbwynt gwydnwch rhag sychder, mae angen cynllunio tymor hir mewn perthynas â chronfeydd dŵr, trosglwyddiadau dŵr, a rheoli galw. Fodd bynnag, nid faint o ddŵr sydd ei angen yw’r unig beth sy’n newid dros amser. Rydym hefyd yn disgwyl i’r cyrff hyn ymateb i lygryddion sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r gwaith o gynllunio buddsoddi yn y sector dŵr yn cael ei wneud ar sail cylch pum mlynedd. Mae’r trefniadau hyn yn ddefnyddiol ar gyfer pennu taliadau cwsmeriaid. Fodd bynnag, mae gorwelion hwy, o 10 a 25 mlynedd, yn cael eu cynnig o ran cefnogi buddsoddiadau strategol. Mae’r Papur Gwyrdd yn awgrymu creu swyddogaeth cynllunio systemau cenedlaethol er mwyn cydlynu’r broses o reoli dŵr ledled Cymru, ac yn awgrymu rhoi’r swyddogaeth hon i’r rheoleiddiwr economaidd, er mwyn “sicrhau bod fforddiadwyedd tymor byr yn cael ei gydbwyso â seilwaith tymor hir ac anghenion amgylcheddol”.
Beth nesaf?
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cynaliadwyedd hirdymor wrth wraidd polisïau yng Nghymru, gan gynnwys polisi i ddiogelu dŵr, un o’n hasedau hanfodol. Mae gan y Seithfed Senedd gyfle i lunio system reoleiddio yng Nghymru, a chreu sector gwydn sy’n cefnogi cymunedau, natur a’r economi, gan sicrhau bod dŵr diogel a fforddiadwy ar gael i genedlaethau’r dyfodol.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru