Bioamrywiaeth

Cyhoeddwyd 21/05/2026   |   Amser darllen munudau

Yn 2021, cyhoeddodd y Senedd 'argyfwng natur'. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’r dirywiadau mewn bioamrywiaeth a achoswyd gan bobl. Mae Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023 yn tynnu sylw at y ffaith bod 18% o 3,897 o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu.

Daw pwysau ar fioamrywiaeth o lawer o ffynonellau, gan gynnwys trefoli, llygredd, newid hydrolegol, rhai technegau rheoli amaethyddol a rheoli coetir a rhywogaethau anfrodorol goresgynnol.

Mae gwerth cynhenid i fioamrywiaeth ac mae'n cynnig buddion i bobl drwy 'wasanaethau ecosystemau', megis atal llifogydd a chynhyrchu bwyd. Felly, credir bod colledion bioamrywiaeth yn achosi risgiau i ddiogelwch a llesiant pobl.

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl wrth adfer bioamrywiaeth er mwyn cyflawni ymrwymiadau byd-eang Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal, ac mae llawer o bolisïau a chyfreithiau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae targedau bioamrywiaeth statudol yn cael eu datblygu i sbarduno camau gweithredu a gwella atebolrwydd.

Mae rhanddeiliaid yn galw am ddynodiad, rheolaeth a monitro gwell ar safleoedd gwarchodedig, mesurau i reoli llygredd, yn enwedig i gyrsiau dŵr, ac opsiynau amgylcheddol uchelgeisiol yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Darllenwch ein papur briffio wedi’i ddiweddaru i gael rhagor o wybodaeth am fioamrywiaeth, sut y mae'n cael ei diogelu a'r hyn y mae rhanddeiliaid yn galw amdano.


Erthygl gan Matthias Noebels, Amandine Debus, Sara Moran a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Matthias Noebels gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol ac i Amadine Debus gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a’i gwnaeth yn bosibl cwblhau’r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil.