Y broses ddeisebau yw un o’r prif ffyrdd i’r cyhoedd ymgysylltu â gwaith y Senedd a dylanwadu arno.
Mae’r defnydd o system deisebau’r Senedd wedi cynyddu’n raddol ers ei chyflwyno yn 2007, ac mae wedi cynyddu’n fawr yn y blynyddoedd diwethaf – trafowyd 211 o ddeisebau yn 2020, o gymharu ag 82 yn y flwyddyn flaenorol.
Caiff pob deiseb â mwy na 250 o lofnodion ei thrafod gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd.
Mae Ymchwil y Senedd yn darparu briff i’r Pwyllgor i lywio’i drafodaeth o bob deiseb. Mae casgliad o’r briffiau hyn i’w gweld isod.
- Ystyried defnyddio Graddau a Aseswyd gan Athrawon ar gyfer dysgwyr na allent sefyll arholiadau TGAU ym mis Tachwedd oherwydd prawf COVID positif. Dylid sicrhau bod trefniadau tecach ar waith ar gyfer arholiadau mis Mai.
- Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021.
- Canslo Arholiadau TGAU yng Nghymru
- Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun
- Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon.
- Dechrau Cynllun Erasmus yng Nghymru i ganiatáu i fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru fynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.
- Darparu grantiau ffioedd dysgu i gefnogi myfyrwyr meddygaeth sy’n astudio meddygaeth fel ail radd
- Dylid sicrhau bod graddau asesu canolfannau yn cyfrannu at y graddau TGAU a Safon Uwch terfynol
- Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!
- Gwahardd barbeciws untro o’n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!
- Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei
- Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023
- Gwahardd polystyren a phlastigau untro eraill
- Gwahardd bagiau baw cŵn nad ydynt yn fioddiraddiadwy
- Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru
- Cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa
- Gwneud unigolion yng Nghymru sydd ag anableddau cudd yn gymwys ar gyfer y Bathodyn Glas
- Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl.
- Cynyddu’r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru.
- Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol
- Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi’u rhag- asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy’n rhoi unigolion dan anfantais annheg.
- Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru.
- Dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru achub y coed, y gwrychoedd a'r caeau yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn
- Dylid gosod cerflun coffa o’r canwr Affricanaidd-Americanaidd Paul Robeson yn y Cymoedd
- Er cof am Aberfan, dylid ailenwi Ysbyty George Thomas
- Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan.
- Paratoi cais i Gymru gystadlu yng Nghystadleuaeth yr Eurovision
- Profion COVID i blant sy'n addas i’r oedran
- Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â syndrom tourette yng Nghymru
- Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig
- Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy’n marw yng Nghymru
- Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.
- Gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon
- Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir
- Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato
- Adolygwch safonau Mynediad i Bractis Cyffredinol yng Nghymru yng ngoleuni pandemig
- Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio brechu plant 12 oed ac iau yn erbyn COVID-19
- Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru
- Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod
- Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol
- Dylai menywod gael ei sgrinio’n rheolaidd gyda phrawf gwaed o’r enw CA125 i ganfod canser yr ofari.
- Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy’n byw yng Nghymru.
- Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru
- Rhowch stop ar y camau i amddifadu Trefynwy o’i Cherbyd Ymateb Cyflym
- Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru
- Lleihau amseroedd amser am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr
- Sicrhau bod tadau/partneriaid geni yn cael eu cynnwys ym mhob asesiad a gofal drwy gydol y cyfnod amenedigol
- Dylid cynnig brechiad Covid-19 i blant sy'n agored i niwed yn glinigol
- Dylid cael gwared ar y camerâu cyflymder cyfartalog a’r terfyn cyflymder o 50mya ar yr M4 rhwng Casnewydd a Chaerdydd
- Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr
- Peintiwch y trenau ar reilffordd canolbarth Cymru fel eu bod yn debyg i lindys, er mwyn rhoi hwb i dwristiaeth.
- Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym.
- Ni ddylid cyfyngu ffordd newydd Blaenau'r Cymoedd i 50 mya
- Ataliwch Lywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20 milltir yr awr
- Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy
- Dylid cyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd, a mwy 'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru