Gwybodaeth am Ymchwil y Senedd

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth ymchwil a gwybodaeth yn Senedd.

Rydym yn cynnig gwasanaeth ymchwil gwleidyddol diduedd i Aelodau o’r Senedd, eu staff a phwyllgorau’r Senedd. Mae hyn yn helpu’r Aelodau i ateb cwestiynau gan etholwyr ac i graffu ar ddeddfwriaeth a pholisïau Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o fformatau i gyhoeddi’n hymchwil, o erthyglau byr a phapurau briffio mwy estynedig i fapiau rhyngweithiol ac mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at drafodaethau agored a gwybodus yng Nghymru.

Sicrhewch eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy danysgrifio i’n:

a thrwy ein dilyn ar Twitter a LinkedIn.

Ymholiadau
Ymchwil y Senedd

 

Tîm Llyfrgell a Digidol

Gwasanaeth cyfeirio a gwybodaeth, gan gynnwys cyhoeddiadau swyddogol, papurau newydd, cyfnodolion, e-adnoddau a gwasanaethau monitro.

Tîm yr Economi, Cymunedau a Llywodraeth Leol

Cyngor arbenigol ar yr economi; llywodraeth leol; tai; cyfiawnder cymdeithasol; lles; cyfleoedd cyfartal; y sector gwirfoddol; diwylliant; amgueddfeydd a llyfrgelloedd; y Gymraeg; llywodraeth leol, gwasanaethau cyhoeddus, adfywio a masnach.

Y Tîm Addysg a Dysgu Gydol Oes

Cyngor arbenigol ar bob agwedd ar addysg a dysgu gydol oes, gan gynnwys ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch. Cymorth ar bolisiau wedi'u hanelu at blant a phobl ifanc ac sy'n effeithio arnynt.

Tîm yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth

Cyngor arbenigol ar drafnidiaeth; ynni; polisi dŵr; newid hinsawdd; yr amgylchedd; datblygu cynaliadwy; cynllunio; amaethyddiaeth; bwyd a choedwigaeth; materion morol a physgodfeydd; a lles anifeiliaid.

Y Tîm Materion Allanol a Chyfansoddiadol

Cyngor arbenigol ar y Senedd; datganoli; cyfansoddiad y DU; deddfwriaeth; etholiadau; materion Ewropeaidd; materion rhyngwladol; masnach ryngwladol; mewnfudo; cydraddoldebau a hawliau dynol.

  • Y Tîm Materion Allanol a Chyfansoddiadol: Nia Moss
  • Ffôn: 0300 200 6313
  • E-bost: Nia.Moss@Senedd.Cymru
Yr Uned Craffu Ariannol

Cyngor arbenigol ar gyllid Cymru; trethiant; benthyca; cyllidebau a chyfrifon; datganoli cyllidol; cyllid llywodraeth leol; ac ystadegau cyffredinol, gan gynnwys dulliau a ffynonellau.

Y Tîm Polisi Iechyd a Chymdeithasol

Cyngor arbenigol ym maes polisi iechyd a gwasanaethau iechyd; gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol; trais domestig; nawdd cymdeithasol; iechyd a llesiant plant; pobl hŷn; chwaraeon a hamdden; a diogelwch cymunedol.