Wrth i Lywodraeth y DU geisio ailsefydlu ei berthynas â'r UE, mae’r sylw unwaith eto ar gydweddu. Mae hyn yn golygu cael rheolau tebyg ar gyfer pethau fel cynhyrchion er mwyn gallu lleihau’r rhwystrau masnach. Mewn meysydd eraill, gallai cydweddu olygu ei bod yn haws cydweithredu wrth fynd i'r afael â phethau fel materion amgylcheddol.
'Cydweddu' yw'r term a ddefnyddir pan fydd rheolau yn gydradd neu yr un fath.
'Ymwahanu' yw'r term a ddefnyddir pan fydd rheolau'n wahanol.
Ers Brexit, mae trefniadau wedi'u cyflwyno i reoli cydweddu ac ymwahanu rhwng y DU a'r UE. Os bydd y DU, neu unrhyw un o'i chenhedloedd, yn penderfynu ei bod am sicrhau cydweddu agosach â'r UE, mae angen iddynt ystyried y trefniadau hyn.
Mae'r erthygl hon yn egluro'r system bresennol, yn ystyried sut y gellid sicrhau mwy o gydweddu os yw'n ddymunol ac yn cynnig pum ystyriaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Cydweddu ac ymwahanu rhwng y DU a’r UE ers Brexit
Mae llywodraethau'n ystyried ffactorau amrywiol cyn pennu rheolau ar gyfer pethau fel masnach a'r amgylchedd gan gynnwys sut y mae eu penderfyniadau yn effeithio ar eu hallforion, eu mewnforion a chydweithio trawsffiniol. Gall cael rheolau gwahanol i fannau eraill (ymwahanu) fod yn fwy ymatebol i anghenion lleol ond gall greu rhwystrau masnach a chynyddu costau. Gall cydweddu rheolau leihau neu ddileu rhwystrau masnach ond gall gyfyngu ar gynlluniau neu uchelgeisiau unigol llywodraeth.
Dangoswyd cefnogaeth i fwy o gydweddu rhwng Cymru a'r UE mewn tystiolaeth i bedwar o bwyllgorau'r Senedd a oedd yn gweithio ar yr adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (y Cytundeb). Y Cytundeb hwn sy’n pennu’r telerau ar gyfer cysylltiadau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.
Mae ein herthygl a’n map rhyngweithiol yn 2022 yn rhoi cyflwyniad manylach ar gydweddu ac ymwahanu ers Brexit.
Beth sydd ar waith ar hyn o bryd?
Mae cymysgedd o drefniadau wedi’u cyflwyno ers Brexit. Mae'r rhain yn sicrhau bod y Deyrnas Unedig a'r UE yn cydweddu â’i gilydd i raddau gwahanol. Mae'r cwymplenni isod yn cynnwys rhagor o wybodaeth ar sut y gallai pob un arwain at fwy o gydweddu, os yw llywodraethau o blaid gwneud hynny.
Er mwyn sicrhau bod y gystadleuaeth yn un agored ac yn deg, ymrwymodd y DU a'r UE i sicrhau tegwch yn y farchnad. Golyga hyn eu bod yn gallu parhau i gydweddu â’i gilydd neu wynebu canlyniadau yn sgil ymwahanu.
Caniateir ymwahanu ond gellir cymhwyso mesurau ail-gydbwyso fel tariffau os yw'n effeithio ar fasnach a buddsoddiad rhwng y DU a'r UE mewn ffordd y mae un ochr yn teimlo sy'n annheg. Mae hyn yn cynnwys safonau cymdeithasol a llafur, yr amgylchedd, safonau hinsawdd a chymorthdaliadau. Gellid sicrhau mwy o gydweddu trwy gytuno ar newidiadau i'r darpariaethau tegwch yn y farchnad yn y Cytundeb sy’n ceisio atal ymwahanu. Er enghraifft, gellid gostwng / dileu'r trothwy masnach a buddsoddi, neu gallai ail-gydbwyso fod yn gymwys i fwy o feysydd.
Ar 31 Rhagfyr 2020, fe wnaeth y DU ddargadw tua 6,000 o ddarnau o gyfraith yr UE, gan eu trosi'n gyfraith ddomestig a elwir yn "gyfraith yr UE a ddargedwir" (REUL). Ers 1 Ionawr 2024, mae'r corff hwn o'r gyfraith bellach yn cael ei alw'n "gyfraith a gymathwyd".
Mae'r DU a'r UE yn parhau i gydweddu â’i gilydd lle mae'r cyfreithiau hyn yn cyfateb i’w gilydd, ond mae ymwahanu yn bosibl wrth i’w cyfreithiau esblygu'n annibynnol. Er mwyn sicrhau mwy o gydweddu, gallai Gweinidogion y DU neu Gymru ddiwygio’n barhaus gyfraith a gymathwyd i adlewyrchu newidiadau yng nghyfraith yr UE.
Os caiff y Bil hwn ei basio, gallai Gweinidogion y DU, yn unochrol, gydnabod gofynion penodol cynnyrch yr UE. Yn ôl Llywodraeth y DU, byddai hyn yn cynnal safonau uchel o ran cynnyrch, yn atal costau ychwanegol i fusnesau ac yn sicrhau sefydlogrwydd rheoleiddiol.
Mae adroddiad pwyllgor masnach y Senedd ar y Bil hwn yn nodi nifer o bryderon, gan gynnwys symud cyfrifoldeb ar fusnesau i gadw i fyny â newidiadau rheoleiddiol. Mae’n dod i’r casgliad a ganlyn:
… nid yw’r goblygiadau i fasnach Cymru a’r UE yn hysbys. Byddai’r Bil yn grymuso’r Ysgrifennydd Gwladol i ddewis cydnabod nifer amhenodol o reoliadau’r UE ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, neu ddim o gwbl.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn y lle cyntaf y byddai effeithiau cadarnhaol i fasnach rhwng Cymru a'r UE ond eglurodd yn ddiweddarach mai budd posibl i fewnforwyr a budd cyfyngedig i allforwyr fyddai hyn.
Mae’r graddau y gallai'r Bil arwain at gydweddu yn dibynnu ar sut y defnyddir ei bwerau. Er mwyn sicrhau mwy o gydweddu, gallai Gweinidogion y DU gydnabod gofynion cynnyrch yr UE a gwmpesir gan y Bil.
Ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, cytunodd y DU a’r UE y byddai Gogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rhai o reolau’r UE, ac y gallai gweddill y DU (fel Prydain Fawr) newid ei rheolau. Addaswyd y protocol gan Fframwaith Windsor ond mae'r ddau gytundeb yn parhau mewn grym. Gall Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU neu Lywodraeth yr Alban ddewis parhau i gydweddu â Gogledd Iwerddon er mwyn osgoi ymwahanu (y cyfeirir ato weithiau fel ffin ym Môr Iwerddon).
I baratoi ar gyfer gadael yr UE, datblygodd Cymru a'r Alban ddeddfwriaeth a oedd yn galluogi eu Gweinidogion i barhau i gydweddu â'r UE. Pasiodd y Senedd Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 ond cafodd ei ddiddymu yn dilyn cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a llywodraethau datganoledig a sefydlu Fframweithiau Cyffredin.
Yn wahanol i ddeddfwriaeth brys Cymru, aeth deddfwriaeth yr Alban yn ei blaen ac mae'n parhau mewn grym heddiw. Mae Llywodraeth yr Alban yn cynhyrchu adroddiadau blynyddol ar gydweddu â’r UE. Yn 2024, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant, Angus Robertson ASA y bydd achlysuron pan na fydd cydweddu yn bosibl neu na all fod yn bosibl a hynny weithiau yn sgil Deddf Marchnad Fewnol y DU. Yn gyffredinol, mae’r Ddeddf honno yn golygu ei bod yn ofynnol bod nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol y gellir eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o'r DU yn gallu cael eu gwerthu neu eu cydnabod mewn unrhyw ran arall, ni waeth beth yw’r gyfraith yn y rhan arall honno o’r DU.
Pum ystyriaeth
Bydd angen i'r Llywodraeth ystyried nifer o faterion wrth wneud penderfyniadau ar gydweddu yn y dyfodol. Trafodir y pump isod:
1. Sut i (ail)gydweddu?
Gallai cydnabyddiaeth unochrol i reolau'r UE sicrhau mantais gystadleuol yr UE dros Brydain Fawr, nad yw, yn wahanol i’r UE, wedi cyflwyno ei gwiriadau mewnforio yn llawn. Gallai hefyd olygu bod allforwyr o Gymru yn gorfod bodloni safonau'r UE heb unrhyw ddyletswydd ar fewnforwyr yr UE i fodloni safonau Cymru. Byddai hyn yn effeithio’n arbennig ar Gymru, gyda dros 59% o'i hallforion yn mynd i'r UE.
Gallai dull dwyochrog o leihau rhwystrau masnach mewn cytundeb rhwng y DU a'r UE fod o fudd i Gymru. Fel yr eglurwyd yn ein herthygl ym mis Hydref 2023, mae trefniadau masnach ôl-Brexit wedi gadael Cymru’n agored i ddargyfeiriadau masnach, ac yn fwy dibynnol ar leihau rhwystrau masnach. Byddai cynnig cydweddu agosach mewn trafodaethau posibl â’r UE yn fantais y gellid ei cholli trwy weithredu’n unochrol.
2. Sut i fynd i'r afael â’r ymwahanu presennol?
Fel y'i cofnodir yn rheolaidd yn y Deyrnas Unedig mewn Ewrop sy'n Newid, mae'r DU a'r UE wedi ymwahanu ers Brexit. Mae hyn yn arwain at gwestiynau ynghylch sut y dylai Cymru fynd i’r afael â’r ymwahanu sydd eisoes wedi digwydd.
3. Sut i ddarparu ar gyfer trefniadau presennol?
Mae'r system sydd ar waith yn bell o fod yn syml. Bydd angen i unrhyw fenter newydd gynnwys trefniadau presennol fel cytundebau masnach y tu allan i'r UE neu drefniadau cyfansoddiadol domestig.
4. Sut i ymateb i ddatblygiadau byw?
Mae cydweddu yn ddarlun sy'n newid. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai Cytundeb SPS (glanweithdra a ffytoiechydol) leihau gwiriadau i'r graddau na fydd angen seilwaith masnach newydd o bosib mwyach. Mae hyn yn codi cwestiynau, fel a fyddai angen oedi rheolaethau masnach a gynlluniwyd a rôl Safleoedd Rheoli Ffiniau newydd yn y dyfodol sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Ym mis Ionawr 2024, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn disgwyl costau pellach y rhaglen Rheoli Ffiniau i fod yn fwy na £70 miliwn.
5. Sut i fynd i'r afael â diffyg democrataidd posib?
Mae dilyn rheolau'r UE yn unochrol yn arwain at ddiffyg democrataidd posibl gyda Chymru, neu'r DU gyfan, gan ddilyn rheolau'r UE heb gynrychiolaeth. Un o’r elfennau pwysicaf o gydweddu unochrol yr UE, pe bai’r dull hwn yn cael ei fabwysiadu, fydd sut y mae unrhyw lywodraeth yn mynd i'r afael â hyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch cydweddu.
Casgliad
Mae’r cwestiwn ynghylch os sicrheir mwy o gydweddu rhwng Cymru a'r UE, neu sut y sicrheir hyn, yn un agored.
Bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i gyd-ddibyniaethau'r system bresennol a'i heffeithiau cynyddol gydag unrhyw fenter newydd. Mae hyn yn arbennig o wir os daw ar ffurf gweithred unochrol, heb drefniadau dwyochrog y cytunodd y ddwy ochr arnynt â’r UE.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru