Beth nesaf? Materion allweddol ar gyfer y Seithfed Senedd
Mae ‘Beth nesaf? Y materion o bwys ar gyfer y Seithfed Senedd’ yn gyfres o erthyglau sy’n dadansoddi rhai o’r materion o bwys sy’n debygol o fynnu sylw Aelodau o’r Senedd dros y pedair blynedd nesaf. Mae’n fan cychwyn da iawn i unrhyw un sydd am gael crap ar y materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a pholisi cyhoeddus sy’n wynebu Cymru.
Cynnwys
Iechyd a Gofal
Dyfodol cynaliadwy i GIG Cymru: tu hwnt i fodel yn-yr-ysbyty-o-arfer
Wrth i’r pwysau gynyddu ar draws y system iechyd, sut gall Cymru symud tuag at ofal sy’n rhoi mwy o bwyslais ar atal a gofal yn y gymuned?

Mae adnoddau digidol eisoes yn ail-lunio sut mae cleifion yn rhyngweithio â GIG Cymru, ond beth fydd ei angen i droi’r cynnydd cynnar hwn yn drawsnewidiad ar draws y system?

Mae degawdau o oedi o ran diwygio, cynnydd mewn costau a galw, a gweithlu dan bwysau wedi creu ansefydlogrwydd a fydd ond yn dwysáu os na fydd camau mawr yn cael eu cymryd i greu system gofal fwy cynaliadwy.

Yr Economi
Adnewyddu economaidd: mynd i’r afael â heriau hen a newydd
Mae economi Cymru yn wynebu heriau strwythurol hirsefydlog, fel bylchau o ran cynhyrchiant, incwm a sgiliau, yn ogystal ag anghydraddoldebau rhanbarthol. Mewn cyd-destun byd-eang ansicr, sut gallai Llywodraeth newydd Cymru geisio mynd i’r afael â’r rhain?

O’r crud i’r bedd: torri cylch anghydraddoldeb a thlodi
I rai pobl, mae anghydraddoldeb yn golygu dechrau’r ysgol eisoes ar ôl eu cyfoedion, wynebu gwaith ansicr a chyflogau is fel oedolion, neu gael trafferth ag iechyd gwael yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’r anghydraddoldebau hyn yn aml yn cael eu gwaethygu oherwydd bod gan unigolyn nodwedd warchodedig. Sut mae llunwyr polisi yn sicrhau nad yw dyfodol pobl yn cael ei bennu gan anghydraddoldebau strwythurol a thlodi?

Plant ac Addysg
Barod am yr ysgol? Presenoldeb, ymddygiad a llesiant
Mae ysgolion wedi symud y tu hwnt i’r cyfnod adfer cyntaf yn sgil COVID-19, ond mae mwy o ddisgyblion yn colli’r ysgol, a hynny’n amlach na chyn y pandemig. O ran gwella deilliannau addysgol, sydd eisoes yn her sylweddol, mae ymddygiad disgyblion yn cael ei ystyried fwyfwy fel rhwystr, ac mae’n dwysáu pryderon presennol ynghylch llesiant dysgwyr.

Yn y fantol: cyllid Addysg Uwch
Mae sefydliadau Addysg Uwch yn wynebu problemau ariannol ledled y DU, gyda heriau penodol yng Nghymru. Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn penderfynu a yw parhau i gynyddu ffioedd dysgu yn rhan o’r ateb gan gydbwyso hynny yn erbyn gostyngiad yn nifer myfyrwyr Cymru.

Gofal plant am ddim: pam, i bwy a sut?
Dros y degawd diwethaf, bu ras wleidyddol i addo mwy o oriau o ofal plant am ddim, i fwy o deuluoedd, ac i blant iau. Beth oedd yr amcanion o ran gofal plant am ddim, a ydyn nhw wedi’u gwireddu, a beth yw’r rhwystrau a allai ei gwneud hi’n anodd cyflawni’r addewidion o dan sylw?

Arian Cyhoeddus
Datblygiadau yn nhirwedd gyllidol Cymru
Bydd y Seithfed Senedd yn gweld trethi newydd yn cael eu datganoli i Gymru, ac ymgais i gael pwerau treth incwm newydd i roi mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru dros y ffordd y mae cyllid yn cael ei godi ar gyfer Cyllideb Cymru. A allai datganoli Ystad y Goron a’i refeniw hefyd ychwanegu at y gronfa gyllido yn y Seithfed Senedd?

Cyllideb Cymru a chyllid cyhoeddus: newidiadau’r gorffennol a heriau’r dyfodol
Gwelodd y Chweched Senedd ddiwedd cyllid y pandemig, pwysau costau byw, a pholisi cyllidol newidiol Llywodraeth y DU. Wrth i dymor newydd y Senedd ddechrau, mae mwy a mwy o frys i ateb cwestiynau ynghylch sut mae cyllid wedi newid, beth yw hynt gwariant, a sut y bydd pwysau yn y dyfodol yn llywio penderfyniadau.

System dan straen: cynaliadwyedd llywodraeth leol
Mae’r pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol mewn perygl o ddod yn norm, gyda chyllidebau wedi’u gwasgu ers dros ddegawd. Er gwaethaf cynnydd diweddar mewn cyllid craidd, yn ogystal â chynnydd yn y dreth gyngor, mae cyllid llywodraeth leol yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r galw cynyddol am wasanaethau, pwysau chwyddiant a heriau’r gweithlu.

Yr Amgylchedd
Beth nesaf o ran natur a gweithredu ar yr hinsawdd?
Mae dyfodiad y Seithfed Senedd yn foment hollbwysig yng nghyd-destun natur a gweithredu ar yr hinsawdd, gyda thargedau domestig a byd-eang yn prysur agosáu. Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn mynd i’r afael â heriau allweddol ym maes yr amgylchedd?

Y llanw ar fin troi: dylunio sector dŵr ar gyfer y dyfodol yng Nghymru
Mae dŵr yn adnodd cyfyngedig, yn anghenraid o ran iechyd y cyhoedd, ac yn nwydd masnachol. Ac eto, mae’r rheoliadau presennol yn ddiffygiol, gan arwain at gynnydd mewn llygredd a biliau uwch. Mae gan lunwyr polisi gyfle prin nawr i ail-lunio sut mae Cymru’n rheoli un o’i hadnoddau mwyaf hanfodol.

Beth yw pwrpas cefn gwlad?
Mae blaenoriaethau ar gyfer defnydd tir gwledig yn debygol o fod yn faes brwydr polisi. Ffermio, cadwraeth, coedwigaeth, mynediad i’r cyhoedd a chynhyrchu ynni yw rhai o’r materion y bydd angen i lunwyr polisïau fynd i’r afael â nhw yn y Seithfed Senedd.

Byw yng Nghymru
A yw hi’n argyfwng ar ddiwylliant?
Mae degawd o doriadau wedi arwain cyrff gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Undeb y Cerddorion a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ddweud ei bod hi’n “argyfwng” ar ddiwylliant yng Nghymru. Sut ddigwyddodd hyn?

Llwybr at filiwn o siaradwyr Cymraeg: rôl yr ystafell ddosbarth
Fe wnaeth prif bolisi iaith Gymraeg y Llywodraeth flaenorol, ‘Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg’, weddnewid y dull o gynllunio a llunio polisi iaith yng Nghymru, gan osod targed a llwybr i wyrdroi canrif o ddirywiad o ran y Gymraeg. Bydd y system addysg yn gwbl allweddol os yw’r uchelgais hwn am gael ei wireddu.

Cymunedau
A all Cymru integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus o’r diwedd?
Gyda diwygiadau allweddol yn cael eu gweithredu yng Nghymru a San Steffan, bydd sicrhau bod bysiau, trenau a chynlluniau trafnidiaeth lleol yn gweithio gyda’i gilydd yn her ddiffiniol ar gyfer darparu system drafnidiaeth fodern a dibynadwy yng Nghymru.

Digartrefedd a'r argyfwng tai: atebion newydd i heriau hirsefydlog?
A fydd deddfwriaeth newydd - ynghyd â rhaglen uchelgeisiol i adeiladu tai cymdeithasol - yn llwyddo i roi terfyn ar ddigartrefedd?.

Mewnfudo yng Nghymru: y niferoedd a’r naratif
Mae mewnfudo yn bwnc sy’n denu llawer o sylw gan y cyhoedd, ac yn aml bydd yn arwain at safbwyntiau gwahanol ynghylch a yw’r niferoedd yn rhy fawr ai peidio, ac a gaiff ymfudo effaith dda neu effaith ddrwg ar gymdeithas yng Nghymru. Mae rhan fawr o’r drafodaeth gyhoeddus yn defnyddio ffigurau’r DU drwyddi draw nad ydynt yn adrodd y stori lawn am newid o ran y boblogaeth yng Nghymru.

Cyfansoddiad
Datganoli – beth nesaf?
Mae’r Seithfed Senedd yn dechrau ynghanol cwestiynau heb eu datrys am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Ond pa fath o ddyfodol mae pobl yng Nghymru ei eisiau, a sut y gallai llywodraethau gydweithio’n well i wella canlyniadau?

Datganoli a materion rhyngwladol
Nid yw’r cyfrifoldeb am faterion rhyngwladol mor glir â’r hyn sy’n cael ei bortreadu’n aml, ac mae’n cael ei rannu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
