Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn.
Dros y tair wythnos diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i roi ei Rhaglen Lywodraethu ar waith. Mae hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar y Raglen Lywodraethu ym mis Gorffennaf. Rydym wedi cyhoeddi erthyglau’n ymdrin â’r 10 o amcanion llesiant sy’n sail i’r Rhaglen Lywodraethu.
Ar y dudalen hon, cewch hyd i’r holl erthyglau rydym wedi’u cyhoeddi. Gallwch hefyd ddysgu am yr amcanion drwy ddefnyddio’r offeryn rhyngweithiol ar waelod y dudalen (ac ym mhob erthygl).
Mae ein herthyglau'n crynhoi'r hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn yn y Senedd hon. Er nad oedd yn bosibl trafod pob un o'r ymrwymiadau sy’n sail i’r 10 o amcanion llesiant, rydym wedi edrych ar flaenoriaethau ac amcanion datganedig Llywodraeth Cymru, wedi trafod y themâu a'r cyd-destun ehangach, gan obeithio gosod y llwyfan ar gyfer y ddwy flynedd a hanner sy'n weddill tan etholiad disgwyliedig nesaf y Senedd.
Cyfres y Rhaglen Lywodraethu:
- Y Rhaglen Lywodraethu: Ble’r ydym ni nawr? (erthygl ragarweiniol)
- A yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i wireddu ei gweledigaeth o Gymru iachach?
- Cefnogi pobl sy’n 'agored i niwed': beth mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni?
- Adeiladu’r economi: A yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo i sicrhau gwaith teg, cynaliadwyedd ac economi’r dyfodol?
- Datgarboneiddio economi Cymru: Sbotolau ar drafnidiaeth ac amaethyddiaeth
- Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur: A oes angen mwy o gynnydd i gyflawni ymrwymiadau'r llywodraeth?
- Diwygio addysg: Cenhadaeth Llywodraeth Cymru i wella safonau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
- Dathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb: rhethreg neu realedd?
- Y Gymraeg, twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau: yn ffynnu ynteu’n goroesi?
- Dinasoedd, trefi a phentrefi: gallant ond fod yn lleoedd “gwell fyth”
- Cymru gartref a thramor
I weld rhagor o erthyglau’n ymwneud â’r Senedd a Llywodraeth Cymru, tanysgrifiwch ag Ymchwil y Senedd.
Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwyiadau
- 1. Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel
- 2. Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed
- 3. Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol
- 4. Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl
- 5. Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
- 6. Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi
- 7. Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math
- 8. Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu
- 9. Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt
- 10. Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru