Y Gymraeg, twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau: yn ffynnu ynteu’n goroesi?

Cyhoeddwyd 25/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/01/2024   |   Amser darllen munudau

Dyma’r wythfed erthygl ein cyfres ddeg rhan sy’n edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth gyflawni ei Rhaglen Lywodraethu. Yma rydym yn trafod yr amcan llesiant i “Fwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau i ffynnu”.

Mae 14 o ymrwymiadau penodol o dan yr amcan eang hwn ar gyfer y Cabinet cyfan, y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yn ei Hadroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae yna hefyd ymrwymiadau gweinidogol perthnasol.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

Mae Cymraeg 2050, sef strategaeth iaith Gymraeg 2017 Llywodraeth Cymru, yn gosod targed uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, a dyblu ei defnydd dyddiol. Mae’n ceisio gwrthdroi’r duedd ddiweddar yn nata’r Cyfrifiad, a welodd ganran y siaradwyr Cymraeg yn disgyn o 19% yn 2011 i 17.8% yn 2021.

Disgrifiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y canlyniadau, a oedd yn cynnwys gostyngiad o 6 pwynt canran yn nifer y siaradwyr Cymraeg ifanc (3-15 oed), yn “siomedig”. Dros dri degawd, cofnododd y Cyfrifiad gynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg ifanc, gan adlewyrchu twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y cyfnod hwnnw. Ond gyda phob awdurdod lleol bellach yn nodi gostyngiad, a yw’r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn gyraeddadwy?

“Holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus”

Mae’r ganran o ddisgyblion Blwyddyn 2 (7 oed) sy’n dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf wedi aros yn sefydlog dros y degawd diwethaf (22.2% yn 2011/12 - 23.1% yn 2021/22), gyda Llywodraeth Cymru yn methu ei tharged i gynyddu hyn i 24% erbyn 2021. Cyhoeddodd y Prif Weinidog fil addysg y Gymraeg yn ddiweddar a fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod 2023-24. Bydd y Bil yn anelu at gynorthwyo “holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus”. Bydd yn ceisio diwygio sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ac yn hyrwyddo darpariaeth Gymraeg, ac yn darparu catalydd ar gyfer symud ysgolion ar hyd continwwm y Gymraeg.

Mae buddsoddiad yn allweddol i ddatblygu darpariaeth addysg Gymraeg. Ym mis Tachwedd 2022, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gyllid o £7.1m ar gyfer 2022-23, ar ben £30m mewn grantiau cyfalaf cyfrwng Cymraeg a gyhoeddwyd yn flaenorol i gynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae hefyd yn dyrannu £2.2m y flwyddyn ar gyfer gweddill y Senedd hon i ddatblygu darpariaeth trochi hwyr yn y Gymraeg. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi disgyblion sy’n dechrau addysg cyfrwng Cymraeg yn hwyr. Er bod rhai awdurdodau wedi defnyddio’r cyllid hwn i hybu’r ddarpariaeth bresennol, mae wyth awdurdod, gan gynnwys Torfaen, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, wedi creu eu canolfannau trochi hwyr cyntaf erioed.

Gweithredu safonau’r Gymraeg

Mae datblygu capasiti’r Gymraeg mewn sefydliadau yn allweddol i gynyddu ei defnydd dyddiol ymhlith y gweithlu a chyda defnyddwyr gwasanaeth. Mynegodd Comisiynydd blaenorol y Gymraeg rwystredigaeth gyda’r cynnydd cyfyngedig o ran cyflwyno rhagor o ddyletswyddau Cymraeg, gyda dim ond un set o reoliadau safonau’r Gymraeg wedi’u pasio gan y Senedd yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Adolygodd Llywodraeth Cymru y broses yn dilyn argymhelliad gan un o Bwyllgorau’r Senedd, gan gyflawni ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i symleiddio’r safonau. Gweithredodd y newidiadau hyn o fewn y safonau rheoliadau newydd ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd, gan sicrhau eu bod yn “cyfrannu at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg”.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau drafft yn ddiweddar ar gyfer cyrff dŵr a charthffosiaeth, gyda’r bwriad o hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg gyda’r cyhoedd. Mae rheoliadau pellach yn yr arfaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chymdeithasau tai.

Dywedodd strategaeth Cymraeg 2050 y byddai blynyddoedd cychwynnol y strategaeth yn “canolbwyntio ar osod y sylfeini”, gan gefnogi cynnydd yn niferoedd siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol. Er nad yw'r data presennol yn galonogol, bydd llunwyr polisi yn gobeithio y bydd y camau gweithredu yn troi’n ganlyniadau yn fuan.

A yw’r celfyddydau, chwaraeon a thwristiaeth yn ffynnu ar ôl argyfwng dirfodol?

Ers i’r pandemig ddechrau yn gynnar yn 2020, mae sefydliadau celfyddydol, chwaraeon a thwristiaeth wedi wynebu bygythiadau dirfodol ar raddfa na phrofwyd yn ein hoes. Yn y cyd-destun hwn, efallai y bydd nod Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn “ffynnu” ymddangos yn uchelgeisiol.

Daeth etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021 yn union fel y daeth perfformiadau byw dan do yn bosibl, yn amodol ar fesurau rheoli COVID, am y tro cyntaf yng Nghymru ers y cyfnod clo cyntaf. Cafwyd normalrwydd am gyfnod byr o fis Awst 2021, cyn i fesurau gael eu hailgyflwyno mewn ymateb i'r amrywiad Omicron oedd ar gynnydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Dim ond ym mis Ebrill 2022 yr ailddechreuodd busnes arferol, yn union fel y chwyddodd chwyddiant, a hynny wedi’i ysgogi yn sgil y cynnydd mewn costau ynni.

Allan o’r badell ffrio…

Yn ystod cyfnod masnachu arferol, mae lleoliadau celfyddydol llai yn gweithredu heb lawer o elw – os o gwbl. Mae’r rhain yn cael eu gwasgu gan chwyddiant ar hyd eu cadwyni cyflenwi yn ogystal â llai o incwm, gan fod presenoldeb yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn COVID. Mae rhai chwaraeon hefyd yn wynebu materion penodol, er enghraifft mae defnydd uchel o ynni, yn ogystal â chynnydd mewn costau ar gyfer cemegau hanfodol, yn rhoi pyllau nofio mewn sefyllfa fregus iawn. Dywedodd Cyngor y Celfyddydau wrth Bwyllgor Diwylliant y Senedd ym mis Medi 2022: “Mae’r argyfwng sy’n wynebu’r sector erbyn hyn, yr un mor fawr ag unrhyw beth a welsom yn y ddwy flynedd diwethaf”.

Presenoldeb yn y celfyddydau (2019-20 a 2022-23)

Graff bar yn dangos bod pob math o bresenoldeb yn y celfyddydau yn is yn 2022-23 nag yn 2019-20, gyda nifer y bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn digwyddiad diwylliannol deirgwaith neu fwy y flwyddyn i lawr o 70% i 65%.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wedi rhybuddio mai 2023 fydd y flwyddyn waethaf ar gyfer cau lleoliadau ar lawr gwlad ers sefydlu’r elusen yn 2014. Ledled y DU, mae nifer y digwyddiadau a gynhelir mewn lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad i lawr 17% o gymharu â 2019.

Mae’r sefyllfa ar gyfer chwaraeon yn fwy cynnil. Mae cyfranogiad oedolion mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos hyd at 39%, sef cynnydd o chwe phwynt canran, y lefelau cyn y pandemig. Ond mae 38% o oedolion yn dweud bod costau byw uwch wedi lleihau eu gallu i fod yn actif. Yn y cyfamser, mae pobl ifanc yn gwneud llai o chwaraeon y tu allan i'r ysgol nag yr oeddent yn 2018, gyda bwlch cynyddol mewn cyfranogiad rhwng y rhai o’r cefndiroedd mwyaf a lleiaf difreintiedig.

Cynnydd cymedrol mewn cyllid yn cael ei drechu gan chwyddiant

Gwariodd Llywodraeth Cymru dros £140m yn cadw sefydliadau diwylliant a chwaraeon i fynd yn ystod y pandemig, gan atal nifer ohonynt i gau’n barhaol. Ond mae wedi bod yn amharod i ddarparu cyllid pwrpasol i helpu'r un sectorau oroesi'r storm costau byw, er gwaethaf galwadau gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (y Pwyllgor Diwylliant) a Phwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd.

Yn lle hynny, mae wedi darparu codiad refeniw cymedrol i’r prif gyrff a ariennir yn gyhoeddus yn y meysydd hyn – 3% i Gyngor y Celfyddydau, 7% i’r Amgueddfa Genedlaethol a’r Llyfrgell Genedlaethol a 5% i Chwaraeon Cymru yng nghyllideb 2023-24 (mae chwyddiant ar hyn o bryd yn 7%).

Gwrthododd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth alwad y Pwyllgor i drafod pecyn ariannu brys diwylliant a chwaraeon ar gyfer y DU gyfan gyda Llywodraeth y DU, gan ddweud mai “mater i Lywodraeth y DU yw hwn”.

Ers 2016 mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar gynigion ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol. Gwnaeth astudiaeth ddichonoldeb yn 2018 gynnig “model ar wasgar” – gydag 8-10 safle rhanbarthol a sefydliad angori – y byddai ei gostau rhedeg yn fwy na chyfanswm dyraniad blynyddol Cyngor y Celfyddydau ar gyfer y celfyddydau gweledol a chymhwysol. Er nad yw’r gwaith adeiladu wedi dechrau eto, mae Llywodraeth Cymru yn parhau a’r trywydd cyn y pandemig a chyn i chwyddiant godi. A yw hyn yn dal i edrych yn ddefnydd yr un mor ddoeth o adnoddau cyfyngedig ag yr oedd yn 2018?

Storm yn magu

Ym mis Medi 2022 roedd Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni Llywodraeth y DU yn achubiaeth i’r rhai sy’n delio â chostau ynni cynyddol. O fis Ebrill 2023 ymlaen, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cymorth wedi’i gwtogi, er bod rhai sectorau – gan gynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd a safleoedd hanesyddol – yn derbyn cymorth ychwanegol. Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth fod y cynllun newydd yn annigonol, felly mae’n siŵr o arwain at gau lleoliadau’n barhaol.” Dywedodd y sefydliad chwaraeon UK Active y bydd yn achosi cyfyngiadau gwasanaeth pellach, cau lleoliadau, a cholli swyddi.

Rhagwelir y bydd costau ynni yn aros uwchlaw lefelau 2022 tan ddiwedd y 2030au, a gyda llai o incwm a chymorth gan y llywodraeth, sut y bydd y celfyddydau a chwaraeon yn ymdopi â biliau ynni y gaeaf hwn?

“Heriol i aros yn broffidiol”

Mae twristiaeth yn cyfrif am 11.3% o gyflogaeth a 5% o GYC, ac yn un o sectorau pwysicaf economi Cymru. Mae’r heriau y mae’r sector wedi’u hwynebu dros y tair blynedd diwethaf hefyd yn gyfarwydd, yn gyntaf yn sgil y pandemig ac yn fwy diweddar yn sgil cynnydd yng nghostau byw.

Mae casgliadau diweddaraf arolwg Llywodraeth Cymru o fusnesau twristiaeth, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, yn egluro:

Mae costau gweithredu uchel a chwmpas cyfyngedig i godi prisiau yn ystod cyfnod o gostau byw uchel i ddefnyddwyr yn ei gwneud hi'n heriol i aros yn broffidiol.

Ardoll ymwelwyr

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu sy’n nodi y bydd yn “cyflwyno deddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth” (y mae Llywodraeth Cymru bellach yn cyfeirio ati fel ‘ardoll ymwelwyr’). Ymgynghorodd ar gynigion i gyflwyno ardoll ddewisol ar ymwelwyr dros nos i:

…gynhyrchu refeniw i awdurdodau lleol ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith lleol sy'n rhan annatod o'r profiad i ymwelwyr.

Roedd 78% o ymatebwyr yn anghytuno y dylai awdurdodau lleol gael y pŵer i gyflwyno ardoll ymwelwyr. Fodd bynnag, roedd dadansoddiad gan Lywodraeth Cymru o’r ymatebion yn dangos bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a ymhelaethodd ar y rhesymau y tu ôl i’w barn ar y cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar yr agwedd leol neu ganolog ar weithredu, yn hytrach na gweithredu’r ardoll ei hun.

Mae’n siŵr y bydd y mater hwn yn rhan fawr o’r gwaith craffu ar y cynigion deddfwriaethol pan gânt eu cyflwyno i’r Senedd, a ddisgwylir cyn diwedd 2024.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau


Erthygl gan Osian Bowyer, Robin Wilkinson a Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

*Cafodd yr erthygl hon ei golygu ar 23/1/24 ar ôl i Lywodraeth Cymru nodi gwall yng nghanlyniadau Arolwg Cenedlaethol 2023. Dilëwyd y cymal a ganlyn: “gyda nifer y bobl sy'n mynychu neu'n cymryd rhan mewn digwyddiad diwylliannol deirgwaith neu fwy y flwyddyn i lawr o 70% i 65%.”