Datgarboneiddio economi Cymru: Sbotolau ar drafnidiaeth ac amaethyddiaeth

Cyhoeddwyd 15/09/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma’r bedwaredd erthygl ein cyfres ddeg rhan sy’n edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth gyflawni ei Rhaglen Lywodraethu. Yma, rydym yn archwilio’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcan llesiant i “Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl”.

Mae 12 o ymrwymiadau penodol o dan yr amcan hwn ar gyfer y Cabinet cyfan, y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yn ei Hadroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae yna hefyd ymrwymiadau gweinidogol perthnasol.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

Mae’r rhan fwyaf o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru o dan yr amcan hwn yn syrthio o fewn dau sector economaidd: Trafnidiaeth ac amaethyddiaeth. Mae’r rhain yn feysydd lle mae ganddo bwerau ac ysgogwyr polisi i leihau allyriadau carbon.

Newid cyfeiriad ar gynlluniau trafnidiaeth

Cafodd cynlluniau blaenorol Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygiadau eang i drafnidiaeth gyhoeddus, yn y pen draw eu culhau o ran eu cwmpas i Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2020, dim ond i'w dynnu'n ôl yn sgil y pandemig.

Rhoddodd hyn gyfle i Lywodraeth Cymru ailfeddwl am y newidiadau sydd eu hangen ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus gryfach a gwyrddach.

Sail ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru

Mae diwygiadau i lywodraethiant trafnidiaeth leol wedi dod ar ffurf Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wnaeth, ymhlith pethau eraill, sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. Mae swyddogaethau cychwynnol y pedwar Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cynnwys cynhyrchu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, gan ddisodli cynlluniau trafnidiaeth lleol.

Mae cynlluniau i ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol a thacsis a cherbydau hurio preifat (yn mynd rhagddynt. Clywodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd ddiwethaf, dystiolaeth bod cynigion blaenorol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat heb fynd yn ddigon pell, yn arbennig o ran peidio â mynd i'r afael â ‘thrawsffinio’ – lle gall gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr trwyddedig weithio y tu allan i'w hardal drwyddedu. Mae hyn yn arwain at bryderon (a godwyd gan adrannau o'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat) am ddiogelwch a gorfodi teithwyr, yn ogystal ag incwm gyrwyr a gorgyflenwad o gerbydau. Mae Papur Gwyn newydd, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn addo mynd i'r afael â thrawsffinio ynghyd â diwygiadau trwyddedu ehangach.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ddull newydd o ddarparu gwasanaethau bysiau yng ngwanwyn 2022, a fyddai’n golygu cyflwyno masnachfreintiau bysiau gorfodol, ledled Cymru. Mae’n cynnig bod Gweinidogion Cymru yn gweithredu fel yr awdurdod masnachfreinio, gyda rolau allweddol i’r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a Thrafnidiaeth Cymru wrth gynllunio’r rhwydwaith. At hynny, byddai’n caniatáu i awdurdodau lleol sefydlu cwmnïau bysiau trefol newydd, a llacio cyfyngiadau ar gwmnïau dinesig presennol.

Tra bod y diwydiant bysiau’n ymddangos yn fwy fel ei fod yn derbyn yr angen i ddiwygio nag yr oedd cyn y pandemig, mae rhanddeiliaid yn dal i bryderu yn enwedig o ran y model masnachfreinio a sut y byddai'n cael ei ariannu.

Yn ôl y datganiad deddfwriaethol diweddaraf (Mehefin 2023), bydd deddfwriaeth diwygio bysiau yn cael ei chyflwyno yn 2023-24. Ailddatganodd y Prif Weinidog hefyd y bwriad i ddeddfu ar ddiwygio tacsis a cherbydau hurio preifat yn ystod y Senedd hon.

Strategaeth drafnidiaeth gyffredinol a nodau ymestynnol

Mynd i’r afael â’r 15% o allyriadau carbon Cymru sy’n deillio o drafnidiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi ei strategaeth, sef Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (2021), ar waith er mwyn newid y ffordd yr ydym yn teithio. Mae’n nodi uchelgeisiau o ran trafnidiaeth ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, a thair prif flaenoriaeth ar gyfer y pum mlynedd gyntaf:

  • Dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio;
  • galluogi pobl a nwyddau i symud yn hawdd o ddrws i ddrws gan ddefnyddio trafnidiaeth ac isadeiledd hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon; ac
  • annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy.

Mae'n ddyddiau cynnar ar gyfer monitro cynnydd wrth gyflawni'r strategaeth. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cymryd yr awenau ac wedi datblygu fframwaith monitro yn cynnwys chwe mesur allweddol a 27 o fesurau atodol. Mae data sylfaenol ar gael ar hyn o bryd, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn addo cyhoeddi diweddariadau blynyddol o 2023 ymlaen.

Mae'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol ar gyfer 2022-27 yn nodi’r rhaglenni, prosiectau a pholisïau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i gyflawni’r Strategaeth.

Annog teithio integredig

Mae’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol yn cynnwys ymrwymiadau ar brisiau tocynnau ac integreiddio tocynnau, gan gynnwys:

…buddsoddi mewn seilwaith, gwasanaethau, gwaith cynllunio siwrneiau integredig a phrisiau siwrneiau, tocynnau ac amserlenni symlach. Ein nod yw gwella hygyrchedd, cynnwys defnyddwyr yn y gwaith o ddylunio gwasanaethau a gwella fforddiadwyedd drwy ein hymrwymiad i ystyried ‘Prisiau Siwrneiau Tecach’ ledled Cymru.

Mae cynllun busnes Trafnidiaeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn cynnwys ymrwymiadau ynghylch diwygio prisiau a thocynnau integredig. Fodd bynnag, gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddweud wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ym mis Mawrth bod ei uchelgeisiau ar gyfer tocyn bws am £1 ar ei ben wedi’u rhwystro gan ddiffyg cyllid.

45% o deithiau i gael eu gwneud trwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040

Yn y bôn, trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol yw dulliau cynaliadwy, ond mae Llywodraeth Cymru eisiau gosod nodau mwy ymestynnol lle bo modd.

Mae nifer o bolisïau sydd â'r nod o gefnogi symudiad i ddulliau cynaliadwy yn mynd rhagddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi argymhellion y Panel Adolygu Ffyrdd annibynnol ar waith sydd yn newid ei ddull o fuddsoddi mewn ffyrdd yn sylfaenol. Mae’r terfyn cyflymder rhagosodedig ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru yn gostwng o 30mya i 20mya y mis hwn – polisi sydd â’r nod o wneud ffyrdd yn fwy diogel ar gyfer teithio llesol.

Bydd y terfyn cyflymder rhagosodedig ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru hefyd yn gostwng o 30mya i 20mya ym mis Medi – polisi sydd â’r nod o wneud ffyrdd yn fwy diogel ar gyfer teithio llesol. Mae'r naill bolisi a’r llall wedi denu ymatebion cryf.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn arwain y broses o ddatblygu Systemau Metro ledled Cymru, ac mae gwariant Llywodraeth Cymru ar deithio llesol hefyd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, o £8.08 y pen yn 2018/19, i £20.60 y pen yn 2023/24.

Fodd bynnag, fel y dengys y siartiau isod, mae niferoedd teithwyr bws a thrên yn parhau i fod yn ystyfnig o isel ar ôl iddynt gwympo yn ystod y pandemig.

Nifer y teithiau ar y rheilffyrdd ar gyfer Cymru

Mae siart yma yn dangos nifer y miliwn o deithiau gan deithwyr ar y rheilffordd yng Nghymru rhwng y blynyddoedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2012 a mis Mawrth 2022. Mae’n dangos teithiau i ac o Gymru, o fewn Cymru a chyfanswm teithiau. Mae'r siart yn dangos gostyngiad sydyn mewn teithiau yn ystod pandemig Covid-19, nad ydynt wedi gwella i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Defnydd rhanbarthol o'r rheilffyrdd, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd

Nifer y teithiau gan deithwyr ar wasanaethau bws lleol yng Nghymru

Mae siart yma yn dangos nifer y miliwn o deithiau gan deithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru rhwng 2011-2012 a 2021-2022. Mae'r siart yn dangos gostyngiad sydyn mewn teithiau yn ystod pandemig Covid-19, nad ydynt wedi gwella i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: StatsCymru

Data Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos newid cymharol fach mewn cyfraddau cerdded a beicio.

Y ffordd anwastad

Ym mis Ebrill 2023, gwnaeth y corff gwarchod teithwyr, Transport Focus alw ar Drafnidiaeth Cymru i ddarparu gwasanaeth rheilffordd mwy dibynadwy ar fyrder ar ôl misoedd o aflonyddwch i deithwyr. Gwnaeth Transport Focus ysgrifennu at Trafnidiaeth Cymru ar 20 Ebrill yn mynegi pryder, gan ddweud bod defnyddwyr y rheilffyrdd wedi gosod Trafnidiaeth Cymru yn gydradd olaf, ar gyfer boddhad cyffredinol ymhlith masnachfreintiau rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr. Yn dilyn tanau ar drenau Trafnidiaeth Cymru, cyhoeddodd rheolydd y rheilffyrdd hefyd hysbysiad i wella ar gyfer Trafnidiaeth Cymru ym mis Mawrth, gan nodi methiant i sicrhau nad yw teithwyr yn agored i risg o niwed.

Mae gwasanaethau bysiau wedi dod o dan bwysau ariannol. Ym mis Chwefror, daeth yn amlwg bod £28m a neilltuwyd i barhau â'r Cynllun Argyfwng Bws mewn perygl. Cafwyd cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a’r diwydiant ym mis Mehefin, ar gyllid ar gyfer Cronfa Pontio Bysiau newydd. Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau lleol yn dal i bryderu.

Bwrw ymlaen ag adroddiad Comisiwn Burns ar gyfer Casnewydd

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydlynu’r broses o ddarparu’r 58 o argymhellion gan yr Arglwydd Burns a Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (Tachwedd 2020) ar ddewisiadau eraill ar gyfer ffordd liniaru’r M4. Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu adnoddau ac yn cefnogi’r Uned Gyflawni Burns a'r Bwrdd sy'n rhoi’r argymhellion ar waith, ac mae pob un ohonynt wedi'u hymgorffori yn y cynllun cyflawni cenedlaethol newydd ar gyfer trafnidiaeth. Mae adroddiad y Comisiwn yn ei gwneud yn glir bod gwella ac ad-drefnu prif linell de Cymru i gynyddu capasiti’r rheilffyrdd yn allweddol i lwyddiant y cynigion i wella llif traffig yr M4.

Fodd bynnag, mae seilwaith rheilffyrdd yn fater a gadwyd yn ôl. Er bod Llywodraeth Cymru yn gallu buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, nid yw’n cael unrhyw ddyraniad grant bloc, ac mae Network Rail yn atebol i’r DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru.

Mae llwyddiant argymhellion Comisiwn Burns, felly, yn dibynnu ar gefnogaeth Llywodraeth y DU.

System newydd o gymorth fferm

Mae allyriadau o'r sector amaethyddol yn cael sylw yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, fodd bynnag, bydd yn rhaid edrych ar fanylion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy o ran llwyddiant cymorth ffermio yn y dyfodol.

Disgwylir i'r cynllun wobrwyo ffermwyr am gamau sy'n cyfrannu at 'Reoli Tir yn Gynaliadwy'. Bwriedir ymgynghori ar ei fersiwn nesaf yn ddiweddarach yn 2023, ynghyd â graddfeydd talu disgwyliedig y cynllun. Bydd Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn ceisio datrys materion allweddol sy’n ymwneud â chefnogaeth ar gyfer y canlynol:

  • Cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a gwydnwch busnesau amaethyddol;
  • lliniaru ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd;
  • ecosystemau gwydn; a
  • gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, mynediad cyhoeddus, a'r Gymraeg.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddrafft cyntaf ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2022 ac mae wedi bod yn gweithio drwy raglen o gyd-ddylunio gyda’r gymuned ffermio. Yn ystod ail hanner tymor y Senedd hwn, bydd pob llygad ar ymgynghoriad terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ragweld lansio’r cynllun yn 2025.

Pontio i'r cynllun newydd ar gyfer cymorth i ffermwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal system y Cynllun Taliad Sylfaenol o roi gymorth i ffermwyr ers gadael yr UE. Disgwylir i daliadau’r Cynllun Taliad Sylfaenol ddod i ben yn raddol rhwng 2025 a 2029 wrth i'r cynllun newydd ar gyfer cymorth i ffermwyr gael ei gyflwyno yn 2025, mewn ymdrech i osgoi bod ar ymyl y dibyn.

Daw piler datblygu gwledig system gymorth yr UE i ben ym mis Rhagfyr 2023, yn dilyn cyfnod o ddirwyn i ben. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynlluniau buddsoddi gwledig i ddisodli’r rhaglen hon. Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun i ddisodli Glastir (agwedd arwyddocaol ar gymorth datblygu gwledig), a elwir yn 'gynllun cynefinoedd interim' cyn y cynllun cymorth i ffermwyr. Bydd angen pennu’r manylion mewn pryd ar gyfer diwedd 2023 sydd, yn ôl NFU Cymru, yn achos o bryder sylweddol i filoedd o ffermwyr.

Camau cyntaf wedi eu cymryd

Mae ymrwymiadau pellach sy'n anelu at gyflawni'r amcan trosfwaol hwn o economi werdd gref, nad ydynt wedi'u trafod yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i gefnogi economi di-garbon, a llif prosiectau cysylltiedig. At hynny, mae wedi ymrwymo i gyflawni'r Strategaeth Ddigidol i Gymru, ac uwchraddio'r seilwaith digidol a chyfathrebu.

Nid ar chwarae bach mae diwygio economi Cymru i fod yn wyrddach, ond yn gryfach, tra’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio i’r eithaf. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau cyntaf pwysig.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau


Erthygl gan Lorna Scurlock, Andrew Minnis and Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru