Y Rhaglen Lywodraethu: Ble’r ydym ni nawr?

Cyhoeddwyd 08/09/2023   |   Amser darllen munudau

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

A ninnau bellach bron hanner ffordd drwy’r Chweched Senedd, rydym ni’n edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyflawni ers etholiad 2021. Byddwn yn cyhoeddi cyfres o erthyglau dros y tair wythnos nesaf a fydd yn dilyn y themâu a geir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Senedd hon (hyd at fis Mai 2026); gan gynnwys y camau y mae'n bwriadu eu cymryd, y targedau yr hoffai eu cyflawni a'r ddeddfwriaeth y mae'n disgwyl ei chyflwyno. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mehefin 2021 ac fe’i diweddarwyd ym mis Rhagfyr 2021 ar ôl cyhoeddi’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu wedi’i seilio ar 10 amcan llesiant, sy’n cwmpasu amrywiaeth o feysydd polisi. Mae pob amcan llesiant yn cynnwys nifer o ymrwymiadau (yn amrywio o 8 i 14), y mae Cabinet Llywodraeth Cymru gyfan yn gyfrifol amdanynt, gan eu bod yn effeithio ar nifer o bortffolios gwahanol. Mae yna hefyd nifer o ymrwymiadau (yn amrywio o 7 i 50) y mae Gweinidogion unigol yn gyfrifol amdanynt.

Ochr yn ochr â'r Rhaglen Lywodraethu, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad llesiant. Mae hyn yn amlinellu sut y mae amcanion y Llywodraeth yn cyd-fynd â'i dyletswydd statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu a chyhoeddwyd y diweddaraf o’r rhain ym mis Gorffennaf 2023. Mae'n cynnwys atodiad sy’n manylu ar y cynnydd a wnaed, fel ar 31 Mawrth 2023, yn erbyn pob un o'r 115 o ymrwymiadau sy'n gysylltiedig â'r amcanion llesiant.

Fel rhan o'r gyfres hon, byddwn yn cyhoeddi erthyglau sy'n cwmpasu pob un o'r 10 amcan llesiant. Bydd yr erthyglau'n trafod y cynnydd a wnaed yn unol â’r prif ymrwymiadau a’r themâu (ond ni fyddant yn trafod pob ymrwymiad unigol). Byddant yn rhoi trosolwg o'r prif faterion sydd wedi codi hyd yn hyn yn ystod y Senedd hon, yn ogystal ag ystyried a yw'r materion hynny wedi eu datrys.

Bydd yr erthyglau’n cael eu cyhoeddi dros y tair wythnos nesaf. Bydd ein herthygl gyntaf yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach heddiw, gan edrych ar yr amcan i “ddarparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel”. Tanysgrifiwch i Ymchwil y Senedd i gael hysbysiad am bob erthygl wrth iddi gael ei chyhoeddi.

Mae ein hadnodd gweledol isod yn rhoi cyfle i chi fwrw golwg ar y Rhaglen Lywodraethu a'r ymrwymiadau o dan bob un o'r 10 amcan llesiant. Bydd lincs i’r erthyglau yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru