Gwraig hŷn a phlentyn ifanc

Gwraig hŷn a phlentyn ifanc

Cefnogi pobl sy’n 'agored i niwed': beth mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni?

Cyhoeddwyd 11/09/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma’r ail yn ein cyfres o erthyglau sy’n myfyrio ar gynnydd Llywodraeth Cymru yn erbyn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae’n trafod yr amcan llesiant i “Ddiogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed”.

Mae 14 o ymrwymiadau penodol o dan yr amcan eang hwn ar gyfer y Cabinet cyfan, y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yn ei Hadroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae yna hefyd ymrwymiadau gweinidogol perthnasol.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

Mae pobl yn byw'n hirach a chyda chyflyrau cronig. Mae mwy o blant yn dod i ofal y wladwriaeth. Mae hyn i gyd yn erbyn cefndir o ddwy her sylweddol i ofal cymdeithasol: y gweithlu bregus, ynghyd ag effaith costau byw cynyddol.

Yma, rydym yn trafod 14 o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o dan yr amcan hwn ac yn ystyried rhai o'r cyd-destunau polisi gofal cymdeithasol ehangach y mae'r ymrwymiadau hyn yn bodoli ynddo.

Plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Mae mwy nag un plentyn ym mhob cant yng Nghymru yn derbyn gofal a'r 'wladwriaeth' yw eu rhiant. Mae chwarter y plant mewn gofal wedi byw mewn dau leoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae llai nag un o bob pump o blant sy’n derbyn gofal yn cael 5 TGAU neu fwy ar raddau A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg. Mae rhai yn cael eu gosod mewn lleoliadau anghyfreithlon neu anghofrestredig, mae eraill yn mynd ar goll neu'n destun 'gorchymyn colli rhyddid' am resymau lles neu risgiau i'w diogelwch. Mae llawer o'r rhai sy'n gadael gofal yn dod yn ddigartref ac mae'r Pwyllgor Deisebau wedi canfod bod chwarter y bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi wynebu sefyllfa lle mae un neu fwy o’u plant eu hunain wedi mynd i ofal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud sawl ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu yn y maes polisi hwn. Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ystyried ai dyma'r blaenoriaethau cywir ar gyfer 'newid radical', o'u gosod yn erbyn cefndir o gyfraddau cynyddol o blant mewn gofal a'r pwysau ariannol ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru

Graff o niferoedd cynyddol y plant sy'n dod i ofal

Ffynhonnell: StatsCymru, Plant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol, rhyw ac oedran

Mae ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu yn y maes polisi hwn yn cynnwys ariannu eiriolaeth i rieni plant sydd mewn perygl o ddod i ofal, gydag £1.6 miliwn yn cael ei ddyrannu dros bedair blynedd. Fodd bynnag, nid yw cyllid tymor hwy ar gyfer y gwaith hwn wedi'i gadarnhau eto ac efallai y bydd blaenoriaethau ariannol cystadleuol. Er enghraifft, mae’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal drwy incwm misol o £1,600 am ddwy flynedd, wedi costio £5 miliwn ers mis Ebrill 2022. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyrannu £68 miliwn i ddileu elw o ofalu am blant sy'n derbyn gofal, yn unol ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu. Mae wedi buddsoddi mewn llety i blant sydd ag anghenion cymhleth, ac mae’n cyfeirio at 19 o gynlluniau preswyl a 5 cynllun brys, seibiant neu drosiannol.

Yn ystod wythnos gyntaf y tymor hwn, ar 14 Medi, bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn craffu o'r newydd ar waith y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i roi cyfrif am ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i “ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal”. Mae hyn yn dilyn ymlaen o ddadl olaf tymor yr haf yn y Cyfarfod Llawn lle mynegodd rhai o’r Aelodau siom gydag ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Daeth i’r casgliad nad yw ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu yn ddigon radical, a dywedodd:

Dylai unrhyw un sy'n honni bod y wladwriaeth yn gwneud ei gwaith rhianta corfforaethol yn dda ystyried a fyddent yn hapus i'w plentyn eu hunain gael gofal gan y system honno.

Gofal plant a’r blynyddoedd cynnar

Roedd buddiolwyr gwreiddiol Cynnig Gofal Plant Cymru yn rhieni sy'n gweithio ond, yn dilyn beirniadaeth, rhoddodd Llywodraeth Cymru ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu ar waith i ariannu gofal plant ar gyfer mwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith. Gall rhieni plant 3 a 4 oed sydd wedi ymrestru mewn addysg bellach neu addysg uwch wneud cais am 30 awr o ofal plant am 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn wedi cefnogi 438 o deuluoedd ychwanegol ac wedi gwneud 3,000 amcangyfrifedig arall yn gymwys.

Mae gan y Rhaglen Lywodraethu ymrwymiad ar wahân i ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn 2 oed. Dywed Llywodraeth Cymru fod yr ehangiad wedi arwain at dros 2,500 o fuddiolwyr ychwanegol hyd yma. Dros y ddwy flynedd nesaf bydd £46 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ehangu'r cynllun ymhellach, gyda'r nod o ariannu gofal plant ar gyfer 4,500 yn fwy o blant 2 oed yn 2023-24 a 5,200 arall yn 2024-25. Mae ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i barhau â’r rhaglen Dechrau'n Deg, rhaglen blynyddoedd cynnar sydd hefyd yn cynnwys gofal plant am ddim, ar y gweill. Buddsodwyd £83 miliwn yn 2022-23, gyda thros 38,500 o blant dan 4 oed yn derbyn o leiaf un o bedair elfen y rhaglen ar hyn o bryd.

Mae cymariaethau wedi'u gwneud rhwng y cynigion gofal plant am ddim yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth y DU yn gynharach yn 2023 i ddarparu gofal plant am ddim i blant rhieni cymwys sy’n gweithio o naw mis oed ymlaen erbyn 2025. Fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod beirniadaeth, gan ddweud:

… mai’r hyn yr ydym ni'n ei weld yw ymgais yn Lloegr i ddal i fyny â gwasanaethau sydd eisoes ar gael yma yng Nghymru. Yn sicr nid yw'r ffordd arall.

Y gweithlu gofal cymdeithasol

Mae prinderau a phwysau staffio digynsail ym maes gofal cymdeithasol. Mae swyddi gwag sylweddol wedi arwain at ddibyniaeth ar drefniadau staffio dros dro drud. Mae hanner yr holl swyddi gofal cymdeithasol plant yn cael eu llenwi gan staff asiantaeth, ac mae 84 y cant o'r staff hynny yn llenwi swyddi gweithwyr cymdeithasol cymwys.

Mae ein herthygl “Gofal Cymdeithasol: gweithlu mewn argyfwng?” yn nodi’r heriau enfawr sy’n wynebu gofal cymdeithasol oedolion. Mae prinder staff difrifol yn achosi rhestrau aros hir am asesiadau, gwasanaethau gofal ac adolygiadau gofal. Yn aml nid yw pecynnau gofal cartref ar gael pan fydd eu hangen ar bobl, sy'n golygu bod llawer o gleifion ysbyty sy'n ffit yn feddygol i adael yn methu â chael eu rhyddhau adref yn ddiogel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal; ac (yn gweithio gyda'r Fforwm Gwaith Teg) “ystyried camau pellach tuag at sicrhau cydnabyddiaeth a gwobrwyo cydradd i weithwyr gofal.” Mae’n llai amlwg a oes cynnydd wedi’i wneud o ran cynyddu prentisiaethau ym maes gofal ac o ran recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg.

Dechreuwyd gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol ym mis Ebrill 2022, ac fe’i croesawyd gan lawer fel cam cyntaf. Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid, gan gynnwys Undebau Llafur a darparwyr gofal, wedi dweud nad yw hyn ar ei ben ei hun yn ddigon i fynd i'r afael â'r prinderau. Ym mis Ionawr, nododd y Dirprwy Weinidog nad yw cyflogau yn ddigon o hyd i gystadlu mewn gwirionedd, a bod angen i gyflog, telerau ac amodau wella ymhellach. Daeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r casgliad nad yw'n glir a yw ymgyrchoedd recriwtio fel Gofalwn Cymru wedi bod yn llwyddiannus.

Sefydlwyd Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ym mis Medi 2020. Cyhoeddodd adroddiad cynnydd yn 2023 yn nodi cynlluniau ar gyfer model gwirfoddol o gydfargeinio i wella cydraddoldeb o ran telerau ac amodau, a fframwaith cyflog a dilyniant gwirfoddol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori arno yn ddiweddar.

Ym mis Chwefror, dywedodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon nad oedd wedi'i ddarbwyllo eto bod gwaith y Fforwm Gwaith Teg yn cael ei ddatblygu ar y cyflymder angenrheidiol; na bod mesurau gwirfoddol ar gyfer cydfargeinio neu strwythurau cyflog yn ddigonol i fynd i'r afael â difrifoldeb y sefyllfa.

Gwasanaeth gofal cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hymrwymiad Rhaglen Lywodraethu i sefydlu grŵp arbenigol i gynghori ar y camau ymarferol tuag at ddarparu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol am ddim pan fo angen. Mae'r Cytundeb Cydweithio yn ychwanegu at hyn, gan gynnwys ymrwymiad i gytuno ar gynllun gweithredu ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol erbyn diwedd 2023.

Sefydlwyd y grŵp arbenigol ym mis Chwefror 2022 i roi cyngor ar yr elfennau allweddol sy’n angenrheidiol ar gyfer creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad y grŵp ym mis Tachwedd 2022.

Ym mis Mai 2023, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer fframwaith comisiynu cenedlaethol a swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth. Disgrifiodd y Dirprwy Weinidog y rhain “ymhlith blociau adeiladu pwysig cyntaf gwasanaeth gofal cenedlaethol”.

Ond mae cwestiynau mawr o hyd ynghylch sut y gellid ariannu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol (am ddim pan fo angen), a phryd y gallai hyn ddod yn realiti. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar opsiynau ariannu, ond oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol, dywedodd “ni allwn roi unrhyw ymrwymiad ynghylch pryd y byddwn ni'n gallu gwneud hynny mewn gwirionedd”.

Cyflawni'r blaenoriaethau cywir ar gyfer 'pobl agored i niwed'?

Bydd llawer o ymrwymiadau eraill ar draws y Rhaglen Lywodraethu yn effeithio ar 'bobl agored i niwed', er enghraifft yr ymrwymiadau i ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy, a’r rhai i ddileu anghydraddoldeb o unrhyw fath.

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn cydnabod bod Ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu yn cael eu gosod yn erbyn “argyfwng yn sgil costau byw a chostau ynni cynyddol”, gan ddweud:

Mae diogelu a chefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wrth wraidd ein gwaith. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn am fod llawer iawn o bobl wedi bod yn profi caledi ariannol.

Mae ein herthyglau blaenorol yn egluro’r “her costau gweithredu” sy’n wynebu’r sector a sut mae costau byw yn effeithio ar ofalwyr di-dâl a gofal cartref. Mae NSPCC Cymru eisoes wedi mynegi pryderon y gallai caledi cynyddol gynyddu nifer y plant sy’n dod i mewn i’r system gofal cymdeithasol, gan ddweud:

Poverty has been described as ‘the wallpaper of the social care system’, in that is it is too big to tackle and too familiar to notice.

Gan edrych ymlaen at dymor yr hydref, bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ystyried y 'darlun mwy' hwn ar gyfer y system gofal cymdeithasol pan fydd yn archwilio dull Llywodraeth Cymru o ran Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru 2023.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau


Erthygl gan Sian Thomas ac Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru